Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 3 Gorffennaf 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2. Yn y Rheoliadau hyn–
ystyr “aelod o'r staff” (“member of staff”) yw rhywun a benodwyd i neu sydd mewn swydd daledig neu gyflogaeth, o dan awdurdod perthnasol;
ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
ystyr “camau disgyblu” (“disciplinary action”) mewn perthynas ag aelod o staff awdurdod perthnasol yw unrhyw weithred a achosir gan gamymddwyn honedig a fuasai, o'i phrofi, yn ôl trefn arferol yr awdurdod, yn cael ei chofnodi ar ffeil bersonol yr aelod o'r staff, ac sy'n cynnwys unrhyw gynnig i ddiswyddo aelod o'r staff am unrhyw reswm ac eithrio colli swydd, afiechyd parhaol neu lesgedd meddwl neu gorff, ond nid yw'n cynnwys methiant i adnewyddu contract cyflogaeth am dymor penodol oni ymrwymodd yr awdurdod perthnasol i adnewyddu'r cyfryw gontract;
ystyr “cydbwyllgor perthnasol” (“relevant joint committee”), mewn perthynas ag awdurdod perthnasol, yw cydbwyllgor y cynrychiolir yr awdurdod perthnasol arno;
ystyr “ Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989;
ystyr “Deddf 2000” (“the 2002 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000(1);
ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, dydd Sul, Noswyl Nadolig, Dydd Nadolig, Dydd Iau Cablyd, Gwener y Groglith, gwyl banc yng Nghymru neu ddiwrnod a bennwyd ar gyfer diolchgarwch neu alaru cyhoeddus (ac ystyr “gŵ yl banc” yw diwrnod i'w gadw ato felly dan adran 1 ac Atodlen 1 i Ddeddf Bancio a Masnachu Ariannol 1971(2));
mae i “maer etholedig”, “corff gweithredol”, “trefniadau gweithredol” ac “arweinydd gweithredol” yr un ystyr sydd i “elected mayor”, “executive”, “executive arrangements” ac “executive leader” yn Rhan II o Ddeddf 2000;
ystyr “pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod” (“head of the authority’s paid service”) yw'r swyddog a ddynodwyd dan adran 4(1) o Ddeddf 1989 (dynodiad ac adroddiadau pennaeth gwasanaeth taledig);
ystyr “prif swyddog” (“chief officer”), mewn perthynas ag awdurdod perthnasol, yw–
pennaeth ei wasanaeth taledig;
ei swyddog monitro;
prif swyddog statudol a grybwyllir ym mharagraff (a), (c) neu (d) o adran 2(6) o Ddeddf 1989, neu
prif swyddog anstatudol (yn ystyr adran 2(7) Deddf 1989);
ac mae unrhyw gyfeiriad at benodi neu benodiad arfaethedig prif swyddog yn cynnwys cyfeiriad at gyflogi neu gyflogi arfaethedig y cyfryw swyddog dan gontract cyflogaeth;
ystyr “prif swyddog cyllid” (“chief finance officer”) yw'r swyddog sydd â chyfrifoldeb, at ddibenion adran 151 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(3) (gweinyddiaeth gyllidol) am weinyddu materion cyllidol yr awdurdod lleol;
ystyr “Rheoliadau 1993” (“the 1993 Regulations”) yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) 1993(4);
mae i “rheolwr cyngor” (“council manager”) yr un ystyr ag yn adran 11(4)(b) o Ddeddf 2000;
ystyr “swyddog monitro” (“monitoring officer”) yw swyddog a ddynodwyd dan adran 5(1) o Ddeddf 1989(5) (dynodiad ac adroddiadau swyddog monitro); ac
mae i “trefniadau amgen” yr un ystyr sydd i “alternative arrangements” yn Rhan II o Ddeddf 2000 (trefniadau parthed cyrff gweithredol etc.).
Rheolau sefydlog yn ymwneud â phrif swyddogion
3. Ddim hwyrach na chyfarfod arferol cyntaf yr awdurdod perthnasol fydd yn digwydd wedi'r diwrnod y daw'r Rheoliadau hyn i rym, rhaid i'r awdurdod perthnasol, o ran penodi ei brif swyddogion–
(a)wneud rheolau sefydlog yn ymgorffori'r canlynol–
(i)y darpariaethau a osodir yn Rhan 1 o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn, neu
(ii)ddarpariaethau sydd yn cael yr un effaith, neu
(iii)ddarpariaethau sydd yn ymgorffori effaith y darpariaethau hynny a addaswyd fel y darperir ar eu cyfer yn Rhan 2 o'r Atodlen honno; a
(b)addasu unrhyw reolau sefydlog sydd yn bodoli ar hyn o bryd i'r graddau y bo hynny'n angenrheidiol i gydymffurfio â'r darpariaethau hynny;
ac ni ddylent wedi hynny amrywio rheolau sefydlog a wnaed neu a addaswyd felly ac eithrio o ran ymgorffori darpariaeth a gaiff yr effaith a ddisgrifir yn Rhan 2 o'r Atodlen honno neu ddarpariaethau sy'n cael yr un effaith.
Rheolau Sefydlog yn ymwneud â Chyfarfodydd a Thrafodion
4.—(1) Ddim hwyrach na chyfarfod arferol cyntaf yr awdurdod perthnasol fydd yn digwydd wedi'r diwrnod y daw'r Rheoliadau hyn i rym, rhaid i'r awdurdod perthnasol, o ran y materion a grybwyllir ym mharagraff (2)–
(a)wneud rheolau sefydlog yn ymgorffori'r darpariaethau a osodir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn, neu ddarpariaethau sydd yn cael yr un effaith; a
(b)addasu unrhyw reolau sefydlog sy'n bodoli eisoes i'r graddau y bo hynny'n angenrheidiol i gydymffurfio â'r darpariaethau hynny.
(2) Y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw–
(a)cofnodi pleidleisiau'r awdurdod perthnasol neu unrhyw rai o'i bwyllgorau neu ei is-bwyllgorau, neu o unrhyw gydbwyllgor perthnasol, neu is-bwyllgor o unrhyw bwyllgor o'r fath; a
(b)llofnodi cofnodion yr awdurdod perthnasol.
Trefniadau gweithredol- rheolau sefydlog yn ymwneud â staff
5.—(1) Yn amodol ar baragraff (3) o reoliad 11, pan fydd awdurdod perthnasol yn gweithredu trefniadau gweithrediaeth o dan Ran II o Ddeddf 2000, rhaid iddo pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym:
(a)lle bo corff gweithredol awdurdod perthnasol ar ffurf a bennir yn adran 11(2) o Ddeddf 2000 (maer a chabinet gweithredol), ymgorffori mewn rheolau sefydlog yn ymwneud â'i staff(6) y darpariaethau a osodir yn Rhan 1 o Atodlen 3 neu ddarpariaethau sydd yn cael yr un effaith;
(b)lle bo eu corff gweithredol ar y ffurf a bennir yn adran 11(3) o Ddeddf 2000 (arweinydd a chabinet gweithredol), ymgorffori mewn rheolau sefydlog yn ymwneud â'i staff y darpariaethau a osodir yn Rhan 2 o Atodlen 3 neu ddarpariaethau sydd yn cael yr un effaith; ac
(c)lle bo eu corff gweithredol ar y ffurf a bennir yn adran 11(4) o Ddeddf 2000 (maer a rheolwr gweithredol cyngor), ymgorffori mewn rheolau sefydlog yn ymwneud â'i staff y darpariaethau a osodir yn Rhan 2 o Atodlen 3 neu ddarpariaethau sydd yn cael yr un effaith; ac
(ch)addasu unrhyw rai o'u rheolau sefydlog sy'n bodoli eisoes i'r graddau y bo hyn yn angenrheidiol i gydymffurfio â'r darpariaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (a), (b) ac (c).
(2) Pan fo awdurdod perthnasol wedi ymgorffori darpariaethau mewn rheolau sefydlog fel ym mharagraff (1) rhaid iddo, lle bwriada newid ei drefniadau gweithredol fel y bydd y corff gweithredol ar ffurf wahanol, wneud amrywiadau i'w reolau sefydlog i'r graddau y bo hyn yn angenrheidiol i gydymffurfio â'r darpariaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a), (b), (c) neu (d) o baragraff (1), pa un bynnag sydd yn gymwys, ar neu cyn y dyddiad pryd y dechreua weithredu'r trefniadau gweithredol newydd hynny.
Trefniadau amgen- rheolau sefydlog yn ymwneud â staff
6. Yn amodol ar baragraff (3) rheoliad 11, rhaid i awdurdod perthnasol sy'n gweithredu trefniadau amgen o dan Ran II o Ddeddf 2000 wneud y canlynol–
(a)ymgorffori mewn rheolau sefydlog yn ymwneud â'i staff y darpariaethau a osodir yn Rhan 4 o Atodlen 3 neu ddarpariaethau sydd yn cael yr un effaith; a
(b)addasu unrhyw rai o'i rheolau sefydlog sy'n bodoli eisoes i'r graddau y bo hyn yn angenrheidiol i gydymffurfio â'r darpariaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a).
Rheolau sefydlog yn ymwneud â staff
7. Lle bo gan awdurdod perthnasol reolau sefydlog yn ymgorffori'r darpariaethau ym mharagraff 4(1) Rhan 1, paragraff 4(1) o Ran 2 neu baragraff 4 o Ran 4 Atodlen 3 (neu ddarpariaethau sydd yn cael yr un effaith), rhaid i'r pŵ er i gymeradwyo penodiad neu ddiswyddiad pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod gael ei arfer gan yr awdurdod perthnasol ei hun, ac yn unol â hynny ni fydd adran 101 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (trefniadau ar gyfer gweithredu swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys i arfer y pŵ er hwnnw.
Rheolau sefydlog o ran camau disgyblu
8. Ddim hwyrach na chyfarfod arferol cyntaf yr awdurdod perthnasol fydd yn digwydd wedi'r diwrnod y daw'r Rheoliadau hyn i rym, rhaid i'r awdurdod perthnasol, o ran camau disgyblu yn erbyn pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod, ei swyddog monitro neu ei brif swyddog cyllid–
(a)ymgorffori mewn rheolau sefydlog y darpariaethau a osodir yn Atodlen 4 neu ddarpariaethau sydd yn cael yr un effaith; a
(b)addasu unrhyw rai o'i rheolau sefydlog sy'n bodoli eisoes i'r graddau y bo hyn yn angenrheidiol i gydymffurfio â'r darpariaethau hynny.
Ymchwilio i gamymddwyn honedig
9.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (11), ar ôl i awdurdod perthnasol ymgorffori darpariaethau yn y rheolau sefydlog yn unol â rheoliad 8, os yw'n ymddangos i'r awdurdod perthnasol bod honiad o gamymddwyn a all arwain at gamau disgyblu wedi cael ei wneud yn erbyn–
(a)pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod;
(b)ei swyddog monitro; neu
(c)ei brif swyddog cyllid,
(“y swyddog perthnasol”), yn ôl y digwydd, rhaid i'r awdurdod perthnasol benodi pwyllgor (“pwyllgor ymchwilio”) i ystyried y camymddwyn honedig.
(2) Rhaid i'r pwyllgor ymchwilio:
(a)cynnwys 3 aelod o leiaf o'r awdurdod perthnasol;
(b)bod yn wleidyddol gytbwys yn unol ag adran 15 o Ddeddf 1989; a
rhaid iddo, cyn pen 1 mis ar ôl ei benodiad, ystyried yr honiad o gamymddwyn a phenderfynu a ddylid ymchwilio iddo ymhellach.
(3) At ddibenion ystyried yr honiad o gamymddwyn, caiff y pwyllgor ymchwilio:
(a)holi'r swyddog perthnasol neu unrhyw berson arall y mae'n ystyried sy'n briodol;
(b)gofyn i'r swyddog perthnasol neu unrhyw berson arall y mae'n ystyried sy'n briodol i roi iddo yr wybodaeth honno, yr esboniad hwnnw neu'r dogfennau hynny y mae'n ystyried sy'n angenrheidiol o fewn terfyn amser penodedig; ac
(c)derbyn sylwadau ysgrifenedig neu lafar oddi wrth y swyddog perthnasol neu unrhyw berson arall y mae'n ystyried sy'n briodol.
(4) Os yw'n ymddangos i'r pwyllgor ymchwilio y dylai honiad o gamymddwyn gan y swyddog perthnasol gael ei ymchwilio ymhellach, rhaid iddo benodi person (“y person annibynnol dynodedig”) at ddibenion y rheol sefydlog sy'n ymgorffori'r darpariaethau yn Atodlen 4 (neu ddarpariaethau sy'n cael yr un effaith).
(5) Rhaid mai'r person annibynnol dynodedig sy'n cael ei benodi–
(a)yw'r person hwnnw y cytunir arno rhwng yr awdurdod perthnasol a'r swyddog perthnasol o fewn 1 mis o'r dyddiad y cododd y gofyniad i benodi'r person annibynnol dynodedig; neu
(b)os nad oes cytundeb o'r fath, y person hwnnw a enwebir at y diben gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
(6) O ran y person annibynnol dynodedig–
(a)caiff gyfarwyddo–
(i)bod yr awdurdod perthnasol yn diweddu unrhyw ataliad dros dro ar y swyddog perthnasol;
(ii)bod unrhyw ataliad dros dro o'r fath i barhau ar ôl i'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff 3 o Atodlen 4 ddod i ben (neu mewn darpariaethau sy'n cael yr un effaith);
(iii)bod telerau unrhyw ataliad dros dro o'r fath sydd wedi digwydd i'w hamrywio yn unol â'r cyfarwyddyd; neu
(iv)nad oes camau i'w cymryd (p'un ai gan yr awdurdod perthnasol neu unrhyw bwyllgor, is-bwyllgor neu swyddog sy'n gweithredu ar ran yr awdurdod perthnasol) o ran camau disgyblu neu gamau disgyblu pellach yn erbyn y swyddog perthnasol heblaw camau a gymerir ym mhresenoldeb, neu gyda chytundeb, y person annibynnol dynodedig, cyn bod adroddiad wedi'i lunio o dan is-baragraff (ch);
(b)caiff arolygu unrhyw ddogfennau sy'n ymwneud ag ymddygiad swyddog perthnasol sydd ym meddiant yr awdurdod perthnasol, y mae gan yr awdurdod y pŵ er i awdurdodi'r person annibynnol dynodedig i'w harchwilio;
(c)caiff ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw aelod neu aelod o staff yr awdurdod perthnasol yn ateb cwestiynau ynghylch ymddygiad y swyddog perthnasol;
(ch)rhaid iddo lunio adroddiad i'r awdurdod perthnasol–
(i)yn datgan barn a yw'r dystiolaeth a gafwyd (ac, os felly, i ba raddau) y mae'r dystiolaeth a gafwyd yn ategu unrhyw honiad o gamymddwyn yn erbyn y swyddog perthnasol; a
(ii)yn argymell unrhyw gamau disgyblu sy'n ymddangos yn briodol i'r awdurdod perthnasol eu cymryd yn erbyn y swyddog perthnasol, a
(d)rhaid iddo heb fod yn hwyrach na'r amser y llunnir yr adroddiad o dan is-baragraff (ch), anfon copi o'r adroddiad at y swyddog perthnasol.
(7) Yn ddarostyngedig i baragraff (8), rhaid i'r swyddog perthnasol a'r awdurdod perthnasol, ar ôl ymghynghori â'r person annibynnol dynodedig, geisio cytuno ar amserlen y mae'r person annibynnol dynodedig i ymgymryd â'i ymchwiliad yn unol â hi.
(8) Pan na cheir cytundeb o dan baragraff (7), rhaid i'r person annibynnol dynodedig osod amserlen y mae'r person hwnnw'n ystyried ei bod yn briodol y dylid ymgymryd â'r ymchwiliad yn unol â hi.
(9) Rhaid i'r awdurdod perthnasol ystyried yr adroddiad a gafodd ei baratoi o dan baragraff (6)(ch) o fewn 1 mis ar ôl cael yr adroddiad hwnnw.
(10) Rhaid i awdurdod perthnasol dalu tâl rhesymol i berson annibynnol dynodedig a benodwyd gan y pwyllgor ymchwilio ac unrhyw gostau a dynnir wrth iddo gyflawni ei swyddogaethau o dan y rheoliad hwn neu mewn cysylltiad â chyflawni'r swyddogaethau hynny.
(11) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys o ran pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod os yw'r person hwnnw hefyd yn rheolwr cyngor yr awdurdod perthnasol(7).
Dirymu Rheoliadau 1993
10. Dirymir trwy hyn Reoliadau 1993 mewn perthynas â Chymru ac eithrio i'r graddau eu bod yn gymwys i Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru.
Darpariaethau trosiannol ac ôl-ddilynol
11.—(1) Yn amodol ar baragraff (2), lle gwnaeth awdurdod perthnasol reolau sefydlog yn ymgorffori'r darpariaethau a osodir ym mharagraff 4 o Ran 1 o Atodlen 1 i Reoliadau 1993 (neu ddarpariaethau sydd yn cael yr un effaith), yna hyd nes y bydd yr awdurdod perthnasol yn ymgorffori darpariaethau yn y rheolau sefydlog hynny yn unol â rheoliad 8, bydd rheoliad 9 yn gymwys o ran y rheolau sefydlog hynny o ran pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod fel y byddai o ran rheolau sefydlog sydd yn ymgorffori darpariaethau yn unol â rheoliad 8.
(2) Parthed unrhyw beth a wnaed cyn y dyddiad y mae'r awdurdod perthnasol yn ymgorffori darpariaethau mewn rheolau sefydlog yn unol â rheoliad 8, gan, i, neu mewn perthynas â swyddog yn unol â'r canlynol–
(a)rheoliad 3 o reoliadau 1993;
(b)y darpariaethau a osodir ym mharagraff 4 o Ran 1 o Atodlen 1 i Reoliadau 1993 (neu ddarpariaethau sydd yn cael yr un effaith) a ymgorfforwyd yn rheolau sefydlog yr awdurdod perthnasol; neu
(c)rheoliad 9 fel y'i cymhwysir gan baragraff (1),
gellir parhau i'w wneud wedi'r dyddiad hwnnw gan, i neu mewn perthynas â'r swyddog hwnnw yn unol â'r darpariaethau y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraffau (a), (b) neu (c), pa un bynnag sy'n briodol.
(3) Rhaid i awdurdod perthnasol gydymffurfio â gofynion rheoliad 5 neu, yn ôl y digwydd, rheoliad 6 mor fuan ag sy'n rhesymol ymarferol wedi i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(8).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Mai 2006