RHAN 7BENTHYCIADAU AT GOSTAU BYW

Myfyrwyr sy'n dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd39

1

Os yw myfyriwr yn dod yn fyfyriwr cymwys yn ystod blwyddyn academaidd o ganlyniad i un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (2), gall fod gan y myfyriwr hwnnw hawl i gael benthyciad at gostau byw, mewn perthynas â'r chwarteri hynny o'r flwyddyn academaidd honno y mae benthyciad at gostau byw yn daladwy ynddynt sy'n dechrau ar ôl i'r digwyddiad perthnasol ym mharagraff (2) ddigwydd.

2

Y digwyddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—

a

bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dynodedig; neu

b

bod y myfyriwr, priod y myfyriwr, partner sifil y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu'n cael caniatád i ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros yno fel y crybwyllir ym mharagraff 3 o Atodlen 1.

3

Nid oes gan fyfyriwr cymwys y mae paragraff (1) yn gymwys iddo hawl i gael benthyciad at gostau byw mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y mae'r digwyddiad perthnasol yn digwydd.

4

Uchafswm y benthyciad at gostau byw sy'n daladwy yw cyfanswm uchafsymiau'r benthyciad am bob chwarter y mae gan y myfyriwr hawl i gael cymorth o dan y rheoliad hwn.

5

Uchafswm y benthyciad am bob chwarter o'r fath yw traean o uchafswm y benthyciad a fyddai'n gymwys am y flwyddyn academaidd pe bai'r myfyriwr yn syrthio i'r categori sy'n gymwys i'r chwarter perthnasol drwy gydol y flwyddyn academaidd.