xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 1036 (Cy.106)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2006

Wedi'i wneud

4 Ebrill 2006

Yn dod i rym

5 Ebrill 2006

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 1, 8(1) a 72 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(2), yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

RHAN 1Cyflwyniad

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2006.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 5 Ebrill 2006.

Dehongli

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn, ac eithrio pan fo'r cyd—destun yn mynnu fel arall—

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) mewn perthynas ag unrhyw ardal yw y cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol ar gyfer yr ardal honno;

ystyr “canolfan ymgynnull” (“assembly centre”) yw canolfan ymgynnull fel y'i diffinnir yn rheoliad 1(2) o Reoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) 2005(3);

ystyr “cofrestr” (“register”) yw'r gofrestr sy'n ofynnol gan Erthygl 5 o Reoliad y Cyngor;

ystyr “CPH” (“CPH”) yn y ffurfiau yn Atodlenni 2 a 3, yw Rhif y daliad ym mhlwyf y sir, a neilltuir o bryd i'w gilydd i unrhyw fangre neu ran o fangre gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “Cyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC” (“Council Directive 92/102/EEC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC ynglŷn ag adnabod a chofrestru anifeiliaid (4);

ystyr “daliad mewnforio” (“holding of import”) yw'r daliad lle mae anifeiliaid sydd wedi eu mewnforio o drydedd gwlad yn cael eu symud iddo gyntaf at bwrpas ffermio da byw;

ystyr “dogfen symud” (“movement document”) yw'r ddogfen symud sy'n ofynnol gan Erthygl 6 o Reoliad y Cyngor;

ystyr “y Gorchmynion blaenorol” (“the previous Orders”) yw—

(a)

Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Lloegr) (Rhif 2) 2002(5);

(b)

Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Lloegr) 2002(6);

(c)

Gorchymyn Adnabod Defaid a Geifr (Lloegr) 2000(7);

(ch)

Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) Gorchymyn 2002(8);

(d)

Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002(9);

(dd)

Rheoliadau Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002(10);

(e)

Rheoliadau Adnabod Defaid a Geifr (Cymru) 2000(11);

(h)

Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Gogledd Iwerddon) 2004(12);

(ff)

Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Gogledd Iwerddon) 1997(13);

(g)

Rheoliadau Adnabod Defaid a Geifr (Yr Alban) 2000 (14); neu

(ng)

Gorchymyn Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Yr Alban) 2002(15);

ystyr “nod y ddiadell” (“flockmark”), ac eithrio ym mharagraff 18 o Atodlen 1, yw'r Rhif a ddyrannwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â diadell o ddefaid ar ddaliad;

ystyr “nod yr eifre” (“herdmark”), ac eithrio ym mharagraff 18 o Atodlen 1, yw'r Rhif a ddyrannwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â geifre o eifr ar ddaliad;

ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“Council Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 21/2004 sy'n sefydlu system ar gyfer adnabod a chofrestru defaid a geifr ac yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1782/2003 a Chyfarwyddebau 92/102/EEC a 64/432/EEC(16);

ystyr “tag adnabod” (“identification tag”) yw'r tag clust y cyfeiriwyd ato ym mharagraff 5 o Atodlen 1 ac a gymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag erthygl 22;

ystyr “tag R” (“R tag”) yw tag clust coch a gymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag erthygl 22 gyda chod yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol, wedi ei hargraffu yn y drefn sy'n dilyn—

(a)

y llythrennau “UK”;

(b)

nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre lle mae'r anifail pan roddir y tag clust;

(c)

Rhif unigryw; a'r

(ch)

llythyren “R”;

ystyr “tatŵ R” (“R tattoo”) yw tatŵ gyda'r wybodaeth ganlynol, yn y drefn sy'n dilyn—

(a)

nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre lle mae'r anifail pan roddir y tatŵ;

(b)

Rhif unigryw; a'r

(c)

lythyren “R”;

ystyr “tag symud” (“movement tag”), ac eithrio ym mharagraff 18 o Atodlen 1, yw tag clust a gymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag erthygl 22 gyda chod yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol, wedi ei hargraffu yn y drefn sy'n dilyn—

(a)

y llythyren “S”; a

(b)

nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre y mae'r anifail yn ei gadael;

ystyr “tir pori dros dro” (“temporary grazing”) yw daliad lle mae ceidwad yn symud anifail am gyfnod cyfyngedig er mwyn iddo gael ei fwydo neu gael pori;

ystyr “Rhif unigryw” (“unique number”) yw Rhif sy'n unigryw i anifail mewn diadell neu eifre ac nid yw'n cynnwys mwy na 6 digid;

ystyr “tag X” (“X tag”) yw tag clust a gymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag erthygl 22 gyda chod yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol, wedi ei hargraffu yn y drefn sy'n dilyn—

(a)

y llythrennau “UK”;

(b)

nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre y mae'r anifail yn ei gadael;

(c)

Rhif unigryw; a'r

(ch)

llythyren “X”.

(2Mae gan y dywediadau sydd heb eu diffinio ym mharagraff (1) ac a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn ac yn Rheoliad y Cyngor hefyd, yr un ystyr yn y Gorchymyn hwn ag yn y Rheoliad Cyngor hwnnw.

Cod adnabod unigol

3.—(1Mae cyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at “cod adnabod unigol”(“individual identification code”) anifail, ac eithrio anifail sydd â mwy nag un tag clust neu datŵ gyda Rhif adnabod unigol i'r anifail, yn gyfeiriad at y cod ar—

(a)y dull cyntaf o adnabod a roddwyd ar yr anifail yn unol â Rheoliad y Cyngor; neu

(b)y tag clust neu datŵ a ddefnyddiwyd i adnabod yn unigol, anifail a anwyd ar neu cyn 9 Gorffennaf 2005 yn unol ag unrhyw un o'r Gorchmynion blaenorol neu, yn achos anifail sydd heb ei adnabod felly, y cod ar y tag adnabod.

(2Yn achos anifail sydd â mwy nag un tag clust neu datŵ gyda Rhif i adnabod yr anifail yn unigol, mae cyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at y “cod adnabod unigol” (“individual identification code”) yn gyfeiriad at—

(a)yn achos anifail nad yw'n dod o Ogledd Iwerddon, y tag clust neu datŵ gyda'r llythrennau “UK”a Rhif sy'n adnabod yr anifail yn unigol neu, os nad yw'r anifail wedi ei nodi felly, y tag clust neu datŵ a roddwyd yn fwyaf diweddar ar yr anifail sy'n ei adnabod yn unigol; neu

(b)yn achos anifail o Ogledd Iwerddon, y cod sydd wedi ei roi ar y tag clust yng nghlust chwith yr anifail.

Yr awdurdod cymwys

4.  Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw'r awdurdod cymwys at ddibenion Rheoliad y Cyngor.

Awdurdodiadau

5.  Mae'n rhaid i unrhyw awdurdodi, cymeradwyo neu ganiatâd a roddwyd o dan y Gorchymyn hwn neu trwy Reoliad y Cyngor fod mewn ysgrifen. Gall fod yn ddarostyngedig i amodau a gellir ei ddiwygio, ei atal neu ei ddirymu trwy hysbysiad ysgrifenedig ar unrhyw adeg.

RHAN 2Adnabod anifeiliaid

Adnabod anifeiliaid a anwyd ar ôl 9 Gorffennaf 2005

6.—(1Mae'n rhaid i unrhyw geidwad gydymffurfio ag Erthygl 4(1)(paragraff cyntaf) ac Erthygl 4(2)(a) a (b) o Reoliad y Cyngor a'r erthygl hon.

(2At ddibenion Erthygl 4(1) o Reoliad y Cyngor, y terfynau amser ar gyfer adnabod anifail yw—

(a)9 mis o'r dyddiad geni, yn achos anifail a gedwir mewn amodau ffermio llai dwys neu ar faes; neu

(b)6 mis o'r dyddiad geni, yn achos unrhyw anifail arall.

(3Y cod adnabod ar gyfer y dull cyntaf o adnabod at ddibenion Adran A.2 o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor yw'r wybodaeth ganlynol, wedi ei hargraffu yn y drefn ganlynol—

(a)y llythrennau “UK”;

(b)nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre lle ganwyd yr anifail; ac

(c)Rhif unigryw.

Adnabod anifeiliaid a symudir o'r daliad geni neu'r daliad mewnforio yn y Deyrnas Unedig

7.—(1Yn unol ag Erthygl 4(2)(c) o Reoliad y Cyngor, y system i gymryd lle'r ail ddull o adnabod, ac eithrio ar gyfer anifail sy'n gysylltiedig â masnach o fewn y Gymuned, yw'r system yn Atodlen 1.

(2Ar ben hyn, mae darpariaethau Atodlen 1 yn gymwys yn ogystal â'r gofynion canlynol—

(a)Erthyglau 4(1), 4(2)(a), 4(4), 4(5) a 4(6) o Reoliad y Cyngor a'r Rhan hon o'r Gorchymyn hwn;

(b)Erthyglau 5(1), 5(3) a 5(5) o Reoliad y Cyngor a Rhan 3 o'r Gorchymyn hwn; ac

(c)Erthyglau 6(1) a 6(3) o Reoliad y Cyngor a Rhan 4 o'r Gorchymyn hwn.

(3Hefyd mae Atodlen 1 yn gymwys i anifeiliaid a anwyd ar neu cyn 9 Gorffennaf 2005.

