xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rheoliad 9

ATODLEN 6Deunydd risg penodedig, cig sydd wedi ei adennill trwy ddulliau mecanyddol a dulliau cigydda

  1. 1.Penodi'r Asiantaeth Safonau Bwyd fel yr awdurdod cymwys

  2. 2.Dyletswyddau awdurdodau lleol o ran siopau cigyddion

  3. 3.Hyfforddiant

  4. 4.Cig sydd wedi ei adennill trwy ddulliau mecanyddol

  5. 5.Pithio

  6. 6.Cynaeafu tafodau

  7. 7.Cynaeafu cig y pen

  8. 8.Tynnu deunydd risg penodedig

  9. 9.Anifeiliaid buchol mewn lladd-dy

  10. 10.Defaid a geifr mewn lladd-dy

  11. 11.Stampiau ŵ yn a geifr ifanc

  12. 12.Tynnu llinyn asgwrn y cefn o ddefaid a geifr

  13. 13.Awdurdodi safleoedd torri gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd

  14. 14.Awdurdodi a chofrestru siopau cigyddion gan awdurdodau lleol

  15. 15.Tynnu deunydd risg penodedig mewn safleoedd torri a awdurdodwyd o dan 13(1)

  16. 16.Tynnu asgwrn cefn anifail buchol sy'n ddeunydd risg penodedig ar safle torri nas awdurdodwyd o dan baragraff 13(1)(a)

  17. 17.Tynnu asgwrn cefn anifail buchol sy'n ddeunydd risg penodedig mewn siop cigydd a awdurdodwyd ac a gofrestrwyd o dan baragraff 14

  18. 18.Cig o Aelod-wladwriaeth arall

  19. 19.Staenio a gwaredu deunydd risg penodedig

  20. 20.Anifeiliaid Cynllun

  21. 21.Diogelwch deunydd risg penodedig

  22. 22.Gwaharddiad ar gyflenwi deunydd risg penodedig i'w fwyta gan bobl

Penodi'r Asiantaeth Safonau Bwyd fel yr awdurdod cymwys

1.—(1Heblaw mewn siopau cigyddion mae'n rhaid i'r Asiantaeth Safonau Bwyd weithredu'r dyletswyddau sydd ar yr aelod-wladwriaeth ym mhwynt 12 o Ran A o Atodiad XI i Reoliad TSE y Gymuned mewn perthynas â'r Atodlen yma, ac mae'n rhaid iddi roi awdurdod at ddibenion pwynt 10(a) o'r Bennod honno.

(2At ddibenion yr Atodlen hon, mae arolygydd mewn lladd-dy neu safle torri yn–

(a)filfeddyg swyddogol sydd â chymwysterau yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 o Senedd Ewrop ac o'r Cyngor sy'n gosod rheolau penodol i drefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid a fwriedir i'w bwyta gan bobl(1)i weithredu yn y swyddogaeth honno ac fe'i penodir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd;

(b)gweithiwr cynorthwyol swyddogol sydd â chymwysterau yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 i weithredu yn y swyddogaeth honno, wedi ei benodi gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac yn gweithio o dan awdurdod a chyfrifoldeb milfeddyg swyddogol; neu

(c)unrhyw berson arall a benodir at y pwrpas gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

(3Gall penodiad fel arolygydd fod yn gyfyngedig i bwerau a dyletswyddau sydd wedi eu nodi yn y penodiad.

(4Mae gan unrhyw berson sy'n gweithredu pwerau arolygydd o dan yr Atodlen hon yr amddiffyniad a nodir yn rheoliad 18(3).

Dyletswyddau awdurdodau lleol o ran siopau cigyddion

2.  Rhaid i awdurdodau lleol gyflawni dyletswyddau'r Aelod-wladwriaeth ym mhwynt 12 yn Rhan A o Atodiad XI i Reoliad TSE y Gymuned o ran yr Atodlen hon i'r graddau y mae'n ymwneud â thynnu mewn siopau cigyddion y rhannau hynny o asgwrn cefn anifeiliaid buchol, sef y rhannau hynny sy'n ddeunydd risg penodedig, a rhaid iddo roi awdurdodiadau a rhoi effaith i gofrestriadau at ddibenion pwynt 10(b) yn y Rhan honno.

