Enwi, cychwyn a chymhwysoLL+C

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 3 Gorffennaf 2006.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 3.7.2006, gweler rhl. 1(1)

DehongliLL+C

2.  Yn y Rheoliadau hyn–

ystyr “aelod o'r staff” (“member of staff”) yw rhywun a benodwyd i neu sydd mewn swydd daledig neu gyflogaeth, o dan awdurdod perthnasol;

ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru [F1(yn ddarostyngedig i reoliad 4A)] ;

ystyr “camau disgyblu” (“disciplinary action”) mewn perthynas ag aelod o staff awdurdod perthnasol yw unrhyw weithred a achosir gan gamymddwyn honedig a fuasai, o'i phrofi, yn ôl trefn arferol yr awdurdod, yn cael ei chofnodi ar ffeil bersonol yr aelod o'r staff, ac sy'n cynnwys unrhyw gynnig i ddiswyddo aelod o'r staff am unrhyw reswm ac eithrio colli swydd, afiechyd parhaol neu lesgedd meddwl neu gorff, ond nid yw'n cynnwys methiant i adnewyddu contract cyflogaeth am dymor penodol oni ymrwymodd yr awdurdod perthnasol i adnewyddu'r cyfryw gontract;

ystyr “cydbwyllgor perthnasol” (“relevant joint committee”), mewn perthynas ag awdurdod perthnasol, yw cydbwyllgor y cynrychiolir yr awdurdod perthnasol arno;

[F2mae i “cydnabyddiaeth ariannol” yr un ystyr â “remuneration” yn adran 43(3) o Ddeddf Lleoliaeth 2011(3);.]

ystyr “ Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989;

ystyr “Deddf 2000” (“the 2002 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000(1);

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, dydd Sul, Noswyl Nadolig, Dydd Nadolig, Dydd Iau Cablyd, Gwener y Groglith, gwyl banc yng Nghymru neu ddiwrnod a bennwyd ar gyfer diolchgarwch neu alaru cyhoeddus (ac ystyr “gŵ yl banc” yw diwrnod i'w gadw ato felly dan adran 1 ac Atodlen 1 i Ddeddf Bancio a Masnachu Ariannol 1971(2));

mae i “maer etholedig”, “corff gweithredol”, “trefniadau gweithredol” ac “arweinydd gweithredol” yr un ystyr sydd i “elected mayor”, “executive”, “executive arrangements” ac “executive leader” yn Rhan II o Ddeddf 2000;

[F3ystyr “pennaeth gwasanaethau democrataidd” (“head of democratic services”) yw’r swyddog a ddynodwyd o dan adran 8 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (pennaeth gwasanaethau democrataidd)(2); a]

F4...

ystyr “prif swyddog” (“chief officer”), mewn perthynas ag awdurdod perthnasol, yw–

(a)

[F5ei brif weithredwr;]

(b)

ei swyddog monitro;

(c)

prif swyddog statudol a grybwyllir ym mharagraff (a), (c) neu (d) o adran 2(6) o Ddeddf 1989, neu

(ch)

prif swyddog anstatudol (yn ystyr adran 2(7) Deddf 1989);

ac mae unrhyw gyfeiriad at benodi neu benodiad arfaethedig prif swyddog yn cynnwys cyfeiriad at gyflogi neu gyflogi arfaethedig y cyfryw swyddog dan gontract cyflogaeth;

ystyr “prif swyddog cyllid” (“chief finance officer”) yw'r swyddog sydd â chyfrifoldeb, at ddibenion adran 151 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(3) (gweinyddiaeth gyllidol) am weinyddu materion cyllidol yr awdurdod lleol;

[F6ystyr “prif weithredwr” (“chief executive”) yw’r person a benodir yn brif weithredwr o dan adran 54 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;]

ystyr “Rheoliadau 1993” (“the 1993 Regulations”) yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) 1993(4);

F7...

ystyr “swyddog monitro” (“monitoring officer”) yw swyddog a ddynodwyd dan adran 5(1) o Ddeddf 1989(5) (dynodiad ac adroddiadau swyddog monitro); F8...

