RHAN 6GRANTIAU AT GOSTAU BYW
Amodau cyffredinol yr hawl i gael grantiau at gostau byw18
1
Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant at gostau byw o dan y Rhan hon ar yr amod—
a
nad yw'r myfyriwr wedi'i hepgor rhag bod â hawl gan unrhyw un o'r paragraffau canlynol, rheoliad 6 neu reoliad 7; a
b
bod y myfyriwr yn bodloni amodau'r hawl i gael y grant penodol at gostau byw y mae'n gwneud cais amdano.
2
Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant at gostau byw o dan y Rhan hon os paragraff 7 yw'r unig baragraff o baragraffau 1 i 8 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn syrthio odano.
3
Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant at gostau byw o dan y Rhan hon mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd—
a
pryd y mae'r myfyriwr yn gymwys i gael unrhyw daliad o dan fwrsari gofal iechyd y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr;
b
pryd y mae'r myfyriwr yn gymwys i gael lwfans gofal iechyd yr Alban y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr; neu
c
cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon pryd y mae cyfanswm y cyfnodau o bresenoldeb amser-llawn, gan gynnwys presenoldeb er mwyn ymarfer dysgu, yn llai na 6 wythnos.
4
Nid yw paragraff (3)(c) yn gymwys at ddibenion rheoliad 19.
5
Ac eithrio grant o dan reoliad 20, nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant at gostau byw o dan y Rhan hon mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd ar gwrs rhyngosod os yw cyfanswm y cyfnodau o astudio amser-llawn yn llai na 10 wythnos oni bai bod y cyfnodau o brofiad gwaith yn wasanaeth di-dâl.
6
At ddibenion paragraff (5), ystyr “gwasanaeth di-dâl” (“unpaid service”) yw—
a
gwasanaeth di-dâl mewn ysbyty neu mewn labordy gwasanaeth iechyd cyhoeddus neu gydag ymddiriedolaeth gofal sylfaenol yn y Deyrnas Unedig;
b
gwasanaeth di-dâl gydag awdurdod lleol yn y Deyrnas Unedig sy'n gweithredu i arfer eu swyddogaethau sy'n ymwneud â gofal plant a phersonau ifanc, iechyd neu les neu gyda chorff gwirfoddol sy'n darparu cyfleusterau neu sy'n cynnal gweithgareddau o natur debyg yn y Deyrnas Unedig;
c
gwasanaeth di-dâl yn y gwasanaeth carchardai neu'r gwasanaeth prawf ac ôl-ofal yn y Deyrnas Unedig;
ch
ymchwil ddi-dâl mewn sefydliad yn y Deyrnas Unedig neu, yn achos myfyriwr sy'n bresennol mewn sefydliad tramor fel rhan o'i gwrs, mewn sefydliad tramor; neu
d
gwasanaeth di-dâl gydag—
i
ii
Bwrdd Iechyd neu Fwrdd Iechyd Arbennig a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 197843; neu
iii
Bwrdd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a sefydlwyd o dan Erthygl 16 o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 197244.
7
Os daw myfyriwr yn fyfyriwr cymwys yn ystod blwyddyn academaidd o ganlyniad i un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (8), fe gaiff y myfyriwr fod â hawl i gael grant penodol at gostau byw yn unol â'r Rhan hon mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno ond nid oes ganddo hawl i gael grant at gostau byw mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.
8
Dyma'r digwyddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (7)—
a
bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dynodedig; neu
b
bod y myfyriwr, priod y myfyriwr, partner sifil y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu ei fod yn cael caniatâd i ddod i mewn neu i aros fel y'i crybwyllir ym mharagraff 3 o Atodlen 1.
Grantiau at gostau byw myfyrwyr anabl19
1
Mae gan fyfyriwr cymwys hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant i helpu gyda'r gwariant ychwanegol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni ei bod yn ofynnol i'r myfyriwr ei dynnu mewn perthynas ag ymgymryd â chwrs dynodedig oherwydd anabledd sydd ganddo.
2
Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn oni bai bod y myfyriwr yn ymgymryd â'r cwrs yn y Deyrnas Unedig.
3
Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, swm y grant o dan y rheoliad hwn yw'r swm sy'n briodol ym marn y Cynulliad Cenedlaethol.
4
Rhaid i swm y grant beidio â bod yn fwy na'r canlynol—
a
£12,135 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at wariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol;
b
£4,795 mewn perthynas â phob blwyddyn academaidd yn ystod y cyfnod cymhwystra at wariant ar eitemau mawr o offer arbenigol;
c
y gwariant ychwanegol sy'n cael ei dynnu—
i
yn y Deyrnas Unedig er mwyn bod yn bresennol yn y sefydliad,
ii
yn y Deyrnas Unedig neu'r tu allan iddi er mwyn bod yn bresennol, fel rhan o'i gwrs, ar unrhyw gyfnod astudio mewn sefydliad tramor neu er mwyn bod yn bresennol yn y Sefydliad Prydeinig ym Mharis;
ch
£1,605 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at unrhyw wariant arall gan gynnwys gwariant sy'n cael ei dynnu at y dibenion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) neu (b) sy'n fwy na'r uchafsymiau penodedig.
5
Os yw'r myfyriwr cymwys wedi cael taliadau i helpu gyda gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol mewn cysylltiad â'r cwrs yn rhinwedd y ffaith bod ganddo ddyfarniad trosiannol, mae uchafswm y grant o dan baragraff (4)(b) yn cael ei ostwng yn ôl swm y taliadau hynny.
6
Uchafswm y grant o dan baragraffau (4)(a) a (4)(ch) yw £9,105 a £1,200, yn y drefn honno—
a
os yw myfyriwr cymwys yn bresennol ar gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon; a
b
os yw cyfanswm y cyfnodau o bresenoldeb amser-llawn mewn unrhyw flwyddyn academaidd ar y cwrs hwnnw, (gan gynnwys presenoldeb er mwyn ymarfer dysgu) yn llai na 6 wythnos.
Grantiau i fyfyrwyr sydd wedi ymadael â gofal20
1
Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig os yw'r amodau ym mharagraff (2) wedi'u bodloni.
2
Dyma'r amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—
a
bod y myfyriwr cymwys o dan 21 oed ar ddiwrnod cyntaf y cwrs;
b
bod y myfyriwr cymwys yn syrthio o fewn paragraff 2(dd) o Atodlen 4; ac
c
ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, fod y myfyriwr cymwys o dan fwy o galedi ariannol yn rhinwedd y ffaith ei fod yn syrthio o fewn paragraff 2(dd) o Atodlen 4 nag a fuasai fel arall.
3
Yn ddarostyngedig i baragraff (4), swm y grant yw unrhyw swm y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu ei fod yn briodol o dan yr amgylchiadau.
4
Uchafswm y grant yw £100 am bob wythnos neu ran o wythnos mewn blwyddyn academaidd—
a
sy'n syrthio o fewn y gwyliau hiraf a gymerir; a
b
na fydd y myfyriwr yn bresennol ar ei gwrs yn ystod yr un rhan ohoni.
Grantiau ar gyfer dibynyddion- cyffredinol21
1
Mae'r grant ar gyfer dibynyddion yn cynnwys yr elfennau canlynol—
a
grant dibynyddion mewn oed;
b
grant gofal plant;
c
lwfans dysgu rhieni.
2
Nodir amodau hawlio pob elfen a'r symiau sy'n daladwy yn rheoliadau 22 i 25.
3
Caniateir didynnu o unrhyw un o elfennau'r grant ar gyfer dibynyddion yn unol â rheoliad 46.
Grantiau ar gyfer dibynyddion- grant dibynyddion mewn oed22
1
Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant dibynyddion mewn oed mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig yn unol â'r rheoliad hwn.
2
Mae'r grant dibynyddion mewn oed ar gael mewn perthynas â naill ai—
a
partner y myfyriwr cymwys; neu
b
dibynnydd mewn oed i'r myfyriwr cymwys nad yw ei incwm net yn fwy na £3,350.