Hyfforddiant

3.  Mae'n rhaid i feddiannydd unrhyw ladd-dy, safle torri neu siop cigydd lle y mae deunydd risg penodedig yn cael ei dynnu–

(a)sicrhau bod staff yn cael unrhyw hyfforddiant sydd ei angen i sicrhau bod y meddiannydd yn cydymffurfio â'i ddyletswyddau yn yr Atodlen hon; a

(b)cadw cofnod am hyfforddiant pob person tra bydd y person yn gweithio yno,

ac mae peidio â gwneud hynny yn drosedd.

Cig a adenillir trwy ddulliau mecanyddol

4.—(1Mae unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â phwynt 3 o Ran A o Atodiad XI i Reoliad TSE y Gymuned (defnydd o esgyrn buchol, defeidiog a gafriog ar gyfer cynhyrchu cig wedi ei adennill yn fecanyddol) yn euog o drosedd.

(2Mae unrhyw berson sy'n defnyddio unrhyw gig sydd wedi'i adennill trwy ddulliau mecanyddol a gynhyrchir yn groes i'r pwynt hwnnw wrth baratoi unrhyw fwyd ar gyfer ei werthu i'w fwyta gan bobl neu unrhyw fwydydd anifeiliaid yn euog o drosedd.

(3Yn y paragraff hwn ystyr “cig a adenillir drwy ddulliau mecanyddol” yw'r cynnyrch a geir o gig sy'n weddill ar esgyrn anifeiliaid drwy ddulliau mecanyddol (ar wahân i gig a gynhyrchir trwy ddefnyddio cyllyll trydanol a ddelir a llaw nad ydynt yn defnyddio gwasgedd neu sugnedd â phwer).

Pithio

5.  Mae unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â phwynt 4 o Ran A o Atodiad XI i Reoliad TSE y Gymuned (pithio) yn euog o drosedd.

Cynaeafu tafodau

6.  Mae unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â phwynt 6 o Ran A o Atodiad XI i Reoliad TSE y Gymuned (cynaeafu tafodau) yn euog o drosedd.

Cynaeafu cig pen

7.  Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â phwynt 7 yn Rhan A o Atodiad XI i Reoliad TSE y Gymuned (cynaeafu cig pen) yn euog o dramgwydd.

Tynnu deunydd risg penodedig

8.—(1Mae unrhyw berson sy'n tynnu deunydd risg penodedig mewn unrhyw fangre ar wahân i fangre lle y caniateir tynnu'r deunydd risg penodedig hwnnw o dan bwynt 5 neu bwynt 10(a) neu bwynt 10(b) yn Rhan A o Atodiad XI i Reoliad TSE y Gymuned (defnydd o esgyrn buchol, ar gyfer cynhyrchu cig yn euog o dramgwydd.

(2Yn achos safle torri, mae tynnu'r canlynol yn drosedd–

(a)unrhyw ran o asgwrn cefn, sef deunydd risg penodedig, unrhyw anifail buchol sydd dros 30 mis oed pan gaiff ei gigydda; neu

(b)mewn amgylchiadau pan fo'r cig sy'n cynnwys y deunydd risg penodedig wedi ei ddwyn i Gymru o Aelod-wladwriaeth arall, unrhyw ran o'r asgwrn cefn sy'n ddeunydd risg penodedig ac sy'n dod o unrhyw anifail buchol sy'n 30 mis oed neu'n iau pan gaiff ei gigydda,

onid yw'r safle wedi'i awdurdodi o dan baragraff 13(1)(a); neu

(c)llinyn asgwrn cefn unrhyw ddafad neu afr sydd dros 12 mis oed pan gaiff ei chigydda neu y mae un neu fwy o'i dannedd blaen parhaol wedi torri drwy gig y dannedd, onid yw'r safle wedi'i awdurdodi at ddiben y cyfryw weithred o dynnu o dan baragraff 13(1)(b).

