Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006

DehongliLL+C

2.  Yn y Rheoliadau hyn–

ystyr “aelod o'r staff” (“member of staff”) yw rhywun a benodwyd i neu sydd mewn swydd daledig neu gyflogaeth, o dan awdurdod perthnasol;

ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru [F1(yn ddarostyngedig i reoliad 4A)] ;

ystyr “camau disgyblu” (“disciplinary action”) mewn perthynas ag aelod o staff awdurdod perthnasol yw unrhyw weithred a achosir gan gamymddwyn honedig a fuasai, o'i phrofi, yn ôl trefn arferol yr awdurdod, yn cael ei chofnodi ar ffeil bersonol yr aelod o'r staff, ac sy'n cynnwys unrhyw gynnig i ddiswyddo aelod o'r staff am unrhyw reswm ac eithrio colli swydd, afiechyd parhaol neu lesgedd meddwl neu gorff, ond nid yw'n cynnwys methiant i adnewyddu contract cyflogaeth am dymor penodol oni ymrwymodd yr awdurdod perthnasol i adnewyddu'r cyfryw gontract;

ystyr “cydbwyllgor perthnasol” (“relevant joint committee”), mewn perthynas ag awdurdod perthnasol, yw cydbwyllgor y cynrychiolir yr awdurdod perthnasol arno;

[F2mae i “cydnabyddiaeth ariannol” yr un ystyr â “remuneration” yn adran 43(3) o Ddeddf Lleoliaeth 2011(3);.]

ystyr “ Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989;

ystyr “Deddf 2000” (“the 2002 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000(1);

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, dydd Sul, Noswyl Nadolig, Dydd Nadolig, Dydd Iau Cablyd, Gwener y Groglith, gwyl banc yng Nghymru neu ddiwrnod a bennwyd ar gyfer diolchgarwch neu alaru cyhoeddus (ac ystyr “gŵ yl banc” yw diwrnod i'w gadw ato felly dan adran 1 ac Atodlen 1 i Ddeddf Bancio a Masnachu Ariannol 1971(2));

mae i “maer etholedig”, “corff gweithredol”, “trefniadau gweithredol” ac “arweinydd gweithredol” yr un ystyr sydd i “elected mayor”, “executive”, “executive arrangements” ac “executive leader” yn Rhan II o Ddeddf 2000;

[F3ystyr “pennaeth gwasanaethau democrataidd” (“head of democratic services”) yw’r swyddog a ddynodwyd o dan adran 8 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (pennaeth gwasanaethau democrataidd)(2); a]

F4...

ystyr “prif swyddog” (“chief officer”), mewn perthynas ag awdurdod perthnasol, yw–

(a)

[F5ei brif weithredwr;]

(b)

ei swyddog monitro;

(c)

prif swyddog statudol a grybwyllir ym mharagraff (a), (c) neu (d) o adran 2(6) o Ddeddf 1989, neu

(ch)

prif swyddog anstatudol (yn ystyr adran 2(7) Deddf 1989);

ac mae unrhyw gyfeiriad at benodi neu benodiad arfaethedig prif swyddog yn cynnwys cyfeiriad at gyflogi neu gyflogi arfaethedig y cyfryw swyddog dan gontract cyflogaeth;

ystyr “prif swyddog cyllid” (“chief finance officer”) yw'r swyddog sydd â chyfrifoldeb, at ddibenion adran 151 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(3) (gweinyddiaeth gyllidol) am weinyddu materion cyllidol yr awdurdod lleol;

[F6ystyr “prif weithredwr” (“chief executive”) yw’r person a benodir yn brif weithredwr o dan adran 54 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;]

ystyr “Rheoliadau 1993” (“the 1993 Regulations”) yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) 1993(4);

F7...

ystyr “swyddog monitro” (“monitoring officer”) yw swyddog a ddynodwyd dan adran 5(1) o Ddeddf 1989(5) (dynodiad ac adroddiadau swyddog monitro); F8...

F9...

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 2 mewn grym ar 3.7.2006, gweler rhl. 1(1)

(5)

Is-adran (1) o adran 5 (fel y'i diwygiwyd).