xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Dehongli a chymhwyso

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “awdurdod tân ac achub” (“fire and rescue authority”) yw awdurdod a gyfansoddwyd drwy gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 neu gynllun y mae adran 4 o'r Ddeddf honno'n gymwys iddo(1);

ystyr “blwyddyn” (“year”) yw'r 12 mis sy'n diweddu ar 31 Mawrth;

ystyr “corff llywodraeth leol” (“local government body”) yw corff llywodraeth leol yng Nghymru y mae angen archwilio'i gyfrifon yn unol â Phennod 1 o Ran 2 o Ddeddf 2004 heblaw bwrdd prawf lleol a sefydlwyd o dan adran 4 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000(2);

ystyr “cyngor cymuned” (“community council”) yw cyngor cymuned neu gyngor tref yn unol ag adran 27 o Ddeddf 1972;

ystyr “Deddf 1972” (“the 1972 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972(3);

ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(4);

ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf y Comisiwn Archwilio 1998(5);

ystyr “Deddf 2003” (“the 2003 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2003(6);

ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004(7);

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ddydd Nadolig, yn Ddydd Gwener y Groglith nac yn unrhyw ddiwrnod arall sydd yn ŵ yl y banc yng Nghymru;

ystyr “hysbysiad drwy hysbyseb” (“notice by advertisement”) yw hysbysiad a gyhoeddir yn un neu fwy o bapurau newyddion lleol sy'n cylchredeg yn ardal y corff llywodraeth leol; ac

ystyr “Rheoliadau 1996” (“the 1996 Regulations”) yw Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio 1996(8);

(2Ystyr unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at y “swyddog ariannol cyfrifol” yw —

(a)y person sydd, yn rhinwedd adran 151 o Ddeddf 1972, yn gyfrifol an weinyddu materion ariannol corff llywodraeth leol neu, os nad oes neb yn gyfrifol felly, y person sy'n gyfrifol am gadw cyfrifon corff o'r fath, neu

(b)os nad yw'r person y cyfeirir ato ym mharagraff (a) yn alluog i weithredu oherwydd absenoldeb neu salwch, aelod o staff y person hwnnw a enwebwyd gan y person hwnnw at ddibenion adran 114 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(9) neu, os na wnaed enwebiad o'r fath o dan yr adran honno, y person a enwebwyd gan y person hwnnw at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i bob corff llywodraeth leol.

(4Mae rheoliadau 10(1), 12 i 15 a 17(1), gyda'r holl addasiadau angenrheidiol, yn gymwys i gyfrifon swyddog y mae angen archwilio ei gyfrifon yn rhinwedd adran 38 o Ddeddf 2004.

(2)

2000 p.43. Gweler adrannau 12 a 59 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.