Rheoliad 8(3)(c)
ATODLEN 2
Penderfyniadau Cyfwerthedd
1. Penderfyniad y Cyngor 1999/201/EEC ar gwblhau'r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Llywodraeth Canada ar fesurau iechydol i amddiffyn iechyd y cyhoedd ac iechyd anifeiliaid mewn perthynas â masnach mewn anifeiliaid byw a chynhyrchion anifeiliaid (OJ Rhif L71, 18.3.1999, t.1).
2. Penderfyniad y Cyngor 97/132/EC ar gwblhau'r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Seland Newydd a'r mesurau iechydol sy'n gymwys i fasnach mewn anifeiliaid byw a chynhyrchion anifeiliaid (OJ Rhif L57, 26.2.97, t.4) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Cyngor 1999/837/EC (OJ Rhif L332, 23.12.99, t.1).
3. Penderfyniad y Cyngor 2002/957/EC ar gwblhau Cytundeb ar ffurf Cyfnewid Llythyrau ynghylch diwygio'r Atodiadau i'r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Seland Newydd ar fesurau iechydol sy'n gymwys i fasnach mewn anifeiliaid byw a chynhyrchion anifeiliaid (OJ Rhif L333, 10.12.02, t.13).
4. Penderfyniad y Comisiwn 2003/56/EC (gweler paragraff 6 o Ran I o Atodlen 1).