- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Rheoliad 7
1.Hysbysiad TSE
2.Cyfyngu ar anifail y gwnaethpwyd hysbysiad yn ei gylch
3.Cigydda anifail sydd dan amheuaeth
4.Cyfyngiadau symud
5.Camau gweithredu lle nad yw TSE wedi ei gadarnhau
6.Cadarnhau TSE mewn defaid
7.Cadarnhau TSE mewn geifr
8.Cadarnhau BSE mewn defaid neu eifr
9.Amser apelio
10.Lladd a dinistrio yn dilyn cadarnhad
11.Anifeiliaid wedi eu heintio o ddaliad arall
12.Pori tir comin
13.Aml ddiadellau ar ddaliad
14.Meddianwyr dilynol
15.Cyflwyno anifeiliaid i ddaliad
16.Defnyddio cynhyrchion cenhedlol defaid
17.Symud anifeiliaid o ddaliad
18.Amser cyfyngiadau symud
19.Marwolaeth tra o dan gyfyngiad
20.Rhoi epil defaid a geifr sydd wedi eu heffeithio gan BSE ar y farchnad
21.Hysbysiad tra bo daliad o dan gyfyngiad
22.Rhanddirymiadau
1.—(1) At bwrpas Erthygl 11 o Reoliad TSE y Gymuned, mae'n rhaid i unrhyw berson sydd â dafad neu afr yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth sydd dan amheuaeth o fod wedi cael ei effeithio gan TSE hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol a'i gadw ar y safle hyd nes y bydd wedi ei archwilio gan arolygydd milfeddygol.
(2) Bydd rhaid i unrhyw filfeddyg sy'n archwilio neu'n arolygu unrhyw anifail o'r fath, hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo'n ymarferol.
(3) Mae'n rhaid i unrhyw berson (ar wahân i'r Cynulliad Cenedlaethol) sy'n archwilio corff unrhyw ddafad neu afr, neu unrhyw ran ohono, mewn labordy ac sy'n amau yn rhesymol bresenoldeb TSE hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith, a chadw'r corff ac unrhyw rannau ohono hyd nes y bydd arolygydd milfeddygol wedi awdurdodi ei waredu.
(4) Mae peidio â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn drosedd.
2.—(1) Os rhoddir hysbysiad am anifail o dan baragraff 1, hyd nes y ceir penderfyniad a ydyw dan amheuaeth neu beidio o fod wedi'i effeithio gyda TSE, gall arolygydd milfeddygol roi hysbysiad yn gwahardd symud yr anifail hwnnw o'i ddaliad, ac yn gwahardd symud unrhyw ddefaid neu eifr eraill i'r daliad neu oddi ar y daliad hwnnw.
(2) Ni chaniateir symud anifeiliaid dan gyfyngiadau ac eithrio yn unol â rheoliad 20.
3.—(1) At ddibenion paragraffau (1) a (2) o Erthygl 12 o Reoliad TSE y Gymuned, os bydd arolygydd milfeddygol yn amau bod dafad neu afr wedi cael ei effeithio gan TSE, mae'n rhaid iddo naill ai–
(a)ei ladd ar y daliad ar unwaith;
(b)rhoi hysbysiad yn gwahardd symud yr anifail o'r daliad hyd nes y bydd wedi cael ei ladd; neu
(c)rhoi hysbysiad yn cyfarwyddo'r perchennog i'w draddodi i safle arall i'w ladd a gwahardd symud ac eithrio yn unol â'r cyfarwyddyd hwnnw.
(2) Yn unol ag Erthygl 12(3) o Reoliad TSE y Gymuned, os caiff yr anifail ei ladd ar y daliad, mae'n drosedd symud y corff o'r daliad ac eithrio yn unol â chyfarwyddyd ysgrifenedig gan arolygydd.