3
Mae swm y grant dibynyddion mewn oed sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliad 25, a'r swm sylfaenol yw—
a
£2,455; neu
b
pan fo'r person y mae'r myfyriwr cymwys yn gwneud cais mewn cysylltiad ag ef am grant dibynyddion mewn oed yn preswylio fel arfer y tu allan i'r Deyrnas Unedig, unrhyw swm nad yw'n fwy na £2,455 ac sydd ym marn y Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol yn yr amgylchiadau.
4
Mae swm y grant dibynyddion mewn oed a gyfrifir o dan reoliad 25 yn cael ei ostwng o hanner—
a
os yw partner y myfyriwr cymwys—
i
yn fyfyriwr cymwys; neu
ii
yn dal dyfarniad statudol; a
b
os cymerir dibynyddion y partner hwnnw i ystyriaeth wrth gyfrifo swm y cymorth y mae'r partner hwnnw â hawl i'w gael neu'r taliad y mae ganddo hawlogaeth iddo o dan y dyfarniad statudol.
Grantiau ar gyfer dibynyddion- grant gofal plant23
1
Mae gan fyfyriwr cymwys, mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig, hawl i gael grant mewn perthynas â chostau gofal plant ar gyfer pob plentyn dibynnol yn unol â'r rheoliad hwn.
2
Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant gofal plant mewn perthynas â blwyddyn academaidd os yw'r gofal plant yn cael ei ddarparu gan ddarparydd gofal plant wedi'i gymeradwyo neu wedi'i gofrestru—
a
os yw'r plentyn o dan 15 oed yn union cyn dechrau'r flwyddyn academaidd; neu
b
os oes gan y plentyn anghenion addysgol arbennig o fewn yr ystyr a briodolir i “special educational needs” yn adran 312 o Ddeddf Addysg 199645 a'i fod o dan 17 oed yn union cyn dechrau'r flwyddyn academaidd.
3
Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn os yw'r myfyriwr neu bartner y myfyriwr wedi dewis cael yr elfen gofal plant o'r credyd treth gweithio o dan Ran I o Ddeddf Credydau Treth 200246.
4
Yn ddarostyngedig i baragraff (5), swm sylfaenol y grant gofal plant am bob wythnos yw—
a
ar gyfer un plentyn dibynnol, 85 y cant o gostau'r gofal plant, hyd at uchafswm o £175 yr wythnos; neu
b
ar gyfer dau neu fwy o blant dibynnol, 85 y cant o gostau'r gofal plant, hyd at uchafswm o £300 yr wythnos,
ac eithrio nad oes gan y myfyriwr hawl i gael unrhyw grant o'r fath mewn perthynas â phob wythnos sy'n syrthio o fewn y cyfnod rhwng diwedd y cwrs a diwedd y flwyddyn academaidd y daw'r cwrs i ben ynddi.
5
Er mwyn cyfrifo swm sylfaenol y grant gofal plant—
a
mae wythnos yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sul; a
b
os yw wythnos y caiff costau gofal plant eu tynnu mewn perthynas â hi yn syrthio'n rhannol o fewn y flwyddyn academaidd y mae grant gofal plant yn daladwy mewn perthynas â hi o dan y rheoliad hwn ac yn rhannol y tu allan iddi, mae uchafswm wythnosol y grant yn cael ei gyfrifo drwy luosi'r uchafswm wythnosol perthnasol ym mharagraff (4) â chyfrannedd y nifer o ddyddiau yn yr wythnos honno sy'n syrthio o fewn y flwyddyn academaidd o'i chymharu â nifer y dyddiau mewn wythnos.
6
Mae swm y grant gofal plant a gyfrifir o dan reoliad 25 yn cael ei ostwng o hanner—
a
os yw partner y myfyriwr cymwys—
i
yn fyfyriwr cymwys; neu
ii
yn dal dyfarniad statudol; a
b
os cymerir dibynyddion y partner hwnnw i ystyriaeth wrth gyfrifo swm y cymorth y mae'r partner hwnnw â hawl i'w gael neu'r taliad y mae ganddo hawlogaeth iddo o dan y dyfarniad statudol.
7
Yn y rheoliad hwn—
a
ystyr “darparydd gofal plant wedi'i gymeradwyo” (“approved childcare provider”) yw darparydd gofal plant o fewn yr ystyr a briodolir i “childcare provider” yn Rheoliadau Credydau Treth (Categori Newydd o Ddarparydd Gofal Plant) 199947 ac sydd wedi'i gymeradwyo yn unol â'r Rheoliadau hynny; a
b
ystyr “darparydd gofal plant wedi'i gofrestru” (“registered childcare provider”) yw person sy'n gweithredu fel gofalwr plant neu sy'n darparu gofal dydd ac sydd wedi'i gofrestru o fewn ystyr adran 79F o Ddeddf Plant 198948 (cofrestru neu wrthod cofrestru gofalwyr plant a phersonau sy'n darparu gofal dydd i blant ifanc).
Grantiau ar gyfer dibynyddion- lwfans dysgu rhieni24
1
Mae gan fyfyriwr cymwys hawl mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig i gael y lwfans dysgu rhieni os oes gan y myfyriwr un neu fwy o blant dibynnol.
2
Mae swm y lwfans dysgu rhieni sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliad 25, a'r swm sylfaenol yw £1,400.
Grantiau ar gyfer dibynyddion- eu cyfrifo25
1
Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, y swm sy'n daladwy mewn perthynas ag elfen benodol o'r grant ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i'w gael o dan reoliadau 22 i 24 yw'r swm hwnnw o'r elfen honno sy'n weddill ar ôl cymhwyso, hyd nes y daw i ben, swm sy'n hafal i (A− B) fel a ganlyn ac yn y drefn ganlynol—
a
i ostwng swm sylfaenol y grant dibynyddion mewn oed os oes gan y myfyriwr cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 22;
b
i ostwng swm sylfaenol y grant gofal plant am y flwyddyn academaidd os oes gan y myfyriwr cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 23; ac
c
i ostwng swm sylfaenol y lwfans dysgu rhieni os oes gan y myfyriwr cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 24.
2
Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), os yw B yn fwy na neu'n hafal i A, mae swm sylfaenol pob elfen o'r grant ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i'w chael yn daladwy.
3
Os yw (A−B) yn hafal i neu'n fwy na chyfanswm symiau sylfaenol elfennau'r grant ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i'w cael, y swm sy'n daladwy mewn perthynas â phob elfen yw dim.
4
Rhaid gostwng swm y grant dibynyddion mewn oed a gyfrifir o dan y rheoliad hwn yn unol â rheoliad 22(4).
5
Rhaid gostwng swm y grant gofal plant a gyfrifir o dan y rheoliad hwn yn unol â rheoliad 23(6).
6
Os yw swm y lwfans dysgu rhieni a gyfrifir o dan baragraff (1) yn £0.01 neu fwy ond yn llai na £50, swm y lwfans dysgu rhieni sy'n daladwy yw £50.
7
Yn y rheoliad hwn—
A yw cyfanswm incwm net pob un o ddibynyddion y myfyriwr cymwys; a
B yw £1,075 os nad oes gan y myfyriwr cymwys blentyn dibynnol;
£3,225 os nad yw'r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;
£4,300 os nad yw'r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol;
£4,300 os yw'r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;
£5,380 os yw'r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol.
8
Mae paragraffau (9) i (12) yn gymwys os bydd unrhyw un o'r canlynol yn digwydd, yn ystod y flwyddyn academaidd—
a
bod nifer dibynyddion y myfyriwr cymwys yn newid;
b
bod person yn dod yn ddibynnydd i'r myfyriwr cymwys neu'n peidio â bod yn ddibynnydd iddo;
c
bod y myfyriwr cymwys yn dod yn rhiant unigol neu'n peidio â bod yn rhiant unigol;
ch
bod myfyriwr yn dod yn fyfyriwr cymwys o ganlyniad i ddigwyddiad y cyfeirir ato yn rheoliad 18(8).
9
Er mwyn penderfynu priod werthoedd A a B ac a oes grant dibynyddion mewn oed neu lwfans dysgu rhieni yn daladwy, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu ar y canlynol mewn perthynas â phob chwarter perthnasol drwy gyfeirio at amgylchiadau'r myfyriwr yn y chwarter perthnasol—
a
faint o ddibynyddion y mae'r myfyriwr cymwys i gael ei drin fel pe baent ganddo;
b
pwy yw'r dibynyddion hynny;
c
a yw'r myfyriwr i gael ei drin fel rhiant unigol.
10
Swm y grant ar gyfer dibynyddion am y flwyddyn academaidd yw cyfanswm y grant dibynyddion mewn oed a'r lwfans dysgu rhieni wedi'u cyfrifo mewn perthynas â phob chwarter perthnasol o dan baragraff (11) a swm unrhyw grant gofal plant am y flwyddyn academaidd.
11
Mae swm y grant dibynyddion mewn oed a'r lwfans dysgu rhieni mewn perthynas â chwarter perthnasol yn draean o swm y grant neu'r lwfans am y flwyddyn academaidd pe bai amgylchiadau'r myfyriwr yn y chwarter perthnasol fel y'u pennir o dan baragraff (9) yn gymwys drwy gydol y flwyddyn academaidd.
12
Yn y rheoliad hwn, ystyr “chwarter perthnasol” (“relevant quarter”) yw—
a
yn achos person y cyfeirir ato ym mharagraff (8)(ch), chwarter sy'n dechrau ar ôl i'r digwyddiad perthnasol ddigwydd heblaw chwarter pryd y mae'r un hiraf o unrhyw wyliau yn digwydd, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol;
b
fel arall, chwarter heblaw'r chwarter pryd y mae'r un hiraf o unrhyw wyliau yn digwydd, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol.
Grantiau ar gyfer dibynyddion- dehongli26
1
Yn rheoliadau 21 i 25—
a
ystyr “dibynnol” (“dependent”) yw ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf;
b
ystyr “dibynnydd” (“dependant”), mewn perthynas â myfyriwr cymwys, yw partner y myfyriwr, plentyn dibynnol y myfyriwr neu ddibynnydd mewn oed, nad yw ym mhob achos yn fyfyriwr cymwys ac nad oes ganddo ddyfarniad statudol;
c
ystyr “dibynnydd mewn oed” (“adult dependant”), mewn perthynas â myfyriwr cymwys, yw person mewn oed sy'n dibynnu ar y myfyriwr heblaw plentyn y myfyriwr, partner neu gyn bartner y myfyriwr (gan gynnwys priod neu bartner sifil nad yw fel arfer yn preswylio gyda'r myfyriwr);
ch
mae i “incwm net” (“net income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (2);
d
yn ddarostyngedig i is-baragraffau (dd), (e) ac (f), ystyr “partner” (“partner”) yw unrhyw un o'r canlynol—
i
priod myfyriwr cymwys;
ii
partner sifil myfyriwr cymwys;
iii
person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai'n briod i'r myfyriwr hwnnw os yw myfyriwr cymwys yn syrthio o fewn paragraff 2(a) o Atodlen 4 a'i fod yn dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;
iv
person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai'n bartner sifil i'r myfyriwr cymwys os yw myfyriwr cymwys yn syrthio o fewn paragraff 2(a) o Atodlen 4 a'i fod yn dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;
dd
nid yw person a fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (d) yn cael ei drin fel partner—
i
os yw'r person hwnnw a'r myfyriwr cymwys, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, wedi rhoi'r gorau i fyw gyda'i gilydd fel arfer; neu
ii
os yw'r person fel arfer yn byw y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac nad yw'n cael ei gynnal gan y myfyriwr cymwys;
e
at ddibenion is-baragraff (c), mae person yn cael ei drin fel partner pe bai'r person yn bartner o dan is-baragraff (d) oni bai am y ffaith nad yw'r myfyriwr cymwys y mae'r person fel arfer yn byw gydag ef yn syrthio o fewn paragraff 2(a) o Atodlen 4;
f
at ddibenion is-baragraffau (ff) ac (g), mae person yn cael ei drin fel partner pe bai'r person yn bartner o dan is-baragraff (d) oni bai am y dyddiad y dechreuodd y myfyriwr cymwys ar ei gwrs neu'r ffaith nad yw'r myfyriwr cymwys y mae'r person fel arfer yn byw gydag ef yn syrthio o fewn paragraff 2(a) o Atodlen 4;
ff
mae “plentyn” (“child”) mewn perthynas â myfyriwr cymwys yn cynnwys unrhyw blentyn i'w bartner ac unrhyw blentyn y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant drosto os yw'r plant hynny'n dibynnu ar y myfyriwr; ac
g
ystyr “rhiant unigol” (“lone parent”) yw myfyriwr cymwys nad oes ganddo bartner ac sydd â phlentyn dibynnol neu blant dibynnol.
2
Yn ddarostyngedig i baragraff (3), incwm net dibynnydd yw incwm y dibynnydd o bob ffynhonnell am y flwyddyn academaidd o dan sylw wedi'i ostwng yn ôl swm y dreth incwm a'r cyfraniadau nawdd cymdeithasol sy'n daladwy mewn perthynas â hi ond gan anwybyddu—
a
unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a delir oherwydd anabledd neu analluedd sydd gan y dibynnydd;
b
budd-dal plant sy'n daladwy o dan Ran IX o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 199249;
c
unrhyw gymorth ariannol sy'n daladwy i'r dibynnydd gan awdurdod lleol yn unol â rheoliadau a wnaed o dan baragraff 3 o Atodlen 4 i Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 200250;
ch
unrhyw lwfans gwarcheidwad y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i'w gael o dan adran 77 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992;
d
yn achos dibynnydd y mae plentyn sy'n derbyn gofal awdurdod lleol wedi'i fyrddio gydag ef, unrhyw daliad a wneir i'r dibynnydd hwnnw yn unol ag adran 23 o Ddeddf Plant 198951;
dd
unrhyw daliadau a wneir i'r dibynnydd o dan adran 15 o Ddeddf Plant 1989 ac Atodlen 1 iddi mewn perthynas â pherson nad yw'n blentyn i'r dibynnydd neu unrhyw gymorth a roddir gan awdurdod lleol yn unol ag adran 24 o'r Ddeddf honno; ac
e
unrhyw gredyd treth plant y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i'w gael o dan Ran I o Ddeddf Credydau Treth 2002.
3
Os yw myfyriwr cymwys neu bartner y myfyriwr yn gwneud unrhyw daliadau ailgylchol a oedd gynt yn cael eu gwneud gan y myfyriwr yn unol â rhwymedigaeth a ysgwyddwyd cyn blwyddyn academaidd gyntaf cwrs y myfyriwr, incwm net y partner yw'r incwm net wedi'i gyfrifo yn unol â pharagraff (2) wedi'i ostwng yn ôl—
a
swm sy'n hafal i'r taliadau o dan sylw am y flwyddyn academaidd, os cafodd y rhwymedigaeth, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, ei hysgwyddo'n rhesymol; neu
b
unrhyw swm llai, os bydd unrhyw swm o gwbl, sy'n briodol ym marn y Cynulliad Cenedlaethol pe gallai rhwymedigaeth lai fod wedi'i hysgwyddo'n rhesymol, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol.
4
At ddibenion paragraff (2), os yw'r dibynnydd yn blentyn dibynnol a bod taliadau'n cael eu gwneud i'r myfyriwr cymwys tuag at gynhaliaeth y plentyn, mae'r taliadau hynny i gael eu trin fel incwm y plentyn.
Grantiau at deithio27
1
Mae grant ar gael i fyfyriwr cymwys sy'n bresennol ar gwrs mewn meddygaeth neu ddeintyddiaeth (y mae cyfnod o astudio drwy hyfforddiant clinigol yn rhan angenrheidiol ohono) mewn perthynas â'r gwariant rhesymol y mae'n ofynnol iddo ei dynnu mewn blwyddyn academaidd er mwyn bod yn bresennol mewn cysylltiad â'i gwrs mewn unrhyw ysbyty neu fangre arall yn y Deyrnas Unedig (nad yw'n rhan o'r sefydliad) lle darperir cyfleusterau ar gyfer hyfforddiant clinigol heblaw gwariant sy'n cael ei dynnu at ddibenion astudiaethau preswyl i ffwrdd o'r sefydliad.
2
Mae grant ar gael i fyfyriwr cymwys mewn perthynas â'r gwariant rhesymol y mae'n ofynnol iddo ei dynnu mewn blwyddyn academaidd yn y Deyrnas Unedig neu y tu allan iddi er mwyn bod yn bresennol mewn sefydliad dros y môr neu'r Sefydliad Prydeinig ym Mharis am gyfnod o wyth wythnos o leiaf fel rhan o'i gwrs.
3
Mae swm y grant sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn hafal i'r gwariant rhesymol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu ei bod yn ofynnol i'r myfyriwr cymwys ei dynnu at y dibenion ym mharagraff (1) neu baragraff (2).
4
Wrth benderfynu ar y gwariant sy'n cael ei dynnu gan fyfyriwr cymwys mae £285 o'r gwariant hwnnw'n cael ei anwybyddu.
5
At ddibenion y rheoliad hwn mae unrhyw gyfeiriad at wariant sy'n cael ei dynnu er mwyn bod yn bresennol mewn sefydliad neu ar gyfnod o astudio—
a
yn cynnwys gwariant cyn bod yn bresennol felly ac wedyn; a
b
yn hepgor unrhyw wariant y mae grant yn daladwy mewn perthynas ag ef o dan reoliad 19.
6
Os bydd myfyriwr cymwys yn bresennol mewn sefydliad dros y môr neu'r Sefydliad Prydeinig ym Mharis am gyfnod o wyth wythnos o leiaf fel rhan o'i gwrs a'i fod yn rhesymol yn dynnu unrhyw wariant i yswirio yn erbyn atebolrwydd am gost triniaeth feddygol sy'n cael ei darparu y tu allan i'r Deyrnas Unedig ar gyfer unrhyw salwch neu anaf i'r corff a geir neu a ddioddefir yn ystod y cyfnod hwnnw, mae ganddo hawl i gael grant ychwanegol o dan y rheoliad hwn sy'n hafal i'r swm sy'n cael ei dynnu felly.
7
Caniateir didynnu o'r grant o dan y rheoliad hwn yn unol â rheoliad 46.
Grantiau addysg uwch28
1
Mae gan fyfyriwr cymwys dan yr hen drefn hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant addysg uwch mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig i dalu costau llyfrau, offer, teithio neu ofal plant sy'n cael eu tynnu er mwyn bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw.
2
Nid oes gan fyfyriwr cymwys dan yr hen drefn hawl i gael grant addysg uwch oni bai ei fod wedi dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2004.
3
Uchafswm y grant addysg uwch sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £1,000.
4
Mae gan fyfyriwr cymwys sydd â hawl i gael grant addysg uwch hawlogaeth i gael swm fel a ganlyn—
a
mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn £15,970 neu lai, mae ganddo hawlogaeth i gael uchafswm y grant sydd ar gael;
b
mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn fwy na £15,970 ac nad yw'n fwy na £21,955, mae'r myfyriwr yn derbyn swm hafal i M− A, pan fo M yn £1,000 ac A yn £1 am bob £6.30 cyflawn o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £15,970; ac mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn fwy nag £21,955, nid oes grant yn daladwy o dan y rheoliad hwn.
Grant cynhaliaeth29
1
Mae gan fyfyriwr cymwys dan y drefn newydd hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant cynhaliaeth at gostau byw mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig.
2
Nid oes gan fyfyriwr cymwys dan y drefn newydd hawl i gael grant cynhaliaeth os oes ganddo hawl i gael grant cymorth arbennig.
3
Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant cynhaliaeth oni bai ei fod yn dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2006.
4
Uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw—
a
yn achos myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon, £1,350;
b
yn achos myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, £2,700; ac
c
yn achos myfyriwr dan y drefn newydd ac eithrio myfyriwr math 1 neu fath 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, £2,700.
5
Mae myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—
a
os yw incwm yr aelwyd yn £17,500 neu lai, mae'n cael £1,350;
b
os yw incwm yr aelwyd uwchlaw £17,500 ond heb fod uwchlaw £26,500, bydd yn cael swm hafal i M−(A/2) pan fo M yn £1,350 ac A yn £1 am bob £6 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £17,500; ac
c
os yw incwm yr aelwyd uwchlaw £26,500, bydd yn cael £600.
6
Mae myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—
a
os yw incwm yr aelwyd yn £17,500 neu lai, bydd yn cael £2,700;
b
os yw incwm yr aelwyd uwchlaw £17,500 ond heb fod uwchlaw £26,500, bydd yn cael swm hafal i M− A pan fo M yn £2,700 ac A yn £1 am bob £6 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £17,500; ac
c
os yw incwm yr aelwyd uwchlaw £26,500, bydd yn cael £1,200.
7
Mae myfyriwr cymwys dan y drefn newydd ac eithrio myfyriwr math 1 neu fath 2 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—
a
os yw incwm yr aelwyd yn £17,500 neu lai, bydd yn cael £2,700;
b
os yw incwm yr aelwyd uwchlaw £17,500 ond heb fod uwchlaw £26,500, bydd yn cael swm hafal i M− A pan fo M yn £2,700 ac A yn £1 am bob £6 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £17,500; ac
c
os yw incwm yr aelwyd uwchlaw £26,500 ond heb fod uwchlaw £37,425, bydd yn derbyn swm hafal i RM−A, pan fo RM yn £1,200 ac A yn £1 am bob £9.50 cyflawn o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £26,500;
ch
os yw incwm yr aelwyd uwchlaw £37,425 ni thelir grant cynhaliaeth.
Grant Cymorth Arbennig30
1
Mae gan fyfyriwr cymwys dan y drefn newydd hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant cymorth arbennig mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig i dalu cost llyfrau, offer, teithio neu ofal plant sy'n cael ei dynnu er mwyn bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw.
2
Mae gan fyfyriwr dan y drefn newydd hawl i gael grant cymorth arbennig os yw'n syrthio o fewn categori rhagnodedig o berson at ddibenion adran 124(1)(e) o Ddeddf Cyfraniadau Nawdd Cymdeithasol a Budd-daliadau 1992.
3
Uchafswm y grant cymorth arbennig sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw—
a
yn achos myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon, £1,350;
b
yn achos myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, £2,700; ac
c
yn achos myfyriwr dan y drefn newydd ac eithrio myfyriwr math 1 neu fath 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, £2,700.
4
Mae myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—
a
os yw incwm yr aelwyd yn £17,500 neu lai, mae'n cael £1,350;
b
os yw incwm yr aelwyd uwchlaw £17,500 ond heb fod uwchlaw £26,500, mae'n cael swm hafal i M−(A/2) pan fo M yn £1,350 ac A yn £1 am bob £6 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £17,500; ac
c
os yw incwm yr aelwyd uwchlaw £26,500, mae'n cael £600.
5
Mae myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—
a
os yw incwm yr aelwyd yn £17,500 neu lai, mae'n cael £2,700;
b
os yw incwm yr aelwyd uwchlaw £17,500 ond heb fod uwchlaw £26,500, mae'n cael swm hafal i M-A pan fo M yn £2,700 ac A yn £1 am bob £6 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £17,500; ac
c
os yw incwm yr aelwyd uwchlaw £26,500, mae'n cael £1,200.
6
Mae myfyriwr cymwys dan y drefn newydd ac eithrio myfyriwr math 1 neu fath 2 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—
a
os yw incwm yr aelwyd yn £17,500 neu lai, mae'n cael £2,700;
b
os yw incwm yr aelwyd uwchlaw £17,500 ond heb fod uwchlaw £26,500, mae'n cael swm hafal i M−A pan fo M yn £2,700 ac A yn £1 am bob £6 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £17,500; ac
c
os yw incwm yr aelwyd uwchlaw £26,500 ond heb fod uwchlaw £37,425, bydd yn derbyn swm hafal i RM− A, pan fo RM yn £1,200 ac A yn £1 am bob £9.50 cyflawn o incwm yr aelwyd uwchlaw £26,500;
ch
os yw incwm yr aelwyd uwchlaw £37,425, ni thelir grant cynhaliaeth.