RHAN 12CYMORTH I FYFYRWYR ÔL-RADDEDIG SYDD AG ANABLEDDAU

Myfyrwyr ôl-raddedig cymwys62

1

Mae gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys hawl, yn ddarostyngedig i'r Rhan hon ac yn unol â hi, i gael grant i helpu gyda'r gwariant ychwanegol y mae'n ofynnol iddo ei dynnu mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs ôl-raddedig dynodedig oherwydd anabledd sydd ganddo.

2

Mae person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chwrs ôl-raddedig dynodedig os yw'r person hwnnw'n bodloni'r amodau ym mharagraff (3) ac nad yw wedi'i hepgor gan baragraff (4).

3

Dyma'r amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)—

a

bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu mewn cysylltiad â'r cwrs ôl-raddedig dynodedig fod y person wedi'i grybwyll yn Atodlen 1; a

b

bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni ei bod yn ofynnol i'r person dynnu gwariant ychwanegol mewn perthynas ag ymgymryd â'r cwrs oherwydd anabledd sydd ganddo.

4

Nid yw person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys—

a

os rhoddwyd neu os talwyd iddo mewn perthynas ag ymgymryd â'r cwrs—

i

bwrsari gofal iechyd;

ii

unrhyw lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 199261;

iii

unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarniad o ddisgrifiad tebyg a wnaed gan Gyngor Ymchwil;

iv

unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarniad o ddisgrifiad tebyg a wnaed gan ei sefydliad sy'n cynnwys unrhyw daliad er mwyn talu am wariant ychwanegol a ysgwyddwyd gan y myfyriwr oherwydd ei anabledd; neu

v

unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarniad o ddisgrifiad tebyg a wnaed gan y Cyngor Gofal Cymdeithasol Cyffredinol o dan adran 67(4)(a) o Ddeddf Safonau Gofal 200062 sy'n cynnwys taliad er mwyn talu am wariant ychwanegol a yswyddwyd gan y myfyriwr oherwydd ei anabledd; neu

b

os yw wedi torri rhwymedigaeth o ad-dalu unrhyw fenthyciad;

c

os yw wedi cyrraedd 18 oed ac nad yw wedi cadarnhau unrhyw gytundeb ar gyfer benthyciad a wnaed gydag ef pan oedd o dan 18 oed;

ch

os yw'r person hwnnw, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth.

5

At ddibenion paragraffau (4)(b) a (4)(c) ystyr “benthyciad” (“loan”) yw benthyciad a wneir o dan ddeddfwriaeth benthyciadau myfyrwyr.

6

Pan fo cytundeb ar gyfer benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, nid yw paragraff (4)(c) ond yn gymwys os gwnaed y cytundeb—

a

cyn 25 Medi 1991; a

b

gyda chydsyniad curadur y benthyciwr neu ar adeg pan na fu ganddo guradur.

7

Nid oes gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon os paragraff 7 yw'r unig baragraff o 1 i 8 o Atodlen 1 y mae'n syrthio odano.

8

Nid oes gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon oni bai ei fod yn ymgymryd â'i gwrs yn y Deyrnas Unedig.

9

Er gwaethaf paragraff (2), mae person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys at ddibenion y Rhan hon os yw'n bodloni'r amodau ym mharagraffau (10) neu (11).

10

Yr amodau yn y paragraff hwn yw—

a

bod y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gynharach ar y cwrs ôl-raddedig dynodedig presennol yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf ac nad yw'r statws hwnnw wedi dod i ben neu wedi'i derfynu;

b

bod y person wedi bod yn preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs ôl-raddedig dynodedig presennol; ac

c

nad yw statws y person fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi'i derfynu.

11

Yr amodau yw—

a

bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu o'r blaen fod y person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chwrs ôl-raddedig dynodedig heblaw'r cwrs ôl-raddedig dynodedig presennol; a

b

bod statws y myfyriwr fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs yn is-baragraff (a) wedi'i drosglwyddo o'r cwrs hwnnw i'r cwrs presennol o ganlyniad i drosglwyddo unwaith neu fwy yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf;

c

bod y person wedi bod yn preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs yn is-baragraff (a); ac

ch

nad yw statws y person fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi'i derfynu.

12

Nid oes gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys, ar unrhyw un adeg, hawl i gael cymorth at y canlynol—

a

mwy nag un cwrs ôl-raddedig dynodedig;

b

cwrs ôl-raddedig dynodedig a chwrs dynodedig;

c

cwrs ôl-raddedig dynodedig a chwrs rhan-amser dynodedig.

Cyrsiau ôl-raddedig dynodedig63

Mae cwrs ôl-raddedig yn gwrs dynodedig at ddibenion adran 22(1) o'r Ddeddf a rheoliad 62—

a

os yw'n gwrs y mae angen gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) neu'n radd uwch i gael mynediad iddo fel rheol;

b

os yw'n gwrs—

i

sy'n para o leiaf un flwyddyn academaidd; a

ii

yn achos cwrs rhan-amser, nad yw'n para fwy na dwywaith y cyfnod y mae ei angen fel rheol i gwblhau cwrs amser-llawn sy'n arwain at yr un cymhwyster;

c

os yw'n cael ei ddarparu yn gyfan gwbl gan sefydliad neu sefydliadau addysgol yn y Deyrnas Unedig a ariennir yn gyhoeddus neu'n cael ei ddarparu gan sefydliad neu sefydliadau o'r fath ar y cyd â sefydliad neu sefydliadau y tu allan i'r Deyrnas Unedig; ac

ch

nad yw'n gwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon.

2

At ddibenion paragraff (1)—

a

mae cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad os yw'r sefydliad yn darparu'r addysgu a'r goruchwylio sy'n ffurfio'r cwrs, p'un a yw'r sefydliad wedi gwneud cytundeb gyda'r myfyriwr i ddarparu'r cwrs neu beidio;

b

bernir bod prifysgol ac unrhyw goleg neu sefydliad cyfansoddol sydd o natur coleg prifysgol yn cael eu hariannu'n gyhoeddus os yw naill ai'r brifysgol neu'r coleg neu sefydliad cyfansoddol yn cael eu hariannu'n gyhoeddus; ac

c

ni fernir bod sefydliad yn cael ei ariannu'n gyhoeddus dim ond am ei fod yn cael arian cyhoeddus oddi wrth gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 199263.

3

At ddibenion adran 22 o'r Ddeddf a rheoliad 62, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddynodi cyrsiau addysg uwch nad ydynt wedi'u dynodi o dan baragraff (1).

Cyfnod cymhwystra64

1

Mae myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn cadw ei statws fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys drwy gydol y cyfnod cymhwystra.

2

Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, mae “cyfnod cymhwystra” (“period of eligibility”) ym mharagraff (1) yn hafal i'r cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs ôl-raddedig dynodedig.

3

Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, ar unrhyw adeg, adnewyddu neu estyn y cyfnod cymhwystra am unrhyw gyfnod ychwanegol y bydd yn penderfynu arno.

4

Mae'r cyfnod cymhwystra yn terfynu pan fydd y myfyriwr ôl-raddedig cymwys—

a

yn tynnu'n ôl o'i gwrs ôl-raddedig dynodedig o dan amgylchiadau lle nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi trosglwyddo neu lle na fydd yn trosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys i gwrs arall o dan reoliad 65; neu

b

yn rhoi'r gorau i'w gwrs ôl-raddedig dynodedig neu'n cael ei ddiarddel oddi arno.

5

Caiff y Cynulliad Cenedlaethol derfynu'r cyfnod cymhwystra os yw'r myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth.

6

Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rhan hon neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymryd unrhyw rai o'r camau canlynol y mae'n credu eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau—

a

terfynu'r cyfnod cymhwystra;

b

penderfynu nad oes gan y myfyriwr hawl mwyach i gael grant neu unrhyw swm penodol o grant;

c

trin unrhyw gymorth a dalwyd i'r myfyriwr fel gordaliad y caniateir ei adennill o dan reoliad 70.

Trosglwyddo statws65

1

Os yw myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn trosglwyddo i gwrs ôl-raddedig arall, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys i'r cwrs hwnnw—

a

os caiff gais oddi wrth y myfyriwr ôl-raddedig cymwys am wneud hynny;

b

os yw wedi'i fodloni bod un neu fwy o'r seiliau dros drosglwyddo ym mharagraff (2) yn gymwys; ac

c

os nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi dod i ben neu wedi'i derfynu.

2

Dyma'r seiliau dros drosglwyddo y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—

a

bod y myfyriwr ôl-raddedig cymwys, ar argymhelliad yr awdurdod academaidd, yn dechrau ymgymryd â chwrs ôl-raddedig dynodedig arall yn y sefydliad; neu

b

bod y myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn dechrau ymgymryd â chwrs ôl-raddedig dynodedig mewn sefydliad arall gyda chydsyniad awdurdod academaidd y sefydliad hwnnw.

3

Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) barhau, am weddill y flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo ynddi, i gael mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo y cymorth y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu bod ganddo hawl i'w gael mewn perthynas â'r cwrs y mae'n trosglwyddo oddi wrtho.

4

Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ailasesu swm y cymorth sy'n daladwy ar ôl y trosglwyddo yn unol â'r Rhan hon.

Ceisiadau am gymorth66

1

Rhaid i berson (y “ceisydd”) wneud cais am grant o dan y Rhan hon mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd ar gwrs ôl-raddedig dynodedig drwy lenwi a chyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol gais ar unrhyw ffurf a chan ddarparu unrhyw ddogfennau y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdanynt.

2

Rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

3

Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol er mwyn penderfynu a yw'r ceisydd yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys, a oes ganddo hawl i gael grant a swm y grant sy'n daladwy, os oes swm yn daladwy o gwbl.

4

Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r ceisydd a oes gan y ceisydd hawl i gael grant neu beidio ac, os oes gan y ceisydd hawl, y swm sy'n daladwy mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, os oes swm yn daladwy o gwbl.

Gwybodaeth67

Mae Atodlen 3 yn gymwys i roi gwybodaeth.

Swm grantiau68

Y grant o dan y Rhan hon yw unrhyw swm sy'n briodol ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, heb fod yn fwy na £5,780 mewn perthynas â blwyddyn academaidd.

Talu grantiau69

1

Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu'r grant y mae gan fyfyriwr hawl i'w gael o dan y Rhan hon a hynny mewn unrhyw randaliadau (os oes rhandaliadau) ac ar unrhyw adegau y mae'n credu eu bod yn briodol ac wrth arfer ei swyddogaethau o dan y paragraff hwn fe gaiff wneud taliadau dros dro hyd nes y ceir cyfrifiad terfynol swm y grant y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael.

2

Caniateir i daliadau gael eu gwneud mewn unrhyw fodd sy'n briodol ym marn y Cynulliad Cenedlaethol a chaiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn un o amodau'r hawl i gael taliad fod rhaid i'r myfyriwr ôl-raddedig cymwys roi i'r Cynulliad Cenedlaethol fanylion cyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y gall taliadau gael eu talu iddo drwy eu trosglwyddo'n electronig.

Gordalu70

1

Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn iddo, rhaid i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd iddo o dan y Rhan hon sydd am ba reswm bynnag yn fwy na swm y grant y mae ganddo hawlogaeth i'w gael o dan y Rhan hon.

2

Caniateir i unrhyw ordaliad grant o dan y Rhan hon gael ei adennill ym mha un neu fwy bynnag o'r ffyrdd canlynol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu eu bod yn briodol o dan yr holl amgylchiadau—

a

drwy dynnu'r gordaliad o unrhyw fath o grant sy'n daladwy i'r myfyriwr o dro i dro yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf;

b

drwy gymryd unrhyw gamau eraill i adennill gordaliad sydd ar gael i'r Cynulliad Cenedlaethol.