F9...

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 3.7.2006, gweler rhl. 1(1)

Rheolau sefydlog yn ymwneud â phrif swyddogionLL+C

3.  Ddim hwyrach na chyfarfod arferol cyntaf yr awdurdod perthnasol fydd yn digwydd wedi'r diwrnod y daw'r Rheoliadau hyn i rym, rhaid i'r awdurdod perthnasol, o ran penodi ei brif swyddogion–

(a)wneud rheolau sefydlog yn ymgorffori'r canlynol–

(i)y darpariaethau a osodir yn Rhan 1 o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn, neu

(ii)ddarpariaethau sydd yn cael yr un effaith, neu

(iii)ddarpariaethau sydd yn ymgorffori effaith y darpariaethau hynny a addaswyd fel y darperir ar eu cyfer yn Rhan 2 o'r Atodlen honno; a

(b)addasu unrhyw reolau sefydlog sydd yn bodoli ar hyn o bryd i'r graddau y bo hynny'n angenrheidiol i gydymffurfio â'r darpariaethau hynny;

ac ni ddylent wedi hynny amrywio rheolau sefydlog a wnaed neu a addaswyd felly ac eithrio o ran ymgorffori darpariaeth a gaiff yr effaith a ddisgrifir yn Rhan 2 o'r Atodlen honno neu ddarpariaethau sy'n cael yr un effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 3.7.2006, gweler rhl. 1(1)

Rheolau Sefydlog yn ymwneud â Chyfarfodydd a ThrafodionLL+C

4.—(1Ddim hwyrach na chyfarfod arferol cyntaf yr awdurdod perthnasol fydd yn digwydd wedi'r diwrnod y daw'r Rheoliadau hyn i rym, rhaid i'r awdurdod perthnasol, o ran y materion a grybwyllir ym mharagraff (2)–

(a)wneud rheolau sefydlog yn ymgorffori'r darpariaethau a osodir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn, neu ddarpariaethau sydd yn cael yr un effaith; a

(b)addasu unrhyw reolau sefydlog sy'n bodoli eisoes i'r graddau y bo hynny'n angenrheidiol i gydymffurfio â'r darpariaethau hynny.

(2Y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw–

(a)cofnodi pleidleisiau'r awdurdod perthnasol neu unrhyw rai o'i bwyllgorau neu ei is-bwyllgorau, neu o unrhyw gydbwyllgor perthnasol, neu is-bwyllgor o unrhyw bwyllgor o'r fath; a

(b)llofnodi cofnodion yr awdurdod perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 3.7.2006, gweler rhl. 1(1)

[F10Rheolau sefydlog sy’n ymwneud ag awdurdodau cynllunio lleolLL+C

4A.(1) Yn y rheoliad hwn—

ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru sy’n —

(a)

cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;

(b)

bwrdd cydgynllunio(2); neu

(c)

awdurdod Parc Cenedlaethol(3);

ystyr “pwyllgor” (“committee”) yw pwyllgor awdurdod perthnasol sy’n cyflawni swyddogaeth berthnasol ac mae’n cynnwys is-bwyllgor;

mae i “swyddogaeth berthnasol” yr un ystyr a roddir i “relevant function” gan adran 319ZD o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(4).

(2) Heb fod yn hwyrach na chyfarfod arferol cyntaf yr awdurdod perthnasol ar ôl 5 Mai 2017, ac mewn cysylltiad â’r materion a grybwyllir ym mharagraff (3), rhaid i’r awdurdod perthnasol—

(a)gwneud rheolau sefydlog sy’n ymgorffori’r darpariaethau a nodir yn Atodlen 2A, neu ddarpariaethau sy’n cael yr un effaith; a

(b)addasu unrhyw rai o’u rheolau sefydlog presennol i’r graddau y bo’n angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â’r darpariaethau hynny.

