ATODLEN 1MYFYRWYR CYMWYS
1
Person sydd ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—
a
wedi setlo yn y Deyrnas Unedig o fewn ystyr Deddf Ymfudo 197165; a
b
yn bodloni'r amodau preswylio y cyfeirir atynt ym mharagraff 9.
2
Person sy'n ffoadur, sydd fel arfer yn preswylio yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd, sydd heb roi'r gorau i breswylio felly ers cael ei gydnabod fel ffoadur, neu sy'n briod, yn bartner sifil neu'n blentyn i ffoadur o'r fath, ac ym mhob achos yn bodloni'r amod preswylio ym mharagraff 9(a).
3
Person sydd—
a
wedi cael gwybod gan berson sy'n gweithredu o dan awdurdod yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gartref y credir ei bod yn gywir caniatáu iddo ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu aros yno, er na fernir bod y person yn gymwys i'w gydnabod fel ffoadur;
b
wedi cael caniatâd i ddod i mewn neu i aros yn unol â hyn; ac
c
wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers cael caniatâd i ddod i mewn neu aros,
neu sy'n briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu'n llysblentyn i berson o'r fath, os yw'r person neu, yn ôl fel y digwydd, y priod, y partner sifil, y plentyn neu'r llysblentyn, yn bodloni'r amodau preswylio y cyfeirir atynt ym mharagraff 9.
4
Person sy'n weithiwr mudol o'r AEE ac sydd—
a
â hawlogaeth i gael cymorth yn rhinwedd Erthygl 7(2) neu (3) o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1612/68 ynghylch rhyddid symud i weithwyr yn y Gymuned66, fel y'i hestynnwyd gan Gytundeb yr AEE neu Erthygl 9(3) o Atodiad I i Gytundeb y Swistir neu, os yw'r person yn un o wladolion y Deyrnas Unedig, yn rhinwedd hawl Gymunedol orfodadwy i gael ei drin heb fod yn llai ffafriol na gwladolyn i Aelod-wladwriaeth arall mewn perthynas â materion sy'n destun y naill neu'r llall o'r Erthyglau hyn; a
b
yn bodloni'r amodau preswylio y cyfeirir atynt ym mharagraff 9.
5
Person sy'n briod neu'n bartner sifil i weithiwr mudol o'r AEE ac sydd—
a
wedi'i leoli yn y Deyrnas Unedig gyda'i briod neu ei bartner sifil; a
b
yn bodloni'r amodau preswylio y cyfeirir atynt ym mharagraff 9.
6
Person sy'n blentyn i weithiwr mudol o'r AEE ac sydd—
a
â hawlogaeth i gael cymorth yn rhinwedd Erthygl 12 o Reoliad y Cyngor a grybwyllwyd uchod neu Erthygl 3(6) o Atodiad I i Gytundeb y Swistir, neu, os yw rhiant y person sy'n weithiwr mudol yn un o wladolion y Deyrnas Unedig, yn rhinwedd hawl Gymunedol orfodadwy i gael ei drin heb fod yn llai ffafriol na phlentyn i wladolyn Aelod-wladwriaeth arall mewn perthynas â materion sy'n destun y naill neu'r llall o'r Erthyglau hyn; a
b
yn bodloni'r amodau preswylio y cyfeirir atynt ym mharagraff 9.
At ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” (“parent”) yn cynnwys gwarcheidwad, unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn ac unrhyw berson sy'n gofalu am blentyn ac mae “plentyn” yn cael ei ddehongli yn unol â hyn.
7
Person sydd ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn wladolyn i un o Aelod-wladwriaethau'r Gymuned Ewropeaidd neu'n blentyn y wladolyn o'r fath—
a
y mae ei gwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad neu sefydliadau yng Nghymru neu gan sefydliad neu sefydliadau yng Nghymru ar y cyd â sefydliad neu sefydliadau y tu allan i'r Deyrnas Unedig; a
b
sy'n bodloni'r amodau preswylio y cyfeirir atynt ym mharagraffau 9(b) ac (c); ac
c
nad yw'n syrthio o fewn paragraff 8.
8
Person sydd, ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs, yn wladolyn o Aelod-wladwriaeth y Gymuned Ewropeaidd—
a
sydd fel arfer yn preswylio yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
b
a fu'n preswylio fel arfer drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd;
c
sydd, os yw'n wladolyn o'r Deyrnas Unedig, â hawl i gael ei drin nid yn llai ffafriol na gwladolyn o Aelod-wladwriaeth arall yn rhinwedd ei fod wedi arfer hawl Gymunedol i rydd-symudiad; ac
ch
oedd, mewn achos lle yr oedd ei breswyliad arferol y cyfeirir ato yn is-baragraff (b) yn gyfan gwbl neu'n bennaf at ddibenion cael addysg amser-llawn, yn preswylio fel arfer yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd yn union cyn cyfnod o breswyliad arferol y cyfeirir ato is-baragraff (b).
9
Dyma'r amodau preswylio y cyfeirir atynt uchod—
a
bod y person fel arfer yn preswylio yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
b
bod y person wedi bod yn preswylio fel arfer drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, yn achos person a grybwyllir ym mharagraffau 1 neu 3, yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu, yn achos person a grybwyllir ym mharagraffau 4, 5, 6 neu 7, yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Swistir; ac
c
nad yw preswyliad y person yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Swistir, yn ôl fel y digwydd, yn ystod unrhyw ran o'r cyfnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (b) wedi bod yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn cael addysg amser-llawn.