Search Legislation

Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2005

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 1Cyflwyniad

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2005; maent yn gymwys o ran Cymru yn unig a deuant i rym ar 15 Mawrth 2005.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “amodau mewnforio” (“import conditions”) mewn perthynas â chynnyrch, yw'r amodau a osodwyd ar gyfer mewnforio'r cynnyrch hwnnw mewn unrhyw gyfarwyddeb, penderfyniad neu reoliad a restrir yn Atodlen 1, gan gynnwys—

(a)

amodau ynglyn â'r wlad neu'r sefydliad y mae'r cynnyrch yn dod ohonynt yn wreiddiol,

(b)

gofynion penodol a osodwyd ar gyfer mewnforio'r cynnyrch hwnnw i Aelod-wladwriaeth benodol neu ardal benodol o Aelod-wladwriaeth, ac

(c)

a osodwyd ar gyfer mewnforio'r cynnyrch hwnnw at ddibenion penodol;

ystyr “archwilydd pysgod swyddogol” (“official fish inspector”) yw swyddog iechyd yr amgylchedd a benodwyd yn archwilydd pysgod swyddogol gan awdurdod lleol yn unol â rheoliad 6(2)(b);

ystyr “yr Asiantaeth”(“the Agency”) yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd;

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”)—

(a)

pan fydd yna awdurdod iechyd porthladd, yw'r awdurdod iechyd porthladd hwnnw;

(b)

pan nad oes unrhyw awdurdod iechyd porthladd, yw cyngor y sir neu'r fwrdeistref sirol yn ôl y digwydd;

mae “cludydd sydd â gofal am y tro” (“carrier who has charge for the time being”) dros gynnyrch, llwyth neu ran o lwyth yn cynnwys gyrrwr unrhyw gerbyd, peilot unrhyw awyren a meistr unrhyw long (ond nid gyrrwr unrhyw drên) sy'n cludo'r cynnyrch hwnnw, y llwyth hwnnw neu'r rhan honno o'r llwyth;

ystyr “y Cod Tollau” (“the Customs Code”) yw Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2913/92 (sy'n sefydlu'r Cod Tollau Cymunedol)(1);

ystyr “y Comisiynwyr” (“the Commissioners”) yw Comisiynwyr Tollau Tramor a Chartref;

ystyr “Cyfarwyddeb 92/118/EEC (“Directive 92/118/EEC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 92/118/EEC (sy'n gosod gofynion iechyd anifeiliaid ac iechyd y cyhoedd sy'n llywodraethu masnachu yn y Gymuned a mewnforio iddi gynhyrchion nad ydynt yn ddarostyngedig i'r gofynion hyn a nodwyd mewn rheolau Cymunedol penodol y cyfeirir atynt yn Atodiad A (I) i Gyfarwyddeb 89/662/EEC ac, o ran pathogenau, i Gyfarwyddeb 90/425/EEC)(2);

ystyr “Cyfarwyddeb 97/78/EC” (“Directive 97/78/EC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 97/78/EC (sy'n gosod yr egwyddorion sy'n llywodraethu'r dull o drefnu gwiriadau milfeddygol ar gynhyrchion sy'n dod i mewn i'r Gymuned o drydydd gwledydd)(3);

ystyr “cyflwyno” (“introduce”) yw dod â rhywbeth i mewn; ac mae person yn cyflwyno cynnyrch i diriogaeth neu ardal—

(a)

os yw'r person hwnnw neu honno yn dod ag ef i mewn i'r diriogaeth neu i'r ardal honno ac mai ef neu hi yw perchennog y cynnyrch;

(b)

os yw'r person hwnnw neu honno yn dod ag ef i mewn i'r diriogaeth neu i'r ardal honno ac mai ef neu hi yw'r cludydd; neu

(c)

os yw cludydd yn dod ag ef i mewn i'r diriogaeth neu i'r ardal honno yn unol â chyfarwyddiadau'r person hwnnw neu honno;

ond nid yw cynnyrch ar gyfrwng cludo sy'n gweithredu'n rhyngwladol, a hwnnw'n gynnyrch y bwriedir i griw neu deithwyr y cyfrwng cludo hwnnw ei fwyta neu ei yfed, yn cael ei gyflwyno i diriogaeth neu ardal os nad yw'n cael ei ddadlwytho, neu os yw'n cael ei drosglwyddo'n uniongyrchol o un cyfrwng cludo sy'n gweithredu'n rhyngwladol i un arall yn yr un porthladd neu faes awyr ac o dan oruchwyliaeth, o fewn yr ystyr yn Erthygl 4(13) o'r Cod Tollau, gan y Comisiynwyr;

mae i “cylchrediad rhydd” yr ystyr sydd i “free circulation” yn Erthyglau 23(2) a 24 o Gytuniad sefydlu'r Gymuned Ewropeaidd;

ystyr “cynhyrchion pysgodfeydd” (“fishery products”) yw pob anifail dŵ r môr a dŵ r croyw, p'un a yw'n fyw ai peidio, gan gynnwys—

(a)

anifeiliaid dyframaeth a chynhyrchion dyframaeth fel y diffinnir “aquaculture animals” ac “aquaculture products” yn Erthygl 2 o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/67/EEC (ynglyn ag amodau iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu'r gwaith o roi anifeiliaid a chynhyrchion dyframaeth ar y farchnad)(4),

(b)

molysgiaid deufalf fel y diffinnir “bivalve molluscs” yn Erthygl 2(1) o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/492/EEC (sy'n gosod yr amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a rhoi ar y farchnad folysgiaid deufalf byw)(5),

(c)

echinodermau, tiwnigogion a gastropodau morol, ac

(ch)

cynhyrchion pysgodfeydd a chynhyrchion dyframaeth fel y diffinnir “fishery products” ac “aquaculture products” yn Erthygl 2 o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/493/EEC (sy'n gosod yr amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a rhoi cynhyrchion pysgodfeydd ar y farchnad)(6);

ond nid yw'n cynnwys mamaliaid dyfrol, ymlusgiaid a llyffantod, a rhannau ohonynt;

ystyr “cynnyrch” (“product”) yw

(a)

unrhyw gynnyrch sy'n dod o anifeiliaid ac a restrir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2002/349/EC (sy'n pennu'r rhestr o gynhyrchion sydd i'w harchwilio wrth safleoedd arolygu ar y ffin o dan Gyfarwyddeb y Cyngor 97/78/EC)(7);

(b)

gwair; ac

(c)

gwellt,

ond nid yw'n cynnwys cynhyrchion bwyd cyfansawdd fel y'u pennir yn Erthygl 3 o Benderfyniad y Comisiwn 2002/349/EC;

ystyr “cynnyrch a drawslwythwyd” (“transhipped product”) yw cynnyrch Erthygl 9 sydd wedi'i drawslwytho neu wedi'i ddadlwytho yn y ffordd a ddisgrifir (mewn perthynas â llwythi) yn Erthygl 9(1) o Gyfarwyddeb 97/78/EC yn y safle arolygu ar y ffin ar gyfer ei gyflwyno;

ystyr “cynnyrch a ddychwelwyd” (“returned product”) yw cynnyrch a allforiwyd yn wreiddiol o diriogaeth dollau'r Gymuned ac a gaiff ei ddychwelyd yno am ei fod wedi'i wrthod gan drydedd wlad;

ystyr “cynnyrch Erthygl 9” (“Article 9 product”) yw cynnyrch o drydedd wlad sy'n cael ei gyflwyno gyntaf i'r tiriogaethau perthnasol wrth un safle arolygu ar y ffin ond sydd wedi'i fwriadu ar gyfer ei fewnforio drwy un arall, fel y'i disgrifir (mewn perthynas â llwythi) yn Erthygl 9(1) o Gyfarwyddeb 97/78/EC, p'un a yw'r cynnyrch wedi'i drawslwytho neu wedi'i ddadlwytho wrth y safle arolygu cyntaf ar y ffin ai peidio;

ystyr “cynnyrch nad yw'n cydymffurfio” (“non-conforming product”) yw cynnyrch nad yw'n cydymffurfio â'r amodau mewnforio;

ystyr “cynnyrch tramwy” (“transit product”) yw cynnyrch sy'n tarddu o drydedd wlad ac, yn ôl yr wybodaeth a anfonwyd ymlaen llaw ac y cyfeirir ati yn Erthygl 3(3) o Gyfarwyddeb 97/78/EC, a fydd yn destun tramwy;

ystyr “dogfen berthnasol” (“relevant document”) yw unrhyw ddogfen ofynnol ac unrhyw dystysgrif neu ddogfen filfeddygol neu fasnachol arall neu unrhyw dystysgrif neu ddogfen arall sy'n ymwneud â chynnyrch, gan gynnwys maniffest unrhyw long fordwyol neu awyren;

