RHAN 7BENTHYCIADAU AT GOSTAU BYW

Uchafswm benthyciadau i fyfyrwyr cymwys dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn33

1

Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn, ac eithrio myfyriwr math 1 neu fath 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, pan fo incwm yr aelwyd uwchlaw £37,900.

2

Yn ddarostyngedig i reoliadau 36 i 41, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd (ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs carlam) yn hafal i (X−Y)—

  • Os

  • X

    1. i

      i fyfyriwr yng nghategori 1, yw £3,415;

    2. ii

      i fyfyriwr yng nghategori 2, yw £6,170;

    3. iii

      i fyfyriwr yng nghategori 3, yw £5,255;

    4. iv

      i fyfyriwr yng nghategori 4, yw £5,255;

    5. v

      i fyfyriwr yng nghategori 5, yw £4,405;

  • Y yw swm y grant cynhaliaeth.

3

Yn ddarostyngedig i reoliadau 36 i 41, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n flwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs carlam yn hafal i (X−Y)—

  • Os

  • X

    1. i

      i fyfyriwr yng nghategori 1, yw £3,085;

    2. ii

      i fyfyriwr yng nghategori 2, yw £5,620;

    3. iii

      i fyfyriwr yng nghategori 3, yw £4,570;

    4. iv

      i fyfyriwr yng nghategori 4, yw £4,570;

    5. v

      i fyfyriwr yng nghategori 5, yw £4,080;

  • Y yw swm y grant cynhaliaeth.

4

Yn y rheoliad hwn, “swm y grant cynhaliaeth” (“the maintenance grant amount”)—

a

os oes gan y myfyriwr hawl o dan reoliad 29 i gael swm o grant cynhaliaeth heb fod uwchlaw £1,200, yw swm y grant cynhaliaeth sy'n daladwy;

b

os oes gan y myfyriwr hawl o dan reoliad 29 i gael swm o grant cynhaliaeth uwchlaw £1,200, yw £1,200; ac

c

os nad oes grant cynhaliaeth yn daladwy, yw dim.