4.—(1) At ddibenion pwynt 3 o Atodiad VII i Reoliad TSE y Gymuned, ac Erthygl 12(1) o'r Rheoliad hwnnw, yn dilyn amheuaeth am TSE (boed mewn anifail byw neu drwy'r monitro o dan Atodiad Annex III i Reoliad TSE y Gymuned), mae'n rhaid i arolygydd–
(a)roi hysbysiad–
(i)yn gwahardd symud i'w daliad neu oddi ar ei daliad unrhyw ddafad neu afr ar yr un daliad â'r anifail sydd dan amheuaeth os yw o'r farn bod yr anifail wedi bod yn agored i TSE ar y daliad hwnnw; neu
(ii)os daeth yr anifail o ddaliad arall, a'i fod o'r farn y gall yr anifail fod wedi bod yn agored i TSE ar y daliad hwnnw, gall roi hysbysiad naill ai i'r daliad hwnnw ac i'r un daliad â'r anifail sydd dan amheuaeth, neu dim ond i'r daliad a oedd yn agored i TSE; a
(b)rhoi hysbysiad yn gwahardd symud i ddaliad neu oddi ar ddaliad lle cedwir anifail a nodir ym mhwynt 1(b) o Atodiad VII i Reoliad TSE y Gymuned neu lle mae'n amau y cedwir anifail o'r fath.
(2) Ni chaniateir symud anifeiliaid dan gyfyngiad ac eithrio yn unol â rheoliad 20.
5. Os caiff ei gadarnhau nad oedd yr anifail wedi cael ei effeithio gan TSE, mae'n rhaid i'r arolygydd dynnu'n ôl yr holl gyfyngiadau a roddwyd oherwydd yr anifail a oedd dan amheuaeth.
6.—(1) Os caiff ei gadarnhau bod dafad sydd dan amheuaeth, neu gorff dafad a gafodd ei monitro o dan Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned, wedi cael ei heffeithio gan TSE, mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, ar ôl–
(a)cynnal ymchwiliad a nodwyd yn Erthygl 13(1)(b) o Reoliad TSE y Gymuned ac ym mhwynt 1(b) o Atodiad VII i'r Rheoliad hwnnw; a
(b)samplu'r anifeiliaid i sefydlu eu genoteip (os oes angen),
benderfynu pa un o'r dewisiadau sydd wedi eu nodi ym mhwyntiau 2(b)(i) a (ii) o Atodiad VII i Reoliad TSE y Gymuned y mae'n bwriadu ei ymarfer.
(2) Mae'n rhaid i'r Cynulliad wedyn roi hysbysiad i feddiannydd y daliad yn rhoi gwybod iddo pa un o'r dewisiadau yn y paragraffau hynny y mae'n bwriadu ei arfer.
(3) Mae'n rhaid i'r hysbysiad nodi–
(a)yr anifeiliaid sydd i'w lladd neu eu dinistrio;
(b)yr anifeiliaid (os oes rhai) sydd i'w cigydda i'w bwyta gan bobl;
(c)yr anifeiliaid a fydd yn cael eu cadw (os oes rhai);
(ch)unrhyw ofwm neu embryo sydd i'w ddinistrio;
(d)yr amserlen ar gyfer cydymffurfio â'r hysbysiad; a'r
(dd)hawl i wneud cais am randdirymiad yn unol â pharagraff 22(2).
(4) Mae'r drefn apelio yn rheoliad 14 yn gymwys.
7.—(1) Os caiff ei gadarnhau bod gafr sydd dan amheuaeth, neu gorff gafr a gafodd ei monitro o dan Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned, wedi cael eu heffeithio gan TSE, mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, ar ôl cynnal yr ymchwiliad a nodwyd yn Erthygl 13(1)(b) o'r Rheoliad hwnnw ac ym mhwynt 1(b) o Atodiad VII i'r Rheoliad hwnnw, roi hysbysiad i feddiannydd y daliad yn rhoi gwybod iddo ei bod yn bwriadu lladd neu ddinistrio'r holl eifr ar y daliad a'r holl embryonau ac ofa o'r anifeiliaid hynny yn unol ag Erthygl 13(1)(c) o, a phwynt 2(b)(i) o Atodiad VII i'r Rheoliad hwnnw.
