2005 Rhif 603 (Cy.51)
Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Diwygio) 2005
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16BB(4), 17 a 126(4) a pharagraffau 2, 3 a 4 o Atodlen 7A i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 19771 drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a dehongli1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Diwygio) 2005 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2005.
2
Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned 20042.
Diwygio rheoliad 1(2) o'r Prif Reoliadau2
1
Yn rheoliad 1(2) o'r Prif Reoliadau mewnosodir y diffiniad canlynol yn y man priodol yn ôl trefn yr wyddor
ystyr “aelod o'r Bwrdd” (“Board member”) yw aelod o Fwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru a sefydlwyd yn unol â rheoliad 23 o'r Rheoliadau hyn
2
Hepgorir y geiriau canlynol o'r diffiniad o “aelod” (“member”): “neu aelod o Fwrdd CIC yn ôl y digwydd”.
Dirymu rheoliad 3 o'r Prif Reoliadau a'i ailddeddfu gyda newidiadau3
Dirymir rheoliad 3 o'r Prif Reoliadau a rhoddir y canlynol yn ei le:
Tymor gwasanaethu'r aelodau3
1
Yn ddarostyngedig i reoliad 8 (aelodau sy'n gymwys i'w hailethol), tymor gwasanaethu unrhyw aelod, a benodwyd neu a ailbenodwyd ar 1 Ebrill 2005 neu ar ôl hynny, yw rhwng un a phum mlynedd yn ôl yr hyn a bennwyd gan y corff penodi adeg penodi'r aelod hwnnw.
2
Pan fydd Cyngor newydd i'w sefydlu o dan adran 20A(2)(b) o'r Ddeddf ar gyfer ardal neu ran o ardal Cyngor sy'n bodoli eisoes, caiff y Cynulliad benderfynu y bydd swydd unrhyw aelod o'r Cyngor sy'n bodoli eisoes yn dod i ben yn union cyn sefydlu'r Cyngor newydd.
3
Pan fydd Cyngor yn cael ei ddiddymu o dan adran 20(A)(2)(b) o'r Ddeddf, caiff y Cynulliad benderfynu y bydd swydd ynrhyw aelod o'r Cyngor a ddiddymwyd yn dod i ben yn union.
Ychwanegu rheoliad 3A at y Prif Reoliadau4
Yn dilyn rheoliad 3 o'r Prif Reoliadau, mewnosodir y rheoliad 3A newydd canlynol:
Tymor gwasanaethu'r aelodau — trefniadau trosiannol ar gyfer aelodau a benodwyd eisoes gan y corff sy'n penodi ar 31 Mawrth 20053A
Gweddill ei dymor gwasanaethu cyfredol fydd tymor gwasanaethu unrhyw aelod sydd eisoes wedi'i benodi gan y corff sy'n penodi ar 31 Mawrth 2005.
Diwygio rheoliad 8 o'r Prif Reoliadau5
1
Dileir y geiriau “baragraff (2) ac i reoliad 9” yn rheoliad 8(1) o'r Prif Reoliadau a rhoddir y geiriau “baragraffau (2) a (3)” yn eu lle.
2
Dirymir rheoliad 8(2) o'r Prif Reoliadau a rhoddir y y canlynol yn ei le:
2
Caiff person wasanaethu fel aelod o Gyngor am gyfnod o ddeng mlynedd ar y mwyaf.
3
Yn dilyn y rheoliad 8(2) newydd mewnosodir
3
Wrth gyfrifo'r cyfnod o ddeng mlynedd y cyfeirir ato ym mharagraff (2) uchod, caiff pob cyfnod o wasanaeth fel aelod mewn unrhyw Gyngor ei agregu, gan gynnwys gwasanaeth mewn Cyngor y cafodd ei ardal ei newid ac mewn Cyngor sydd wedi'i ddiddymu ond heb fod yn gyfyngedig i'r cyfnod gwasanaeth hwnnw.
Ychwanegu rheoliad 8A at y Prif Reoliadau.6
Yn dilyn rheoliad 8 o'r Prif Reoliadau, mewnosodir y canlynol:
Aelodau sy'n gymwys i'w hailethol — darpariaethau trosiannol8A
1
Caiff yr aelodau hynny a benodwyd cyn 1 Ebrill 2005, yn unol â rheoliad 3A, fwrw gweddill eu tymor gwasanaethu cyfredol, er y gall hynny olygu y byddant yn treulio mwy na'r uchafswm o ddeng mlynedd a ragnodir yn rheoliad 8 uchod.
2
Pan fydd yr aelodau hynny y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) uchod wedi treulio eu tymor gwasanaethu cyfredol, byddant, er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau rheoliad 8.
Diwygio rheoliad 12 o'r Prif Reoliadau7
Yn dilyn y geiriau “i gyd yn aelodau o'r Cynghorau hynny” yn ail linell rheoliad 12(3) o'r Prif Reoliadau mewnosodir y geiriau canlynol, “ac, os bydd angen, yn swyddogion i'r Cynghorau hynny”.
Diwygio rheoliad 23 o'r Prif Reoliadau8
Yn dilyn rheoliad 23(ch) o'r Prif Reoliadau, ychwanegir y canlynol:
d
sefydlu gweithdrefn gwynion yn unol â rheoliad 23A.
Ychwanegu rheoliad 23A at y Prif Reoliadau9
Yn dilyn rheoliad 23 o'r Prif Reoliadau, ychwanegir y canlynol:
Gweithdrefn Gwynion23A
1
Rhaid i'r Bwrdd wneud darpariaeth ynglyn â thrin ac ystyried cwynion a wneir am y ffordd y mae unrhyw swyddogaeth sydd gan Gyngor neu'r Bwrdd yn cael ei harfer.
2
Cyn bod y weithdrefn gwynion a lunnir gan y Bwrdd yn unol â pharagraff (1) uchod yn cael ei gweithredu, rhaid i'r Bwrdd sicrhau bod y weithdrefn yn cael ei chymeradwyo'n gyntaf gan y Cynulliad.
Diwygio rheoliad 24 o'r Prif Reoliadau10
1
Rhoddir “(1)” o flaen y geiriau “Bydd ar Fwrdd CIC” a rhoddir y geiriau “aelodau o'r Bwrdd” yn lle'r gair “aelodau” yn rheoliad 24 o'r Prif Reoliadau.
2
Yn dilyn rheoliad 24(1) o'r Prif Reoliadau mewnosodir y paragraffau newydd canlynol:
2
Dim ond aelodau a swyddogion Cynghorau sy'n gymwys i'w penodi yn aelodau o'r Bwrdd.
3
Bydd tymor gwasanaethu aelod o'r Bwrdd yn gyfnod hyd at dair blynedd, fel a bennir adeg ei benodi.
Diwygio Rheoliad 26 o'r Prif Reoliadau11
Ar ôl y gair “aelodau” yn seithfed linell rheoliad 26(1) o'r Prif Reoliadau rhodder y geiriau “o'r Bwrdd”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19983
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)