ystyr “dogfen fynediad filfeddygol gyffredin” (“common veterinary entry document”) yw dogfen ar y ffurf a geir yn Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 136/2004;

ystyr “dogfen ofynnol” (“required document”) yw unrhyw dystysgrif filfeddygol wreiddiol, dogfen filfeddygol wreiddiol neu ddogfen wreiddiol arall sy'n ofynnol mewn perthynas â chynnyrch yn rhinwedd unrhyw gyfarwyddeb, penderfyniad neu reoliad a restrir yn Atodlen 1;

ystyr “gwair” (“hay”) yw unrhyw borfa, meillion, lwsérn neu ffawlys a sychwyd naill ai'n naturiol neu'n artiffisial, ac mae'n cynnwys unrhyw gynnyrch a geir drwy sychu felly unrhyw borfa, meillion, lwsérn neu ffawlys;

ystyr “gweithredydd” (“operator”)—

(a)

mewn perthynas â safle arolygu ar y ffin, yw'r person sy'n darparu mangre a chyfleusterau eraill ar gyfer cyflawni gwiriadau milfeddygol wrth y safle arolygu hwnnw ar y ffin; a

(b)

mewn perthynas â sefydliad y daw'r cynhyrchion ohono yn y Gymuned, warws storio drosiannol neu sefydliad gyrchfan, yw'r person sy'n eu meddiannu at ddibenion ei fusnes;

ystyr “gwellt” (“straw”) yw unrhyw rawnfwyd gwyrdd sydd wedi'i sychu naill ai'n naturiol neu'n artiffisial ac mae'n cynnwys unrhyw gynnyrch (ac eithrio grawn) a geir drwy sychu unrhyw rawnfwyd gwyrdd;

ystyr “gwiriad adnabod” (“identity check”) yw gwiriad drwy archwiliad gweledol i sicrhau bod y tystysgrifau milfeddygol neu'r dogfennau milfeddygol neu ddogfennau eraill sy'n mynd gyda llwyth yn cyfateb i'r cynhyrchion sy'n ffurfio'r llwyth, a hwnnw'n wiriad sy'n cael ei gyflawni yn unol ag Erthygl 4(4)(a) o Gyfarwyddeb 97/78/EC;

ystyr “gwiriad dogfennol” (“documentary check”) yw'r archwiliad o'r tystysgrifau milfeddygol neu'r dogfennau milfeddygol neu ddogfennau eraill sy'n mynd gyda llwyth, ac sy'n cael ei gyflawni yn unol ag Erthygl 4(3) o Gyfarwyddeb 97/78/EC ac Atodiad I i Reoliad (EC) Rhif 136/2004;

ystyr “gwiriad ffisegol” (“physical check”) yw gwiriad ar y cynnyrch ei hun (a all gynnwys gwiriadau o'r pecynnu a'r tymheredd a hefyd samplu a phrofi mewn labordy) sy'n cael ei gyflawni yn unol ag Erthygl 4(4)(b) o Gyfarwyddeb 97/78/EC ac Atodiad III iddi ac, yn achos profi mewn labordy, Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 136/2004;

ystyr “gwiriad milfeddygol” (“veterinary check”) yw unrhyw wiriad y darperir ar ei gyfer yng Nghyfarwyddeb 97/78/EC gan gynnwys gwiriad dogfennol, gwiriad adnabod a gwiriad ffisegol;

ystyr “llwyth” (“consignment”) yw swm o gynhyrchion o'r un math a gwmpesir gan yr un dystysgrif filfeddygol neu ddogfen filfeddygol, neu ddogfen arall y darparwyd ar ei chyfer drwy ddeddfwriaeth filfeddygol, a'r rheini'n gynhyrchion sy'n cael eu cludo â'r un cyfrwng cludo ac sy'n dod o'r un drydedd wlad neu'r un rhan o drydedd wlad;

mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw adeiladwaith, gosodiad, cynhwysydd neu gyfrwng cludo;

ystyr “mewnforio”, pan fydd yn cyfateb i'r enw “import” yn y fersiwn Saesneg o'r Rheoliadau hyn, yw rhyddhau ar gyfer cylchredeg yn rhydd o fewn yr ystyr yn Erthygl 79 o'r Cod Tollau;

ystyr “milfeddyg swyddogol” (“official veterinary surgeon”) yw milfeddyg sydd wedi cymryd rhan mewn rhaglen hyfforddi arbennig y cyfeirir ati yn Erthygl 27 o Gyfarwyddeb 97/78/EC ac a gaiff ei benodi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â rheoliad 6(1)(a) neu gan awdurdod lleol yn unol â rheoliad 6(2)(a);

ystyr “perchennog” (“owner”), mewn perthynas â chynnyrch, llwyth neu ran o lwyth, yw'r person y mae'r eiddo yn y cynnyrch, y llwyth neu'r rhan wedi'i freinio ynddo am y tro;

ystyr “person sy'n gyfrifol dros” (“person responsible for”) gynnyrch, llwyth, neu ran o lwyth—

(a)

hyd nes y bydd y cynnyrch, y llwyth neu'r rhan yn cyrraedd gyntaf ar safle arolygu ar y ffin yng Nghymru neu, yn achos cynnyrch Erthygl 9, neu lwyth neu ran o lwyth o gynhyrchion Erthygl 9, nes i'r cynnyrch, y llwyth neu'r rhan gyrraedd safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyrchfan yng Nghymru—

(i)

y person y cyfeirir ato yn Erthygl 38(1) o'r Cod Tollau sy'n dod â'r cynnyrch, y llwyth neu'r rhan i mewn i diriogaeth dollau'r Gymuned;

(ii)

person y cyfeirir ato yn Erthygl 38(2) o'r Cod Tollau sy'n ysgwyddo'r cyfrifoldeb dros gludo'r cynnyrch, y llwyth neu'r rhan ar ôl iddynt gael eu dwyn i mewn i diriogaeth dollau'r Gymuned; a

(iii)

person y cyfeirir ato yn Erthygl 44(2)(b) o'r Cod Tollau, a hwnnw'n berson y gweithredodd y personau y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraffau (a)(i) a (ii) yn ei enw;

(b)

o'r funud y mae'r cynnyrch, y llwyth neu'r rhan yn cyrraedd safle arolygu ar y ffin yng Nghymru, neu, yn achos cynnyrch Erthygl 9, neu lwyth neu ran o lwyth o gynhyrchion Erthygl 9, o'r amser y mae'n cyrraedd safle arolygu ar gyfer cyrchfan yng Nghymru, nes iddo neu iddi adael y safle arolygu cyntaf hwnnw ar y ffin, neu'r safle arolygu hwnnw ar y ffin ar gyfer cyrchfan yn ôl fel y digwydd yw—

(i)

y person y cyfeirir ato yn Erthygl 44(2)(b) o'r Cod Tollau ac y gweithredodd y personau y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraffau (a)(i) a (ii) yn ei enw; neu

(ii)

os yw'r cynnyrch, y llwyth neu'r rhan yn cael ei storio dros dro, fel y cyfeirir at “temporary storage” yn Erthygl 50 o'r Cod Tollau, y person y cyfeirir ato yn Erthygl 51(2) o'r Cod Tollau sy'n eu dal mewn man storio dros dro; neu

(iii)

os yw'r person y cyfeiriwyd ato yn is-baragraff (b)(i) neu (ii), yn ôl y digwydd, wedi penodi cynyrchiolydd yn ei ymwneud â'r awdurdodau tollau, o fewn ystyr “customs authorities” yn Erthygl 5 o'r Cod Tollau, a bod cyfrifoldeb yn cael ei roi i'r cynyrchiolydd hwnnw neu fod y cynrychiolydd yn ysgwyddo cyfrifoldeb dros sicrhau bod y cynnyrch, y llwyth neu'r rhan yn destun gwiriadau milfeddygol, y cynrychiolydd hwnnw; ac

(c)

ar ôl i'r cynnyrch, y llwyth neu'r rhan adael y safle arolygu cyntaf hwnnw ar y ffin, neu, yn achos cynnyrch Erthygl 9, neu lwyth neu ran o lwyth o gynhyrchion Erthygl 9, ar ôl iddo neu iddi adael y safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyrchfan yw—

(i)

y person a wnaeth ddatganiad tollau, o fewn ystyr “customs declaration” yn Erthygl 64 o'r Cod Tollau, sy'n ymdrin â'r cynnyrch, y llwyth neu'r rhan; neu

