Search Legislation

Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) 2005

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Penodi a thalu cymrodeddwr

1.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mewn unrhyw achos lle bwriedir dosrannu cwota drwy gymrodeddu, mae'n rhaid penodi cymrodeddwr drwy gytundeb rhwng y trosglwyddwr a'r trosglwyddai, ac mae'n rhaid i'r trosglwyddai hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o benodiad y cymrodeddwr.

(2Caiff y trosglwyddwr neu'r trosglwyddai wneud cais unrhyw bryd i Lywydd Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (y cyfeirir ato yn yr Atodlen hon fel “y Llywydd”) yn gofyn am i gymrodeddwr gael ei benodi/phenodi o blith aelodau'r panel y cyfeirir ato ym mharagraff 7, ac mae'n rhaid i'r person sy'n gwneud y cyfryw gais hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o'r ffaith honno.

(3Os na phenodwyd cymrodeddwr drwy gytundeb rhwng y trosglwyddwr a'r trosglwyddai ac os na wnaed unrhyw gais i'r Llywydd o dan is-baragraff (2), caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud cais i'r Llywydd yn gofyn am i gymrodeddwr gael ei benodi/phenodi.

(4Lle mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn cyflwyno hysbysiad yn unol â rheoliad 12(2), mae'n rhaid iddo wneud cais i'r Llywydd yn gofyn am i gymrodeddwr gael ei benodi/phenodi ac mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymryd rhan yn y broses gymrodeddu.

(5Lle bwriedir dosrannu cwota o dan reoliad 39(4)(b) drwy broses gymrodeddu, mae'n rhaid i'r cynhyrchwr naill ai benodi cymrodeddwr drwy gytundeb â phawb sydd â buddiant yn y daliad neu wneud cais i'r Llywydd yn gofyn am i gymrodeddwr gael ei benodi/phenodi o blith aelodau'r panel y cyfeirir ato ym mharagraff 7.

2.—(1Mewn unrhyw achos lle bwriedir dosrannu cwota yn rhagolygol drwy gymrodeddu, mae'n rhaid penodi cymrodeddwr —

(a)lle mae rheoliad 11(1)(b) neu (4)(b) yn gymwys, drwy gytundeb rhwng deiliad y daliad perthnasol ac unrhyw barti arall â buddiant, neu, yn niffyg cytundeb, gan y Llywydd yn dilyn cais gan y deiliad; a

(b)lle mae rheoliad 12(3) yn gymwys, gan y Llywydd.

(2Lle mae is-baragraff (1)(a) yn gymwys, mae'n rhaid i'r deiliad hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o benodiad y cymrodeddwr yn unol â'r cytundeb, neu o'r cais i'r Llywydd yn gofyn am i gymrodeddwr gael ei benodi/phenodi.

3.—(1mae'n rhaid i gymrodeddwr a benodir yn unol â pharagraff 1(1) i (4) neu 2 gyflawni'r broses gymrodeddu yn unol â'r Atodlen hon ac mae'n rhaid iddo neu iddi seilio ei d(d)yfarniad ar ganfyddiadau a wnaed ganddo neu ganddi o ran mannau a ddefnyddiwyd at ddibenion cynhyrchu llaeth yn ystod y cyfnod diwethaf o bum mlynedd y buwyd yn cynhyrchu llaeth cyn i'r ddeiliadaeth newid, neu, yn achos dosraniad rhagolygol, yn y cyfnod diwethaf o bum mlynedd y buwyd yn cynhyrchu llaeth cyn penodi'r cymrodeddwr.

(2mae'n rhaid i gymrodeddwr a benodir yn unol â pharagraff 1(5) gyflawni'r broses gymrodeddu yn unol â'r Atodlen hon ac mae'n rhaid iddo neu iddi seilio ei d(d)yfarniad ar ganfyddiadau a wnaed ganddo neu ganddi o ran lleiniau a ddefnyddiwyd at ddibenion cynhyrchu llaeth yn ystod y cyfnod diwethaf o bum mlynedd y buwyd yn cynhyrchu llaeth cyn penodi'r cymrodeddwr.

(3mae'n rhaid i gymrodeddwr a benodir o dan unrhyw un o baragraffau'r Atodlen hon seilio ei d(d)yfarniad ar ganfyddiadau a wnaed ganddo neu ganddi yn unol â'r gyfraith a oedd mewn grym pan ddigwyddodd y digwyddiad a arweiniodd at y cais am gymrodeddu.

4.—(1Ni ellir gwneud cais i'r Llywydd am iddo neu iddi benodi cymrodeddwr o dan yr Atodlen hon onid anfonir y ffi briodol ar gyfer y cyfryw gais gyda'r cais; ond unwaith y bydd y ffi wedi'i thalu mewn cysylltiad ag unrhyw gyfryw gais ni fydd unrhyw ffi arall yn daladwy mewn cysylltiad ag unrhyw gais a wneir ar ôl hynny yn gofyn i'r Llywydd arfer unrhyw swyddogaeth y gall ei harfer o ran y broses gymrodeddu yn rhinwedd yr Atodlen hon (gan gynnwys cais am iddo neu iddi benodi cymrodeddwr newydd mewn achos priodol).

(2Yn is-baragraff (1), ystyr y “ffi briodol” yw'r cyfryw ffi resymol ag y gall y Llywydd ei nodi o ystyried y cyfryw ffi ag sy'n cael ei phennu am y tro o dan baragraff 1 (2) Atodlen 11 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986(1), a heb fod yn fwy na'r ffi honno mewn unrhyw achos.

5.  Lle mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gwneud cais i'r Llywydd o dan baragraff 1(3) neu (4), caiff y Cynulliad Cenedlaethol adennill y ffi sy'n daladwy i'r Llywydd o ran y cais hwnnw y cyfeirir ato ym mharagraff 4 fel dyled sy'n ddyledus gan y partïon eraill yn y broses gymrodeddu ar y cyd neu'n unigol.

6.  Mae'n rhaid i unrhyw benodiad o gymrodeddwr gan y Llywydd gael ei wneud ganddo neu ganddi cyn gynted ag y bo modd ar ôl derbyn y cais.

7.  At ddibenion paragraff 1(2) y panel o gymrodeddwyr yw'r panel a benodir gan yr Arglwydd Ganghellor o dan baragraff 1(5) Atodlen 11 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.

8.  Os bydd y cymrodeddwr yn marw, neu os na fydd yn gallu gweithredu, neu os bydd yn methu â gweithredu am saith diwrnod ar ôl cael hysbysiad oddi wrth unrhyw barti yn gofyn iddo neu iddi weithredu, gellir penodi cymrodeddwr newydd fel pe na fyddai unrhyw gymrodeddwr wedi'i benodi/phenodi.

9.  Ni chaiff unrhyw barti yn y broses gymrodeddu ddiddymu penodiad y cymrodeddwr heb gydsyniad unrhyw barti arall, ac ni ddiddymir ei benodiad/phenodiad gan farwolaeth unrhyw barti.

10.  Mae'n rhaid i bob penodiad, cais, hysbysiad, diddymiad a chydsyniad o dan baragraff 1, 2, 8 neu 9 fod yn ysgrifenedig.

11.—(1Tâl y cymrodeddwr —

(a)mewn achos lle y'i penodir drwy gytundeb rhwng y partïon, yw'r cyfryw swm ag y gall ef neu hi a'r partïon gytuno arno neu, yn niffyg cytundeb, y cyfryw swm ag a bennir gan Farnwr Rhanbarthol y llys sirol (yn amodol ar apêl i Farnwr Cylchdaith y llys) pan wneir cais gan y cymrodeddwr neu unrhyw barti;

(b)mewn achos lle y'i penodir gan y Llywydd, yw'r cyfryw swm ag y gellir cytuno arno gan y cymrodeddwr a'r partïon neu, yn niffyg cytundeb, y cyfryw swm ag a bennir gan y Llywydd.