(3Yn achos siop cigydd, mae tynnu unrhyw ran o asgwrn cefn anifail buchol, a honno'n rhan sy'n ddeunydd risg penodedig, os nad yw'r siop wedi'i hawdurdodi a'i chofrestru at y diben hwnnw o dan baragraff 14, neu os yw'r cig sy'n cynnwys y deunydd risg penodedig wedi'i ddwyn i Gymru o Aelod-wladwriaeth arall, yn dramgwydd.

Anifeiliaid buchol mewn lladd-dy

9.—(1Pan gaiff anifail buchol ei gigydda, mae'n rhaid i feddiannydd y lladd-dy dynnu'r holl ddeunydd risg penodedig (ar wahân i'r rhannau hynny o asgwrn y cefn sy'n ddeunydd risg penodedig) cyn gynted ag y bo hynny'n rhesymol ymarferol ar ôl cigydda ac ym mhob achos cyn yr archwiliad post-mortem.

(2Mae'n rhaid i feddiannydd y lladd-dy draddodi unrhyw gig sy'n cynnwys y rhannau hynny o'r asgwrn cefn sy'n ddeunydd risg penodedig cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol-

(a)yn achos unrhyw anifail sydd dros 30 mis oed pan gaiff ei gigydda, i safle torri a awdurdodwyd o dan baragraff 13(1)(a) neu i aelod Wladwriaeth arall yn unol ag ail baragraff pwynt 13 yn Rhan A o Atodiad XI i Reoliad TSE y Gymuned; neu

(b)yn achos unrhyw anifail sydd yn 30 mis oed neu'n iau pan gaiff ei gigydda, i safle torri, neu i siop cigydd a awdurdodwyd ac a gofrestrwyd o dan baragraff 14, neu i aelod Waldwriaeth arall yn unol ag ail baragraff pwynt 13 yn Rhan A o Atodiad XI i Reoliad TSE y Gymuned.

(3Rhaid i feddiannydd y lladd-dy nodi cig sy'n cynnwys asgwrn cefn nad yw'n ddeunydd risg penodedig yn unol â phwynt 14(a) yn Rhan A o Atodiad XI i Reoliad TSE y Gymuned, a rhaid iddo neu iddi ddarparu gwybodaeth yn unol â phwynt 14(b) yn y Rhan honno.

(4Ni chaniateir i unrhyw berson gynnwys streipen las yn y label y cyfeirir ato yn Erthygl 13 o Reoliad Senedd Ewrop a'r Cyngor (EC) Rhif 1760/2000 sydd yn sefydlu system ar gyfer adnabod a chofrestru anifeiliaid buchol ac ar gyfer labelu eidion a chynhyrchion eidion ac sydd yn dirymu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 820/97(2) ac eithrio yn unol â phwynt 14(a) yn Rhan A o Atodiad XI i Reoliad TSE y Gymuned.

(5Mae peidio â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn drosedd.

Defaid a geifr mewn lladd-dy

10.—(1Pan gaiff defaid neu eifr eu cigydda, mae'n rhaid i feddiannydd y lladd-dy dynnu'r holl ddeunydd risg penodedig (ar wahân i linyn yr asgwrn cefn) cyn gynted ag y bo hynny'n rhesymol ymarferol ar ôl cigydda ac ym mhob achos cyn yr archwiliad post-mortem.

(2Mewn achos dafad neu afr dros 12 mis oed adeg cigydda, neu sydd â blaenddant parhaol wedi torri trwy'r deintgig, mae'n rhaid i'r meddiannydd cyn gynted ag y bo hynny'n rhesymol ymarferol ar ôl cigydda–

(a)dynnu llinyn yr asgwrn cefn yn y lladd-dy cyn yr archwiliad post-mortem;

(b)anfon y cig i safle torri sydd wedi'i awdurdodi o dan baragraff 13(1)(b), neu

(c)yn unol â'r paragraff cyntaf o bwynt 13 o Ran A o Atodiad XI i Reoliad TSE y Gymuned anfon y cig i safle torri mewn aelod-wladwriaeth arall cyn belled â bod yr Asiantaeth Safonau Bwyd wedi gwneud cytundeb ysgrifenedig gydag awdurdod cymwys yr aelod-wladwriaeth sy'n ei dderbyn, ac yr anfonir y cig yn unol â'r cytundeb hwnnw.