Adnabod anifeiliaid a symudir i Aelod—wladwriaeth arall o'r daliad geni neu'r daliad mewnforio

8.—(1Yn achos anifail a anwyd ar ôl 9 Gorffennaf 2005 ac sy'n gysylltiedig â masnach o fewn y Gymuned, nid yw Atodlen 1 yn gymwys. Yr ail ddull o adnabod a ddynodir yn Erthygl 4(2)(b) o Reoliad y Cyngor yw tag clust neu dransbonder electronig sy'n cydymffurfio ag Adran A.4 o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor.

(2Mae'n rhaid bod gan yr ail ddull o adnabod—

(a)cod adnabod sydd yr union yr un fath â'r cod a ddefnyddiwyd yn y dull cyntaf o adnabod o dan erthygl 6(3), yn achos anifail a anwyd yng Nghymru, neu erthygl 10(3), yn achos anifail a fewnforiwyd o drydedd wlad; neu

(b)yn achos lle nad oes dim ond tag clust, y llythrennau “UK”, nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre lle cafodd yr anifail ei eni neu ei fewnforio, Rhif unigryw a'r llythyren “X”.

Anifeiliaid a fwriadwyd ar gyfer eu cigydda

9.  Rhaid peidio â defnyddio'r dull adnabod y cyfeirir ato yn Erthygl 4(3) o Reoliad y Cyngor ac a ddisgrifiwyd yn Adran A.7 o'r Atodiad i'r Rheoliad hwnnw.

Adnabod anifeiliaid a fewnforir o drydydd gwledydd

10.—(1Mae'n rhaid i geidwad gydymffurfio ag Erthygl 4(4) o Reoliad y Cyngor a'r erthygl hon.

(2At ddibenion Erthygl 4(4) (paragraff cyntaf) o Reoliad y Cyngor, y cyfnod ar gyfer adnabod anifail yw 14 o ddiwrnodau.

(3Y cod adnabod ar gyfer y dull cyntaf o adnabod at bwrpas Adran A.2 o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor ar gyfer anifeiliaid a fewnforiwyd o drydydd gwledydd yw'r—

(a)llythrennau “UK”;

(b)nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre lle cafodd yr anifail ei fewnforio;

(c)Rhif unigryw; ac

(ch)y llythyren “F”.

Gwybodaeth ychwanegol

11.  Yn unol ag Adran A.2 (yr ail baragraff) o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor, ar gais y ceidwad—

(a)caiff gwneuthurwr tagiau clust sydd wedi eu cymeradwyo ychwanegu gwybodaeth atodol i'r tagiau clust; a

(b)caiff gwneuthurwr transbonder electronig ychwanegu gwybodaeth atodol i gasin y transbonder,

cyn belled â bod yr wybodaeth atodol yn wahanol i'r Rhif adnabod a chyn belled â bod y Rhif adnabod yn ddarllenadwy bob amser.

Tynnu dull adnabod neu roi un newydd yn ei le

12.—(1Ni chaiff unrhyw berson dynnu neu roi un newydd yn lle'r dull gwreiddiol o adnabod anifail sy'n dod o Aelod—wladwriaeth arall yn groes i Erthygl 4(5) o Reoliad y Cyngor.

(2Ni chaiff unrhyw berson fynd yn groes neu fethu â chydymffurfio ag Erthygl 4(6)(paragraff cyntaf) o Reoliad y Cyngor.

(3Gall unrhyw berson a gyhuddir o fynd yn groes i Erthygl 4(5) neu 4(6) o Reoliad y Cyngor neu sy'n methu â chydymffurfio â'r Erthyglau hynny amddiffyn ei hun trwy brofi bod—

(a)dull o adnabod wedi cael ei dynnu i atal poen neu ddioddefaint diangen i anifail; a

(b)y rhoddwyd dull newydd o adnabod yn ei le gyda'r un cod ar yr anifail cyn gynted ag y bo'n bosibl.

Rhoi dull newydd o adnabod gyda chod gwahanol yn lle'r hen un

13.—(1Os bydd y dull cyntaf o adnabod anifail sydd ag un tag yn mynd yn annarllenadwy neu'n cael ei golli tra bod yr anifail yn dal i fod ar y daliad geni neu'r daliad y mewnforir yr anifail iddo ac nad yw'r ceidwad am unrhyw reswm arall yn gallu deall y cod gwreiddiol ar y dull adnabod, mae'n rhaid iddo roi tag clust newydd yn ei le sy'n cynnwys—

(a)y llythrennau “UK”;

(b)nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre lle mae'r anifail pan roddir y tag clust;

(c)Rhif unigryw; ac

(ch)yn achos anifail a fewnforiwyd o drydydd gwledydd, y llythyren “F”.

(2Os gwelir bod y dull cyntaf o adnabod ar anifail sydd ag un tag yn annarllenadwy neu ei fod wedi ei golli ar unrhyw ddaliad arall ar wahân i'r daliad geni neu'r daliad y mewnforiwyd yr anifail iddo ac nad yw'r ceidwad yn gallu deall y cod gwreiddiol ar y dull adnabod, mae'n rhaid iddo ei gyfnewid gyda thag R.

(3At ddibenion yr erthygl hon, ystyr “anifail gydag un tag” (“single tagged animal”) yw anifail a anwyd ar ôl 9 Gorffennaf 2005 sydd â dim ond dull cyntaf o adnabod yn unol ag Erthygl 4(2)(a) o Reoliad y Cyngor.

RHAN 3Cofrestri daliadau

Cofrestr y daliad

14.—(1Mae unrhyw geidwad, ar wahân i gludwr, sy'n methu â chydymffurfio ag Erthyglau 5(1), 5(3) a 5(5) o Reoliad y Cyngor ac, mewn perthynas â chofrestr, yn methu â llenwi a chadw'r gofrestr honno yn unol â'r erthygl hon, yn euog o drosedd yn erbyn Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981(17).

(2Mae'n rhaid i unrhyw geidwad, ar wahân i gludwr, roi'r wybodaeth ganlynol ar y gofrestr pan symudir anifail yn ôl ac ymlaen o'i ddaliad, yn ogystal â'r wybodaeth sy'n ofynnol gan Adran B o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor—

(a)nifer yr anifeiliaid a symudir; a naill ai

(b)yn achos anifail sydd wedi ei adnabod yn unol ag Erthyglau 4(2)(a) a 4(2)(b) o Reoliad y Cyngor, y cod ar y dull cyntaf o adnabod, ac os yw'n wahanol, y cod ar yr ail ddull o adnabod;

(c)yn achos anifail a symudwyd i'r daliad o Aelod—wladwriaeth arall ac sydd wedi ei nodi yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC, y cod ar y tag clust a roddwyd o dan y Gyfarwyddeb honno; neu

(ch)yn achos unrhyw anifail arall, y manylion sydd yn rhaid eu rhoi yn y gofrestr o dan Atodlen 1.

(3Yn ogystal â pharagraff (2), pan symudir anifail o un lleoliad i'r llall ar y daliad, os nad yw'r lleoliadau hynny'n gyfagos, mae'n rhaid i'r ceidwad gofnodi yn y gofrestr —

(a)disgrifiad o'r lleoliadau y symudwyd yr anifail iddynt ac oddi wrthynt;

(b)dyddiad y symud; ac

(c)nifer yr anifeiliaid a symudwyd.

(4At bwrpas Erthygl 5(3) o Reoliad y Cyngor, mae'n rhaid i'r gofrestr fod ar y ffurf a nodir yn Atodlen 2.

(5Mae'n rhaid i'r ceidwad lenwi'r gofrestr ar yr adegau canlynol—

(a)yn achos symud anifail i'w ddaliad neu o'i ddaliad, o fewn 36 awr i'r symud;

(b)yn achos symud anifail o un lleoliad i'r llall ar ei ddaliad, o fewn 36 awr i'r symud; ac

(c)yn achos rhoi tag clust neu ddyfais electronig newydd yn lle'r hen un, o fewn 36 awr i'w newid.

(6At bwrpas Erthygl 5(3) o Reoliad y Cyngor, y cyfnod y mae'n rhaid i'r gofrestr fod ar gael yw 6 mlynedd o ddiwedd y flwyddyn galendr pan wnaed y cofnod diwethaf.

Gofynion ychwanegol ar gyfer symud anifeiliaid trwy farchnadoedd

15.—(1Pan symudir anifeiliaid o farchnad, mae'n rhaid i weithredwr y farchnad gofnodi'r Rhif lot y rhoddodd i'r anifeiliaid hynny o dan erthygl 31(1) yn y gofrestr yn y farchnad yn ogystal â'r wybodaeth y mae'n ofynnol iddo ei chofnodi yn y gofrestr honno o dan Reoliad y Cyngor ac erthygl 14.

(2Pan symudir anifeiliaid i ddaliad o'r farchnad, mae'n rhaid i'r ceidwad yn y daliad hwnnw gofnodi Rhif y lot a roddwyd gan y farchnad i'r anifeiliaid hynny yn ei gofrestr yn ogystal â'r wybodaeth y mae'n ofynnol iddo ei chofnodi yn y gofrestr honno o dan Reoliad y Cyngor ac erthygl 14.

Gofynion ychwanegol ar gyfer symud i ladd—dai

16.  Yn ychwanegol i ofynion erthygl 14, pan symudir anifail o ddaliad i ladd—dy, mae'n rhaid i'r ceidwad yn y daliad hwnnw gofnodi cyfeiriad y lladd—dy yn ei gofrestr, yn ogystal ag enw'r lladd—dy fel sy'n ofynnol gan Adran B.1 (chweched mewnoliad) o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor.

RHAN 4Dogfennau symud

Dogfen symud

17.—(1Mae'n rhaid i'r ceidwad gydymffurfio ag Erthygl 6(1) o Reoliad y Cyngor a llenwi'r ddogfen symud yn unol â'r erthygl hon.

(2Mae unrhyw geidwad sy'n peidio â chydymffurfio ag Erthygl 6(3) o Reoliad y Cyngor yn euog o drosedd yn erbyn Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae'n rhaid i'r ddogfen symud—

(a)bod ar y ffurf sydd wedi ei osod yn Atodlen 3;

(b)cael ei llenwi'n llawn gan y ceidwad priodol fel y nodwyd yn y ffurflen honno; ac

(c)yn ogystal â chynnwys yr wybodaeth sy'n ofynnol o dan Adran C o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor, mae'n rhaid i'r ddogfen gael ei llenwi gan y ceidwad gyda'r wybodaeth yn Atodlen 3, gan gynnwys—

(i)yn achos anifail sydd wedi ei adnabod yn unol ag Erthyglau 4(2)(a) a 4(2)(b) o Reoliad y Cyngor, y cod ar y dull cyntaf o adnabod, ac os yw'n wahanol, y cod ar yr ail ddull o adnabod; neu

(ii)yn achos unrhyw anifail arall, y manylion y mae'n rhaid eu cofnodi yn y ddogfen symud o dan Atodlen 1.

(4Gall gweithredwr y farchnad lenwi dogfen symud electronig ar ffurf wahanol i'r hyn sydd wedi ei nodi yn Atodlen 3, cyn belled â'i bod—

(a)yn cynnwys yr wybodaeth yn Adran C o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor a pharagraff (3)(c)(i) neu (3)(c)(ii) o'r erthygl hon; a'i bod

(b)wedi ei hargraffu a'i llofnodi gan weithredwr y farchnad.

(5At bwrpas Erthygl 6(3) o Reoliad y Cyngor, y cyfnod lleiaf y caiff ceidwad y daliad fydd yn derbyn yr anifail gadw'r ddogfen symud yw 3 blynedd o ddyddiad symud anifail i ddaliad y ceidwad.

Gofynion ychwanegol ar gyfer symud o farchnadoedd

18.  Pan symudir anifeiliaid o farchnad, mae'n rhaid i weithredwr y farchnad gofnodi Rhif y lot a ddyrannodd i'r anifeiliaid hynny o dan erthygl 31(1) yn y ddogfen symud, yn ogystal â'r wybodaeth y mae'n ofynnol iddo gofnodi yn y ddogfen symud o dan Reoliad y Cyngor ac erthygl 17.

Cyflenwi dogfennau symud

19.—(1Yn achos anifail a symudwyd i ddaliad arall—

(a)ar ôl i'r anifail gyrraedd y daliad arall hwnnw, mae'n rhaid i'r cludwr roi'r ddogfen symud i'r ceidwad yn y daliad hwnnw; a

(b)mae'n rhaid i'r ceidwad yn y daliad hwnnw anfon copi o'r ddogfen symud i'r awdurdod lleol o fewn 3 diwrnod ar ôl i'r anifail gyrraedd y daliad.

(2Yn achos anifail a symudwyd o ddaliad ar gyfer ei draddodi tu allan i'r Deyrnas Unedig, mae'n rhaid i geidwad y daliad hwnnw anfon copi o'r ddogfen symud i'r awdurdod lleol o fewn 3 diwrnod ar ôl i'r anifail adael y daliad.

RHAN 5Cronfa ddata ganolog

Stocrestr o anifeiliaid

20.  At ddibenion Erthygl 7(2) o Reoliad y Cyngor, mae'n rhaid i geidwad sy'n cadw anifeiliaid yn barhaol, cyn 1 Chwefror o bob blwyddyn, wneud stocrestr o nifer yr anifeiliaid ar ei ddaliad ar 1 Ionawr y flwyddyn honno.

Cyflenwi gwybodaeth

21.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae unrhyw geidwad sy'n methu â chydymffurfio ag Erthygl 8(2) o Reoliad y Cyngor yn euog o drosedd yn erbyn Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gwybodaeth a ddarparwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag erthygl 3 o Orchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002(18).

(3Mae'n rhaid i'r ceidwad hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn ysgrifen am unrhyw newid yn yr wybodaeth a nodwyd yn Erthygl 8(2) o Reoliad y Cyngor o fewn 30 diwrnod i unrhyw newid o'r fath.

(4Ar ôl derbyn hysbysiad o dan Erthygl 8(2) o Reoliad y Cyngor bod person wedi dod yn geidwad ar ddaliad, mae'n rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn ddarostyngedig i baragraff (5), ddyrannu nod y ddiadell mewn perthynas â phob diadell o ddefaid ar y daliad a nod yr eifre mewn perthynas â phob geifre o eifr ar y daliad.

(5Lle bo'r daliad yn lladd—dy neu'n farchnad, mae'n rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddyrannu nod y ddiadell neu nod yr eifre lle mae'n ystyried ei fod yn briodol i wneud hynny yn unig.

RHAN 6Tagiau clust

Cymeradwyo tagiau clust

22.—(1Yn ogystal â chymeradwyo tagiau clustiau at bwrpas Adran A.3 o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gymeradwyo tagiau clustiau at ddibenion y Gorchymyn hwn.

(2Ni chaiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru gymeradwyo tagiau clust o dan baragraff (1) ac eithrio pan mae wedi'i fodloni eu bod—

(a)wedi eu gwneud o ddeunydd sydd ddim yn ddiraddiadwy;

(b)na ellid ymyrryd â nhw;

(c)eu bod yn hawdd i'w darllen;

(ch)eu bod wedi eu dylunio i aros ar anifail heb ei niweidio;

(d)eu bod yn amhosibl i'w hail—ddefnyddio; a

(dd)eu bod wedi eu nodi'n barhaol gyda'r wybodaeth sy'n ofynnol gan y Gorchymyn hwn.

Tynnu tagiau clust neu roi rhai newydd yn eu lle

23.—(1Ni chaiff unrhyw berson dynnu unrhyw dag symud, tag adnabod, tag X neu dag R oddi ar anifail heb awdurdod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, oni bai ei fod yn cael ei dynnu i atal poen neu ddioddef diangen i'r anifail.

(2Mae paragraffau (3) i (5) yn ddarostyngedig i erthygl 25.

(3Os caiff tag symud ei dynnu neu ei golli neu os yw wedi mynd yn annarllenadwy, mae'n rhaid i geidwad yr anifail, os yw'n gwybod Rhif y tag symud hwnnw, roi tag newydd yr union yr un fath ar yr anifail cyn gynted ag y bo modd, ond dim mwy na 6 mis, ar ôl i'r tag symud gael ei dynnu neu ei golli neu ar ôl sylwi ei fod yn annarllenadwy, ond ym mhob achos cyn i'r anifail gael ei symud o'r daliad.

(4Os caiff tag adnabod ei dynnu neu ei golli neu os yw'n mynd yn annarllenadwy, mae'n rhaid i geidwad yr anifail roi tag newydd yr union yr un fath yn ei le neu roi tag R ar yr anifail cyn gynted ag y bo modd, ond ddim mwy na 6 mis, ar ôl i'r tag adnabod gael ei dynnu neu ei golli neu ar ôl sylwi ei fod yn annarllenadwy, ond ym mhob achos cyn i'r anifail gael ei symud o'r daliad.

(5Os caiff tag R ei dynnu neu ei golli neu os yw wedi mynd yn annarllenadwy, mae'n rhaid i geidwad yr anifail roi tag newydd yr union yr un fath yn ei le neu roi tag R arall ar yr anifail cyn gynted ag y bo modd, ond dim mwy na 6 mis, ar ôl i'r tag R gael ei dynnu neu ei golli neu ar ôl sylwi ei fod yn annarllenadwy, ond ym mhob achos cyn i'r anifail gael ei symud o'r daliad.

(6At bwrpas yr erthygl hon, mae “tag symud”, “tag adnabod”, “tag X” a “tag R” yn cynnwys unrhyw dag clust sydd wedi ei cael roi ar anifail yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon yn unol â Rheoliad y Cyngor ac unrhyw ddarpariaethau sy'n rhoi grym i Reoliad y Cyngor yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon sydd â'r un cod â thag symud, tag adnabod, tag X neu dag R.

Tynnu tagiau clust a thatŵ s a roddwyd o dan Orchmynion blaenorol neu roi rhai newydd yn eu lle

24.—(1Ni chaiff unrhyw berson dynnu tag clust neu datŵ sydd wedi ei roi neu ei osod ar anifail o dan unrhyw un o'r Gorchmynion blaenorol heb awdurdod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, oni bai ei fod wedi ei dynnu i atal poen neu ddioddef diangen i'r anifail.

(2Mae paragraffau (3) i (6) yn ddarostyngedig i erthygl 25.

(3Os caiff nod S ei dynnu neu ei golli neu os yw wedi mynd yn annarllenadwy, mae'n rhaid i geidwad yr anifail, os yw'n gwybod Rhif y nod S hwnnw, roi neu osod tag newydd yr union yr un fath yn ei le ar yr anifail cyn gynted ag y bo modd, ond dim mwy na 6 mis, ar ôl i'r nod S gael ei dynnu neu ei golli neu ar ôl sylwi ei fod yn annarllenadwy, ond ym mhob achos cyn i'r anifail gael ei symud o'r daliad.

(4Os caiff tag tarddiad ei dynnu neu ei golli neu os yw wedi mynd yn annarllenadwy, mae'n rhaid i'r ceidwad roi neu osod ar yr anifail—

(a)tag newydd yr union yr un fath yn ei le;

(b)tag clust neu datŵ gyda'r llythrennau “UK”, yn achos tag clust, nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre lle cafodd yr anifail ei eni a Rhif unigryw, os yw'r anifail ar y fferm eni; neu

(c)tag R neu, yn achos rhoi tatŵ newydd yn ei le, tatŵ R, os yw'r anifail ar ddaliad gwahanol i'r daliad geni.

(5Os caiff nod F ei dynnu neu ei golli neu os yw wedi mynd yn annarllenadwy, mae'n rhaid i'r ceidwad roi neu osod ar yr anifail—

(a)nod newydd yr union yr un fath yn ei le;

(b)tag clust neu datŵ gyda'r llythrennau “UK”, yn achos tag clust, nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre lle mewnforiwyd yr anifail a Rhif unigryw a'r llythyren “F”, os yw'r anifail ar y daliad mewnforio; neu

(c)tag R neu, yn achos tatŵ newydd yn lle'r hen un, tatŵ R, os yw'r anifail ar ddaliad gwahanol i'r daliad lle mewnforiwyd yr anifail.

(6Os caiff nod R ei dynnu neu ei golli neu os yw wedi mynd yn annarllenadwy, mae'n rhaid i'r ceidwad roi neu osod ar yr anifail—

(a)tag R, os yw'r nod R yn dag clust neu'n datŵ ; neu

(b)tatŵ R, os yw'r nod R yn datŵ .

(7At ddibenion yr erthygl hon, ystyr “nod S” (“S mark”), “nod y tarddiad” (“origin mark”), “nod F” (“F mark”) a “nod R” (“R mark”) yw—

(a)y nod S, nod y tarddiad, nod F a nod R a oedd wedi eu rhoi neu eu gosod ar yr anifail yn unol ag unrhyw un o'r Gorchmynion blaenorol sy'n gymwys o ran Cymru; neu

(b)yn achos anifail o Loegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon unrhyw dag clust a roddwyd ar anifail yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon yn unol ag unrhyw un o'r Gorchmynion blaenorol sy'n gymwys yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon sydd â'r un cod â nod S, nod y tarddiad, nod F neu nod R.

Rhoi tagiau clust newydd yn lle rhai a gollwyd mewn marchnadoedd

25.—(1Nid yw'r gofynion yn erthyglau 23 a 24 i roi tagiau clust a thatŵs newydd yn lle'r hen rai yn gymwys i weithredwr marchnad neu weithredwr lladd—dy.

(2Os caiff tag clust neu datŵ ei dynnu neu ei golli neu os sylwir ei fod yn annarllenadwy tra bod anifail ar y ffordd i'r farchnad neu yn y farchnad, mae'n rhaid i'r person sy'n prynu'r anifail yn y farchnad roi un newydd yn ei le yn unol â'r darpariaethau canlynol cyn gynted ag y bo modd ac ym mhob achos cyn i'r anifail gael ei symud o'i ddaliad—

(a)yn achos tag symud sy'n cael ei dynnu neu ei golli neu sydd wedi mynd yn annarllenadwy, mae'n rhaid iddo roi tag newydd yr union yr un fath yn ei le, oni bai, ar ôl cymryd yr holl gamau rhesymol nad yw'n gallu deall y Rhif ar y tag gwreiddiol;

(b)yn achos tag adnabod sy'n cael ei dynnu neu ei golli neu sydd wedi mynd yn annarllenadwy, mae'n rhaid iddo roi tag newydd yr union yr un fath yn ei le neu dag R;

(c)yn achos tag clust a roddwyd ar anifail o dan unrhyw un o'r Gorchmynion blaenorol, ar wahân i farc S, sy'n cael ei dynnu neu ei golli neu sydd wedi mynd yn annarllenadwy, rhaid iddo roi tag newydd yr union yr un fath yn ei le neu dag R; neu

(ch)yn achos tatŵ a roddwyd ar anifail o dan unrhyw un o'r Gorchmynion blaenorol sy'n cael ei dynnu neu sydd wedi mynd yn annarllenadwy, mae'n rhaid iddo roi tag R neu datŵ R ar yr anifail.

Addasu tagiau clust etc

26.  Ni chaiff unrhyw berson addasu, dileu neu ddifwyno'r wybodaeth ar unrhyw dag clust, tatŵ neu dransbonder electronig sydd wedi ei roi ar anifail o dan—

(a)Rheoliad y Cyngor;

(b)y Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaethau sy'n rhoi grym i Reoliad y Cyngor yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon;

(c)unrhyw un o'r Gorchmynion blaenorol; neu

(ch)Cyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC, yn achos anifail a farciwyd mewn Aelod Wlad arall yn unol â'r Gyfarwyddeb honno.

Tagiau clust coch

27.  Ni chaiff unrhyw berson roi tag clust coch ar unrhyw anifail, ar wahân i dag R.

Defnyddio nod y ddiadell a nod yr eifre

28.  Ni chaiff unrhyw berson roi neu osod ar unrhyw anifail, unrhyw dag clust, tatŵ neu dransbonder electronig sydd â nod y ddiadell neu nod yr eifre arno, ac eithrio at bwrpas cydymffurfio â Rheoliad y Cyngor neu'r Gorchymyn hwn, oni bai ei fod wedi'i awdurdodi i wneud hynny gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Masnachu neu allforio o fewn y Gymuned

29.  Ni chaiff unrhyw berson draddodi anifail i gael ei allforio neu ei fasnachu o fewn y Gymuned os oes ganddo dag clust neu datŵ gyda'r llythyren “R”yn dangos ei fod yn dag clust neu datŵ newydd yn lle'r hen un a roddwyd neu a osodwyd o dan erthyglau 13(2), 23, 24 neu 25 neu o dan unrhyw un o'r Gorchmynion blaenorol.

Amddiffyniadau

30.—(1Mae'n amddiffyniad i unrhyw berson sydd wedi ei gyhuddo o fynd yn groes i, neu o beidio â chydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn neu yn Rheoliad y Cyngor sy'n ymwneud â rhoi neu osod tagiau clust, tatŵs neu dransbonderau electronig brofi y byddai gwneud hynny yn achosi poen neu ddioddefaint diangen i'r anifail.

(2Mae'n amddiffyniad i unrhyw berson sydd wedi ei gyhuddo o fynd yn groes i, neu beidio â chydymffurfio gydag unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn neu Reoliad y Cyngor sy'n ymwneud â symud anifail o ddaliad heb roi neu osod y tag clust, tatŵ neu dransbonder electronig gofynnol brofi bod yr anifail wedi cael ei symud o'r daliad i gael triniaeth brys gan filfeddyg.

RHAN 7Marchnadoedd

Marchnadoedd

31.—(1Mae'n rhaid i weithredwr marchnad sicrhau bod yr holl anifeiliaid yn cael eu rhannu'n lotiau o un neu fwy o anifeiliaid yn syth ar ôl iddynt gyrraedd y farchnad a bod Rhif lot yn cael ei ddyrannu i bob lot.

(2Ni chaiff unrhyw berson brynu anifail mewn marchnad oni bai ei fod yn prynu'r holl anifeiliaid eraill yn y lot y mae'r anifail yn perthyn iddo ac yn symud y lot cyfan o'r farchnad i'r un daliad.

(3Ni chaiff unrhyw berson werthu anifail mewn marchnad oni bai ei fod yn gwerthu'r holl anifeiliaid eraill yn y lot i'r un prynwr.

RHAN 8Anifeiliaid a ddaethpwyd i mewn i Gymru

Derbyn anifeiliaid o Aelod Wlad arall

32.  Ni chaiff unrhyw berson dderbyn anifail o Aelod Wlad arall oni bai ei fod wedi ei adnabod yn unol â—

(a)Rheoliad y Cyngor yn achos anifail a anwyd ar ôl 9 Gorffennaf 2005; neu

(b)Cyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC, yn achos anifail a anwyd ar neu cyn 9 Gorffennaf 2005.

Derbyn anifeiliaid o Loegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon

33.  Ni chaiff unrhyw berson dderbyn anifail o Loegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon oni bai ei fod wedi ei adnabod a'i dagio a bod ganddo ddogfen symud yn unol â—

(a)Rheoliad y Cyngor, yn achos anifail a anwyd ar ôl 9 Gorffennaf 2005, gan gynnwys unrhyw randdirymiad a weithredwyd o dan Reoliad y Cyngor; neu

(b)yn achos anifail a anwyd ar neu cyn 9 Gorffennaf 2005, unrhyw un o'r Gorchmynion blaenorol ac unrhyw ofynion ychwanegol sydd wedi eu gosod mewn deddfwriaeth sy'n gorfodi Rheoliad y Cyngor.

Symud anifeiliaid yng Nghymru

34.—(1Mae Atodlen 1 yn gymwys o ran symud anifail gydag un tag sydd wedi dod i mewn i Gymru o Loegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.

(2At bwrpas yr erthygl hon, “anifail gydag un tag” (“single tagged animal”) yw anifail a anwyd ar ôl 9 Gorffennaf 2005 ac a adnabuwyd yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon gyda dim ond y dull cyntaf o adnabod yn unol ag Erthygl 4(2)(a) o Reoliad y Cyngor ac unrhyw ddarpariaethau sy'n rhoi grym i'r Erthygl honno yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.

RHAN 9Amrywiol

Gorfodi

35.—(1Bydd y Gorchymyn hwn yn cael ei orfodi gan yr awdurdod lleol.

(2Gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru roi cyfarwyddyd, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad arbennig neu achos arbennig, y bydd unrhyw ddyletswydd a roddir ar awdurdod lleol o dan baragraff (1) yn cael ei chyflawni gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac nid gan yr awdurdod lleol.

Diwygiadau i Orchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003

36.—(1Diwygir Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003(19)yn unol â pharagraffau (2) i (4).

(2Mae Erthygl 9 wedi'i ddileu.

(3Ym mharagraff 12 o Atodlen 1, mae is—baragraff (2)(c) wedi'i ddileu.

(4Yn Atodlen 2—

(a)mae paragraff 6(2)(c) wedi'i ddileu;

(b)mae paragraff 7(2)(b) wedi'i ddileu; ac

(c)mae paragraff 8(2)(a) wedi'i ddileu.

Dirymiadau a darpariaethau trosiannol

37.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), mae'r canlynol wedi'u dirymu—

(a)Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002(20);

(b)Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2003(21); ac

(c)Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio Rhif 2) 2003 (22).

(2Bydd darpariaethau Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002 sy'n ymwneud â nodi anifeiliaid ar y fferm eni yn parhau i fod yn gymwys o ran unrhyw anifail a anwyd ar neu cyn 9 Gorffennaf 2005.

(3Bydd darpariaethau Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002 sy'n ymwneud â nodi anifeiliaid sydd wedi eu mewnforio i ddaliad o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd yn parhau i fod yn gymwys o ran unrhyw anifail a fewnforiwyd o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd ar neu cyn 9 Gorffennaf 2005.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(23).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

4 Ebrill 2006

Erthygl 7

ATODLEN 1SYSTEM SY'N CYDYMFFURFIO AG ADRAN A.5 O'R ATODIAD I REOLIAD Y CYNGOR

RHAN 1Gofynion olrhain cyffredinol ar gyfer symud anifeiliaid yng Nghymru

Cofrestr a dogfen symud ar gyfer anifeiliaid sy'n gadael y daliad geni neu'r daliad mewnforio

1.—(1Pan symudir anifail o'r fferm eni neu'r daliad mewnforio i ddaliad arall yn y Deyrnas Unedig, mae'n rhaid i'r ceidwad gofnodi'r llythrennau “UK”a nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre lle ganwyd neu lle mewnforiwyd yr anifail yn ei gofrestr ac yn y ddogfen symud.

(2Pan symudir anifail i ddaliad o'i ddaliad geni neu'r daliad mewnforio, rhaid i geidwad y daliad sy'n ei dderbyn gofnodi yn ei gofrestr, y llythrennau “UK” a nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre lle ganwyd neu mewnforiwyd yr anifail.

Tagiau symud

2.—(1Pan symudir anifail o ddaliad (ar wahân i'r fferm eni neu ddaliad mewnforio) i ddaliad arall yn y Deyrnas Unedig, mae'n rhaid i'r ceidwad roi tag symud ar yr anifail a chofnodi cod y tag symud yn ei gofrestr ac yn y ddogfen symud.

(2Pan fydd anifail sydd wedi'i nodi gyda thag symud yn unol ag is—baragraff (1) yn cael ei symud i ddaliad arall, mae'n rhaid i'r ceidwad yn y daliad sy'n ei dderbyn gofnodi cod y tag symud yn ei gofrestr.

(3Os yw anifail eisoes wedi'i farcio gyda 3 tag clust a roddwyd o dan—

(a)Rheoliad y Cyngor;

(b)y Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaethau sy'n rhoi grym i Reoliad y Cyngor yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon;

(c)unrhyw un o'r Gorchmynion blaenorol; neu

(ch)Cyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC, yn achos anifail a farciwyd mewn Aelod—wladwriaeth arall yn unol â'r Gyfarwyddeb honno,

ni chaiff y ceidwad roi tag symud ar yr anifail ond yn hytrach rhaid iddo gydymffurfio gyda pharagraff 3.

(4Os caiff anifail sydd wedi'i nodi gyda thag clust a roddwyd o dan y Gorchymyn hwn, Rheoliad y Cyngor neu unrhyw un o'r Gorchmynion blaenorol sy'n ymwneud â diadell neu eifre, ei symud yn ôl i'r ddiadell neu'r eifre honno, ni chaiff y ceidwad roi tag symud ar yr anifail pan fydd yn cael ei symud eto o'r daliad lle cedwir y ddiadell neu'r eifre honno ond yn hytrach bydd yn rhaid iddo gofnodi yn y gofrestr ac yn y ddogfen symud y Rhif ar y tag clust sy'n berthnasol i'r ddiadell neu'r eifre honno.

System olrhain arall ar gyfer anifeiliaid

3.—(1Pan fydd anifail yn cael ei symud o un daliad i ddaliad arall yn y Deyrnas Unedig, caniateir i'r ceidwad gofnodi cod adnabod unigol yr anifail yn y gofrestr yn y daliad hwnnw ac yn y ddogfen symud fel dewis arall yn lle rhoi tag symud ar yr anifail.

(2Yn yr achos hwn, pan symudir anifail i ddaliad, mae'n rhaid i'r ceidwad yn y daliad sy'n derbyn yr anifail gofnodi cod adnabod unigol yr anifail yn ei gofrestr.

RHAN 2Gofynion arbennig ar gyfer symudiadau penodol

Achosion arbennig

4.  Mae'r Rhan hon yn effeithiol yn lle darpariaethau Rhan 1 mewn perthynas â'r symudiadau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraffau 5 i 17.

Tagiau adnabod

5.—(1Pan fydd anifail sydd heb ei adnabod yn cael ei symud gyntaf o'r daliad lle mae'n byw ar y dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym, rhaid i'r ceidwad roi tag clust ar yr anifail gyda'r cod canlynol, wedi'i brintio yn y drefn ganlynol—

(a)y llythyren “S”neu'r llythrennau “UK”, os mai'r daliad lle mae'r anifail yn byw yw'r daliad geni neu'r daliad y cafodd ei fewnforio iddo, neu'r llythyren “S”, os mai unrhyw ddaliad arall ydyw;

(b)nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre y mae'r anifail yn ei gadael;

(c)Rhif unigryw; ac

(ch)yn achos anifail a fewnforiwyd o drydedd gwlad, y llythyren “F”.

(2Mae'r holl gyfeiriadau yn y Rhan hon at symud anifail o'r daliad lle cafodd ei adnabod i gael eu dehongli fel cyfeiriadau at symud anifail sydd heb ei adnabod am y tro cyntaf o'r daliad lle mae'n byw ar y dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym yn unol â'r paragraff hwn.

(3At ddibenion y paragraff hwn, ystyr “anifail sydd heb ei adnabod” (“unidentified animal”) yw anifail a anwyd ar neu cyn 9 Gorffennaf 2005 sydd heb ei nodi gyda thag clust neu datŵ a roddwyd o dan unrhyw un o'r Gorchmynion blaenorol sy'n ei adnabod yn unigol.

Symud o'r daliad adnabod

6.—(1Mae'r darpariaethau canlynol yn gymwys, yn ychwanegol at ofynion paragraff 5, pan symudir anifail o'r daliad lle cafodd ei adnabod.

(2Pan symudir anifail o'r daliad lle cafodd ei adnabod i sioe neu arddangosfa, mae gofynion y gofrestr a'r ddogfen symud ym mharagraff 7 yn gymwys.

(3Pan draddodir anifail o'r daliad adnabod i Aelod Wlad arall, mae'n rhaid i'r ceidwad—

(a)rhoi ail dag adnabod ar yr anifail gyda chod yr un union yr un fath â'r cyntaf a rhoi'r cod sydd ar y tagiau adnabod yn ei gofrestr ac yn y ddogfen symud; neu

(b)rhoi tag X ar yr anifail, croesgyfeirio cod y tag X i'r cod tag adnabod yn ei gofrestr a chofnodi cod y tag X yn y ddogfen symud.

(4Pan symudir anifail o'r daliad adnabod i dir comin neu i ddaliad arall at ddibenion dipio neu gneifio a'i ddychwelyd ar unwaith i'r daliad adnabod, mae paragraff 9 yn gymwys.

(5Pan symudir anifail o'r daliad adnabod i dir pori dros dro a'i ddychwelyd ar unwaith i'r daliad adnabod, mae paragraff 10 yn gymwys.

(6Pan symudir anifail o'r daliad adnabod i unrhyw ddaliad arall, mae'n rhaid i'r ceidwad gofnodi'r wybodaeth y cyfeiriwyd ati ym mharagraff 5(1)(a) a 5(1)(b) yn ei gofrestr ac yn y ddogfen symud ac mae'n rhaid i geidwad y daliad sy'n derbyn yr anifail gofnodi'r un wybodaeth yn ei gofrestr pan fydd yn derbyn yr anifail.

Symud yn ôl ac ymlaen rhwng sioeau ac arddangosfeydd

7.—(1Pan symudir anifail o unrhyw ddaliad i sioe neu arddangosfa yn y Deyrnas Unedig, mae'n rhaid i'r ceidwad gofnodi cod adnabod unigol yr anifail hwnnw yn ei gofrestr ac yn y ddogfen symud.

(2Pan fydd yr anifail yn cyrraedd sioe neu arddangosfa, mae'n rhaid i drefnydd y sioe neu'r arddangosfa gofnodi cod adnabod unigol yr anifail yn ei gofrestr.

(3Pan fydd yr anifail yn gadael y sioe neu'r arddangosfa, mae'n rhaid i drefnydd y sioe neu'r arddangosfa gofnodi cod adnabod unigol yr anifail yn ei gofrestr ac yn y ddogfen symud.

(4Pan fydd yr anifail yn cyrraedd daliad o'r sioe neu'r arddangosfa, rhaid i'r ceidwad yn y daliad sy'n derbyn yr anifail gofnodi cod adnabod unigol yr anifail yn ei gofrestr.

Symud o farchnad i ddaliad arall

8.—(1Pan symudir anifail o farchnad, ar wahân i sioe neu arddangosfa, rhaid i weithredwr y farchnad gofnodi'r wybodaeth ganlynol yn y gofrestr yn y farchnad ac yn y ddogfen symud—

(a)y llythrennau “UK”a nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre lle cafodd yr anifail ei eni neu ei fewnforio, yn achos anifail a anfonwyd i'r farchnad o'r daliad geni neu'r daliad lle cafodd ei fewnforio;

(b)y llythrennau “UK”neu'r llythyren “S”, fel y rhoddwyd ar y tag adnabod, a nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre yr anfonwyd yr anifail ohoni i'r farchnad, yn achos anifail a anfonwyd i'r farchnad o'r daliad adnabod; neu

(c)y cod ar y tag symud a roddwyd ar yr anifail gan y ceidwad a'i hanfonodd i'r farchnad neu god adnabod unigol yr anifail os gwnaeth y ceidwad hwnnw gofnodi ei god adnabod unigol, yn lle rhoi tag symud ar yr anifail, yn achos anifail a anfonwyd i'r farchnad o unrhyw ddaliad arall.

(2Pan fydd anifail yn cyrraedd daliad o'r farchnad, mae'n rhaid i'r ceidwad yn y daliad sy'n derbyn yr anifail gofnodi'r wybodaeth y cyfeiriwyd ati yn is—baragraff (1) yn ei gofrestr.

(3Pan symudir anifail o farchnad i sioe neu arddangosfa, mae paragraff 7 yn gymwys.

Symud yn ôl ac ymlaen rhwng tir comin, neu ar gyfer dipio neu gneifio

9.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys o ran symud anifail o ddaliad—

(a)i dir comin; neu

(b)at ddibenion dipio neu gneifio, ar wahân i fynd i sioe ar gyfer cystadleuaeth cneifio,

a'i ddychwelyd yn syth i'r daliad gwreiddiol.

(2Yn achos anifail a symudir o'r daliad geni neu'r daliad mewnforio i dir comin neu ar gyfer dipio neu gneifio, mae'n rhaid i'r ceidwad gofnodi'r llythrennau “UK” a nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre eni neu fewnforio yn—

(a)ei gofrestr pan fydd yr anifail yn gadael y daliad a phan fydd yn dychwelyd;

(b)y ddogfen symud sy'n mynd gyda'r anifail pan fydd yn gadael y daliad hwnnw; ac

(c)y ddogfen symud sy'n mynd gyda'r anifail pan fydd yn dychwelyd i'r daliad hwnnw.

(3Yn achos anifail a symudir o'r daliad adnabod i dir comin neu ar gyfer dipio neu gneifio, rhaid i'r ceidwad gofnodi'r wybodaeth ym mharagraffau 5(1)(a) a 5(1)(b) yn—

(a)ei gofrestr pan fydd yr anifail yn gadael y daliad a phan fydd yn dychwelyd;

(b)y ddogfen symud sy'n mynd gyda'r anifail pan fydd yn gadael y daliad adnabod; ac

(c)y ddogfen symud sy'n mynd gyda'r anifail pan fydd yn dychwelyd i'r daliad adnabod.

(4Yn ddarostyngedig i is—baragraff (5), yn achos anifail a symudir o unrhyw ddaliad arall i dir comin neu ar gyfer dipio neu gneifio, mae'n rhaid i'r ceidwad—

(a)rhoi tag symud ar yr anifail pan fydd yn gadael y daliad;

(b)cofnodi cod y tag symud yn ei gofrestr pan fydd yr anifail yn gadael y daliad a phan fydd yn dychwelyd;

(c)cofnodi cod y tag symud yn y ddogfen symud sy'n mynd gyda'r anifail pan fydd yn gadael y daliad; ac

(ch)cofnodi cod y tag symud yn y ddogfen symud sy'n mynd gyda'r anifail pan fydd yn dychwelyd o dir comin neu dipio neu gneifio i'r daliad gwreiddiol.

(5Nid oes raid i'r ceidwad roi tag symud ar yr anifail yn unol ag is—baragraff (4), cyn belled â'i fod yn cofnodi cod adnabod unigol yr anifail yn ei gofrestr ac yn y dogfennau symud, yn lle cod y tag symud.

(6At bwrpas y paragraff hwn—

(a)ystyr “tir comin”(“common land”) yw tir lle mae gan y ceidwad hawl comin cofrestredig;

(b)ystyr “hawl comin cofrestredig”(“registered right of common”) yw hawl comin sydd wedi'i gofrestru o dan Ddeddf Cofrestru Tir Comin 1965(24).

Symud rhwng tir pori dros dro a'r daliad geni, y daliad mewnforio neu adnabod

10.—(1Pan fydd ceidwad yn symud anifail o'r daliad geni neu'r daliad mewnforio i dir pori dros dro ac yn dychwelyd yr anifail hwnnw o dir pori dros dro yn uniongyrchol i'r daliad geni neu'r daliad mewnforio, mae'n rhaid iddo gofnodi'r llythrennau “UK”a nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre eni neu fewnforio yn—

(a)ei gofrestr pan fydd yr anifail yn gadael y daliad geni neu'r daliad mewnforio a phan fydd yn dychwelyd;

(b)yn y ddogfen symud sy'n mynd gyda'r anifail pan fydd yn symud i dir pori dros dro; ac

(c)yn y ddogfen symud sy'n mynd gyda'r anifail pan fydd yn dychwelyd o dir pori dros dro i'r daliad geni neu ddaliad mewnforio, oni bai y gofelir am yr anifail gan geidwad gwahanol yn y tir pori dros dro, os felly mae'n rhaid i'r ceidwad hwnnw lenwi dogfen symud yn unol ag is—baragraff (3)(b).

(2Yn achos anifail sy'n cael ei symud i dir pori dros dro o'r daliad adnabod, rhaid i'r ceidwad gofnodi'r llythyren “S” neu'r llythrennau “UK”, fel y rhoddwyd ar y tag adnabod, a nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre y mae'r anifail yn ei adael i fynd i dir pori dros dro, yn lle'r wybodaeth yn is—baragraff (1).

(3Yn ogystal â gofynion is—baragraffau (1) a (2), os gofelir am yr anifail gan geidwad gwahanol ar dir pori dros dro, rhaid i'r ceidwad hwnnw—

(a)cofnodi'r llythrennau “UK”a nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre lle ganwyd neu lle mewnforiwyd yr anifail yn ei gofrestr pan fydd yr anifail yn cyrraedd yno a phan fydd yn gadael, neu yn achos anifail a anfonwyd i dir pori dros dro o'r daliad adnabod, cofnodi'r wybodaeth sydd yn is—baragraff (2) yn ei gofrestr; a

(b)llenwi'r ddogfen symud gyda'r wybodaeth hon pan fydd yr anifail yn gadael tir pori dros dro i ddychwelyd i'r daliad geni neu'r daliad mewnforio.

Symudiadau rhwng tir pori dros dro ac unrhyw ddaliad arall

11.—(1Yn ddarostyngedig i is—baragraff (2), pan fydd ceidwad yn symud anifail o unrhyw ddaliad (ar wahân i'r daliad geni, daliad mewnforio neu ddaliad adnabod) i dir pori dros dro ac yn dychwelyd yr anifail hwnnw o dir pori dros dro yn uniongyrchol i'r daliad, rhaid iddo—

(a)rhoi tag symud ar yr anifail hwnnw pan fydd yn gadael y daliad;

(b)cofnodi cod y tag symud yn ei gofrestr pan fydd yr anifail yn gadael a phan fydd yn dychwelyd;

(c)cofnodi cod y tag symud yn y ddogfen symud sy'n mynd gyda'r anifail pan fydd yn gadael y daliad; ac

(ch)cofnodi cod y tag symud yn y ddogfen symud sy'n mynd gyda'r anifail pan fydd yn dychwelyd o dir pori dros dro i'r daliad, oni bai y gofelir am yr anifail gan geidwad gwahanol yn y tir pori dros dro, os felly mae'n rhaid i'r ceidwad hwnnw lenwi'r ddogfen symud yn unol ag is—baragraff 3(b).

(2Nid oes raid i'r ceidwad roi tag symud ar anifail yn unol ag is—baragraff (1)(a), cyn belled â'i fod yn cofnodi cod adnabod unigol yr anifail yn y gofrestr ac yn y dogfennau symud yn lle cod y tag symud.

(3Yn ychwanegol at ofynion is—baragraffau (1) a (2), os gofelir am yr anifail gan geidwad gwahanol ar dir pori dros dro, mae'n rhaid i'r ceidwad hwnnw—

(a)cofnodi yn ei gofrestr, god y tag symud sydd wedi ei roi gan y ceidwad a anfonodd yr anifail i dir pori dros dro pan fydd yr anifail yn cyrraedd a phan fydd yn gadael, neu, y cod adnabod unigol, os gwnaeth y ceidwad a anfonodd yr anifail gofnodi'r cod hwn yn ei gofrestr yn lle rhoi tag symud ar yr anifail; a

(b)llenwi'r ddogfen symud gyda'r un wybodaeth pan fydd yr anifail yn gadael y tir pori dros dro i fynd yn ôl i'r daliad gwreiddiol.

Symud yn ôl ac ymlaen rhwng clinig milfeddyg

12.  Pan fydd anifail yn cael ei—

(a)symud o ddaliad i glinig milfeddyg; a

(b)ei ddychwelyd yn uniongyrchol i'r daliad hwnnw o glinig y milfeddyg,

mae'n rhaid i'r ceidwad lenwi ei gofrestr gyda'r wybodaeth sy'n ofynnol gan Erthygl 5 o Reoliad y Cyngor pan fydd yr anifail yn gadael y daliad a hefyd pan fydd yn cyrraedd yn ôl i'r daliad.

Symud hwrdd a fwriedir ar gyfer bridio

13.—(1Pan fydd mangre o dan gyfyngiadau symud, yn unol â Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003, ac mae hwrdd yn cael ei symud o'r fangre honno i farchnad yn ystod y cyfnod gwahardd symud o dan yr eithrio ym mharagraff 12 o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwnnw, mae'n rhaid i'r ceidwad yn y fangre honno gofnodi cod adnabod unigol yr hwrdd hwnnw yn ei gofrestr ac yn y ddogfen symud.

(2Pan fydd yr hwrdd yn cyrraedd y farchnad, mae'n rhaid i weithredwr y farchnad gofnodi cod adnabod unigol yr hwrdd yn ei gofrestr.

(3Pan symudir yr hwrdd o'r farchnad, mae'n rhaid i weithredwr y farchnad gofnodi cod adnabod unigol yr hwrdd yn ei gofrestr ac yn y ddogfen symud.

(4Pan fydd yr hwrdd yn cyrraedd y fangre y cafodd ei draddodi iddi o'r farchnad, mae'n rhaid i'r ceidwad yn y fangre honno gofnodi Rhif adnabod unigol yr hwrdd yn ei gofrestr pan fydd yr hwrdd yn cyrraedd y fangre honno.

(5Os caiff hwrdd ei ddychwelyd i'r fangre wreiddiol o'r farchnad yn unol â darpariaethau paragraff 6 o Atodlen 2 i Orchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003, mae'n rhaid i'r ceidwad yn y fangre wreiddiol gofnodi cod adnabod unigol yr hwrdd yn ei gofrestr.

Hwrdd yn cyrraedd mangre ar gyfer bridio

14.  Pan symudir hwrdd i fangre at ddibenion bridio yn unol â'r esemptiad ym mharagraff 7 o Atodlen 2 i'r Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003, rhaid i'r ceidwad yn y fangre honno gofnodi cod adnabod unigol yr hwrdd yn ei gofrestr.

Symud gafr a fwriedir ar gyfer bridio

15.  Pan anfonir gafr o un fangre i fangre arall ar gyfer bridio, ac yntau wedi ei gadw ar wahân ar y fangre y mae'n ei gadael yn unol â pharagraff 8 o Atodlen 2 i'r Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003 er mwyn osgoi sbarduno cyfnod segur yn y fangre y bydd yn ei chyrraedd—

(a)rhaid i'r ceidwad yn y fangre y bydd yr afr yn ei gadael gofnodi cod adnabod unigol yr afr yn ei gofrestr a'r ddogfen symud pan fydd yr afr yn gadael y fangre;

(b)rhaid i'r ceidwad yn y fangre y bydd yr afr yn ei chyrraedd gofnodi cod adnabod unigol yr afr yn ei gofrestr;

(c)pan fydd yr afr yn dychwelyd i'r fangre wreiddiol, rhaid i'r ceidwad yn y fangre lle'r anfonwyd yr afr ar gyfer bridio gofnodi'r cod adnabod unigol yn ei gofrestr a'r ddogfen symud; ac

(ch)pan fydd yr anifail yn dychwelyd i'r fangre wreiddiol rhaid i'r ceidwad yn y fangre honno gofnodi'r cod adnabod unigol yn ei gofrestr.

Symud i Aelod Wlad arall trwy ganolfan ymgynnull

16.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys ar gyfer traddodi anifail ar gyfer masnach o fewn y Gymuned trwy ganolfan ymgynnull.

(2Os traddodir anifail i ddaliad gyda'r bwriad o'i anfon ymlaen i ganolfan ymgynnull at ddibenion masnach o fewn y Gymuned, mae'n rhaid i'r ceidwad yn y daliad hwnnw gofnodi cod adnabod unigol yr anifail yn ei gofrestr.

(3Pan fydd yr anifail yn gadael y daliad i fynd i'r ganolfan ymgynnull, rhaid i'r ceidwad gofnodi Rhif adnabod unigol yr anifail yn ei gofrestr ac yn y ddogfen symud.

(4Pan fydd yr anifail yn cyrraedd y ganolfan ymgynnull, rhaid i'r ceidwad yn y ganolfan ymgynnull gofnodi cod adnabod unigol yr anifail yn ei gofrestr.

(5Yn ddarostyngedig i is—baragraff (6), pan symudir yr anifail o'r ganolfan ymgynnull i gael ei draddodi'n uniongyrchol i Aelod—wladwriaeth arall, mae'n rhaid i'r ceidwad yn y ganolfan ymgynnull—

(a)rhoi ail dag clust neu dransbonder electronig ar yr anifail gyda'r cod adnabod unigol; a

(b)cofnodi'r cod adnabod unigol yn ei gofrestr ac yn y ddogfen symud.

(6Nid yw is—baragraff (5) yn gymwys os yw'r ceidwad—

(a)yn rhoi tag X ar yr anifail cyn iddo adael y ganolfan ymgynnull;

(b)yn croesgyfeirio yn ei gofrestr, god y tag X gyda chod adnabod unigol yr anifail; ac

(c)yn cofnodi cod y tag X yn y ddogfen symud.

(7Mae'n rhaid i dransbonder electronig sydd wedi ei roi neu ei osod ar anifail o dan y paragraff hwn gydymffurfio gyda gofynion Adran A.6 o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor.

Symud i Aelod Wlad arall (ac eithrio trwy ganolfan ymgynnull)

17.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys o ran traddodi anifail i Aelod Wlad arall ac eithrio trwy ganolfan ymgynnull.

(2Os caiff anifail ei draddodi i ddaliad, ac eithrio canolfan ymgynnull, gyda'r bwriad o'i draddodi i Aelod—wladwriaeth arall, mae'n rhaid i'r ceidwad yn y daliad hwnnw gofnodi cod adnabod unigol yr anifail yn ei gofrestr.

(3Yn ddarostyngedig i is—baragraff (4), pan symudir anifail o'r daliad hwnnw yn uniongyrchol i Aelod—wladwriaeth arall, mae'n rhaid i'r ceidwad—

(a)rhoi ail dag clust neu dransbonder electronig ar yr anifail gyda'r cod adnabod unigol; a

(b)cofnodi'r cod adnabod unigol yn ei gofrestr ac yn y ddogfen symud.

(4Nid yw is—baragraff (3) yn gymwys os yw'r ceidwad—

(a)yn rhoi tag X ar yr anifail cyn iddo adael y ganolfan ymgynnull;

(b)yn croesgyfeirio yn ei gofrestr, god y tag X gyda chod adnabod unigol yr anifail; ac

(c)cofnodi cod y tag X yn y ddogfen symud.

(5Mae'n rhaid i dransbonder electronig sydd wedi ei roi neu ei osod ar anifail o dan y paragraff hwn gydymffurfio â gofynion Adran A.4 o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor.

RHAN 3Anifeiliaid o Loegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon

Anifeiliaid o Loegr neu'r Alban

18.  Pan fydd anifail yn dod i mewn i Gymru o ddaliad yn Lloegr neu'r Alban mae'n rhaid i geidwad y daliad a fydd yn derbyn yr anifail yng Nghymru gofnodi'r un wybodaeth yn ei gofrestr yn union fel pe bai'r anifail wedi dod o ddaliad yng Nghymru ac at y dibenion hyn—

(a)dehonglir “nod y ddiadell”(“flockmark”) a “nod yr eifre” (“herdmark”) fel nod y ddiadell neu nod yr eifre a ddyrannwyd yn Lloegr neu'r Alban gan yr awdurdod cymwys; a

(b)dehonglir “tag symud”(“movement tag”) fel y tag symud a gymeradwywyd yn Lloegr neu'r Alban gan yr awdurdod cymwys gyda'r cod a bennwyd gan yr awdurdod cymwys.

Anifeiliaid o Ogledd Iwerddon

19.  Pan fydd anifail yn dod i mewn i Gymru o ddaliad yng Ngogledd Iwerddon, rhaid i'r ceidwad a fydd yn derbyn yr anifail yng Nghymru gofnodi yn ei gofrestr, y nodau ar y tag clust a osodwyd ar glust chwith yr anifail, ac eithrio'r Rhif unigryw.

Erthygl 14 (4)

ATODLEN 2COFRESTR Y DALIAD

Erthygl 17(3)(a)

ATODLEN 3

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer gweinyddu a gorfodi Rheoliad Cyngor (EC) Rhif 21/2004 yng Nghymru (sy'n sefydlu system ar gyfer adnabod a chofrestru defaid a geifr a diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1782/2003 a Chyfarwyddebau 92/102/EEC a 64/432/EEC).

Mae Rhan 2 o'r Gorchymyn yn delio gydag adnabod anifeiliaid. Mae'n ei gwneud yn ofynnol defnyddio dau ddull adnabod ar gyfer anifail a anwyd neu a fewnforiwyd ar ôl 9 Gorffennaf 2005 ac sy'n gysylltiedig â masnach o fewn y Gymuned (erthyglau 6, 8 a 10). Mae'n darparu ar gyfer nodi gyda thag clust ar y daliad geni neu fewnforio (erthyglau 6 a 10), unrhyw anifail sydd ddim yn gysylltiedig â masnach o fewn y Gymuned, ac i ddarparu ar gyfer gweithredu'r system genedlaethol o adnabod ac olrhain pan symudir anifail yn y Deyrnas Unedig (erthygl 7).

Mae'r system genedlaethol wedi'i chymeradwyo gan y Comisiwn yn unol ag Erthygl 4(2)(d) o Reoliad y Cyngor (Penderfyniad y Comisiwn yn 17/8/2005 sy'n cydnabod dros dro y systemau ar gyfer adnabod a chofrestru defaid a geifr ym Mhrydain Fawr a Gogledd Iwerddon, y Deyrnas Unedig, yn unol ag Erthygl 4(2)(d) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 21/2004(1)). Mae hyn wedi ei nodi yn Atodlen 1. Mae Atodlen 1 hefyd yn gymwys i anifeiliaid a anwyd ar neu cyn 9 Gorffennaf 2005 (erthygl 7).

Mae Atodlen 1, Rhan 1 yn ei gwneud yn ofynnol i fanylion y ddiadell neu'r eifre gael eu cofnodi yn y cofrestr a dogfen symud pan symudir anifail o'r daliad geni neu fewnforio. Mae hefyd yn darparu ar gyfer rhoi tag symud ar anifail cyn iddo gael ei symud o ddaliad ac ar gyfer cofnodi cod y tag symud yn y cofrestr a dogfen symud. Dewis arall y darperir ar ei gyfer ym mharagraff 3 yw cofnodi cod adnabod unigol yr anifail yn y cofrestr a dogfen symud.

Mae Atodlen 1, Rhan 2 yn nodi'r gofynion penodol sy'n gymwys yn lle gofynion Rhan 1, ar gyfer achosion penodol o symud anifeiliaid. Mae paragraff 5 yn darparu ar gyfer adnabod yn unigol unrhyw anifail a anwyd ar neu cyn 9 Gorffennaf 2005 cyn iddo gael ei symud, os nad yw eisoes wedi cael ei adnabod yn unigol o dan ddeddfwriaeth flaenorol. Mae Rhan 2 hefyd yn cynnwys symud anifeiliaid yn ôl ac ymlaen rhwng sioeau ac arddangosfeydd (paragraff 7), o farchnadoedd (paragraff 8), yn ôl ac ymlaen rhwng tir comin ac ar gyfer dipio neu gneifio (paragraff 9), yn ôl ac ymlaen rhwng tir pori dros dro (paragraffau 10 a 11), yn ôl ac ymlaen rhwng clinigau milfeddygol (paragraff 12). Mae hefyd yn cynnwys symud hyrddod a geifr sydd wedi eu bwriadu ar gyfer bridio (paragraffau 13, 14 a 15), a symud anifeiliaid i Aelod—wladwriaeth arall (paragraffau 16 a 17).

Mae Erthyglau 12 a 13 yn nodi'r darpariaethau sy'n gymwys pan fydd anifail yn colli dull o adnabod a ddefnyddiwyd yn unol â Rheoliad y Cyngor.

Mae Rhan 3 yn darparu ar gyfer gorfodi Erthygl 5 o Reoliad y Cyngor (y gofyniad i bob ceidwad gadw cofrestr gyfredol) ac mae'n nodi'r wybodaeth y mae'n rhaid ei chofnodi yn y gofrestr (erthygl 14), gan gynnwys yr wybodaeth ychwanegol sy'n rhaid ei chofnodi pan fydd anifail yn symud trwy farchnad neu i ladd—dy (erthyglau 15 ac 16).

Mae Rhan 4 yn darparu ar gyfer gorfodi Erthygl 6 o Reoliad y Cyngor (y gofyniad bod rhaid i ddogfen symud fynd gydag anifail pryd bynnag y bydd yn symud rhwng daliadau) ac mae'n nodi'r wybodaeth sy'n rhaid ei chofnodi yn y ddogfen symud (erthygl 17), gan gynnwys yr wybodaeth ychwanegol y mae'n rhaid i weithredwyr marchnadoedd ei chofnodi (erthygl 18). Mae Erthygl 19 yn darparu bod rhaid i gopi o'r ddogfen symud gael ei hanfon i'r awdurdod lleol.

Mae Rhan 5 yn darparu ar gyfer gorfodi Erthygl 8 o Reoliad y Cyngor (y gofyniad bod yn rhaid i geidwad roi manylion i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ynglŷn â'i ddaliad) (erthyglau 20 a 21).

Mae Rhan 6 yn delio gyda thagiau clust. Mae Erthygl 22 yn gwneud darpariaeth i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gymeradwyo tagiau clust. Mae Erthyglau 23 i 25 yn gwahardd tynnu tagiau clust neu datŵ ac maent hefyd yn darparu ar gyfer rhoi tagiau clust neu datŵ newydd yn lle'r rhai sydd wedi eu tynnu, eu colli neu sydd wedi mynd yn annarllenadwy. Mae erthygl 26 yn gwahardd newid, dileu neu ddifwyno tagiau clust, tatŵ neu ddyfais electronig. Mae erthygl 27 yn gwahardd defnyddio tagiau clust coch, ac eithrio tagiau R, ac mae erthygl 28 yn gwahardd defnyddio nod y ddiadell neu nod yr eifre, ac eithrio at ddibenion cydymffurfio â'r Gorchymyn hwn neu Reoliad y Cyngor. Mae erthygl 29 yn gwahardd traddodi anifail i'w fasnachu neu ei allforio o fewn y Gymuned os oes ganddo dag clust neu datŵ newydd gyda'r llythyren “R”. Mae Erthygl 30 yn darparu ar gyfer gwneud amddiffyniad am beidio â rhoi tag clust i anifail ac am symud anifail o ddaliad heb ddefnyddio'r tag clust gofynnol.

Mae Rhan 7 yn darparu ar gyfer dyrannu Rhif au lot i anifeiliaid mewn marchnad ac yn gwahardd prynu neu werthu anifeiliaid oni bai bod yr holl anifeiliaid yn y lot yn cael eu prynu neu eu gwerthu.

Mae Rhan 8 yn ei gwneud hi'n drosedd derbyn anifeiliaid i mewn i Gymru o Aelod—wladwriaeth arall neu o ran arall o'r Deyrnas Unedig os nad ydynt wedi eu hadnabod yn briodol ac os nad oes dogfen symud yn dod gyda nhw.

Mae'r Gorchymyn yn cael ei orfodi gan yr awdurdod lleol (erthygl 35).

Mae torri'r Gorchymyn yn drosedd o dan adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, a gellir cosbi yn unol ag adran 75 y Ddeddf honno.

Mae Arfarniad Rheoliadol wedi ei baratoi a'i osod yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau o Adran yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(1)

OJ No L 214, 19.8.2005 p. 63.

(2)

1981 p.22. Trosglwyddwyd y swyddogaethau a roddwyd i'r "Gweinidog priodol" a'r "Gweinidogion" o dan Ddeddf 1981 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd y swyddogaethau a roddwyd i'r "Ysgrifennydd Gwladol", o dan Ddeddf 1981 ac eithrio'r swyddogaethau sydd wedi eu cynnwys yn Atodlen 1 o Ddeddf 1981, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2004 (O. S. 2004/3044).

(4)

OJ Rhif L 355, 5.12.92, t.32.

(7)

O.S. 2000/2027, diwygiwyd gan O.S. 2001/281.

(14)

S.S.I. 2000/418, diwygiwyd gan S.S.I 2002/531 a S.S.I 2002/39.

(15)

S.S.I. 2002/38, diwygiwyd gan S.S.I. 2002/221.

(16)

OJ Rhif L 5, 9.1.04, t.8.

(17)

1981 p.22.

(23)

1965 p.64.

(24)

1998 p.38.