2005 Rhif 662 (Cy.52)

GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygio) (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 22(5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 19481 ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru2.

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygio) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 11 Ebrill 2005.

2

Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 19923.

3

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru'n unig.

Diwygio'r Prif Reoliadau — Terfynau Cyfalaf2

1

Diwygir y Prif Reoliadau yn unol â pharagraffau canlynol y rheoliad hwn.

2

Dirymir rheoliad 20 (Terfyn cyfalaf) o ran Cymru.

3

Ar ôl rheoliad 20 (Terfyn cyfalaf) mewnosoder y rheoliad canlynol—

Capital limit — Wales20A

1

This regulation applies in relation to Wales.

2

No resident shall be assessed as unable to pay for his accommodation at the standard rate if his capital, calculated in accordance with regulation 21, exceeds £21,000.

4

Dirymir rheoliad 28 (Cyfrifo incwm tariff o gyfalaf) o ran Cymru.

5

Ar ôl rheoliad 28 (Cyfrifo incwm tariff o gyfalaf), mewnosoder y rheoliad a ganlyn—

Calculation of tariff income from capital — Wales28A

1

This regulation applies in relation to Wales.

2

Where a resident’s capital calculated in accordance with this part exceeds £14,750 it shall be treated as equivalent to a weekly income of £1 for each £250 in excess of £14,750 up to the limit of £21,000 (the Capital limit).

3

Where any part of the excess is not a complete £250 that part shall nevertheless be treated as equivalent to a weekly income of £1.

4

For the purposes of paragraph (2) capital includes any income treated as capital under regulations 22 and 34 (income treated as capital and liable relative payments) respectively.

5

For the purposes of paragraph (2), where a resident makes additional payments as provided for in regulation 4(2)(b) of the National Assistance (Residential Accommodation) (Additional Payments Relevant Contributions and Assessment of Resources) (Amendment) (Wales) Regulations 20034 (additional payments from capital not exceeding the lower capital limit), the resident is to be treated as possessing capital equivalent to the amount of any additional payments.

Diwygio Atodlen 3 i'r Prif Reoliadau — Symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo incwm nad yw'n enillion3

1

Ym mharagraff 28H o Atodlen 3 i'r Prif Reoliadau—

a

yn lle'r ffigur “£4.75”, bob tro y mae'n ymddangos, rhodder y ffigur “£4.85”;

b

yn is-baragraffau (3) a (4), yn lle'r ffigur “£6.95”, bob tro y mae'n ymddangos, rhodder y ffigur “£7.20”.

2

Ar ôl paragraff 28J o Atodlen 3 i'r Prif Reoliadau, mewnosoder y paragraff a ganlyn—

28K

Any payment made pursuant to section 14F of the Children Act 19895 (Special Guardianship Support Services) to a resident who is special guardian or a prospective special guardian.

Diwygio Atodlen 4 i'r Prif Reoliadau — Symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo cyfalaf4

Ar ôl paragraff 26 o Atodlen 4 i'r Prif Reoliadau, mewnosoder y paragraff a ganlyn—

27

Any payment made pursuant to section 14F of the Children Act 1989 (Special Guardianship Support Services) to a resident who is special guardian or a prospective special guardian.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19986.

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau pellach i Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992 (“y Prif Reoliadau”).

Mae'r Prif Reoliadau'n penderfynu'r ffordd y mae awdurdodau lleol yn asesu gallu person i dalu am y llety y mae awdurdodau lleol yn ei drefnu o dan Ran 3 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948.

Mae rheoliad 2 yn codi'r terfynau cyfalaf yn y Prif Reoliadau. Mae'r terfyn cyfalaf uchaf yn gosod y swm cyfalaf pan nad yw preswylydd, os yw ei gyfalaf yn uwch na'r swm hwnnw, yn gymwys i dderbyn cymorth awdurdod lleol. Mae'r terfyn cyfalaf isaf yn pennu'r swm pan nad yw'n ofynnol i breswylydd, os yw ei gyfalaf yn is na'r swm hwnnw, gyfrannu o'i gyfalaf at ei lety.

Mae rheoliad 3 yn gwneud diwygiadau i Atodlen 3 i'r Prif Reoliadau sy'n nodi ffynonellau incwm penodol y mae'n rhaid i awdurdodau lleol eu diystyru. Codir lefelau diystyriad credyd cynilion o £4.75 i £4.85 yn achos person sengl ac o £6.95 i £7.20 yn achos preswylydd sydd â phartner. Mae diystyriad newydd o ran taliadau a wneir o dan y trefniadau i gynorthwyo “gwarcheidwaid arbennig” o dan adran 14F o Ddeddf Plant 1989.

Mae rheoliad 4 yn diwygio Atodlen 4 i'r Prif Reoliadau fel bod taliadau a wneir i “warcheidwaid arbennig” hefyd yn cael eu diystyru fel cyfalaf.