ATODLEN 2
RHAN 2Cynnwys Dull Gofynnol o Weithredu (DGW)
Adnabod a gwahanu anifeiliaid7
1
Mae'n rhaid i'r DGW ddisgrifio'r system sy'n–
a
galluogi anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 i gael eu hadnabod a sicrhau na chânt eu cigydda i'w bwyta gan bobl;
b
galluogi anifeiliaid buchol dros 30 mis oed ond a anwyd ar 1 Awst 1996 neu ar ôl hynny i gael eu hadnabod a sicrhau eu bod yn cael eu samplu yn unol â'r Atodlen hon; a
c
galluogi anifeiliaid buchol a nodwyd ym mhwynt 2(1) o Ran I o Bennod A o Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned i gael eu hadnabod a sicrhau eu bod yn cael eu samplu yn unol â'r Atodlen hon.
2
Hefyd mae'n rhaid iddo ddisgrifio'r system sy'n sicrhau bod anifeiliaid dros 30 mis oed–
a
yn cael eu crynhoi at ei gilydd cyn eu cigydda ar wahân i'r rhai sy'n 30 mis oed neu'n llai; a'u
b
cigydda mewn llwythi ar wahân i'r rhai sy'n 30 mis oed neu'n llai.