6.—(1) Lle lleddir anifail o dan baragraff 5, gall y Cynulliad Cenedlaethol dalu iawndal os yw'n ystyried hynny'n briodol ym mhob un o'r amgylchiadau ac mae'n rhaid i'r Cynulliad roi ei benderfyniad ynglyn â thalu iawndal neu beidio yn ysgrifenedig.
(2) Yr iawndal yw gwerth yr anifail ar y farchnad ar yr adeg y caiff ei ladd, a benderfynir naill ai trwy gytundeb neu'n unol â'r weithdrefn yn rheoliad 15, gyda'r ffi am enwebu'r prisiwr a ffi y prisiwr yn cael ei dalu gan y perchennog.
(3) Mae'r weithdrefn apelio yn rheoliad 14 yn gymwys mewn perthynas â'i benderfyniad.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 5 para. 6 mewn grym ar 3.5.2006, gweler rhl. 1