(2Gellir adennill tâl y cymrodeddwr gan y cymrodeddwr fel dyled sy'n ddyledus gan y partïon yn y broses gymrodeddu, ar y cyd neu'n unigol.

Cynnal yr achos a thystion

12.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), mewn unrhyw broses gymrodeddu y mae'r Atodlen hon yn ymwneud â hi, caiff y cymrodeddwr ddwyn i mewn fel parti yn y broses gymrodeddu unrhyw berson sydd â buddiant yn y daliad, p'un a yw'r cyfryw berson wedi gwneud cais i gymryd rhan yn y broses gymrodeddu ai peidio, ar yr amod y bydd y cyfryw berson yn fodlon cael ei d(d)wyn i mewn felly.

(2Lle bwriedir dosrannu cwota yn unol â chais mewn datganiad o dan reoliad 39(4)(b) drwy gymrodeddu, mae'n rhaid i unrhyw un â buddiant yn y daliad a wrthododd lofnodi'r cyfryw ddatganiad ag y cyfeirir ato yn rheoliad 39(4)(a) gymryd rhan yn y broses gymrodeddu.

13.  O fewn 35 o ddiwrnodau i'r dyddiad y penodwyd y cymrodeddwr, neu o fewn y cyfryw gyfnod pellach ag y gall y cymrodeddwr ei nodi, mae'n rhaid i'r partïon yn y broses gymrodeddu gyflwyno iddo neu iddi ddatganiad o'u gwahanol achosion a'r holl fanylion sydd eu hangen ac —

(a)ni chaniateir diwygio'r datganiad na'r manylion a gyflwynwyd nac ychwanegu atynt ar ôl i'r 35 o ddiwrnodau, neu'r cyfryw gyfnod pellach ag y gall y cymrodeddwr ei nodi, ddod i ben, heb gydsyniad y cymrodeddwr; a

(b)cyfyngir parti yn y broses gymrodeddu yn y gwrandawiad i'r materion a honnir yn y datganiad a'r manylion a gyflwynwyd ganddo neu ganddi ac unrhyw ddiwygiad neu ychwanegiad a wnaed yn briodol.

14.  Mae'n rhaid i'r partïon yn y broses gymrodeddu a phawb sy'n hawlio drwyddynt, yn amodol ar unrhyw wrthwynebiad cyfreithiol, gyflwyno er mwyn iddo gael ei archwilio gan y cymrodeddwr, lw neu gadarnhad, o ran materion y ddadl ac mae'n rhaid iddynt, yn amodol ar unrhyw gyfryw wrthwynebiad, gyflwyno gerbron y cymrodeddwr yr holl samplau a dogfennau yn eu meddiant neu dan eu hawdurdod y gall fod eu hangen neu y gellir digwydd amdanynt, a gwneud y cyfryw bethau eraill ag y gall y cymrodeddwr yn rhesymol eu mynnu at ddibenion y broses gymrodeddu.

15.  Mae gan unrhyw un â buddiant yn y daliad y mae'r broses gymrodeddu yn ymwneud ag ef hawl i gyflwyno sylwadau i'r cymrodeddwr.

16.  Mae'n rhaid i dystion sy'n ymddangos yn y broses gymrodeddu, os gwêl y cymrodeddwr yn dda, gael eu croesholi ar lw neu gadarnhad, a chaiff y cymrodeddwr roddi llw i'r partïon a'r tystion sy'n ymddangos, neu dderbyn eu cadarnhad.

17.  Mae darpariaethau rheolau llysoedd sirol o ran cyflwyno gwysion i dystion yn gymwys, yn ddarostyngedig i'r cyfryw ddiwygiadau ag y gellir eu pennu gan y cyfryw reolau, at ddibenion cymrodeddu fel pe bai'n achos neu'n fater yn y llys sirol.