(ii)

os nad oes unrhyw ddatganiad tollau o'r fath wedi'i wneud eto, y person y mae ganddo'r gallu i'w wneud;

ystyr “person y mae'n ymddangos ei fod â gofal” (“person appearing to have charge”) dros gynnyrch, llwyth neu ran o lwyth yw unrhyw berson, gan gynnwys cludydd, y mae'n ymddangos bod y cynnyrch hwnnw, y llwyth hwnnw neu'r rhan honno o lwyth yn ei feddiant, o dan ei warchodaeth neu o dan ei reolaeth;

ystyr “pwynt mynediad” (“point of entry”) yw unrhyw fan lle y mae nwyddau yn ddarostyngedig i oruchwyliaeth y tollau o dan Erthyglau 37 a 38 o'r Cod Tollau, ac eithrio safle arolygu ar y ffin;

ystyr “Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002” (“Regulation (EC) No. 1774/2002”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor (sy'n gosod rheolau iechyd ynghylch sgil-gynhyrchion anifeiliaid na fwriedir i bobl eu bwyta neu eu hyfed)(8);

ystyr “Rheoliad (EC) Rhif 136/2004” (“Regulation (EC) No. 136/2004”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 136/2004 (sy'n gosod gweithdrefnau ar gyfer gwiriadau milfeddygol mewn safleoedd arolygu ar ffiniau'r Gymuned a hynny ar gynhyrchion a fewnforir o drydydd gwledydd)(9);

ystyr “safle arolygu ar y ffin” (“border inspection post”) yw

(a)

safle arolygu ar y ffin sydd wedi'i gynnwys yn y rhestr a gynhwysir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2001/881/EC(10); neu

(b)

safle arolygu ar y ffin yng Ngweriniaeth Gwlad yr Iâ neu Deyrnas Norwy sydd wedi'i gynnwys yn y rhestr a gynhwysir yn yr Atodiad i Benderfyniad Rhif 86/02/COL Awdurdod Gwyliadwriaeth Cymdeithas Masnach Rydd Ewrop (EFTA);(11)

ystyr “safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyflwyno” (“border inspection post of introduction”) yw safle arolygu ar y ffin lle y mae cynnyrch Erthygl 9 yn cael ei gyflwyno gyntaf i'r tiriogaethau perthnasol;

ystyr “safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyrchfan” (“border inspection post of destination”) yw safle arolygu ar y ffin y bwriedir mewnforio cynnyrch Erthygl 9 drwyddo;

ystyr “sefydliad gyrchfan” (“destination establishment”), mewn perthynas â chynnyrch, yw'r sefydliad a nodwyd yn y cofnod ynglŷn â “chyfeiriad danfon” yn Rhan 1 o ddogfen fynediad Milfeddygol gyffredin;

ystyr “sefydliad tarddiad Cymunedol” (“Community establishment of origin”) yw'r fangre sydd wedi'i lleoli mewn Aelod-wladwriaeth lle y cymerodd y cynnyrch a ddychwelwyd y ffurf oedd arno pan gafodd ei allforio'n wreiddiol o'r tiriogaethau perthnasol;

ystyr “storfa longau” (“ships' store”) yw mangre gaeedig y cyfeirir ati yn Erthygl 13(1)(c), neu warws a gymeradwywyd yn arbennig ac y cyfeirir ati yn Erthygl 13(2)(a) o Gyfarwyddeb 97/78/EC;

ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw person a awdurdodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, awdurdod lleol neu'r Asiantaeth, naill ai'n gyffredinol neu'n arbennig, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn, p'un a yw'r person hwnnw yn un o swyddogion Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu awdurdod lleol neu'r Asiantaeth ai peidio;

ystyr “swyddog corfforaethol” (“corporate officer”) yw cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu un o swyddogion tebyg eraill corff corfforaethol, neu berson sy'n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd swydd o'r fath;

ystyr “swyddog tollau” (“customs officer”) yw swyddog fel y diffinnir “officer” yn adran 1(1) o Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979(12) (person a gomisiynwyd gan y Comisiynwyr);

ystyr “y swyddogaethau rheoliadol” (“the regulatory functions”) yw'r swyddogaethau sy'n cael eu neilltuo gan y Rheoliadau hyn i swyddogion awdurdodedig, milfeddygon swyddogol, archwilwyr pysgod swyddogol a chynorthwywyr sy'n cael eu penodi yn unol â rheoliad 6;

