(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Effaith gyffredinol darpariaethau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (“y Ddeddf”) yw rhoi nifer o swyddogaethau newydd i Archwilydd Cyffredinol Cymru. Effaith fwyaf arwyddocaol y swyddogaethau newydd yw mai'r Archwilydd Cyffredinol, pan fydd y Ddeddf mewn grym yn llwyr, fydd yn arfer y rhan fwyaf o'r swyddogaethau a arferir ar hyn o bryd yng Nghymru gan y Comisiwn Archwilio ar gyfer Awdurdodau Lleol a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru a Lloegr (“y Comisiwn Archwilio”).

Mae'r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn ganlyniad i'r newid hwnnw. Maent yn diwygio pum set o Reoliadau ym maes addysg, dwy set o ran y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a dwy set ym maes llywodraeth leol.

Yn y maes addysg, mae rheoliadau 3, 8, 9 a 10 yn diwygio'r gofynion, a osodir yn yr is-ddeddfwriaeth a ddiwygiwyd, ar gyfer ardystio grantiau. Ym mhob achos, mae'r diwygiadau'n darparu, o ran Cymru, y gwneir yr ardystio o hyn ymlaen gan archwilydd a benodwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru (yn hytrach na chan y Comisiwn Archwilio), neu gan archwilydd cymwys ar gyfer penodiad o'r fath.

Mae'r ddarpariaeth sy'n weddill o ran y maes addysg, rheoliad 5, yn darparu bod adroddiadau o arolygiadau awdurdodau addysg lleol yng Nghymru a gyflawnir o dan adran 38 o Ddeddf Addysg 1997 (fel y'i diwygiwyd) i'w hanfon at Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn hytrach nag at y Comisiwn Archwilio.

Mae rheoliadau 2 a 6 yn ymwneud â materion ynglŷn â'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Mae rheoliad 2 yn ymwneud â'r amgylchiadau pan fo'n rhaid i ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol gynnal cyfarfod cyhoeddus. Mae'n parhau'r sefyllfa bod yn rhaid cynnal cyfarfod pan fo ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn derbyn adroddiad buddiant cyhoeddus oddi wrth ei archwilydd. O ganlyniad i'r Ddeddf, gwneir yr adroddiadau hynny, o 1 Ebrill 2005 ymlaen, gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn hytrach na chan y Comisiwn Archwilio. Mae'r diwygiadau a wneir gan reoliad 2 yn adlewyrchu hyn.

Mae rheoliad 6 yn darparu, pan fydd cyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac awdurdodau lleol yng Nghymru yn ymrwymo mewn trefniadau cronfa gyfun o dan Reoliadau Trefniadau Partneriaeth Cyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac Awdurdodau Lleol (Cymru) 2000, y dylai cyfrifon y gronfa gyfun gael ei harchwilio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn hytrach na chan y Comisiwn Archwilio.

Diwygir yr is-ddeddfwriaeth ym maes llywodraeth leol gan reoliadau 4 a 7.

Mae rheoliad 4 yn diwygio'r diffiniad o “the auditor” yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Contractau) 1997. Effaith y diwygiad yw, ar gyfer cyrff sy'n awdurdodau lleol at ddibenion y Rheoliadau hynny, ac sydd hefyd yn gyrff llywodraeth leol yng Nghymru at ddibenion adran 12 o'r Ddeddf, ystyr “the auditor” yw'r archwilydd a benodir gan Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan adran 13 o'r Ddeddf. Mae hyn yn cael effaith ar y gofynion y mae'n rhaid i awdurdodau lleol penodol eu cyflawni er mwyn i gontract y maent yn ymrwymo iddo fod yn gontract ardystio o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Contractau) 1997.

Mae rheoliad 7 yn ychwanegu Archwilydd Cyffredinol Cymru at y rhestr o bersonau y caniateir i swyddogion monitro awdurdod lleol ddatgelu gwybodaeth iddo at ddibenion penodol, o dan Reoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001.