- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
7.—(1) Mae'n rhaid i'r DGW ddisgrifio'r system sy'n–
(a)galluogi anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 i gael eu hadnabod a sicrhau na chânt eu cigydda i'w bwyta gan bobl;
(b)galluogi anifeiliaid buchol dros 30 mis oed ond a anwyd ar 1 Awst 1996 neu ar ôl hynny i gael eu hadnabod a sicrhau eu bod yn cael eu samplu yn unol â'r Atodlen hon; a
(c)galluogi anifeiliaid buchol a nodwyd ym mhwynt 2(1) o Ran I o Bennod A o Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned i gael eu hadnabod a sicrhau eu bod yn cael eu samplu yn unol â'r Atodlen hon.
(2) Hefyd mae'n rhaid iddo ddisgrifio'r system sy'n sicrhau bod anifeiliaid dros 30 mis oed–
(a)yn cael eu crynhoi at ei gilydd cyn eu cigydda ar wahân i'r rhai sy'n 30 mis oed neu'n llai; a'u
(b)cigydda mewn llwythi ar wahân i'r rhai sy'n 30 mis oed neu'n llai.
8.—(1) Mae'n rhaid i'r DGW ddangos bod–
(a)digon o staff wedi'u hyfforddi ac yn gymwys i gymryd, labelu, pecynnu ac anfon allan samplau o goesyn yr ymennydd;
(b)cyfleusterau hylan ar gyfer samplu; a
(c)gweithdrefnau samplu sydd ddim yn peryglu hylendid cynhyrchu cig a fwriedir i'w fwyta gan bobl.
(2) Mae'n rhaid iddo ddisgrifio sut y byddir yn cydymffurfio â chanllawiau iechyd a diogelwch a gynlluniwyd i leihau'r risg o wneud staff yn agored i BSE yn ystod samplu a phecynnu coesyn yr ymennydd.
9. Mae'n rhaid i'r DGW ddisgrifio'r system sy'n cysylltu sampl o goesyn yr ymennydd pob buwch dros 30 mis oed gyda sgerbwd yr anifail hwnnw a phob rhan o gorff yr anifail hwnnw (gan gynnwys y gwaed a'r croen).
10.—(1) Mae'n rhaid i'r DGW ddisgrifio'r system sy'n sicrhau bod yr holl garcasau a gedwir yn unol â pharagraff 5(1) o'r Atodlen hon yn cael eu cadw yn nhrefn eu cigydda naill ai mewn uned oeri sydd wedi ei selio neu ei gloi neu sydd ar reilen sydd wedi ei selio neu ei chloi y tu mewn i uned oeri heb ei selio hyd nes derbynnir canlyniad y prawf.
(2) Mae'n rhaid iddo ddisgrifio sut bydd y meddiannydd yn sicrhau bod digon o le addas yn yr uned oeri ar gyfer cadw sgerbydau at bwrpas yr Atodlen hon.
11. Mae'n rhaid i'r DGW ddisgrifio'r system sy'n sicrhau y cedwir yr holl rannau o'r corff (gan gynnwys y gwaed a'r croen) yn unol â pharagraff 5(1) o'r Atodlen hon.
12. Mae'n rhaid i'r DGW ddisgrifio'r llwybr gwaredu ar gyfer pob carcas a phob rhan o'r corff (gan gynnwys y gwaed a'r croen) a gadwyd hyd nes derbyn canlyniad y prawf ond a waredwyd cyn derbyn canlyniad y prawf.
13. Mae'n rhaid i'r DGW ddisgrifio'r systemau sydd wedi eu sefydlu i sicrhau bod–
(a)samplau o goesyn yr ymennydd yn cael eu pecynnu yn unol â chyfarwyddiadau pecynnu P650 o Gytundeb Ewrop ynglŷn â Chludiant Rhyngwladol Nwyddau Peryglus ar y Ffyrdd (y fersiwn yn gymwys o 1 Ionawr 2005)(1);
(b)bod canlyniadau'r profion yn cael eu derbyn, naill ai drwy ffacs neu drwy ddulliau electronig eraill; ac
(c)yn dilyn canlyniad positif neu ddim-prawf (fel y disgrifiwyd ym mharagraff 5(3)), bod popeth sy'n ofynnol i'w waredu yn unol â phwynt 6(4) neu 6(5) o Ran I o Bennod A o Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned neu o dan yr Atodlen hon yn cael ei adnabod a'i waredu yn unol â hynny.
14. Mae'n rhaid i'r DGW ddisgrifio'r system sy'n sicrhau, mewn achos lle y ceir canlyniad prawf negyddol ar gyfer anifail buchol–
(a)nad yw'r rhannau hynny o asgwrn y cefn sy'n ddeunydd risg penodedig yn cael eu tynnu yn y lladd-dy; a
(b)bod y cig sy'n cynnwys y deunydd risg penodedig hwnnw yn cael ei draddodi i safle torri a awdurdodwyd o dan baragraff 11 o Atodlen 6 i'w dynnu.
OJ Rhif L.204, 11.8.2004, tud. 1 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan y Ddeddf yn ymwneud ag amodau ymuniad y Weriniaeth Siec, Gweriniaeth Estonia, Gweriniaeth Cyprus, Gweriniaeth Latfia, Gweriniaeth Lithuania, Gweriniaeth Hwngari, Gweriniaeth Malta, Gweriniaetgh Pwyl, Gweriniaeth Slofenia a'r Wriniaeth Slofac a'r newidiadau a wnaethpwyd i'r Cytundebau y mae'r Undeb Ewropeaidd wedi ei selioa wnaethpwyd 'r
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: