ATODLEN 3GWYBODAETH
1.
Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael cais am wneud hynny, rhaid i bob ceisydd, pob myfyriwr cymwys, pob myfyriwr rhan-amser cymwys a phob myfyriwr ôl-raddedig cymwys roi i'r Cynulliad Cenedlaethol unrhyw wybodaeth y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu bod arno ei hangen at ddibenion y Rheoliadau hyn.
2.
Rhaid i bob ceisydd, pob myfyriwr cymwys, pob myfyriwr rhan-amser cymwys a phob myfyriwr ôl-raddedig cymwys roi gwybod ar unwaith i'r Cynulliad Cenedlaethol a rhoi'r manylion iddo os bydd unrhyw rai o'r canlynol yn digwydd—
(a)
ei fod yn tynnu'n ôl o'i gwrs, yn rhoi'r gorau iddo neu'n cael ei ddiarddel oddi arno;
(b)
ei fod yn trosglwyddo i unrhyw gwrs arall yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad gwahanol;
(c)
ei fod yn rhoi'r gorau i ymgymryd â'i gwrs ac nad yw'n bwriadu parhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd neu nad yw'n cael caniatâd i barhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd;
(ch)
ei fod yn absennol o'i gwrs am fwy na 60 diwrnod oherwydd salwch neu am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm arall;
(d)
bod y mis ar gyfer dechrau'r cwrs neu ei gwblhau yn newid;
(dd)
bod ei gyfeiriad neu ei rif ffôn gartref neu yn ystod y tymor yn newid.
3.
Rhaid i'r wybodaeth a roddir i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan y Rheoliadau hyn fod yn y ffurf y gofynnir amdani gan y Cynulliad Cenedlaethol ac, os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn bod yr wybodaeth yn cael ei llofnodi gan y person sy'n ei rhoi, caniateir i lofnod electronig ar unrhyw ffurf a bennir gan y Cynulliad Cenedlaethol fodloni'r gofyniad hwnnw.