Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) (Cymru) 2005 a daw i rym ar 5 Mawrth 2005.

2

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

Dosbarthau ar leoedd tân sy'n cael eu hesemptio rhag adran 20 o Ddeddf Aer Glân 19932

Mae'r dosbarthau ar leoedd tân a ddisgrifir yn yr Atodlen, ar yr amodau sy'n cael eu pennu yno, yn cael eu hesemptio rhag darpariaethau adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 (sy'n gwahardd gollwng mwg mewn ardaloedd rheoli mwg).

Diwygio Gorchymyn cynharach3

Yn y cofnod sy'n ymwneud â'r Dunsley Yorkshire Stove yn yr Atodlen i Orchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) 19993

a

yn y golofn o dan y pennawd “Class of fireplace”, ar ôl “Dunsley Yorkshire Stove” rhodder “and Dunsley Yorkshire Multifuel Stove and Dunsley Yorkshire Multifuel Stove and Boiler”; a

b

yn y golofn o dan y pennawd “Conditions”, ar ôl “bearing the reference A/22160” rhodder “, as amended by the manufacturer’s instructions dated 4 October 2004 bearing the reference D13 with regard to the Stove and Multifuel Stove and the manufacturer’s instructions dated December 2004 bearing the reference GHD/DUN4B/1 with regard to the Multifuel Stove and Boiler”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984

John MarekDirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol