xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr sydd fel arfer yn preswylio yng Nghymru ac sy'n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006.

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2005 i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru. Mae rheoliad 3 yn nodi rhychwant y dirymiad. Disgrifir isod y newidiadau sylweddol heblaw graddfeydd grantiau a benthyciadau a wneir yn y Rheoliadau hyn.

Mae'r Rheoliadau yn cyflwyno gwahaniaeth rhwng myfyrwyr cymwys dan yr hen drefn a myfyrwyr cymwys dan y drefn newydd (rheoliad 2(1)) o ran cymorth ariannol i fyfyrwyr ar gyfer cyrsiau amser-llawn.

Mae myfyrwyr cymwys dan yr hen drefn yn fyfyrwyr cymwys sy'n mynychu cyrsiau a ddechreuodd cyn 1 Medi 2006 a myfyrwyr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd sy'n dechrau cyrsiau cyn 1 Medi 2007, a chategorïau penodol eraill o fyfyrwyr. Mae'r grantiau a'r benthyciadau canlynol ar gael i fyfyrwyr cymwys dan yr hen drefn yn ddarostyngedig i amodau penodedig—

Mae myfyriwr cymwys dan y drefn newydd yn fyfyriwr cymwys sy'n dechrau ei gwrs ar neu ar ôl 1 Medi ac nad yw'n fyfyriwr cymwys dan yr hen drefn. Mae'r grantiau a'r benthyciadau canlynol ar gael i fyfyrwyr cymwys dan y drefn newydd, yn ddarostyngedig i amodau penodedig—

I fod â hawl i gael cymorth ariannol rhaid i fyfyriwr ddod o fewn un o'r categorïau a restrir yn Atodlen 1 a'r darpariaethau cymhwystra yn Rhan 2. Mae'r rheoliadau yn gymwys i fyfyrwyr sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ble bynnag y bônt yn astudio ar gwrs dynodedig. At ddibenion y Rheoliadau hyn ystyrir bod person sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw o ganlyniad i symud o unrhyw un o'r ardaloedd hyn at ddibenion ymgymryd â'i gwrs yn preswylio fel arfer yn y lle y symudodd ohono (rheoliad 2(2)).

Nid yw cymorth ond ar gael o dan y rheoliadau o ran cyrsiau dynodedig o fewn ystyr rheoliadau 5, 51 ac Atodlen 2.

Mae'r Rheoliadau yn cyflwyno rheolau newydd ar astudio blaenorol yn rheoliadau 6 a 7. Mae myfyrwyr sy'n dechrau cyrsiau ar neu ar ôl 1 Medi 2006 yn gymwys i gael grant cymorth ffioedd a grant cynhaliaeth am hyd arferol eu cwrs ac am un flwyddyn ychwanegol. Gostyngir nifer y blynyddoedd pryd y mae cymorth ar gael ar sail nifer y blynyddoedd y rhoddwyd cymorth i addysg uwch eisoes. Ar gyfer myfyrwyr sy'n dechrau eu cwrs cyn 1 Medi 2006 bydd cymorth ar gael am hyd arferol y cwrs. Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gallu estyn cymhwystra pan fo rhesymau personol anorchfygol dros wneud hynny o ran y myfyriwr dan sylw. Mae benthyciadau cynhaliaeth ar gael drwy gydol cyfnod y cymhwystra, sy'n dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd pryd y mae'r myfyriwr yn gorffen y cwrs dynodedig. Bydd myfyrwyr sy'n mynychu cyrsiau ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon sy'n parhau llai na dwy flynedd yn esempt rhag y rheolau astudio blaenorol.

Ni fydd myfyrwyr sydd â chymhwyster gradd anrhydedd oddi wrth sefydliad addysg uwch yn y DU yn gymwys i gael cymorth o dan y rheoliadau, ond bydd myfyrywyr sy'n ymgymryd â chwrs ail radd sy'n arwain at gymhwyster proffesiynol fel gweithiwr cymdeithasol, doctor meddygol, deintydd, doctor milfeddygol, pensaer, pensaer tirwedd, dylunydd tirwedd, cynllunydd trefol neu gynllunydd gwlad a thref yn dal yn gymwys i gael benthyciad cynhaliaeth.

Mae'r diffiniad o “cwrs pen-ben” wedi ei ddiwygio (rheoliad 2(1)) fel bod myfyrwyr sy'n mynd ben-ben o radd sylfaen a ddechreuodd cyn 1 Medi 2006 (neu yn y flwyddyn academaidd 2006/7 ar gyfer myfyrwyr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd) at radd anrhydedd yn cael eu trin fel myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn. Bydd myfyrwyr sy'n symud o gwrs gradd at gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon (heblaw cwrs gradd gyntaf) ar neu ar ôl 1 Medi 2006 (ac eithrio myfyrwyr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd) yn cael eu hystyried yn fyfyrwyr cymwys dan y drefn newydd pan ddechreuant eu cwrs hyfforddi athrawon.

Mae Rhan 3 o'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth ar gyfer ceisiadau am gymorth (rheoliad 9), terfynau amser ar gyfer ceisiadau (rheoliad 10) ac mae 3 ac Atodlen 3 yn pennu'r wybodaeth y mae'n rhaid i geiswyr ei darparu.

Mae Rhan 4 o'r rheoliadau yn gwneud darpariaeth ar gyfer y grant at ffioedd sydd ar gael i fyfyrwyr cymwys dan yr hen drefn.

Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth newydd ar gyfer benthyciadau at ffioedd. Mae rheoliad 16 yn darparu ar gyfer benthyciad newydd at gyfraniad at ffioedd nad yw'n uwch na £1200 y flwyddyn academaidd ar gyfer myfyrwyr cymwys dan yr hen drefn o ran mynychu cyrsiau dynodedig. £600 yw'r terfyn o dan yr amgylchiadau a bennir yn rheoliad 13(2). Mae rheoliad 17 yn darparu ar gyfer benthyciad at ffioedd hyd at fwyafswm o £3,000 y flwyddyn academaidd ar gyfer myfyrwyr cymwys dan y drefn newydd o ran ffioedd sy'n daladwy ganddynt mewn perthynas â mynychu cyrsiau dynodedig. Y terfyn yw £1500 o dan yr amgylchiadau a bennir yn rheoliad 13(2).

Mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth ar gyfer grantiau at gostau byw. Mae rheoliad 29 yn gwneud darpariaeth ar gyfer grant cynhaliaeth ar sail prawf modd ar gyfer myfyrwyr cymwys dan y drefn newydd. Uchafswm y grant sydd ar gael ar gyfer rhan fwyaf y myfyrwyr yw £2,700. Uchafswm y grant sydd ar gael i fyfyrwyr ar gyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon (heblaw am raddau cyntaf) y mae cyfanswm eu cyfnodau mynychu amser-llawn o leiaf 6 wythnos ond llai na 10 wythnos yw £1,350. Profir y grant cynhaliaeth fel a ganlyn—

Mae rheoliad 30 yn darparu ar gyfer grant cymorth arbennig ar gyfer myfyrwyr cymwys dan y drefn newydd sydd hefyd yn gymwys i gael Cymhorthdal Incwm a budd-daliadau eraill a gyfrifir ar sail prawf modd fel Budd-dal Tai. Yr un yw uchafswm y grant cymorth arbennig sydd ar gael ag uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael. Nid yw myfyrwyr sy'n gymwys i gael grant cymorth arbennig yn gymwys i gael grant cynhaliaeth. Ni roddir y grant cymorth arbennig yn lle unrhyw ran o'r benthyciad cynhaliaeth.

Mae Rhan 7 a Rhan 8 yn gwneud darpariaeth ar gyfer benthyciadau at gostau byw. Bydd myfyrwyr cymwys dan y drefn newydd sy'n gymwys i gael grant cynhaliaeth hefyd yn gymwys i gael benthyciad cynhaliaeth a thelir hyd at £1,200 o'r grant yn lle elfen o'r benthyciad myfyriwr. Gostyngir yr hawl i gael benthyciad cynhaliaeth o £1 am bob £1 o'r grant sy'n daladwy hyd at uchafswm o £1,200.

Mae Rhan 9 ac Atodlen 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer asesiad ariannol o fyfyrwyr ac ar gyfer cyfrifo cyfraniad y myfyriwr cymwys. Mae'r cyfraniad i'w gymhwyso i grantiau a benthyciadau penodedig hyd nes iddo gael ei ddiddymu yn erbyn swm y grantiau a'r benthyciadau penodol y mae gan y myfyriwr hawl i'w cael.

Mae Rhan 10 yn gwneud darpariaeth ar gyfer talu grantiau a benthyciadau. Mae rheoliad 48 yn cyflwyno gofyniad newydd bod sefydliadau i gadarnhau presenoldeb myfyrwyr ar gyrsiau cyn i daliad gael ei wneud. Mae eithriadau ar gyfer myfyrwyr nad ydynt yn gorfforol abl i fod yn bresennol ar y cwrs. Bydd myfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau, ond nad ydynt yn abl i fod yn bresennol ar gwrs oherwydd anabledd yn gymwys i gael cymorth myfyriwr o dan y Rheoliadau ac eithrio'r grant at deithio (rheoliad 2(7)).

Mae Rhan 11 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyrsiau rhan-amser.

Mae Rhan 12 yn gwneud darpariaeth ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig sydd ag anableddau.

Lluniwyd arfarniad rheoliadol o'r Rheoliadau hyn ac fe'i rhoddwyd ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru (www.cymru.gov.uk). Gellir cael copïau oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Yr Is-adran Cyllid Myfyrwyr, Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.