Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 8 a Darpariaethau Troisannol) (Cymru) 2006

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau penodol Rhan II o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (“Deddf 2000”) ar 11 Mai 2006 o ran Cymru.

Mae adrannau 47 i 50 o Ddeddf 2000 yn rhoi i'r cyhoedd hawliau cilffyrdd cyfyngedig o ran “ffyrdd a ddefnyddir yn llwybrau cyhoeddus” (“FfDdLlCau”) sydd i'w hadnabod yn lle hynny fel cilffyrdd cyfyngedig. Hawliau cilffyrdd cyfyngedig yw hawl tramwy ar droed, hawl tramwy ar gefn ceffyl neu'n tywys ceffyl, a hawl tramwy ar gyfer cerbydau nad ydynt yn gerbydau a yrrir yn fecanyddol. Nid yw rhoi hawliau cilffyrdd cyfyngedig yn nacáu bodolaeth hawl tramwy ar gyfer cerbydau a yrrir yn fecanyddol nac unrhyw hawl arall (erthygl 2).

O dan adrannau 53 a 54 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (p.69) (“Deddf 1981”) mae'n ofynnol i awdurdodau arolygu wneud gorchmynion diwygio mapiau diffiniol. Mae Gorchmynion a wneir o dan adran 53 o Ddeddf 1981 yn ymwneud â dyletswydd awdurdod o dan yr adran honno i adolygu'r map a'r datganiad diffiniol yn barhaus, ac maent yn cael eu gwneud o ganlyniad i ddigwyddiadau penodol a nodir yn yr adran honno. Mae a wnelo un o'r digwyddiadau hynny ag awdurdod yn cael hyd i dystiolaeth sydd, wrth ei hystyried ynghyd â phob tystiolaeth berthnasol arall sydd ar gael, yn dangos y dylid newid y disgrifiad o briffordd benodol ar fap a datganiad diffiniol. Mae Gorchmynion a wneir o dan adran 54 o Ddeddf 1981 yn ymwneud â dyletswydd awdurdod o dan yr adran honno i ailddosbarthu FfDdLlCau yn llwybrau ceffylau, llwybrau troed neu gilffyrdd sy'n agored i bob traffig.

“Gorchmynion perthnasol” at ddibenion adran 48(9) o Ddeddf 2000 yw gorchmynion yn y dosbarth cyntaf sy'n ymwneud â FfDdLlCau a gorchmynion yn yr ail ddosbarth ac yn unol â gofynion yr adran honno nid oes dim yn adran 47 nac yn adran 48 o Ddeddf 2000 yn effeithio ar weithredu adran 53 nac adran 54 o Ddeddf 1981 nac ar Atodlen 14 neu 15 iddi mewn perthynas â'r gorchmynion hynny pan wnaed y gorchmynion hynny, neu pan wnaed cais am y gorchmynion hynny, cyn 11 Mai 2006 (erthygl 5).

Mae adran 54 o Ddeddf 1981 yn peidio â bod yn effeithiol ac o ganlyniad i hynny caiff awdurdodau arolygu eu rhyddhau o'r ddyletswydd i ailddosbarthu FfDdLlCau a osodir gan yr adran honno (erthygl 2).

Mae adran 51 o Ddeddf 2000 ac Atodlen 5 iddi yn gwneud diwygiadau canlyniadol a pherthnasol i ddeddfwriaeth sylfaenol (erthygl 2).

Mae cychwyn adran 57 at ddibenion gwneud paragraff 23(8) o Atodlen 6 i Ddeddf 2000 yn effeithiol yn rhoi pŵer i arolygwyr ddyfarnu costau o ran gwrandawiadau a gynhelir o dan baragraff 2 o Atodlen 6 i Ddeddf Priffyrdd 1980 (darpariaethau ynghylch gwneud, cadarnhau, dilysrwydd a dyddiad gweithrediad gorchmynion penodol sy'n ymwneud â llwybrau troed a llwybrau ceffylau), ac mae'n cymhwyso adran 322A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p.8) (gorchmynion sy'n ymwneud â chostau pan na fo gwrandawiad neu ymchwiliad yn cael ei gynnal) o ran gwrandawiadau neu ymchwiliadau lleol a gynhelir o dan y paragraff hwnnw. Daethpwyd â'r ddarpariaeth hon i rym i'r graddau y mae'n ymwneud â gorchmynion i gau neu wyro priffyrdd penodol a'r priffyrdd hynny yn croesi tir a feddiennir at ddibenion ysgol gan erthygl 3 o Orchymyn Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 7) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1314 (Cy. 96) (C.58)) (erthygl 2).

Mae cychwyn adran 69(2) o Ddeddf 2000 yn estyn y diffiniad o “agricultural land” a geir yn adran 147 o Ddeddf 1980 at ddibenion pŵ er yr awdurdod cymwys o dan yr adran honno i awdurdodi codi camfeydd (sticlau), clwydi (giatiau, ietau), neu weithiau eraill mewn perthynas â thir o'r fath ac i dir o'r fath gael ei ddefnyddio at ddibenion amaethyddol (erthygl 2).

Mae adran 102 o Ddeddf 2000 ac Atodlen 16 iddi yn peri diddymiadau canlyniadol i ddarpariaethau penodol o Ddeddf 1981.

Y map a'r datganiad diffiniol ar gyfer unrhyw ardal yw'r cofnod cyfreithiol o hawliau tramwy'r cyhoedd a baratoir ac a adolygir gan yr awdurdod arolygu ar gyfer yr ardal honno (y cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol y mae ei ardal yn cynnwys yr ardal honno). Gellir edrych ar y map a'r datganiad diffiniol yn swyddfeydd y cyngor ar bob adeg resymol.