Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006

Anifeiliaid buchol mewn lladd-dy

9.—(1Pan gaiff anifail buchol ei gigydda, mae'n rhaid i feddiannydd y lladd-dy dynnu'r holl ddeunydd risg penodedig (ar wahân i'r rhannau hynny o asgwrn y cefn sy'n ddeunydd risg penodedig) cyn gynted ag y bo hynny'n rhesymol ymarferol ar ôl cigydda ac ym mhob achos cyn yr archwiliad post-mortem.

(2Mae'n rhaid i feddiannydd y lladd-dy draddodi unrhyw gig sy'n cynnwys y rhannau hynny o'r asgwrn cefn sy'n ddeunydd risg penodedig cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol-

(a)yn achos unrhyw anifail sydd dros 30 mis oed pan gaiff ei gigydda, i safle torri a awdurdodwyd o dan baragraff 13(1)(a) neu i aelod Wladwriaeth arall yn unol ag ail baragraff pwynt 13 yn Rhan A o Atodiad XI i Reoliad TSE y Gymuned; neu

(b)yn achos unrhyw anifail sydd yn 30 mis oed neu'n iau pan gaiff ei gigydda, i safle torri, neu i siop cigydd a awdurdodwyd ac a gofrestrwyd o dan baragraff 14, neu i aelod Waldwriaeth arall yn unol ag ail baragraff pwynt 13 yn Rhan A o Atodiad XI i Reoliad TSE y Gymuned.

(3Rhaid i feddiannydd y lladd-dy nodi cig sy'n cynnwys asgwrn cefn nad yw'n ddeunydd risg penodedig yn unol â phwynt 14(a) yn Rhan A o Atodiad XI i Reoliad TSE y Gymuned, a rhaid iddo neu iddi ddarparu gwybodaeth yn unol â phwynt 14(b) yn y Rhan honno.

(4Ni chaniateir i unrhyw berson gynnwys streipen las yn y label y cyfeirir ato yn Erthygl 13 o Reoliad Senedd Ewrop a'r Cyngor (EC) Rhif 1760/2000 sydd yn sefydlu system ar gyfer adnabod a chofrestru anifeiliaid buchol ac ar gyfer labelu eidion a chynhyrchion eidion ac sydd yn dirymu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 820/97(1) ac eithrio yn unol â phwynt 14(a) yn Rhan A o Atodiad XI i Reoliad TSE y Gymuned.

(5Mae peidio â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn drosedd.

(1)

OJ Rhif L99 20.4.1996, tud.14 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2109/2005 (OJ Rhif L337, 22.12.2005, tud. 25).