Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 21) 2005

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym, o ran Cymru a Lloegr—

  • ar 1 Mawrth 2005, i'r graddau nad yw'r adran eisoes mewn grym, adran 61(2)(b), a hynny at ddibenion gwneud rheoliadau a fydd yn rhagnodi cofrestrau gweithwyr cymdeithasol a gedwir yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon sy'n cyfateb i'r cofrestrau a gedwir gan y Cyngor Gofal Cymdeithasol Cyffredinol a Chyngor Gofal Cymru.

  • ar 1 Ebrill 2005, i'r graddau nad yw'r adran eisoes mewn grym, adran 61 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 sy'n darparu ar gyfer diogelu'r teitl “gweithiwr cymdeithasol” drwy ei gwneud yn dramgwydd, gyda dirwy hyd at lefel 5 ar y raddfa safonol yn gosb am y tramgwydd, i berson nad yw'n weithiwr cymdeithasol cofrestredig ddefnyddio'r teitl hwnnw neu iddo, gyda'r bwriad o dwyllo, ymhonni bod yn weithiwr cymdeithasol cofrestredig. Ni fydd unigolyn yn euog o dramgwydd os yw ar gofrestr corff rheoleiddio cyfatebol mewn rhan arall o'r DU.