(3) Y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—

(a)cworwm ar gyfer cyfarfod pwyllgor;

(b)[F11aelodaeth pwyllgor]]

Trefniadau gweithredol- rheolau sefydlog yn ymwneud â staffLL+C

5.—(1Yn amodol ar baragraff (3) o reoliad 11, pan fydd awdurdod perthnasol yn gweithredu trefniadau gweithrediaeth o dan Ran II o Ddeddf 2000, rhaid iddo pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym:

(a)lle bo corff gweithredol awdurdod perthnasol ar ffurf a bennir yn adran 11(2) o Ddeddf 2000 (maer a chabinet gweithredol), ymgorffori mewn rheolau sefydlog yn ymwneud â'i staff(6) y darpariaethau a osodir yn Rhan 1 o Atodlen 3 neu ddarpariaethau sydd yn cael yr un effaith;

(b)lle bo eu corff gweithredol ar y ffurf a bennir yn adran 11(3) o Ddeddf 2000 (arweinydd a chabinet gweithredol), ymgorffori mewn rheolau sefydlog yn ymwneud â'i staff y darpariaethau a osodir yn Rhan 2 o Atodlen 3 neu ddarpariaethau sydd yn cael yr un effaith; ac

F12(c). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(ch)addasu unrhyw rai o'u rheolau sefydlog sy'n bodoli eisoes i'r graddau y bo hyn yn angenrheidiol i gydymffurfio â'r darpariaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraffau [F13(a) a (b)].

(2Pan fo awdurdod perthnasol wedi ymgorffori darpariaethau mewn rheolau sefydlog fel ym mharagraff (1) rhaid iddo, lle bwriada newid ei drefniadau gweithredol fel y bydd y corff gweithredol ar ffurf wahanol, wneud amrywiadau i'w reolau sefydlog i'r graddau y bo hyn yn angenrheidiol i gydymffurfio â'r darpariaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff [F14(a), (b) neu (ch)] o baragraff (1), pa un bynnag sydd yn gymwys, ar neu cyn y dyddiad pryd y dechreua weithredu'r trefniadau gweithredol newydd hynny.

Trefniadau amgen- rheolau sefydlog yn ymwneud â staffLL+C

F156.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Rheolau sefydlog yn ymwneud â staffLL+C

[F167.(1) Lle bo gan awdurdod perthnasol reolau sefydlog yn ymgorffori darpariaethau’r Rheoliadau hyn a grybwyllir ym mharagraff (2), rhaid i’r swyddogaethau y cyfeirir atynt yn y paragraff hwnnw gael eu harfer gan yr awdurdod ei hun ac yn unol â hynny ni fydd adran 101 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys i arfer y swyddogaethau hynny.

(2) Y darpariaethau yw—

(a)paragraff 4(1) o Ran 1 o Atodlen 3 a pharagraff 4(1) o Ran 2 o Atodlen 3 yn ymwneud â’r swyddogaeth o gymeradwyo penodi neu ddiswyddo [F17prif weithredwr yr awdurdod]; a

(b)paragraff 6 o Ran 1 o Atodlen 3 a pharagraff 6 o Ran 2 o Atodlen 3 yn ymwneud â’r swyddogaeth o bennu lefel y gydnabyddiaeth ariannol sydd i’w thalu i brif swyddog, ac unrhyw newid i’r lefel honno.]

Rheolau sefydlog o ran camau disgybluLL+C

8. [F18(1)]  Ddim hwyrach na chyfarfod arferol cyntaf yr awdurdod perthnasol fydd yn digwydd wedi'r diwrnod y daw'r Rheoliadau hyn i rym, rhaid i'r awdurdod perthnasol, o ran camau disgyblu yn erbyn [F19prif weithredwr yr awdurdod], ei swyddog monitro [F20, ei brif swyddog cyllid, ei bennaeth gwasanaethau democrataidd neu unrhyw swyddog y cyfeirir ato ym mharagraff (2)]

(a)ymgorffori mewn rheolau sefydlog y darpariaethau a osodir yn Atodlen 4 neu ddarpariaethau sydd yn cael yr un effaith; a

(b)addasu unrhyw rai o'i rheolau sefydlog sy'n bodoli eisoes i'r graddau y bo hyn yn angenrheidiol i gydymffurfio â'r darpariaethau hynny.

[F21(2) Swyddog y bwriedir cymryd camau disgyblu mewn perthynas ag ef—

(a)pan oedd y swyddog yn swyddog y cyfeirir ato ym mharagraff (1), ond nad yw bellach, ar adeg y camau disgyblu arfaethedig, yn swyddog o’r fath; a

(b)pan fo’r camymddwyn honedig neu, yn ôl y digwydd, y rheswm dros y cynnig o ddiswyddo, wedi digwydd yn ystod y cyfnod yr oedd y swyddog yn swyddog y cyfeirir ato ym mharagraff (1).]

Ymchwilio i gamymddwyn honedigLL+C

9.[F22(1) Ar ôl i awdurdod perthnasol ymgorffori darpariaethau yn y rheolau sefydlog yn unol â rheoliad 8, os yw’n ymddangos i’r awdurdod perthnasol bod honiad o gamymddwyn a all arwain at gamau disgyblu wedi cael ei wneud yn erbyn swyddog perthnasol, rhaid i’r awdurdod perthnasol benodi pwyllgor (“pwyllgor ymchwilio”) i ystyried y camymddwyn honedig.

(1A) At ddibenion y rheoliad hwn ystyr “swyddog perthnasol” (“relevant officer”) yw—

[F23(a)prif weithredwr yr awdurdod;]

(b)ei swyddog monitro;

(c)ei brif swyddog cyllid;

(ch)ei bennaeth gwasanaethau democrataidd; neu

(d)swyddog a oedd yn swyddog y cyfeirir ato yn is-baragraffau (a) i (ch), ond nad yw bellach, ar adeg penodi’r pwyllgor ymchwilio, yn swyddog o’r fath, pan fo’r camymddwyn honedig wedi digwydd yn ystod y cyfnod pan oedd y swyddog yn swyddog y cyfeirir ato yn yr is-baragraffau hynny.]

(2Rhaid i'r pwyllgor ymchwilio:

(a)cynnwys 3 aelod o leiaf o'r awdurdod perthnasol;

(b)bod yn wleidyddol gytbwys yn unol ag adran 15 o Ddeddf 1989; a

rhaid iddo, cyn pen 1 mis ar ôl ei benodiad, ystyried yr honiad o gamymddwyn a phenderfynu a ddylid ymchwilio iddo ymhellach.

(3At ddibenion ystyried yr honiad o gamymddwyn, caiff y pwyllgor ymchwilio:

(a)holi'r swyddog perthnasol neu unrhyw berson arall y mae'n ystyried sy'n briodol;

(b)gofyn i'r swyddog perthnasol neu unrhyw berson arall y mae'n ystyried sy'n briodol i roi iddo yr wybodaeth honno, yr esboniad hwnnw neu'r dogfennau hynny y mae'n ystyried sy'n angenrheidiol o fewn terfyn amser penodedig; ac

(c)derbyn sylwadau ysgrifenedig neu lafar oddi wrth y swyddog perthnasol neu unrhyw berson arall y mae'n ystyried sy'n briodol.

(4Os yw'n ymddangos i'r pwyllgor ymchwilio y dylai honiad o gamymddwyn gan y swyddog perthnasol gael ei ymchwilio ymhellach, rhaid iddo benodi person (“y person annibynnol dynodedig”) at ddibenion y rheol sefydlog sy'n ymgorffori'r darpariaethau yn Atodlen 4 (neu ddarpariaethau sy'n cael yr un effaith).

(5Rhaid mai'r person annibynnol dynodedig sy'n cael ei benodi–

(a)yw'r person hwnnw y cytunir arno rhwng yr awdurdod perthnasol a'r swyddog perthnasol o fewn 1 mis o'r dyddiad y cododd y gofyniad i benodi'r person annibynnol dynodedig; neu

(b)os nad oes cytundeb o'r fath, y person hwnnw a enwebir at y diben gan [F24Weinidogion Cymru] .

(6O ran y person annibynnol dynodedig–

(a)caiff gyfarwyddo–

(i)bod yr awdurdod perthnasol yn diweddu unrhyw ataliad dros dro ar y swyddog perthnasol;

(ii)bod unrhyw ataliad dros dro o'r fath i barhau ar ôl i'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff 3 o Atodlen 4 ddod i ben (neu mewn darpariaethau sy'n cael yr un effaith);

(iii)bod telerau unrhyw ataliad dros dro o'r fath sydd wedi digwydd i'w hamrywio yn unol â'r cyfarwyddyd; neu

(iv)nad oes camau i'w cymryd (p'un ai gan yr awdurdod perthnasol neu unrhyw bwyllgor, is-bwyllgor neu swyddog sy'n gweithredu ar ran yr awdurdod perthnasol) o ran camau disgyblu neu gamau disgyblu pellach yn erbyn y swyddog perthnasol heblaw camau a gymerir ym mhresenoldeb, neu gyda chytundeb, y person annibynnol dynodedig, cyn bod adroddiad wedi'i lunio o dan is-baragraff (ch);

(b)caiff arolygu unrhyw ddogfennau sy'n ymwneud ag ymddygiad swyddog perthnasol sydd ym meddiant yr awdurdod perthnasol, y mae gan yr awdurdod y pŵ er i awdurdodi'r person annibynnol dynodedig i'w harchwilio;

(c)caiff ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw aelod neu aelod o staff yr awdurdod perthnasol yn ateb cwestiynau ynghylch ymddygiad y swyddog perthnasol;

(ch)rhaid iddo lunio adroddiad i'r awdurdod perthnasol–

(i)yn datgan barn a yw'r dystiolaeth a gafwyd (ac, os felly, i ba raddau) y mae'r dystiolaeth a gafwyd yn ategu unrhyw honiad o gamymddwyn yn erbyn y swyddog perthnasol; a

(ii)yn argymell unrhyw gamau disgyblu sy'n ymddangos yn briodol i'r awdurdod perthnasol eu cymryd yn erbyn y swyddog perthnasol, a

(d)rhaid iddo heb fod yn hwyrach na'r amser y llunnir yr adroddiad o dan is-baragraff (ch), anfon copi o'r adroddiad at y swyddog perthnasol.

(7Yn ddarostyngedig i baragraff (8), rhaid i'r swyddog perthnasol a'r awdurdod perthnasol, ar ôl ymghynghori â'r person annibynnol dynodedig, geisio cytuno ar amserlen y mae'r person annibynnol dynodedig i ymgymryd â'i ymchwiliad yn unol â hi.

(8Pan na cheir cytundeb o dan baragraff (7), rhaid i'r person annibynnol dynodedig osod amserlen y mae'r person hwnnw'n ystyried ei bod yn briodol y dylid ymgymryd â'r ymchwiliad yn unol â hi.

(9Rhaid i'r awdurdod perthnasol ystyried yr adroddiad a gafodd ei baratoi o dan baragraff (6)(ch) o fewn 1 mis ar ôl cael yr adroddiad hwnnw.

(10Rhaid i awdurdod perthnasol dalu tâl rhesymol i berson annibynnol dynodedig a benodwyd gan y pwyllgor ymchwilio ac unrhyw gostau a dynnir wrth iddo gyflawni ei swyddogaethau o dan y rheoliad hwn neu mewn cysylltiad â chyflawni'r swyddogaethau hynny.

F25(11. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Dirymu Rheoliadau 1993LL+C

10.  Dirymir trwy hyn Reoliadau 1993 mewn perthynas â Chymru ac eithrio i'r graddau eu bod yn gymwys i Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 10 mewn grym ar 3.7.2006, gweler rhl. 1(1)

Darpariaethau trosiannol ac ôl-ddilynolLL+C

F2611.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Mai 2006