(3Yn is-baragraff (2) (c), ystyr “safle torri” (“cutting plant”) yw mangre –

(a)a gymeradwywyd neu a gymeradwywyd yn amodol fel mangre o'r fath o dan Erthygl 31(2) of Reoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar y rheolaethau swyddogol a wneir i sicrhau y dilysir bod cydymffurfio â chyfraith bwydydd anifeiliaid a bwyd, a rheolau iechyd anifeiliaid a lles anifeiliaid(3)yn digwydd; neu

(b)sy'n gweithredu fel mangre o'r fath o dan Erthygl 4(5) o Reoliad (EC) Rhif 835/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid(4)hyd onis cymeradwyir felly.

(4Mae peidio â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn drosedd.

Stampiau wyn a geifr ifanc

11.—(1Gall arolygydd stampio dafad neu afr mewn lladd-dy gyda stamp oen ifanc neu stamp gafr ifanc os nad oes gan yr anifail flaenddant parhaol sydd wedi torri trwy'r deintgig ac os nad yw'r ddogfennaeth, os oes dogfennaeth o'r fath, sy'n gysylltiedig â'r anifail yn dangos ei fod dros 12 mis oed adeg cigydda.

(2Mae'n rhaid i'r stamp farcio'r cig gyda chylch 5 centimetr mewn diamedr gyda'r canlynol mewn llythrennau bras 1 centimetr o ran uchder–

(a)“MHS”; ac

(b)mewn achos defaid, “YL”; neu

(c)mewn achos gafr, “YG”.

(3Mae'n drosedd i unrhyw berson ar wahân i arolygydd ddefnyddio'r stamp neu farc sy'n debyg i'r stamp, neu iddynt feddu cyfarpar ar gyfer ei ddefnyddio.

(4Mae'n drosedd marcio dafad neu afr gyda stamp oen ifanc neu stamp gafr ifanc neu stamp sy'n debyg iddynt oni bai ei fod yn anifail y caniatawyd ei ei farcio yn unol ag is-baragraff(1).

Tynnu llinyn asgwrn y cefn o ddefaid a geifr

12.  Mae'n drosedd tynnu llinyn asgwrn y cefn neu unrhyw ran ohono o ddafad neu afr sydd dros 12 mis oed adeg eu cigydda neu ddafad neu afr oedd ag un neu fwy o flaenddannedd parhaol a oedd wedi torri trwy'r deintgig (ar wahân i ddibenion archwiliad milfeddygol neu wyddonol) ac eithrio trwy–

(a)hollti holl asgwrn y cefn yn hydredol; neu

(b)tynnu darn hydredol o holl asgwrn y cefn gan gynnwys llinyn asgwrn y cefn.

Awdurdodi safleoedd torri gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd

13.—(1Rhaid i'r Asiantaeth Safonau Bwyd awdurdodi safle torri i dynnu–

(a)y rhannau hynny o asgwrn cefn anifeiliaid buchol sydd dros 30 mis oed pan gânt eu cigydda, sef y rhannau hynny sy'n ddeunydd risg penodedig; neu

(b)llinyn asgwrn cefn defaid a geifr sydd dros 12 mis oed pan gânt eu cigydda neu y mae un neu fwy o'u dannedd blaen parhaol wedi torri drwy gig y dannedd,

os yw'r Asiantaeth wedi'i bodloni y cydymffurfir â darpariaethau Rhan A o Atodiad XI i Reoliad TSE y Gymuned ac â'r Atodlen hon.

(2Mae'r gweithdrefnau yn rheoliadau 10, 12, 13 a 14 yn gymwys, ond mae pob cyfeiriad at y Cynulliad Cenedlaethol i'w ddehongli fel cyfeiriadau at yr Asiantaeth.

Awdurdodi a chofrestru siopau cigyddion gan awdurdodau lleol

14.—(1Rhaid i awdurdod lleol awdurdodi siop cigydd i dynnu'r rhannau hynny o asgwrn cefn anifeiliaid sydd dros 30 mis oed neu'n iau pan gânt eu cigydda, sef y rhannau hynny sy'n ddeunydd risg penodedig, a rhaid iddo gofrestru'r siop at y diben hwnnw, os yw'r awdurdod wedi'i fodloni y cydymffurfir â darpariaethau Rhan A o Atodiad XI i Reoliad TSE y Gymuned ac â'r Atodlen hon.

(2Mae'r gweithdrefnau yn rheoliadau 10, 12, 13, a 14 yn gymwys, ond rhaid dehongli pob cyfeiriad at yr Ysgrifennydd Gwladol fel cyfeiriadau at yr awdurdod lleol dan sylw.

Tynnu deunydd risg penodedig ar safle torri a awdurdodwyd o dan baragraff 13(1)

15.  Bydd meddiannydd safle torri a awdurdodwyd o dan baragraff 13(1) yn tramgwyddo oni fydd, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r cig gyrraedd y safle, a beth bynnag cyn i'r cig gael ei symud oddi ar y safle, yn tynnu o'r cig –

(a)pob deunydd risg penodedig o fath y mae'r awdurdodiad yn ymwneud ag ef; a

(b)os yw'r cig yn deillio o anifail buchol sy'n 30 mis oed neu'n iau pan gaiff ei gigydda, y rhannau hynny o'r asgwrn cefn sy'n ddeunydd risg penodedig.

Tynnu asgwrn cefn anifail buchol sy'n ddeunydd risg penodedig ar safle torri nas awdurdodwyd o dan baragraff 13(1)(a)

16.  Yn achos cig sy'n deillio o anifail buchol sy'n 30 mis oed neu'n iau pan gaiff ei gigydda ac na chafodd ei ddwyn i Gymru o Aelod-wladwriaeth arall, bydd meddiannydd safle torri nas awdurdodwyd o dan baragraff 13(1)(a) yn tramgwyddo oni fydd yn tynnu o'r cig y rhannau hynny o'r asgwrn cefn sy'n ddeunydd risg penodedig a hynny cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, a beth bynnag cyn i'r cig gael ei symud o'r fangre.

Tynnu asgwrn cefn anifail buchol sy'n ddeunydd risg penodedig mewn siop cigydd a awdurdodwyd ac a gofrestrwyd o dan baragraff 14

17.  Yn achos cig sy'n deillio o anifail buchol sy'n 30 mis oed neu'n iau pan gaiff ei gigydda ac na chafodd ei ddwyn i Gymru o Aelod-wladwriaeth arall, bydd meddiannydd siop cigydd a awdurdodwyd ac a gofrestrwyd o dan baragraff 14 yn tramgwyddo oni fydd yn tynnu o'r cig y rhannau hynny o'r asgwrn cefn sy'n ddeunydd risg penodedig cyn i'r cig gael ei symud o'r fangre.

Cig o Aelod-wladwriaeth arall

18.  At ddibenion pwynt 13 yn Rhan A o Atodiad XI i Reoliad TSE y Gymuned , os caiff cig sy'n cynnwys y rhannau hynny o asgwrn cefn anifail buchol, sef y rhannau hynny sy'n ddeunydd risg penodedig, ei ddwyn i Gymru o Aelod-wladwriaeth arall, rhaid i'r sawl sy'n ei fewnforio ei anfon ar ei union i safle torri a awdurdodwyd o dan baragraff 13(1)(a), ac mae methu gwneud hynny'n dramgwydd.

Staenio a gwaredu deunydd risg penodedig

19.—(1Bydd meddiannydd unrhyw fangre lle y caiff deunydd risg penodedig ei dynnu sy'n methu â chydymffurfio â phwynt 11 yn Rhan A o Atodiad XI i Reoliad TSE y Gymuned (staenio a gwaredu deunydd risg penodedig) yn euog o dramgwydd.

(2At ddibenion y pwynt hwnnw–

(a)ystyr staenio yw trin y deunydd (p'un ai drwy ei drochi, ei chwistrellu neu daenu drwy ddull arall) gan ddefnyddio–

(i)toddiant 0.5% yn ôl pwysau/cyfaint o'r asiant lliwio Patent Blue V (E131, 1971 Colour Index Rhif 42051(5)); neu

(ii)y cyfryw asiant lliwio arall ag y gallo'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth Safonau Bwyd ei gymeradwyo'n ysgrifenedig; a

(b)rhaid taenu'r staen yn y fath fodd fel y bo'r lliwiad yn hollol weladwy ac yn parhau'n hollol weladwy–

(i)dros y cyfan o'r wyneb a dorrwyd a'r rhan fwyaf o'r pen yn achos pen dafad neu afr; a

(ii)yn achos pob deunydd risg penodedig arall, dros wyneb cyfan y deunydd.

(3Ni fydd y paragraff hwn yn gymwys o ran unrhyw ddeunydd risg penodedig y bwriedir ei ddefnyddio yn ôl fel y darperir yn Erthygl 1(2)(b) ac (c) o Reoliad TSE y Gymuned.

Anifeiliaid Cynllun

20.—(1Ar ôl i'r deunydd risg penodedig gael ei dynnu o anifail buchol a gafodd ei gigydda at ddibenion Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 716/96, sydd yn mabwysiadu mesurau cynnal eithriadol ar gyfer y farchnad eidion yn y Deyrnas Unedig(6)rhaid i'r gweddill (gan gynnwys y croen) gael ei staenio ar unwaith yn unol â pharagraff 1 a hynny yn y fath fodd fel y bydd y lliwiad yn hollol weladwy ac yn parhau'n hollol weladwy dros wyneb cyfan y deunydd.

(2Bydd methu cydymffurfio â'r paragraff hwn yn dramgwydd.

Diogelwch deunydd risg penodedig

21.—(1Hyd oni thraddodir neu y gwaredir y deunydd o'r fangre lle y'i tynnwyd, rhaid i feddiannydd y fangre sicrhau bod deunydd risg penodedig yn cael ei gadw'n ddigon ar wahân i unrhyw fwyd, bwydydd anifeiliaid neu gynnyrch cosmetig, fferyllol neu feddygol a'i gadw mewn cynhwysydd anhydraidd ac iddo gaead a bod arno label yn nodi–

(a)bod ynddo deunydd risg penodedig; neu

(b)bod ynddo sgil-gynhyrchion anifeiliaid Categori 1 a bod y geiriau “For disposal only”yn cael eu cynnwys ar y label.

(2Rhaid iddo sicrhau bod y cynhwysydd yn cael ei olchi'n lân cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol bob tro y caiff ei wagu, a'i fod yn cael ei ddiheintio cyn cael ei ddefnyddio at unrhyw ddiben arall.

(3Bydd methu cydymffurfio â'r paragraff hwn yn dramgwydd.

Gwaharddiad ar gyflenwi deunydd risg penodedig i'w fwyta gan bobl

22.  Mae gwerthu neu gyflenwi'r canlynol yn dramgwydd–

(a)unrhyw ddeunydd risg penodedig, neu unrhyw fwyd sy'n cynnwys deunydd risg penodedig a hwnnw'n ddeunydd neu'n fwyd i'w fwyta gan bobl; neu

(b)unrhyw ddeunydd risg penodedig i'w ddefnyddio i baratoi unrhyw fwyd i'w fwyta gan bobl.

(1)

Mae'r Colour Index yn cael ei gyhoeddi gan Gymdeithas y Lliw-wyr yn Perkin House, 82 Grattan Road, Bradford, West Yorkshire BD1 2JB.

(2)

OJ Rhif L99 20.4.1996, tud.14 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2109/2005 (OJ Rhif L337, 22.12.2005, tud. 25).