18.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3), mae unrhyw berson—

(a)ar ôl cael ei (g)wysio yn unol â rheolau llysoedd sirol fel tyst yn y broses gymrodeddu sy'n gwrthod neu sy'n esgeuluso, heb reswm digonol, ymddangos neu gyflwyno unrhyw ddogfennau y mae'r wys yn mynnu eu bod yn cael eu cyflwyno; neu

(b)ar ôl cael ei (g)wysio felly neu ar ôl bod yn bresennol y broses gymrodeddu neu ar ôl cael ei (g)alw i roi tystiolaeth, sy'n gwrthod tyngu llw neu roi tystiolaeth,

yn fforffedu'r cyfryw ddirwy ag y gall barnwr y llys sirol ei nodi.

(2Ni chaiff barnwr gyfarwyddo o dan is-baragraff (1) fod person yn fforffedu dirwy o fwy na £400.

(3Ni fydd unrhyw berson a wysir yn unol â rheolau llysoedd sirol fel tyst yn y broses gymrodeddu yn fforffedu dirwy o dan y paragraff hwn oni thalwyd neu oni chynigiwyd iddo neu iddi pan gyflwynwyd y wps y cyfryw swm rhesymol o ran ei dreuliau/threuliau ag y gall y cymrodeddwr ei nodi (gan gynnwys, mewn achosion priodol, iawndal am golli amser), o ystyried y cyfryw symiau sy'n daladwy yn y cyfryw achosion ag y gellir eu pennu at ddibenion adran 55 Deddf Llysoedd Sirol 1984(2).

(4Caiff barnwr y llys sirol yn ôl ei d(d)isgresiwn gyfarwyddo y gellir defnyddio unrhyw gyfryw ddirwy yn gyfan gwbl neu unrhyw ran ohoni, ar ôl tynnu costau, i ddigolledu parti a niweidiwyd gan y gwrthodiad neu'r esgeulustod.

19.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), pan wneir cais gan unrhyw barti yn y broses gymrodeddu, caiff barnwr y llys sirol, os gwêl yn dda, roi gorchymyn o dan ei l(l)aw i ddwyn gerbron y cymrodeddwr unrhyw berson (yn y cyfeirir ato yn y paragraff hwn fel “y carcharor”) sydd mewn caethiwed mewn unrhyw le o dan unrhyw ddedfryd neu sy'n cael ei draddodi/thraddodi i sefyll ei brawf/phrawf neu fel arall, er mwyn iddo neu iddi gael ei groesholi/chroesholi fel tyst yn y broses gymrodeddu.

(2Ni chaniateir gwneud unrhyw gyfryw orchymyn o ran person mewn caethiwed dan orchymyn unrhyw achos neu fater sifil.

(3Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), mae'n rhaid dwyn y carcharor mewn unrhyw gyfryw orchymyn gerbron y cymrodeddwr o dan yr un warchodaeth, ac ymdrin ag ef neu â hi yn yr un modd ym mhob ffordd, fel carcharor y mae'n ofynnol iddo neu iddi o dan writ habeas corpus gael ei d(d)wyn gerbron yr Uchel Lys a'i groesholi/chroesholi yno fel tyst.

(4Nid yw'r person sy'n gwarchod y carcharor yn gorfod ufuddhau i'r gorchymyn oni chynigir iddo neu iddi swm rhesymol am gludo a chynnal swyddog neu swyddogion priodol a'r carcharor wrth fynd i'r man lle cynhelir y broses gymrodeddu, aros yno, a dychwelyd oddi yno.

20.  Caiff yr Uchel Lys orchymyn bod yn rhaid cyhoeddi gwrit habeas corpus ad testificandum i ddwyn carcharor gerbron y cymrodeddwr er mwyn iddo neu iddi gael ei groesholi/chroesholi, os yw'r carcharor hwnnw mewn caethiwed mewn unrhyw garchar dan orchymyn unrhyw achos neu fater sifil.

