12.—(1) Mae'n rhaid i unrhyw berson sy'n cynhyrchu–
(a)cynhyrchion gwaed, neu fwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys cynhyrchion gwaed, a fwriedir ar gyfer eu bwydo i anifeiliaid sy'n cael eu ffermio ac nad ydynt yn cnoi cil; neu
(b)flawd gwaed, neu fwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys blawd gwaed, a fwriedir i'w fwydo i bysgod,
sicrhau bod y gwaed yn dod o ladd-dy sydd wedi ei gofrestru gyda'r Cynulliad Cenedlaethol at bwrpas pwynt D(a) o Ran II o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned a'i fod naill ai–
(i)ddim yn cael ei ddefnyddio i gigydda anifeiliaid cnoi cil; neu
(ii)bod system rheoli wedi cael ei sefydlu yn unol â'r ail baragraff ym mhwynt D(a) o'r Rhan honno i sicrhau y cedwir gwaed anifeiliaid cnoi cil ar wahân i waed anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil a'i fod wedi cael ei awdurdodi at y diben gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Mae'n rhaid i feddiannydd y lladd-dy draddodi'r gwaed yn unol â phwynt D(a) o Ran II o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned, ac mae'n rhaid i unrhyw gludydd ei gludo yn unol â'r pwynt hwnnw.
(3) Mae'n rhaid i unrhyw berson sy'n cynhyrchu cynhyrchion gwaed neu flawd gwaed wneud hynny yn unol â naill ai'r paragraff cyntaf neu'r ail baragraff ym mhwynt D(b) o'r Rhan honno.
(4) Mae'n rhaid i unrhyw berson sy'n cynhyrchu bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys cynhyrchion gwaed neu flawd gwaed wneud hynny–
(a)yn unol â phwynt D(c) o'r Rhan honno, mewn sefydliad a awdurdodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y pwynt hwnnw;
(b)yn unol â phwynt D(c)(i) o'r Rhan honno, fel cynhyrchydd bwydydd cyfansawdd cartref a gofrestrwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y pwynt hwnnw; neu
(c)yn unol â phwynt D(c)(ii) o'r Rhan honno, mewn sefydliad a awdurdodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y pwynt hwnnw.
(5) Mae'n rhaid i unrhyw berson sy'n pecynnu'r bwydydd anifeiliaid eu labelu yn unol â phwynt D(d) o'r Rhan honno, ac mae'n rhaid i unrhyw ddogfennaeth sy'n mynd gyda'r bwydydd fod yn unol â'r pwynt hwnnw.
(6) Mae'n rhaid i unrhyw berson sy'n cludo'r bwydydd anifeiliaid mewn llwythi mawr wneud hynny yn unol â phwynt D(e) o'r Rhan honno.
(7) Mae'n rhaid i unrhyw berson sy'n defnyddio cerbyd, a ddefnyddiwyd yn flaenorol i gludo bwydydd anifeiliaid o'r fath, i gludo bwydydd i anifeiliaid cnoi cil gydymffurfio â'r ail frawddeg ym mhwynt D(e) o'r Rhan honno.
(8) Mae'n rhaid i feddiannydd unrhyw fferm lle cedwir anifeiliaid cnoi cil gydymffurfio â'r paragraff cyntaf ym mhwynt D(f) o'r Rhan honno oni bai bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni y cydymffurfir â'r darpariaethau yn yr ail baragraff o'r pwynt hwnnw a'i fod wedi cofrestru'r fferm o dan y paragraff hwnnw.