
Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThis
Section
only
Statws
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Y Diwrnod penodedig
2. 28 Mai 2005 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym—
(a)adran 2 (hawl mynediad i dir mynediad);
(b)adran 12 (effaith hawl mynediad ar hawliau a rhwymedigaethau perchenogion);
(c)adran 13 (rhwymedigaeth meddianwyr);
(ch)adran 14 (tramgwydd arddangos hysbysiadau ar dir mynediad sy'n ceisio darbwyllo'r cyhoedd i beidio â defnyddio'r tir);
(d)adran 46(3) (sy'n cyflwyno Atodlen 4) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn Atodlen 4 y cyfeirir atynt ym mharagraff (e) o'r erthygl hon;
(dd)adran 102 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn Atodlen 16 y cyfeirir atynt ym mharagraff (ff) o'r erthygl hon;
(e)Atodlen 2 (y cyfyngiadau i sydd i'w cadw gan bobl sy'n arfer hawl mynediad);
(f)paragraffau 2 (diwygio Deddf Coedwigaeth 1967 ()) a 3 (diwygio Deddf Amaethyddiaeth 1967 ()) o Atodlen 4; ac
(ff)i'r graddau nad yw eisoes wedi dod i rym, Rhan I o Atodlen 16 (dirymu).
Back to top