2005 Rhif 761 (Cy.65)

ARCHWILIO CYHOEDDUS, CYMRU

Rheoliadau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan y deddfiadau a bennir yn yr Atodlen i'r offeryn hwn, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r gorchymyn hwn yw Rheoliadau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2005 a daw i rym ar 1 Ebrill 2005.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru yn unig.

Diwygio is-ddeddfwriaeth

2

1

Diwygir Rheoliadau Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cyfarfodydd Cyhoeddus) 19911 fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 3 —

a

ym mharagraff (a), ar ôl y geiriau “NHS trust”, mewnosoder “all or most of whose hospitals, establishments and facilities are situated in England”;

b

ar ôl y paragraff hwnnw, mewnosoder —

aa

the circumstances in which an NHS trust all or most of whose hospitals, establishments and facilities are situated in Wales shall hold a public meeting are those where it has received a report made under the provisions of section 96A of the Government of Wales Act 1998;

3

1

Diwygir Rheoliadau Addysg (Grantiau) (Teithwyr a Phobl Wedi'u Dadleoli) 19932 fel a ganlyn.

2

Ym mharagraff (4)(b) o reoliad 7—

a

yn lle “the Audit Commission for Local Authorities and the National Health Service in England and Wales”, rhodder “the Auditor General for Wales”;

b

yn lle “section 3(5)-(7) of the Audit Commission Act 1998”, rhodder “section 14(4) and (9) of the Public Audit (Wales) Act 2004”.

4

1

Diwygir Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Contractau) 19973 fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 2, hepgorer y diffiniad o “the auditor”, ac yn ei le rhodder y canlynol —

  • “the auditor” means, in relation to a local authority which is a local government body in Wales, as defined in section 12 of the Public Audit (Wales) Act 2004, the auditor appointed under section 13 of that Act to audit the accounts of the authority in accordance with Chapter 1 of Part 2 of that Act; and in relation to any other local authority, the auditor appointed under section 3 of the Audit Commission Act 1998 to audit the accounts of the authority in accordance with that Act;

5

1

Diwygir Rheoliadau Addysg (Cyhoeddi Adroddiadau Arolygiadau Awdurdodau Addysg Lleol) 19984 fel a ganlyn.

2

Ym mharagraff (1)(f) o reoliad 4, ar y dechrau, mewnosoder “in relation to a local education authority in England,”.

3

Ar ôl paragraff (1)(f) o reoliad 4, mewnosoder —

fa

in relation to a local education authority in Wales, the Auditor General for Wales;

6

1

Diwygir Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth Cyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac Awdurdodau Lleol (Cymru) 20005 fel a ganlyn.

2

Ym mharagraff (6) o reoliad 7—

a

hepgorer y geiriau “i'r Comisiwn Archwilio” pan ymddangosant gynt, ac yn eu lle rhodder “i Archwilydd Cyffredinol Cymru”; a

b

hepgorer y geiriau “adran 28(1)(d) o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998” ac yn eu lle rhodder “adran 96B o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998”.

7

1

Diwygir Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 20016 fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 5(1)—

a

ar ddiwedd is-baragraff (d), hepgor y gair “neu”;

b

ar ddiwedd is-baragraff (dd), mewnosoder—

  • ; neu—

    1. a

      bod y datgelu yn cael ei wneud i Archwilydd Cyffredinol Cymru at ddibenion unrhyw swyddogaeth ganddo neu gan archwilydd o dan Ran 2 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004

8

1

Diwygir (Rheoliadau Grantiau Safonau Addysg (Cymru) 20027 fel a ganlyn.

2

Ym mharagraff (5)(b) o reoliad 6—

a

yn lle “y Comisiwn Archwilio i Awdurdodau Lleol a'r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr”, rhodder “Archwilydd Cyffredinol Cymru”;

b

yn lle “adran 3(5), (6) a (7) o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998”, rhodder “adran 14(4) a (9) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004”.

9

1

Diwygir Rheoliadau Addysg (Grantiau Cyfalaf) (Cymru) 20028 fel a ganlyn.

2

Ym mharagraff (4)(b) o reoliad 5—

a

yn lle “y Comisiwn Archwilio i Awdurdodau Lleol a'r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr”, rhodder “Archwilydd Cyffredinol Cymru”;

b

yn lle “adran 3(5), (6) a (7) o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998”, rhodder “adran 14(4) a (9) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004”.

10

1

Rheoliadau Addysg (Cynllun Grant Dysgu'r Cynulliad) (Cymru) 20029 fel a ganlyn.

2

Ym mharagraff (6)(b) o reoliad 6—

a

yn lle “y Comisiwn Archwilio i Awdurdodau Lleol a'r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr”, rhodder “Archwilydd Cyffredinol Cymru”;

b

yn lle “adran 3(5), (6) a (7) o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998”, rhodder “adran 14(4) a (9) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004”.

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 199810.

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

YR ATODLEN

Rhaglith

RHAN 1 —Deddfiadau sy'n cynnwys pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Deddf Addysg 199611

Adran 484 (fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 199812 a Deddf Addysg 200213.

Deddf Llywodraeth Leol 200014

Adran 73(1).

RHAN 2 —Deddfiadau sy'n rhoi swyddogaethau a drosglwyddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau 199915 (Erthygl 2 ac Atodlen 1)

Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 197716

Adran 126(4) (fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 200217) ac adran 128(1) (fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 199018).

Deddf Diwygio Addysg 198819)

Adran 210 (fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Addysg 199620) a Deddf Addysg Bellach ac Uwch 199221)) ac adran 232.

Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990

Adran 5 ac Atodlen 2, paragraff 7(2) a (3) (fel y'i diwygiwyd, yn achos paragraff (2), gan Ddeddf y Comisiwn Archwilio 199822, a Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 200423)).

Deddf Addysg 1996

Adrannau 489 (fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998) a 569(1).

Deddf Addysg 199724

Adran 39(3).

Deddf Llywodraeth Leol (Contractau) 199725

Adran 3(2)(e) ac (f) a (3) a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw.

Deddf Iechyd 199926

Adran 31 (fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 200227).

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Effaith gyffredinol darpariaethau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (“y Ddeddf”) yw rhoi nifer o swyddogaethau newydd i Archwilydd Cyffredinol Cymru. Effaith fwyaf arwyddocaol y swyddogaethau newydd yw mai'r Archwilydd Cyffredinol, pan fydd y Ddeddf mewn grym yn llwyr, fydd yn arfer y rhan fwyaf o'r swyddogaethau a arferir ar hyn o bryd yng Nghymru gan y Comisiwn Archwilio ar gyfer Awdurdodau Lleol a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru a Lloegr (“y Comisiwn Archwilio”).

Mae'r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn ganlyniad i'r newid hwnnw. Maent yn diwygio pum set o Reoliadau ym maes addysg, dwy set o ran y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a dwy set ym maes llywodraeth leol.

Yn y maes addysg, mae rheoliadau 3, 8, 9 a 10 yn diwygio'r gofynion, a osodir yn yr is-ddeddfwriaeth a ddiwygiwyd, ar gyfer ardystio grantiau. Ym mhob achos, mae'r diwygiadau'n darparu, o ran Cymru, y gwneir yr ardystio o hyn ymlaen gan archwilydd a benodwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru (yn hytrach na chan y Comisiwn Archwilio), neu gan archwilydd cymwys ar gyfer penodiad o'r fath.

Mae'r ddarpariaeth sy'n weddill o ran y maes addysg, rheoliad 5, yn darparu bod adroddiadau o arolygiadau awdurdodau addysg lleol yng Nghymru a gyflawnir o dan adran 38 o Ddeddf Addysg 1997 (fel y'i diwygiwyd) i'w hanfon at Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn hytrach nag at y Comisiwn Archwilio.

Mae rheoliadau 2 a 6 yn ymwneud â materion ynglŷn â'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Mae rheoliad 2 yn ymwneud â'r amgylchiadau pan fo'n rhaid i ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol gynnal cyfarfod cyhoeddus. Mae'n parhau'r sefyllfa bod yn rhaid cynnal cyfarfod pan fo ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn derbyn adroddiad buddiant cyhoeddus oddi wrth ei archwilydd. O ganlyniad i'r Ddeddf, gwneir yr adroddiadau hynny, o 1 Ebrill 2005 ymlaen, gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn hytrach na chan y Comisiwn Archwilio. Mae'r diwygiadau a wneir gan reoliad 2 yn adlewyrchu hyn.

Mae rheoliad 6 yn darparu, pan fydd cyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac awdurdodau lleol yng Nghymru yn ymrwymo mewn trefniadau cronfa gyfun o dan Reoliadau Trefniadau Partneriaeth Cyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac Awdurdodau Lleol (Cymru) 2000, y dylai cyfrifon y gronfa gyfun gael ei harchwilio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn hytrach na chan y Comisiwn Archwilio.

Diwygir yr is-ddeddfwriaeth ym maes llywodraeth leol gan reoliadau 4 a 7.

Mae rheoliad 4 yn diwygio'r diffiniad o “the auditor” yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Contractau) 1997. Effaith y diwygiad yw, ar gyfer cyrff sy'n awdurdodau lleol at ddibenion y Rheoliadau hynny, ac sydd hefyd yn gyrff llywodraeth leol yng Nghymru at ddibenion adran 12 o'r Ddeddf, ystyr “the auditor” yw'r archwilydd a benodir gan Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan adran 13 o'r Ddeddf. Mae hyn yn cael effaith ar y gofynion y mae'n rhaid i awdurdodau lleol penodol eu cyflawni er mwyn i gontract y maent yn ymrwymo iddo fod yn gontract ardystio o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Contractau) 1997.

Mae rheoliad 7 yn ychwanegu Archwilydd Cyffredinol Cymru at y rhestr o bersonau y caniateir i swyddogion monitro awdurdod lleol ddatgelu gwybodaeth iddo at ddibenion penodol, o dan Reoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001.