Datganiadau cyfrifyddu eraill8

1

Rhaid i gorff y mae paragraff (2) yn gymwys iddo baratoi, yn unol ag arferion priodol gyfrif incwm a gwariant a mantolen y corff ar gyfer pob blwyddyn.

2

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i'r cyrff canlynol —

a

awdurdod iechyd porthladd; a

b

pwyllgor cynllunio trwyddedu; a

c

bwrdd draenio mewnol.

3

O ran cyngor cymuned, os yw incwm neu wariant gros (p'un bynnag yw'r uchaf) ar gyfer y flwyddyn, ac ar gyfer y ddwy flynedd yn union cyn hynny, yn llai na £1,000,000 ac os oedd:

a

yn £100,000 neu fwy ar gyfer y flwyddyn ac ar gyfer pob un o'r ddwy flynedd yn union cyn hynny ac os yw'r cyngor yn penderfynu hynny, rhaid i'r cyngor baratoi datganiad o gyfrifon yn unol ag arferion priodol ar y ffurf a bennir yn rheoliadau 7(1) a (2); neu

b

yn £100,000 neu fwy ar gyfer y flwyddyn ac ar gyfer pob un o'r ddwy flynedd yn union cyn hynny, rhaid i'r cyngor baratoi cyfrif incwm a gwariant a datganiad o falansau'r cyngor o ran y cyfnod hwnnw ar y ffurf a bennir mewn unrhyw Ffurflen Flynyddol fel sy'n ofynnol gan arferion priodol; neu

c

yn llai na £100,000 ar gyfer y flwyddyn neu ar gyfer unrhyw un o'r ddwy flynedd yn union cyn hynny, rhaid i'r cyngor baratoi yn unol ag unrhyw Ffurflen Flynyddol ac ar y ffurf a bennir ynddi, fel sy'n ofynnol gan arferion priodol;

i

cofnod o dderbyniadau a thaliadau'r cyngor mewn perthynas â'r cyfnod hwnnw; neu

ii

cyfrif incwm a gwariant a datganiad o falansau'r cyngor mewn perthynas â'r cyfnod hwnnw.

4

Mae'r Rheoliad hwn yn gymwys ar gyfer y flwyddyn sy'n diweddu ar 31 Mawrth 2006, a'r blynyddoedd sy'n dilyn.