Archwiliad cyhoeddus o gyfrifon13

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r corff llywodraeth leol a gafodd ei hysbysu o dan reoliad 12, sicrhau bod y cyfrifon a'r dogfennau eraill a grybwyllir yn adran 30 o Ddeddf 2004 ar gael ar gyfer archwiliad cyhoeddus am 20 o ddiwrnodau gwaith cyn y dyddiad a bennwyd gan yr archwilydd, o dan y rheoliad hwnnw.

2

Rhaid i'r corff llywodraeth leol a gafodd ei hysbysu o dan reoliad 12 sicrhau bod y cyfrifon a'r dogfennau eraill mewn perthynas â chyfnod y mae rheoliad 8(3) yn gymwys iddo, ar gael ar gyfer archwiliad cyhoeddus ar ôl cael hysbysiad rhesymol.