Search Legislation

Gorchymyn Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) 2005

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n dod i rym ar 31 Ionawr 2005, yn diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993(1) er mwyn gweithredu'r canlynol yng Nghymru —

  • Pwyntiau 9 a 30 o'r Atodiad i Gyfarwyddeb y Comisiwn 2002/36/EC (OJ Rhif L 116, 3.5.2002, t.16) sy'n diwygio amrywiol Atodiadau i Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC (OJ Rhif L 169, 10.7.2000, t.1) ar fesurau diogelu yn erbyn cyflwyno i'r Gymuned organeddau sy'n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion ac yn erbyn eu lledaenu o fewn y Gymuned;

  • Cyfarwyddeb y Comisiwn 2003/116/EC (OJ Rhif L 321, 6.12.2003, t. 36) sy'n diwygio Atodiadau penodol i Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC parthed yr organedd niweidiol Erwinia amylovora (Burr.) Winsl. et al.;

  • Cyfarwyddeb y Comisiwn 2004/31/EC (OJ Rhif L 85, 23.3.2004, t. 18) sy'n diwygio Atodiadau penodol i Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC parthed yr organedd niweidiol Erwinia amylovora (Burr.) Winsl. et al. ac mewn ffyrdd eraill;

  • Cyfarwyddeb y Comisiwn 2004/32/EC (OJ Rhif L 85, 23.3.2004, t. 24) sy'n diwygio parthau gwarchod penodol sy'n agored i risgiau penodol i iechyd planhigion yn y Gymuned yng Nghyfarwyddeb y Comisiwn 2001/32/EC;

  • Cyfarwyddeb y Comisiwn 2004/70/EC (OJ Rhif L 127, 29.4.2004, t. 97) sy'n diwygio Atodiadau penodol i Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC;

  • Penderfyniad y Comisiwn 2004/522/EC (OJ Rhif L 228, 29.6.2004, t. 18) sy'n diwygio parthau gwarchod penodol sy'n agored i risgiau penodol i iechyd planhigion yn y Gymuned yng Nghyfarwyddeb y Comisiwn 2001/32/EC;

  • Penderfyniad y Comisiwn 2004/278/EC (OJ Rhif L 87, 25.3.2004, t. 31) ar safbwynt y Gymuned ar ddiwygio'r Atodion i Atodlen 4 i'r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Chydffederasiwn y Swistir ar fasnach a chynhyrchion amaethyddol; a

  • Erthygl 20 o'r Ddeddf ac Atodiad II iddi ynghylch Amodau Derbyn y Weriniaeth Tsiec, Gweriniaeth Estonia, Gweriniaeth Cyprus, Gweriniaeth Latfia, Gweriniaeth Lithiwania, Gweriniaeth Hwngari, Gweriniaeth Malta, Gweriniaeth Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Slofenia a'r Weriniaeth Slofac, a'r addasiadau i'r Cytuniadau sy'n sail i'r Undeb Ewropeaidd (OJ Rhif L 236, 23.9.2003, t. 33) i'r graddau y maent yn ymwneud â materion sy'n cael eu cwmpasu gan Orchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993.

Mae'r prif newidiadau i Orchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993 fel y mae'n gymwys yng Nghymru fel a ganlyn —

(a)diwygio'r diffiniad o “Directive 2000/29/EC” i ymgorffori diwygiadau a wnaed iddo gan Gyfarwyddebau 2003/47/EC, 2003/116/EC, 2004/31/EC, 2004/70/EC ac Erthygl 20 o'r Ddeddf ac Atodiad II iddi ynghylch yr Amodau Derbyn y cyfeiriwyd atynt uchod (para. 1(a) o'r Atodlen);

(b)diwygio'r diffiniad o “the Euro-Mediterranean area” ac “Europe” i ddileu'r cyfeiriadau at Gyprus, Malta, Estonia, Latfia a Lithiwania (para. 1(b) ac (c) o'r Atodlen);

(c)diwygio'r diffiniad o “European Community” (para. 1(ch) o'r Atodlen);

(ch)diwygio'r diffiniad o “official statement” mewn perthynas â phlanhigion, cynhyrchion planhigion a phethau eraill sy'n cael eu mewnforio o'r tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd i gynnwys, yn achos mewnforion o'r Swistir, pasbort planhigion Swisaidd (para. 1(d) o'r Atodlen);

(d)diwygio'r diffiniad o “plant passport” i gynnwys, yn achos mewnforion o'r Swistir, pasbortau planhigion Swisaidd, a mewnosod diffiniad o “Swiss plant passport” (para. 1(dd) ac (e) a phara. (19) o'r Atodlen);

(dd)diwygio erthyglau 3(1)(e), 9 ac 11(2) er mwyn cynnwys cydnabyddiaeth o basbort planhigion Swisaidd ar gyfer cynhyrchion planhigion penodol a fewnforir o'r Swistir ac, mewn perthynas ag erthygl 3(1)(e), er mwyn eithrio cynhyrchion planhigion penodol a fewnforir o'r Swistir rhag y gwaharddiad ar fewnforio (para. (2), (3), (4) a (19) o'r Atodlen);

(e)diwygio'r Parth Gwarchod ar gyfer Globodera pallida (Stone) Behrens i gynnwys Latfia, Slofacia a Slofenia (para. (5)(a), (16)(c) ac (20) o'r Atodlen);

(f)sefydlu Parth Gwarchod newydd ar gyfer Daktulosphaira vitifoliae (Fitch) yng Nghyprus a'r diwygiadau cyfatebol i'r trefniadau ynglyn â phasbortau planhigion ar gyfer Vitis L. (paragraffau (5)(a), (16)(c) ac (20)(a) o'r Atodlen);

(ff)diwygio'r Parth Gwarchod ar gyfer Leptinotarsa decemlineata Say i gynnwys Cyprus a Malta (para. (5)(b) ac (20)(ch) o'r Atodlen);

(g)diwygio'r Parth Gwarchod ar gyfer feirws necrotig gwythïen felen betys i gynnwys Lithiwania ac i eithrio Sweden (para. (6), (16)(b) a 22(a) o'r Atodlen);

(ng)tynnu Eotetranychus orientalis Klein oddi ar y rhestr o blâu planhigion na wyddys eu bod yn digwydd yn y Gymuned ac sy'n berthnasol i'r Gymuned gyfan a'i roi ar y rhestr o blâu planhigion y gwyddys eu bod yn digwydd yn y Gymuned a'u bod yn berthnasol i'r Gymuned gyfan (para. (7) ac (8) o'r Atodlen);

(h)diwygio'r Parth Gwarchod ar gyfer y feirws Citrus tristeza i gynnwys Malta (para. (11), (16)(ch) a (22)(b) o'r Atodlen);

(i)tynnu Cyprus a Malta oddi ar y rhestr o darddwledydd mewn perthynas â chloron o rywogaeth Solanum L. a'u croesrywiau (para (10)(a) o'r Atodlen);

(j)tynnu Cyprus, Malta, Estonia, Latfia a Lithiwania ac Algeria oddi ar y rhestr o wledydd sy'n ddarostyngedig i ofynion ynglyn â phridd a chyfrwng tyfu ac ychwanegu Georgia at y rhestr honno (para. (12)(b), (14)(b) a (18)(a)(iii) o'r Atodlen);

(l)tynnu'r Swistir oddi ar y rhestr o drydydd gwledydd y gwaherddir cyflwyno i Gymru ohonynt blanhigion Vitis L. nad ydynt yn ffrwythau (para. (12)(c) o'r Atodlen);

(ll)diwygio Atodlen 5, Rhan B, adran I, eitem 2 i gynnwys y darnau perthnasol o blanhigion o'r rhywogaeth y cyfeirir ati yn yr eitem honno (para. (18)(a)(ii) o'r Atodlen);

(m)cyflwyno gofynion ynglyn â phasbortau planhigion a thystysgrifau ffytoiechydol ar gyfer ffrwythau Vitis L. (para. (17)(c) a 18(b)(ii) o'r Atodlen);

(n)amrywiol ddiwygiadau ynglyn ag Erwinia amylovora (Burr.) Winsl. et al., fel a ganlyn:

(i)diwygiad i'r rhestr o blanhigion lletyol sy'n gallu lledaenu Erwinia amylovora (Burr.) Winsl. et al. i gynnwys Amelanchier Med., Photinia davidiana (Dcne.) Cardot a phob rhywogaeth o Sorbus L. (para. (9), (10), (13), (14)(a), (15), (16)(ch), (17)(a) a (b) a (18)(b)(i) o'r Atodlen);

(ii)diwygiadau i'r darpariaethau am “buffer zones” yn Atodlen 4, Rhan B, eitem 21 (para. (16)(ch) o'r Atodlen);

(iii)cyflwyno gofyniad am dystiolaeth ddogfennol am ffeithiau penodol ar gyfer symud cychod gwenyn yn Atodlen 4, Rhan B, eitem 21 (para. (16)(ch) o'r Atodlen);

(iv)diwygio'r Parth Gwarchod i gynnwys Latfia, Lithiwania, Slofenia a Slofacia (para. (10), (13), (16)(ch) a (21) o'r Atodlen);

(v)tynnu'r Swistir oddi ar y rhestr o drydydd gwledydd y gwaherddir cyflwyno ohonynt blanhigion a phaill byw ar gyfer peillio planhigion sy'n gallu lledaenu Erwinia amylovora (Burr.) Winsl. et al., ac eithrio mewn perthynas â Cotoneaster Ehrh. a Photinia davidiana (Dcne.) Cardot (para. (13) o'r Atodlen);

(o)ychwanegu Iran at y rhestr o wledydd lle gwyddys bod Tilletia indica Mitra yn digwydd a bod rhaid bodloni gofynion arbennig ar ei gyfer er mwyn cyflwyno i Brydain Fawr a symud iddi ac o'i mewn hadau a grawn o'r genera Triticum, Secale ac X Triticosecale (erthygl (14)(c), (18)(a)(i) a (18)(a)(iv) o'r Atodlen);

(p)mewnosod Atodlen 5A newydd sy'n darparu'r rhestri o blanhigion, cynhyrchion planhigion a phethau eraill y caniateir eu masnachu rhwng y Gymuned a'r Swistir gyda phasbort planhigion a'r planhigion, y cynhyrchion planhigion a'r pethau eraill hynny y caniateir eu masnachu felly heb basbort planhigion (para. (19) o'r Atodlen).

Rhoes Gorchymyn Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) 2003 ar waith Gyfarwyddeb y Comisiwn 2003/46/EC (OJ Rhif L 138, 5.6.2003, t. 45) a ddiwygiodd rhai parthau gwarchod sy'n agored i risgiau penodol i iechyd planhigion yn y Gymuned yng Nghyfarwyddeb y Comisiwn 2001/32/EC (OJ Rhif L 127, 9.5.01, t. 38); a Chyfarwyddeb y Comisiwn 2003/47/EC (OJ Rhif L 138, 5.6.2003, t. 47) ar fesurau diogelu yn erbyn cyflwyno i'r Gymuned organeddau sy'n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion ac yn erbyn eu lledaenu o fewn y Gymuned;

Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ac mae ar gael oddi wrth yr Is-adran Iechyd Planhigion, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources