xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
20.—(1) Ni chaiff unrhyw berson dramgwyddo neu fethu â chydymffurfio â darpariaethau'r Rheoliad Ychwanegion a bennir ym mharagraff (2).
(2) Y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—
(a)Erthygl 3 (rhoi ar y farchnad, prosesu a defnyddio ychwanegion bwyd anifeiliaid), paragraffau (1) i (4), wedi eu darllen gydag Erthygl 10;
(b)Erthygl 12 (goruchwylio);
(c)Erthygl 16, paragraffau (1) i (5), (labelu a phecynnu ychwanegion a rhag-gymysgeddau).
(3) Mewn unrhyw achosion ar gyfer trosedd dan baragraff (2)(a), mae'n amddiffyniad i brofi fod y weithred a achosodd y drosedd—
(a)yn un y mae Erthygl 10 o'r Rheoliad Ychwanegion yn gymwys ar ei chyfer; a
(b)yn un na fyddai wedi bod yn drosedd petai Rheoliadau 2001 wedi bod yn gweithredu ar yr adeg y digwyddodd y weithred.
(4) Mewn unrhyw achosion ar gyfer trosedd dan baragraff (2)(c), mae'n amddiffyniad i brofi fod y weithred a achosodd y drosedd—
(a)yn un y mae Erthygl 25.2 o'r Rheoliad Ychwanegion yn gymwys ar ei chyfer; a
(b)yn un na fyddai wedi bod yn drosedd petai Rheoliadau 2001 wedi bod yn gweithredu ar yr adeg y digwyddodd y weithred.
(5) Er gwaethaf y diddymiad y cyfeirir ato yn rheoliad 7, os anfonwyd sylwadau cychwynnol cyn 18 Hydref 2004 i'r Comisiwn yn unol â rheoliad 11(2) o'r Rheoliadau Porthiant 2000(1), ymdrinir â'r cais hwnnw yn unol â rheoliad 11 y Rheoliadau hynny.