mae i “tiriogaeth dollau'r Gymuned” yr ystyr sydd i “the customs territory of the Community” yn Erthygl 3 o'r Cod Tollau;

ystyr “y tiriogaethau perthnasol” (“the relevant territories”) yw ardal sy'n ffurfio tiriogaethau'r Aelod-wladwriaethau, fel y'u rhestrir yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 97/78/EC, tiriogaeth Gweriniaeth Gwlad yr Iâ a thiriogaeth Teyrnas Norwy (ac eithrio Svalbard), Tywysogaeth Andorra a Gweriniaeth San Marino;

ystyr “tramwy” (“transit”) yw tramwy o un drydedd wlad i un arall, gan fynd drwy un neu ragor o Aelod-wladwriaethau, o dan y weithdrefn dramwy allanol y cyfeirir ati yn Erthyglau 91 i 97 o'r Cod Tollau;

ystyr “trydedd wlad” (“third country”) yw gwlad nad yw'n un o'r tiriogaethau perthnasol;

mae i “warws rydd” yr ystyr sydd i “free warehouse” ac mae i “parth rhydd” yr ystyr sydd i “free zone” yn Nheitl IV, Pennod 3, Adran 1 o'r Cod Tollau;

ystyr “warws storio drosiannol” (“intermediate storage warehouse”) yw cyfleusterau storio oer a gymeradwywyd ar gyfer storio cynhyrchion yn drosiannol fel y cyfeirir atynt ym Mhennod 10 o Atodiad I i Gyfarwyddeb 92/118/EEC; ac

ystyr “warws y tollau” (“customs warehouse”) yw warws sy'n bodloni amodau Erthyglau 98 i 113 o'r Cod Tollau, a lle y mae nwyddau yn cael eu storio yn ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn yr Erthyglau hynny ynglyn â chadw mewn warysau'r tollau;

(2Mae cynhyrchion sy'n cael eu cyflwyno i Gymru o Weriniaeth Gwlad yr Iâ, ac eithrio cynhyrchion pysgodfeydd, i'w hystyried at ddibenion y Rheoliadau hyn fel rhai sy'n cael eu cyflwyno o drydedd wlad.

(3Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offeryn Cymunedol yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygiwyd ar y dyddiad y cafodd y Rheoliadau hyn eu gwneud.

Esemptiadau

3.—(1Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i gynhyrchion fel samplau masnachu i'w harddangos, neu samplau masnachu ar gyfer astudiaethau neu ddadansoddiadau penodol, sy'n cael eu cyflwyno i Gymru o drydedd wlad gydag awdurdodiad ymlaen llaw gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(2Rhaid i awdurdodiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru fod yn ysgrifenedig, caniateir ei wneud yn ddarostyngedig i amodau, a'i ddiwygio, ei atal neu ei ddirymu yn ysgrifenedig ar unrhyw adeg.

(3Nid yw Rhan 3, ac eithrio rheoliad 25, a Rhannau 4 i 10 yn gymwys i'r canlynol——

(a)llaeth powdr babanod, bwyd babanod, neu fwydydd arbennig y mae eu hangen am resymau meddygol ac sy'n cynnwys cig, cynhyrchion cig, llaeth, neu gynhyrchion llaeth o drydedd wlad—

(i)os ydynt ym magiau personol teithiwr a'i fod ef ei hun yn bwriadu eu bwyta, eu hyfed neu eu defnyddio;

(ii)os nad oes mwy ohonynt nag y gellid yn rhesymol eu bwyta neu eu hyfed gan unigolyn;

(iii)os nad oes angen eu cadw mewn oergell cyn eu hagor;

(iv)os ydynt yn gynhyrchion brand patent sydd wedi'u pecynnu i'w gwerthu'n uniongyrchol i'r defnyddiwr olaf; a

(v)os yw'r deunydd y maent wedi'u pacio ynddo yn gyfan, oni bai eu bod yn cael eu defnyddio ar y pryd;

(b)cig, cynhyrchion cig, llaeth neu gynhyrchion llaeth o Ynysoedd Ffaröe, Kalaallit Nunaat (Greenland), Gweriniaeth Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, neu'r Swistir—

(i)os ydynt ym magiau personol teithiwr, neu os cânt eu hanfon drwy'r post neu eu cludo gan gludydd (ac eithrio fel rhan o'r broses fasnachu neu fel sampl masnachu) a'u bod wedi'u cyfeirio at unigolyn preifat yng Nghymru;

(ii)os yw'r teithiwr ei hun neu, yn ôl y digwydd, y sawl y cyfeirir hwy ato, yn bwriadu eu bwyta neu eu hyfed; ac

(iii)os nad yw cyfanswm eu pwysau ym magiau personol unrhyw deithiwr neu mewn unrhyw lwyth a anfonir drwy'r post neu a gludir gan gludydd at unigolyn preifat yn fwy na 5 cilogram; neu

(c)os yw'r cynhyrchion ym magiau personol teithiwr a bod ef neu hi ei hun yn bwriadu eu bwyta neu eu hyfed, neu os ydynt yn cael eu hanfon drwy'r post neu eu cludo gan gludydd (ac eithrio fel rhan o broses fasnachu neu fel sampl masnachu) a'u bod wedi eu cyfeirio at unigolyn preifat yng Nghymru, a'i fod ef ei hun yn bwriadu eu bwyta neu eu hyfed, ac—

(i)os nad cig, cynhyrchion cig, llaeth neu gynhyrchion llaeth ydynt;

(ii)os nad ydynt yn pwyso mwy nag un cilogram;

(iii)os ydynt yn dod o drydedd wlad neu o ran o drydedd wlad y caniateir eu mewnforio oddi yno yn unol â rhestr a lunnir gan offeryn yn Atodlen 1; ac

(iv)os nad ydynt yn dod o drydedd wlad neu o ran o drydedd wlad y gwaherddir eu mewnforio oddi yno gan unrhyw offeryn yn Atodlen 1.

(4Yn y rheoliad hwn ystyr “cig” (“meat”), “cynhyrchion cig” (“meat products”), “llaeth” (“milk”) a “cynhyrchion llaeth” (“milk products”) yw cynhyrchion o'r mathau hynny a restrir yn adrannau 01 — 04 o dan y pennawd 1.2, Teitl I yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2002/349/EC.

(1)

OJ Rhif L302, 19.10.92, t.1, fel y'i newidiwyd ddiwethaf gan y Ddeddf ynghylch amodau ymaelodi'r Weriniaeth Tsiec, Gweriniaeth Estonia, Gweriniaeth Cyprus, Gweriniaeth Latfia, Gweriniaeth Lithiwania, Gweriniaeth Hwngari, Gweriniaeth Malta, Gweriniaeth Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Slofenia a'r Weriniaeth Slofac, a'r addasiadau i'r Cytuniadau y seiliwyd yr Undeb Ewropeaidd arnynt (OJ Rhif L236, 23.9.2003, t.33) (“yr Act Ymaelodi”).

(2)

OJ Rhif L62, 15.3.93, t.49, a hynny fel y'i newidiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 445/2004 (OJ Rhif L72, 11.3.2004, t.60).

(3)

OJ Rhif L24, 30.1.98, t.9, fel fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan yr Act Ymaelodi.

(4)

OJ Rhif L46, 19.2.91, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 806/2003 (OJ Rhif L122, 16.5.2003, t.1).

(5)

OJ Rhif L268, 24.9.91, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 806/2003 (OJ Rhif L122, 16.5.2003, t.1).

(6)

OJ Rhif L268, 24.9.91, t.15, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 806/2003 (OJ Rhif L122, 16.5.2003, t.1).

(7)

OJ Rhif L121, 8.5.2002, t.6, fel y'i darllenir gyda Phenderfyniad y Comisiwn 2002/995/EC (OJ Rhif L353, 30.12.02, t.1).

(8)

OJ Rhif L273, 10.10.2002, t.1, fel y'i newidiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 668/2004, OJ Rhif L112, 19.4.2004, t.1), ac fel y'i darllenir gyda Rheoliadau'r Comisiwn (EC) Rhif 811/2003, 812/2003 ac 813/2003 (OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.14, t.19 a t.22), a Phenderfyniadau'r Comisiwn 2003/320/EC, 2003/321/EC, 2003/326/EC a a 2003/327/EC (OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.24, t.30, t.42 a t.44).

(9)

OJ Rhif L21, 28.1.2004, t.11.

(10)

OJ Rhif L326, 11.12.01, t.44, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Comisiwn 2004/273/EC (OJ Rhif L86, 24.3.2003, t. 21).

(11)

OJ Rhif L69, 13.3.2003, t.31.

(12)

1979 p. 2.

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument as a PDF

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

The Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources