xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
2. Yn y Rheoliadau hyn–
ystyr “aelod o'r staff” (“member of staff”) yw rhywun a benodwyd i neu sydd mewn swydd daledig neu gyflogaeth, o dan awdurdod perthnasol;
ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru [F1(yn ddarostyngedig i reoliad 4A)] ;
ystyr “camau disgyblu” (“disciplinary action”) mewn perthynas ag aelod o staff awdurdod perthnasol yw unrhyw weithred a achosir gan gamymddwyn honedig a fuasai, o'i phrofi, yn ôl trefn arferol yr awdurdod, yn cael ei chofnodi ar ffeil bersonol yr aelod o'r staff, ac sy'n cynnwys unrhyw gynnig i ddiswyddo aelod o'r staff am unrhyw reswm ac eithrio colli swydd, afiechyd parhaol neu lesgedd meddwl neu gorff, ond nid yw'n cynnwys methiant i adnewyddu contract cyflogaeth am dymor penodol oni ymrwymodd yr awdurdod perthnasol i adnewyddu'r cyfryw gontract;
ystyr “cydbwyllgor perthnasol” (“relevant joint committee”), mewn perthynas ag awdurdod perthnasol, yw cydbwyllgor y cynrychiolir yr awdurdod perthnasol arno;
[F2mae i “cydnabyddiaeth ariannol” yr un ystyr â “remuneration” yn adran 43(3) o Ddeddf Lleoliaeth 2011(3);.]
ystyr “ Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989;
ystyr “Deddf 2000” (“the 2002 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000(1);
ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, dydd Sul, Noswyl Nadolig, Dydd Nadolig, Dydd Iau Cablyd, Gwener y Groglith, gwyl banc yng Nghymru neu ddiwrnod a bennwyd ar gyfer diolchgarwch neu alaru cyhoeddus (ac ystyr “gŵ yl banc” yw diwrnod i'w gadw ato felly dan adran 1 ac Atodlen 1 i Ddeddf Bancio a Masnachu Ariannol 1971(2));
mae i “maer etholedig”, “corff gweithredol”, “trefniadau gweithredol” ac “arweinydd gweithredol” yr un ystyr sydd i “elected mayor”, “executive”, “executive arrangements” ac “executive leader” yn Rhan II o Ddeddf 2000;
[F3ystyr “pennaeth gwasanaethau democrataidd” (“head of democratic services”) yw’r swyddog a ddynodwyd o dan adran 8 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (pennaeth gwasanaethau democrataidd)(2); a]
F4...
ystyr “prif swyddog” (“chief officer”), mewn perthynas ag awdurdod perthnasol, yw–
[F5ei brif weithredwr;]
ei swyddog monitro;
prif swyddog statudol a grybwyllir ym mharagraff (a), (c) neu (d) o adran 2(6) o Ddeddf 1989, neu
prif swyddog anstatudol (yn ystyr adran 2(7) Deddf 1989);
ac mae unrhyw gyfeiriad at benodi neu benodiad arfaethedig prif swyddog yn cynnwys cyfeiriad at gyflogi neu gyflogi arfaethedig y cyfryw swyddog dan gontract cyflogaeth;
ystyr “prif swyddog cyllid” (“chief finance officer”) yw'r swyddog sydd â chyfrifoldeb, at ddibenion adran 151 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(3) (gweinyddiaeth gyllidol) am weinyddu materion cyllidol yr awdurdod lleol;
[F6ystyr “prif weithredwr” (“chief executive”) yw’r person a benodir yn brif weithredwr o dan adran 54 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;]
ystyr “Rheoliadau 1993” (“the 1993 Regulations”) yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) 1993(4);
F7...
ystyr “swyddog monitro” (“monitoring officer”) yw swyddog a ddynodwyd dan adran 5(1) o Ddeddf 1989(5) (dynodiad ac adroddiadau swyddog monitro); F8...
F9...
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 2 wedi eu mewnosod (5.5.2017) gan Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) (Diwygio) 2017 (O.S. 2017/460), rhlau. 1(1), 2(2)
F2Geiriau yn rhl. 2 wedi eu mewnosod (1.7.2014) gan Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) (Diwygio) 2014 (O.S. 2014/1514), rhlau. 1(2), 3(d)(ii) (ynghyd â rhl. 12)
F3Geiriau yn rhl. 2 wedi eu mewnosod (1.7.2014) gan Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) (Diwygio) 2014 (O.S. 2014/1514), rhlau. 1(2), 3(d)(i) (ynghyd â rhl. 12)
F4Geiriau yn rhl. 2 wedi eu hepgor (5.5.2022) yn rhinwedd Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaeth Drosiannol) (Prif Weithredwyr) 2022 (O.S. 2022/355), rhlau. 1(2), 3(2)(b) (ynghyd â rhl. 9)
F5Geiriau yn rhl. 2 wedi eu hamnewid (5.5.2022) gan Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaeth Drosiannol) (Prif Weithredwyr) 2022 (O.S. 2022/355), rhlau. 1(2), 3(2)(a) (ynghyd â rhl. 9)
F6Geiriau yn rhl. 2 wedi eu mewnosod (5.5.2022) gan Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaeth Drosiannol) (Prif Weithredwyr) 2022 (O.S. 2022/355), rhlau. 1(2), 3(2)(c) (ynghyd â rhl. 9)
F7Geiriau yn rhl. 2 wedi eu hepgor (1.7.2014) yn rhinwedd Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) (Diwygio) 2014 (O.S. 2014/1514), rhlau. 1(2), 3(b) (ynghyd â rhl. 12)
F8Geiriau yn rhl. 2 wedi eu hepgor (1.7.2014) yn rhinwedd Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) (Diwygio) 2014 (O.S. 2014/1514), rhlau. 1(2), 3(c) (ynghyd â rhl. 12)
F9Geiriau yn rhl. 2 wedi eu hepgor (1.7.2014) yn rhinwedd Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) (Diwygio) 2014 (O.S. 2014/1514), rhlau. 1(2), 3(a) (ynghyd â rhl. 12)
Gwybodaeth Cychwyn
Is-adran (1) o adran 5 (fel y'i diwygiwyd).