(2) Mae'r drefn apelio yn rheoliad 14 yn gymwys.
8.—(1) Os caiff BSE ei gadarnhau mewn dafad neu afr ar ddaliad, mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, ar ôl cynnal yr ymchwiliad a nodir yn Erthygl 13(1)(b) o Reoliad TSE y Gymuned a phwynt 1 o Atodiad VII i'r Rheoliad hwnnw, roi hysbysiad i feddiannydd y daliad yn rhoi gwybod iddo o'i fwriad i ladd neu ddinistrio'r anifeiliaid, yr embryonau a'r ofa yn unol ag Erthygl 13(1)(c) o, a phwynt 2(c) o Atodiad VII i'r Rheoliad hwnnw.
(2) Mae'r drefn apelio yn rheoliad 14 yn gymwys.
9. Ni chaiff y Cynulliad Cenedlaethol ladd unrhyw ddafad neu afr, na dinistrio unrhyw ofwm neu embryo, o dan yr Atodlen hon hyd nes–
(a)ei fod wedi derbyn hysbysiad ysgrifenedig oddi wrth y person sydd wedi cael ei hysbysu nad yw'r person hwnnw yn bwriadu mynd i apêl;
(b)ar ôl cwblhau'r cyfnod 21 diwrnod i apelio o dan reoliad 14; neu
(c)os oes apêl, bod yr apêl yn cael ei phenderfynu neu ei thynnu'n ôl.
10.—(1) Mae'n rhaid i arolygydd sicrhau bod yr holl anifeiliaid a nodir i'w lladd yn yr hysbysiad ym mharagraffau 6(2), 7(1) neu 8(1) yn cael eu lladd a bod yr holl ofa ac embryonau a nodwyd i'w dinistrio yn yr hysbysiad yn cael eu dinistrio.
(2) Os nad yw anifail yn cael ei ladd yn y daliad, mae'n rhaid i arolygydd gyfarwyddo'r perchennog mewn ysgrifen i'w draddodi i safle arall i gael ei ladd fel y nodir yn y cyfarwyddyd.
(3) Pan fydd anifail wedi cael ei ladd o dan y paragraff hwn, mae'n drosedd i symud y corff o'r safle lle cafodd ei ladd ac eithrio yn unol â chyfarwyddyd ysgrifenedig gan arolygydd.
11. At ddibenion pwynt 2(b)(iii) o Atodiad VII i Reoliad TSE y Gymuned, os cafodd yr anifail heintiedig ei gyflwyno o ddaliad arall, gall y Cynulliad Cenedlaethol weithredu yn unol â'r Atodlen hon mewn perthynas â daliad y tarddiad yn ogystal â'r daliad lle cadarnhawyd yr haint neu yn lle'r daliad hwnnw.
12. Yn achos anifeiliaid heintiedig ar dir pori comin, gall y Cynulliad Cenedlaethol gyfyngu hysbysiad o dan baragraffau 6(2) neu 7(1) i ddiadell unigol yn unol â phwynt 2(b)(iii) o Atodiad VII i Reoliad TSE y Gymuned.
13. Lle cedwir mwy nag un ddiadell ar un daliad, gall y Cynulliad Cenedlaethol gyfyngu hysbysiad o dan baragraffau 6(2) neu 7(1) i ddiadell unigol yn unol â phwynt 2(b)(iii) o Atodiad VII i Reoliad TSE y Gymuned.
14. Os oes newid ym meddiant y daliad, mae'n rhaid i'r meddiannydd blaenorol sicrhau bod y meddiannydd dilynol yn gwybod am fodolaeth a chynnwys unrhyw hysbysiad a roddwyd o dan yr Atodlen hon, ac mae peidio â gwneud hynny yn drosedd.
15. Mae unrhyw berson sy'n cyflwyno anifail i ddaliad yn groes i bwynt 4 o Atodiad VII i Reoliad TSE y Gymuned yn euog o drosedd.
16. Mae unrhyw berson sy'n defnyddio cynnyrch cenhedlol defaid yn groes i bwynt 5 o Atodiad VII i Reoliad TSE y Gymuned yn euog o drosedd.
17. Mae unrhyw berson sy'n symud anifail o ddaliad yn groes i bwynt 7 o Atodiad VII i Reoliad TSE y Gymuned yn euog o drosedd.
18. At ddibenion pwynt 8 o Atodiad VII i Reoliad TSE y Gymuned mae'n rhaid i'r dyddiadau perthnasol gael eu sefydlu gan y Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig o'r dyddiadau hynny i feddiannydd y daliad.
19. Os bydd unrhyw anifail 18 mis oed neu fwy yn marw neu'n cael ei ladd tra bo o dan gyfyngiad am unrhyw reswm o dan yr Atodlen hon neu Atodiad VII i Reoliad TSE y Gymuned, mae'n rhaid i'r perchennog hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith, a chadw'r corff ar y safle hyd nes y caiff gyfarwyddiadau ysgrifenedig gan y Cynulliad Cenedlaethol i'w symud neu i'w waredu, ac mae'n drosedd peidio â chydymffurfio gyda'r paragraff hwn neu beidio â chydymffurfio gyda chyfarwyddyd o dan y paragraff hwn.
20. Mae unrhyw berson sy'n rhoi unrhyw ddefaid neu eifr sydd wedi eu heffeithio gan BSE ar y farchnad yn groes i Erthygl 15(2) o Reoliad TSE y Gymuned a Phennod B o Atodiad VIII i'r Rheoliad hwnnw yn euog o drosedd.
21.—(1) At ddibenion pwynt 8(d) o Atodiad VII i Reoliad TSE y Gymuned, am y cyfnod y mae'r daliad o dan gyfyngiad yn unol â phwynt 8 o'r Atodiad hwnnw, os yw'r perchennog yn bwriadu traddodi dafad 18 mis oed neu fwy i gael ei chigydda i'w bwyta gan bobl, mae'n rhaid iddo hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o leiaf bedair wythnos cyn ei thraddodi.
(2) Ni chaiff draddodi dafad 18 mis oed neu fwy i'w lladd neu ei chigydda i'w bwyta gan bobl ac eithrio o dan gyfarwyddyd ysgrifenedig o'r Cynulliad Cenedlaethol, ac mae'n rhaid gwneud hynny yn unol â'r cyfarwyddyd hwnnw.
(3) Mae peidio â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn drosedd.
22.—(1) Ni chaiff y Cynulliad Cenedlaethol weithredu'r dewis a ganiatawyd o dan bwynt 7(c) o Atodiad VII i Reoliad TSE y Gymuned.
(2) Gall meddiannydd daliad wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn iddo weithredu un o'r dewisiadau a ganiatawyd o dan bwynt 9 o'r Atodiad hwnnw neu'r ddau.
(3) Mae'n rhaid i gais o dan y paragraff hwn fod yn ysgrifenedig ac mae'n rhaid nodi'r rhesymau am y cais yn llawn.
(4) Mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi ei benderfyniad yn ysgrifenedig i'r ymgeisydd, ac mae'n rhaid nodi ei fod naill ai'n–
(a)caniatáu'r cais;
(b)caniatáu'r cais yn rhannol; neu'n
(c)gwrthod y cais.
(5) Oni bai bod y Cynulliad Cenedlaethol yn caniatáu'r cais yn llawn, mae'r weithdrefn apelio yn rheoliad 14 yn gymwys.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: