RHAN 8DARPARIAETHAU CYFFREDINOL YNGLŷN Å BENTHYCIADAU

Llog44

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), bydd benthyciadau'n cario llog yn ôl y gyfradd a fydd yn arwain at gyfradd ganrannol flynyddol o dâl a bennir yn unol â Rheoliadau Credyd Defnyddwyr (Cyfanswm y Tâl am Gredyd) 198052 sy'n hafal i'r cynnydd canrannol rhwng y mynegai prisiau manwerthu pob eitem a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer Mawrth 2004 a'r mynegai a gyhoeddwyd ganddi ar gyfer Mawrth 2005.

2

Os yw'r gyfradd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yn fwy na'r gyfradd sydd am y tro wedi'i phennu at ddibenion unrhyw esemptiad sydd wedi'i roi yn rhinwedd adran 16(5)(b) o Ddeddf Credyd Defnyddwyr 197453 bydd benthyciadau'n cario llog yn ôl y gyfradd sydd wedi'i phennu felly.

3

Cyfrifir llog ar y prifswm sy'n weddill bob dydd ac mae'n cael ei ychwanegu at y prifswm bob mis.

4

Y mynegai prisiau y mae adran 22(8) o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol roi sylw iddo wrth ragnodi cyfradd llog benthyciadau yw'r mynegai prisiau manwerthu pob eitem a grybwyllir ym mharagraff (1).