Y Dyfarniad

21.  — Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), mae'n rhaid i'r cymrodeddwr wneud a llofnodi ei d(d)yfarniad o fewn 56 diwrnod i'r dyddiad y'i penodwyd.

(2Caiff y Llywydd o bryd i'w gilydd estyn y terfyn amser ar gyfer gwneud y dyfarniad, p'un a yw'r cyfnod hwnnw wedi dod i ben ai peidio.

(3mae'n rhaid i'r cymrodeddwr hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o delerau ei d(d)yfarniad o fewn wyth diwrnod i'r dyddiad y gwnaed y dyfarniad hwnnw.

(4mae'n rhaid i'r dyfarniad bennu dyddiad heb fod yn hwyrach nag un mis ar ôl gwneud y dyfarniad ar gyfer talu unrhyw gostau a ddyfarnwyd o dan baragraff 25.

22.  Mae'r dyfarniad yn derfynol ac yn rhwymol ar y partïon ac unrhyw bersonau sy'n hawlio o danynt.

23.  Caiff y cymrodeddwr gywiro unrhyw wall neu gamgymeriad clercol yn y dyfarniad yn deillio o unrhyw lithriad neu hepgoriad damweiniol.

Rhesymau dros y dyfarniad

24.  Lle mae unrhyw barti yn y broses gymrodeddu yn gofyn i'r cymrodeddwr, pan wneir y dyfarniad neu cyn ei wneud, wneud datganiad, naill ai'n ysgrifenedig neu ar lafar, yn nodi'r rhesymau dros y dyfarniad, mae'n rhaid i'r cymrodeddwr ddarparu'r cyfryw ddatganiad.

Costau

25.  Mae'r cymrodeddwr yn rhydd i bennu costau'r broses gymrodeddu a'r dyfarniad a'r costau sy'n gysylltiedig â hwy a chaiff gyfarwyddo i bwy y dylid talu'r costau, neu unrhyw ran o'r costau, pwy y dylid eu talu ac ym mha ffordd. Mae'r costau at ddibenion y paragraff hwn yn cynnwys unrhyw ffi a delir i'r Llywydd o ran penodi cymrodeddwr ac unrhyw swm a delir i'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol â pharagraff 5.

26.  Ar ôl cais gan unrhyw barti, mae unrhyw gyfryw gostau yn drethadwy yn y llys sirol yn ôl y cyfryw raddfeydd ag a bennir gan reolau llysoedd sirol ar gyfer achosion yn y llys sirol ag y gellir ei nodi gan y cymrodeddwr o dan baragraff 25 neu, yn absenoldeb unrhyw gyfryw gyfarwyddyd, gan y llys sirol.

27.—(1mae'n rhaid i'r cymrodeddwr, wrth ddyfarnu costau, ystyried —

(a)pa mor rhesymol neu afresymol yw cais unrhyw barti, p'un ai o ran y swm neu fel arall;

(b)unrhyw gais afresymol am fanylion neu benderfyniad i wrthod darparu manylion; a

(c)yn gyffredinol holl amgylchiadau'r achos.

(2Caiff y cymrodeddwr wrthod dyfarnu unrhyw gostau y cred i bartïon fynd iddynt yn ddiangen, gan gynnwys costau unrhyw dyst y cred iddo neu iddi gael ei (g)alw yn ddiangen.

Achos arbennig, gosod dyfarniad o'r naill du ac ailgyfeirio

28.—(aCaiff y cymrodeddwr ddatgan unrhyw bryd yn ystod yr achos; a

(b)Mae'n rhaid i'r cymrodeddwr ddatgan, yn dilyn cyfarwyddyd ar ran hynny a roddwyd gan farnwr y llys sirol yn dilyn cais a wnaed gan unrhyw barti,

unrhyw fater o gyfraith a fydd yn codi yn ystod y broses gymrodeddu ac unrhyw fater yn ymwneud ag awdurdod y cymrodeddwr ar ffurf achos arbennig er mwyn i'r llys sirol roi ei farn.

29.—(1Lle mae'r cymrodeddwr wedi camymddwyn, caiff y llys sirol ei d(d)iswyddo.

(2Lle—

(a)mae'r cymrodeddwr wedi camymddwyn; neu

(b)mae proses gymrodeddu neu ddyfarniad wedi'i gaffael yn anghywir; neu

(c)mae camgymeriad cyfreithiol o fewn y dyfarniad,

caiff y llys sirol osod y dyfarniad o'r naill du.

30.—(1Caiff y llys sirol o bryd i'w gilydd ailgyfeirio'r dyfarniad, neu ran o'r dyfarniad, i'r cymrodeddwr er mwyn iddo neu iddi ei ailystyried.

(2mae paragraff (3) yn gymwys mewn unrhyw achos lle ymddengys i'r llys sirol fod camgymeriad cyfreithiol o fewn y dyfarniad.

(3Yn lle arfer ei bŵ er i ailgyfeirio dyfarniad o dan is-baragraff (1), caiff y llys amrywio'r dyfarniad drwy roi yn lle cymaint ohono ag yr effeithir arno gan y camgymeriad y cyfryw ddyfarniad ag y cred y llys y byddai wedi bod yn briodol i'r cymrodeddwr ei wneud o dan yr amgylchiadau.

(4mae dyfarniad a amrywiwyd yn unol â pharagraff (3) yn effeithiol fel y'i hamrywiwyd felly.

(5Lle gorchmynnir ailgyfeirio'r dyfarniad o dan is-baragraff (1), mae'n rhaid i'r cymrodeddwr, oni fydd y gorchymyn yn cyfarwyddo fel arall, wneud a llofnodi ei d(d)yfarniad o fewn 30 diwrnod i ddyddiad y gorchymyn.

(6Os bydd y llys sirol yn fodlon bod y cyfnod o amser ar gyfer gwneud y dyfarniad am unrhyw reswm da yn annigonol, caiff y llys estyn yr amser hwnnw neu ei estyn ymhellach am y cyfryw gyfnod ag y cred ei fod yn briodol.

Amrywiol

31.  Gellir adennill unrhyw swm a delir, o ran tâl y cymrodeddwr oddi wrth unrhyw barti yn y broses gymrodeddu sy'n fwy na'r swm, os o gwbl, y cyfarwyddodd y dyfarniad y dylai ei dalu o ran costau'r dyfarniad, gan y parti arall neu ar y cyd gan y partïon eraill.

32.  At ddibenion yr Atodlen hon, mae'n rhaid ystyried bod cymrodeddwr a benodwyd gan y Llywydd wedi'i benodi pan gyflawnodd y Llywydd yr offeryn penodi, yn unol â'r gyfraith a oedd mewn grym pan y'i cyflawnwyd ac yn achos unrhyw gyfryw gymrodeddwr mae'r cyfnodau y cyfeirir atynt ym mharagraffau 13 ac 21 yn cychwyn felly o'r amser hwnnw.

33.  Dylid ystyried bod unrhyw offeryn penodi neu unrhyw ddogfen arall yr honnir iddo neu iddi gael ei (g)wneud wrth arfer unrhyw swyddogaeth y gall y Llywydd ei harfer o dan baragraff 1, 2, 6, 11 neu 21 a chael ei (l)lofnodi gan y Llywydd neu ar ei r(h)an yn gyfryw offeryn neu ddogfen oni ddangosir fel arall.

34.  Nid yw Deddf Cymrodeddu 1996(3) yn gymwys o ran cymrodeddu a benderfynir yn unol â'r Atodlen hon.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources