RHAN 1Cyflwyniad

Teitl, cymhwyso a chychwynI11

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2006; maent yn gymwys i Gymru ac yn dod i rym ar 12 Mai 2006.

Annotations:
Commencement Information
I1

Rhl. 1 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

DehongliI22

1

Yn y Rheoliadau hyn–

  • ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw person a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol neu gan awdurdod lleol i fod yn arolygydd at ddibenion y Rheoliadau hyn;

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) mewn perthynas â sir neu fwrdeistref sirol yw cyngor y sir neu'r fwrdeistref sirol honno;

  • ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) ym Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “Rheoliad y Gymuned” (“the Community Regulation”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau iechyd ynghylch sgil-gynhyrchion anifeiliaid na fwriedir i bobl eu bwyta3 fel y'i diwygiwyd gan y canlynol ac fel y'i darllenir gyda hwy–

    1. a

      Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 808/2003 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau iechyd ynghylch sgil-gynhyrchion anifeiliaid na fwriedir i bobl eu bwyta4;

    2. b

      Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran gwahardd ailgylchu mewnrywogaethol ar gyfer pysgod, claddu a llosgi sgil-gynhyrchion anifeiliaid a mesurau trosiannol penodol5;

    3. c

      Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 813/2003 ar fesurau trosiannol o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran casglu, cludo a gwaredu cyn-fwydydd6;

    4. ch

      Penderfyniad y Comisiwn 2003/326/EC ar fesurau trosiannol o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran gwahanu gweithfeydd oleocemegol Categori 2 a Chategori 37;

    5. d

      Penderfyniad y Comisiwn 2004/407/EC ar reolau iechydol ac ardystio trosiannol o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran mewnforio gelatin ffotograffig o drydydd gwledydd penodol8;

    6. dd

      Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 668/2004 sy'n diwygio Atodiadau penodol i Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, o ran mewnforio sgil-gynhyrchion anifeiliaid o drydydd gwledydd 9;

    7. e

      Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 878/2004 sy'n gosod mesurau trosiannol yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 ar gyfer sgil-gynhyrchion anifeiliaid penodol a ddosberthir yn ddeunyddiau Categori 1 a 2 ac a fwriedir at ddibenion techchnegol10;

    8. h

      Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 79/2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran defnyddio llaeth, cynhyrchion ar sail llaeth a chynhyrchion sy'n deillio o laeth a ddiffinnir fel deunydd Categori 3 yn y Rheoliad hwnnw11.

    9. ff

      Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 92/2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran dulliau o waredu neu o ddefnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid ac sy'n diwygio Atodiad VI y Rheoliad o ran trawsnewid bio-nwy a phrosesu brasderau wedi'u rendro12;

    10. g

      Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 93/2005 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran prosesu sgil-gynhyrchion anifeiliaid sy'n dod o bysgod a dogfennau masnachol ar gyfer cludo sgil-gynhyrchion anifeiliaid13;

2

Y sgil-gynhyrchion anifeiliaid a geir yn Erthyglau 4, 5 a 6 o Reoliad y Gymuned yn y drefn honno yw'r deunydd Categori 1, y deunydd Categori 2 a'r deunydd Categori 3, ac mae i ymadroddion eraill a ddiffinnir yn Rheoliad y Gymuned yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn.

Annotations:
Commencement Information
I2

Rhl. 2 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

Cymeradwyaethau, etc.I33

Rhaid i unrhyw gymeradwyaeth, awdurdodiad, cofrestriad, gyfarwyddyd hysbysiad neu gydnabyddiaeth a ddyroddir o dan y Rheoliadau hyn neu o dan Reoliad y Gymuned fod yn ysgrifenedig, a gallant fod yn ddarostyngedig i'r amodau sy'n angenrheidiol i

a

sicrhau y cydymffurfir â darpariaethau Rheoliad y Gymuned a'r Rheoliadau hyn; a

b

diogelu iechyd y cyhoedd ac iechyd anifeiliaid.

Annotations:
Commencement Information
I3

Rhl. 3 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

RHAN 2Casglu, cludo, storio, trafod, prosesu a gwaredu sgil-gynhyrchion anifeiliaid

Deunydd Categori 1I44

1

Bydd unrhyw berson sy'n meddu ar unrhyw ddeunydd Categori 1 neu sydd â rheolaeth drosto ac sy'n methu cydymffurfio ag Erthygl 4(2) neu Erthygl 4(3) o Reoliad y Gymuned yn euog o dramgwydd.

2

At ddibenion Erthygl 4(2)(b) o Reoliad y Gymuned caniateir prosesu'r deunydd drwy ddefnyddio unrhyw un neu rai o ddulliau prosesu 1 i 5.

3

Ni fydd y rheoliad hwn yn gymwys o ran deunydd y cyfeirir ato yn Erthygl 4(1)(e) o Reoliad y Gymuned (gwastraff arlwyo o gyfrwng cludo sy'n gweithredu o'r tu allan i'r Gymuned).

Annotations:
Commencement Information
I4

Rhl. 4 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

Deunydd Categori 2I55

1

Bydd unrhyw berson sy'n meddu ar unrhyw ddeunydd Categori 2 neu sydd â rheolaeth drosto ac sy'n methu cydymffurfio ag Erthygl 5(2), Erthygl 5(3) neu Erthygl 5(4) (ac eithrio'r ddarpariaeth yn Erthygl 5(4) sy'n ymwneud ag allforio) o Reoliad y Gymuned yn euog o dramgwydd.

2

At ddibenion Erthygl 5(2)(b) o Reoliad y Gymuned caniateir prosesu'r deunydd drwy ddefnyddio unrhyw un neu rai o ddulliau prosesu 1 i 5.

3

At ddibenion Erthygl 5(2)(e) o Reoliad y Gymuned caniateir rhoi ar dir y sgil-gynhyrchion anifeiliaid a bennir yn yr is-baragraff hwnnw ar yr amod nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi gosod unrhyw gyfyngiadau sy'n ymwneud ag iechyd anifeiliaid mewn perthynas â'r sgil-gynhyrchion hynny.

Annotations:
Commencement Information
I5

Rhl. 5 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

Deunydd Categori 3I66

Bydd unrhyw berson sy'n meddu ar unrhyw ddeunydd Categori 3 neu sydd â rheolaeth drosto ac sy'n methu cydymffurfio ag Erthygl 6(2) neu Erthygl 6(3) o Reoliad y Gymuned yn euog o dramgwydd.

Annotations:
Commencement Information
I6

Rhl. 6 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

Cymysgu sgil-gynhyrchion mamalaidd ac anfamalaiddI77

Pan gymysgir sgil-gynhyrchion mamalaidd a sgil-gynhyrchion anfamalaidd, rhaid ystyried y cymysgedd yn sgil-gynhyrchion mamalaidd.

Annotations:
Commencement Information
I7

Rhl. 7 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

Casglu, cludo a storioI88

1

Bydd unrhyw berson sy'n methu cydymffurfio ag Erthygl 7(1), 7(2) neu 7(5) o Reoliad y Gymuned yn euog o dramgwydd.

2

At ddibenion paragraff (1), os bydd gwahanol gategorïau o sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn cael eu cludo mewn un cerbyd ond mewn gwahanol gynwysyddion neu adrannau, ac os na ellir gwarantu y bydd y gwahanol fathau o sgil-gynhyrchion yn hollol ar wahân, rhaid trin y sgil-gynhyrchion sy'n cael eu cludo yn unol â'r gofynion ar gyfer y sgil-gynhyrchion uchaf eu risg sy'n cael eu cludo.

3

Yn unol ag Erthygl 7(6) o'r Rheoliad hwnnw, ni fydd darpariaethau Erthygl 7 yn gymwys i wrtaith sy'n cael ei gludo o fewn y Deyrnas Unedig.

4

Yn unol â pharagraff 1 o Bennod X o Atodiad II i Reoliad y Gymuned, caniateir i ddogfen fasnachol sy'n cynnwys yr wybodaeth ym Mhennod III o Atodiad II i Reoliad y Gymuned, ni waeth beth fyddo'i fformat, fynd gyda sgil-gynhyrchion anifeiliaid a gludir o fewn y Deyrnas Unedig.

Annotations:
Commencement Information
I8

Rhl. 8 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

RHAN 3Cyfyngiadau ar fynediad at sgil-gynhyrchion anifeiliaid ac ar eu defnyddio

Cyfyngiadau ar roi gwastraff arlwyo a sgil-gynhyrchion anifeiliaid eraill yn fwydI99

1

Mae mynd yn groes i Erthygl 22(1)(b) o Reoliad y Gymuned (sy'n gwahardd rhoi gwastraff arlwyo neu ddeunyddiau bwyd anifeiliaid sy'n cynnwys gwastraff arlwyo neu sy'n deillio ohono yn fwyd i anifeiliaid a ffermir) yn dramgwydd ac mae rhoi'r cyfryw ddeunyddiau'n fwyd i unrhyw anifail arall sy'n cnoi cil, i fochyn neu i aderyn hefyd yn dramgwydd.

2

Mae rhoi unrhyw sgil-gynnyrch anifeiliaid arall ac eithrio'r canlynol yn fwyd i unrhyw anifail sy'n cnoi cil, i fochyn neu i aderyn yn dramgwydd (onid yw wedi'i brosesu'n unol â Rheoliad y Gymuned)–

a

llaeth hylif neu laeth tor a ddefnyddir ar y fferm y mae'n tarddu ohoni; neu

b

yn unol ag Erthygl 23(2) o Reoliad y Gymuned fel y'i cymhwysir gan reoliad 26(3) o'r Rheoliadau hyn.

Annotations:
Commencement Information
I9

Rhl. 9 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

Ailgylchu mewnrywogaetholI1010

1

Mae mynd yn groes i Erthygl 22(1)(a) o Reoliad y Gymuned (sy'n gwahardd ailgylchu mewnrywogaethol) yn dramgwydd.

2

Er gwaethaf paragraff (1), nid yw rhoi protein anifeiliaid wedi'i brosesu sy'n deillio o gyrff neu o rannau o gyrff pysgod yn fwyd i bysgod yn dramgwydd os gwneir hyn yn unol ag Erthyglau 2 i 4 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003 ac Atodiad I iddo.

3

Yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 5 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003 yw'r Cynulliad Cenedlaethol.

Annotations:
Commencement Information
I10

Rhl. 10 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

Mynediad at wastraff arlwyo a sgil-gynhyrchion anifeiliaid eraillI1111

1

Mae'r rheoliad hwn yn gymwys o ran–

a

gwastraff arlwyo o bob math (gan gynnwys gwastraff arlwyo nad yw Rheoliad y Gymuned yn gymwys iddo oherwydd Erthygl 1(2)(e) o'r Rheoliad hwnnw) onid yw naill ai–

i

wedi'i brosesu drwy ddefnyddio dull 1 ym Mhennod III o Atodiad V i Reoliad y Gymuned, neu

ii

wedi'i drin yn unol â Rheoliad y Gymuned ac â'r Rheoliadau hyn; a

b

sgil-gynhyrchion anifeiliaid eraill nad ydynt wedi'u prosesu na'u trin yn unol â Rheoliad y Gymuned ac â'r Rheoliadau hyn.

2

Mae unrhyw berson sy'n dod ag unrhyw wastraff arlwyo neu sgil-gynnyrch anifeiliaid arall (ac eithrio llaeth, llaeth tor, gwrtaith neu gynnwys y llwybr treulio) i mewn i unrhyw fangre lle y cedwir da byw yn euog o dramgwydd.

3

Nid yw paragraff (2) yn gymwys os yw meddiannydd y fangre a'r person sy'n rheoli'r sgil-gynhyrchion yn sicrhau nad oes gan y da byw fynediad at y sgil-gynhyrchion, ac–

a

os caiff y sgil-gynhyrchion eu cludo i'r fangre ar gerbyd sy'n dod i mewn i'r fangre i gasglu sgil-gynhyrchion eraill ac os na symudir y sgil-gynhyrchion o'r cerbyd tra byddo'r cerbyd yn y fangre;

b

os caiff y sgil-gynhyrchion eu dwyn, yn unol â'r gymeradwyaeth neu'r awdurdodiad ar gyfer y gweithfeydd perthnasol, i fangre lle y mae'r gweithfeydd canlynol wedi'u lleoli–

i

canolfan gasglu, gweithfeydd bwyd anifeiliaid anwes, llosgydd neu fangre gymeradwy arall a oedd ar waith fel mangre gymeradwy ar 1 Tachwedd 2002; neu

ii

gweithfeydd hanner-ffordd Categori 3, gweithfeydd technegol neu weithfeydd lle y defnyddir y sgil-gynhyrchion anifeiliaid at ddibenion addysgol, dibenion ymchwilio, neu ddibenion diagnostig; neu

c

os bwriedir rhoi'r sgil-gynhyrchion yn fwyd i anifeiliaid yn y fangre yn unol ag Erthygl 23(2) o Reoliad y Gymuned fel y'i cymhwysir gan reoliad 26(3) o'r Rheoliadau hyn.

4

Rhaid i unrhyw berson y mae ganddo yn ei feddiant garcas neu ran o garcas unrhyw dda byw nas cigyddwyd i'w bwyta gan bobl, tra byddo'n disgwyl anfon y carcas neu'r rhan o garcas neu ei waredu neu ei gwaredu'n unol â Rheoliad y Gymuned a'r Rheoliadau hyn, sicrhau y'i cedwir yn y fath fodd fel nad oes gan anifeiliaid ac adar (gan gynnwys anifeiliaid ac adar gwyllt) fynediad ato neu ati, ac mae methu gwneud hynny'n dramgwydd.

5

Mae i unrhyw berson ganiatáu i dda byw gael mynediad at unrhyw wastraff arlwyo neu sgil-gynnyrch anifeiliaid arall yn dramgwydd ac eithrio at–

a

gwrtaith;

b

llaeth neu laeth tor;

c

cynnwys llwybr treulio a roddwyd ar dir ar yr amod na chaniateir i dda byw fynd ar y tir am dair wythnos o leiaf ar ôl ei roi ar y tir; neu

ch

gwrtaith a gynhyrchwyd ac a roddwyd ar dir yn unol â rheoliad 16 ar yr amod y cydymffurfir ag amodau'r rheoliad hwnnw.

6

Mae i unrhyw berson ganiatáu i unrhyw anifail gael mynediad at ddeunydd sy'n deillio o wastraff arlwyo neu sgil-gynnyrch anifeiliaid arall mewn gweithfeydd bio-nwy neu gompostio yn dramgwydd, ac eithrio nad yw'n dramgwydd i adar gwyllt gael mynediad at y deunydd yn ystod ail gyfnod compostio neu gyfnod compostio dilynol.

7

Yn y rheoliad hwn ystyr “da byw” yw pob anifail a ffermir, ac unrhyw anifeiliaid eraill sy'n cnoi cil, moch ac adar (ac eithrio adar gwyllt).

Annotations:
Commencement Information
I11

Rhl. 11 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

Tir poriI1212

1

Mae mynd yn groes i Erthygl 22(1)(c) o Reoliad y Gymuned (rhoi deunydd ar dir pori) yn dramgwydd.

2

At ddibenion paragraff (1), tir y bwriedir ei ddefnyddio i bori neu gnydio bwydydd anifeiliaid ar ôl rhoi neu ddyroddi arno wrteithiau organig a deunyddiau i wella'r pridd (ac eithrio gwrtaith neu gynnwys llwybr treulio) o fewn y cyfnodau canlynol yw tir pori–

a

deufis yn achos moch; a

b

tair wythnos yn achos anifeiliaid eraill a ffermir.

3

Bydd unrhyw berson sydd–

a

yn defnyddio tir pori ar gyfer pori o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (2); neu

b

yn rhoi'n fwyd i foch neu i anifeiliaid eraill a ffermir o fewn y cyfnod hwnnw unrhyw beth sydd wedi'i gnydio o dir pori yn ystod y cyfnod hwnnw;

yn euog o dramgwydd.

Annotations:
Commencement Information
I12

Rhl. 12 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

RHAN 4Mangreoedd a gymeradwywyd a'r awdurdod cymwys

Yr awdurdod cymwysI1313

1

Y Cynulliad Cenedlaethol fydd yr awdurdod cymwys at ddibenion rhoi cymeradwyaethau o dan–

a

Pennod III a Phennod IV o Reoliad y Gymuned;

b

yr Atodiadau i'r Rheoliad hwnnw;

c

Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 92/2005; ac

ch

y Rheoliadau hyn.

2

Ef hefyd fydd yr awdurdod cymwys ar gyfer–

a

gwirio gweithfeydd hanner-ffordd yn unol ag Erthyglau 10(2)(d) a 10(3)(d) o Reoliad y Gymuned;

b

gwirio gweithfeydd storio yn unol ag Erthygl 11(2)(b) o'r Rheoliad hwnnw;

c

dilysu a gwirio gweithfeydd prosesu Categori a Chategori 2 yn unol ag Erthyglau 13(2)(c) a 13(2)(e) o'r Rheoliad hwnnw, goruchwylio gweithfeydd prosesu Categori 1, 2 a 3 yn unol â pharagraff o Bennod IV o Atodiad V i'r Rheoliad hwnnw, a dilysu'r gweithfeydd hynny yn unol â pharagraff 1 o Bennod V o Atodiad V i'r Rheoliad hwnnw;

ch

awdurdodi defnyddio dros dro waith prosesu Categori 2 ar gyfer prosesu deunydd Categori 1 yn unol â pharagraff 2 o Bennod 1 o Atodiad VI i'r Rheoliad hwnnw;

d

gwirio gweithfeydd oleocemegol yn unol ag Erthygl 14(2)(d) o'r Rheoliad hwnnw a derbyn y cofnodion a gyflwynir yn unol ag Erthygl 14(2)(c) o'r Rheoliad hwnnw;

dd

gwirio gweithfeydd bio-nwy a gweithfeydd compostio yn unol ag Erthygl 15(2)(c) o'r Rheoliad hwnnw;

e

dilysu a gwirio gweithfeydd prosesu Categori 3 yn unol ag Erthygl 17(2)(c) a 17(2)(e) o'r Rheoliad hwnnw;

f

awdurdodi defnyddio dros dro waith prosesu Categori 3 ar gyfer prosesu deunydd Categori 1 neu Gategori 2 yn unol â pharagraff 2 o Bennod 1 o Atodiad VII i'r Rheoliad hwnnw, neu ddefnyddio gwaith prosesu Categori 2 fel canolfan gasglu yn unol â pharagraff 3 o Atodiad IX i'r Rheoliad hwnnw;

ff

derbyn cofnodion yn ymwneud â gwaith bwyd anifeiliaid anwes neu waith technegol a gyflwynir yn unol ag Erthygl 18(2)(a)(iv) o'r Rheoliad hwnnw;

g

cydnabod labordai at ddibenion dadansoddi samplau o weithfeydd bwyd anifeiliaid anwes a gweithfeydd technegol yn unol ag Erthygl 18(2)(a)(iii) o'r Rheoliad hwnnw, derbyn gwybodaeth o dan Erthygl 18(2)(a)(v) o'r Rheoliad hwnnw, a gwirio gweithfeydd bwyd anifeiliaid anwes a gweithfeydd technegol yn unol ag Erthygl 18(2)(b) o'r Rheoliad hwnnw;

ng

goruchwylio ailbrosesu yn unol ag Erthygl 25(2)(c) a (d) o'r Rheoliad hwnnw;

h

arolygu a goruchwylio'n unol ag Erthygl 26 o'r Rheoliad hwnnw;

i

rhoi cyfarwyddiadau at ddibenion paragraff 4 o Bennod II o Atodiad II i'r Rheoliad hwnnw;

j

derbyn dogfennau masnachol a gyflwynir yn unol â Phennod V o Atodiad II i'r Rheoliad hwnnw;

l

awdurdodi pwynt cynrychioliadol yn siambr ymlosgi llosgydd yn unol â pharagraff 3 o Bennod II o Atodiad IV i'r Rheoliad hwnnw, ac archwilio llosgyddion yn unol â pharagraff 8 o Bennod VII o Atodiad IV i'r Rheoliad hwnnw15; ac

ll

awdurdodi gofynion penodol yn unol â pharagraff 14 o Ran C o Bennod II o Atodiad VI i'r Rheoliad hwnnw16.

3

Awdurdodir defnyddio'r prosesau a ddisgrifir yn Atodiadau I i V i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 92/2005 yn unol ag Erthyglau 1 a 2 o'r Rheoliad hwnnw a'r awdurdod cymwys at ddibenion sicrhau y cydymffurfir ag Erthygl 5(3) o'r Rheoliad hwnnw yw'r Cynulliad Cenedlaethol.

Annotations:
Commencement Information
I13

Rhl. 13 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

Cymeradwyo mangreoeddI1414

1

Ni chaiff neb weithredu unrhyw un o'r canlynol, sef–

a

gwaith hanner-ffordd Categori 1, 2 neu 3;

b

gwaith storio;

c

gwaith hylosgi neu gydhylosgi;

ch

gwaith prosesu Categori 1 neu Gategori 2;

d

gwaith oleocemegol Categori 2 neu Gategori 3;

dd

gwaith bio-nwy neu waith compostio;

e

gwaith prosesu categori 3;

f

gwaith bwyd anifeiliaid anwes neu waith technegol;

ff

gwaith sy'n defnyddio unrhyw un neu rai o'r prosesau a ddisgrifir yn Atodiadau I i V i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 92/2005,

i storio, prosesu, trin, gwaredu neu ddefnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid, oni bai bod–

g

y fangre;

h

gweithredydd y fangre; ac

i

y cyfarpar (os o gwbl);

wedi'u cymeradwyo at y diben hwnnw yn unol â Rheoliad y Gymuned ac â'r Rheoliadau hyn.

2

Rhaid i weithredydd mangre a gymeradwywyd sicrhau–

a

bod y fangre yn cael ei chynnal a'i chadw a'i gweithredu yn unol â'r canlynol–

i

amodau'r gymeradwyaeth, a

ii

gofynion Rheoliad y Gymuned a'r Rheoliadau hyn; a

b

bod unrhyw berson a gyflogir gan y gweithredydd, ac unrhyw berson y caniateir iddo fynd i mewn i'r fangre, yn cydymffurfio â'r amodau a'r gofynion hynny.

3

Rhaid i weithredydd gwaith hylosgi neu waith gydhylosgi uchel ei gynhwysedd sy'n hylosgi neu'n cydhylosgi deunydd y cyfeirir ato yn Erthygl 4(1)(b) o Reoliad y Gymuned waredu'r lludw yn unol â pharagraff 4 o Bennod VII o Atodiad IV i Reoliad y Gymuned yn yr un modd â gweithredydd gwaith hylosgi isel ei gynhwysedd; ond er mwyn osgoi amheuaeth, nid yw'r ddarpariaeth hon yn gymwys o ran hylosgi neu gydhylosgi cynnyrch sy'n deillio o ddeunydd y cyfeirir ato yn Erthygl 4(1)(b) o Reoliad y Gymuned ac a gafodd ei brosesu neu ei drin eisoes yn unol â Rheoliad y Gymuned.

4

Bydd unrhyw berson sy'n methu cydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r rheoliad hwn yn euog o dramgwydd.

Annotations:
Commencement Information
I14

Rhl. 14 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

Gweithfeydd bio-nwy a gweithfeydd compostioI1515

1

Bydd darpariaethau Rhan I o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn yn gymwys i waith bio-nwy a gwaith compostio sy'n cael eu defnyddio ar gyfer trin unrhyw sgil-gynhyrchion anifeiliaid (gan gynnwys gwastraff arlwyo) yn ychwanegol at ofynion paragraffau 1 i 11 o Bennod II o Atodiad VI i Reoliad y Gymuned.

2

Yn unol ag Erthygl 6(2)(g) o Reoliad y Gymuned a pharagraff 14 o Bennod II o Atodiad VI iddo–

a

Rhaid i wastraff alwyo sydd yn cael ei drin mewn gwaith bio-nwy a gwaith compostio gael eu trin unai yn unol â Atodiad VI, Pennod II, paragraffau 12 neu 13 o Reoliad y Gymuned neu yn unol â Rhan II o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn; a

b

rhaid trin unrhyw sgil-gynnyrch anifeiliaid arall sy'n cael ei drin mewn gwaith bio-nwy neu waith compostio yn unol â pharagraffau 12 neu 13 o Bennod II o Atodiad VI i Reoliad y Gymuned.

3

Bydd unrhyw weithredydd sy'n methu cydymffurfio â'r rheoliad hwn yn euog o dramgwydd.

Annotations:
Commencement Information
I15

Rhl. 15 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

Compostio gwastraff arlwyo yn y fangre y mae'n tarddu ohoniI1616

Yn unol ag Erthygl 6(2)(g) o Reoliad y Gymuned a pharagraff 14 o Bennod II o Atodiad VI iddo, nid yw darpariaethau'r Bennod honno a darpariaethau rheoliad 14(1)(dd) uchod yn gymwys i gompostio gwastraff arlwyo Categori 3 yn y fangre y mae'n tarddu ohoni ar yr amod–

a

mai dim ond ar dir yn y fangre honno y rhoddir y deunydd pydredig;

b

na chedwir unrhyw anifeiliaid sy'n cnoi cil na moch yn y fangre; ac

c

os cedwir adar yn y fangre, fod y deunydd yn cael ei gompostio mewn cynhwysydd diogel sy'n atal yr adar rhag mynd ato tra bydd y deunydd yn pydru.

Annotations:
Commencement Information
I16

Rhl. 16 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

Hunanwiriadau gweithfeydd prosesu a gweithfeydd hanner-fforddI1717

1

Bydd unrhyw berson sy'n methu cydymffurfio ag Erthygl 25(1) o Reoliad y Gymuned yn euog o dramgwydd.

2

Bydd unrhyw berson sy'n methu cydymffurfio ag Erthygl 25(2) o Reoliad y Gymuned yn euog o dramgwydd.

3

Rhaid i'r gweithredydd gofnodi'r camau sy'n cael eu cymryd yn unol ag Erthygl 25(2) o Reoliad y Gymuned gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, a bydd methu gwneud hynny yn dramgwydd.

4

Mae Atodlen 2 (hylif sy'n deillio o anifail sy'n cnoi cil) yn effeithiol mewn perthynas â hylif sy'n dod o brosesu sgil-gynhyrchion anifeiliaid sy'n cnoi cil.

Annotations:
Commencement Information
I17

Rhl. 17 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

Samplu mewn gweithfeydd prosesuI1818

1

Os yw gwaith prosesu yn prosesu deunydd Categori 1 neu ddeunydd Categori 2, a bod deunydd proteinaidd a broseswyd i'w anfon i fan tirlenwi (neu, yn achos deunydd Categori 2, i'w roi ar dir neu i'w anfon i waith bio-nwy neu waith compostio), rhaid i'r gweithredydd, unwaith bob wythnos–

a

cymryd o allfa'r popty y mae'r deunydd yn cael ei brosesu ynddo sampl o 50 gram o leiaf o ddeunydd proteinaidd wedi'i brosesu; a

b

anfon y sampl i labordy a gymeradwywyd i'w phrofi am Clostridium perfringens.

2

Os yw gwaith prosesu'n prosesu deunydd Categori 3 ac y bwriedir defnyddio'r deunydd proteinaidd a broseswyd mewn bwydydd anifeiliaid, rhaid i'r gweithredydd, ar bob un o'r diwrnodau y traddodir y deunydd o'r fangre–

a

cymryd sampl gynrychioliadol o'r deunydd proteinaidd a broseswyd; a

b

anfon y sampl i labordy a gymeradwywyd i'w phrofi am Salmonela ac am Enterobacteriaceae.

3

Os yw gwaith prosesu'n prosesu deunydd Categori 3 ac os na fwriedir defnyddio'r deunydd proteinaidd mewn bwydydd anifeiliaid, rhaid i'r gweithredydd, unwaith bob wythnos–

a

cymryd sampl o'r deunydd proteinaidd a broseswyd ac sy'n cael ei draddodi o'r fangre; a

b

anfon y sampl i labordy a gymeradwywyd i'w phrofi am Salmonela ac Enterobacteriaceae.

4

Bydd unrhyw berson sy'n methu cydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r rheoliad hwn yn euog o dramgwydd.

Annotations:
Commencement Information
I18

Rhl. 18 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

Samplu mewn gweithfeydd bio-nwy a gweithfeydd compostioI1919

1

Yn achos gweithfeydd bio-nwy a gweithfeydd compostio, rhaid i'r gweithredydd, o dro i dro yn ôl yr hyn a bennir yn y gymeradwyaeth, gymryd sampl gynrychioliadol o ddeunydd sydd wedi'i drin yn ôl y paramedrau amser a thymheredd a bennir yn Rhan II o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn neu i Reoliad y Gymuned a'i hanfon i'w phrofi am Salmonela ac Enterobacteriaceae (neu, yn achos deunydd sy'n deillio o wastraff arlwyo, Salmonela yn unig) mewn labordy a gymeradwywyd i gynnal y profion hynny.

2

Yn achos profion sy'n cadarnhau nad yw'r deunydd sydd wedi'i drin yn cydymffurfio â'r terfynau ym mharagraff 15 o Bennod II o Atodiad VI i Reoliad y Gymuned, rhaid i'r gweithredydd–

a

hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith, gan roi manylion llawn am y methiant, am natur y sampl ac am y swp yr oedd yn deillio ohono;

b

sicrhau na fydd unrhyw weddill traul na chompost, yr amheuir ei fod wedi'i halogi neu y mae'n hysbys ei fod wedi'i halogi, yn cael ei symud o'r fangre oni bai–

i

ei fod wedi'i ail-drin o dan oruchwyliaeth y Cynulliad Cenedlaethol a'i ailsamplu a'i ailbrofi gan y Cynulliad Cenedlaethol, a bod yr ailbrofi wedi dangos bod y gweddill traul neu'r compost a gafodd ei ail-drin yn cydymffurfio â'r safonau yn Rheoliad y Gymuned; neu

ii

ei fod wedi'i draddodi i'w brosesu neu i'w hylosgi mewn gwaith prosesu neu losgydd a gymeradwywyd neu (yn achos gwastraff arlwyo) wedi'i draddodi i fan tirlenwi; ac

c

cofnodi'r camau a gymerwyd yn unol â'r rheoliad hwn.

3

Bydd unrhyw berson sy'n methu cydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r rheoliad hwn yn euog o dramgwydd.

Annotations:
Commencement Information
I19

Rhl. 19 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

Samplau a anfonir i labordaiI2020

1

Pa bryd bynnag y bydd gweithredydd yn anfon sampl i labordy yn unol â'r Rhan hon, rhaid i'r gweithredydd anfon yn ysgrifenedig gyda'r sampl yr wybodaeth ganlynol–

a

enw a chyfeiriad y fangre lle y cymerwyd y sampl;

b

y dyddiad y cymerwyd y sampl; ac

c

disgrifiad o'r sampl a manylion sy'n dynodi pa sampl ydyw.

2

Ni chaiff neb ymyrryd â sampl a gymerwyd o dan y Rheoliadau hyn gyda'r bwriad o effeithio ar ganlyniad y prawf.

3

Rhaid i'r gweithredydd gadw cofnod o holl ganlyniadau profion labordy.

4

Bydd unrhyw berson sy'n methu cydymffurfio â pharagraffau (1) neu (3) neu sy'n mynd yn groes i baragraff (2) yn euog o dramgwydd.

Annotations:
Commencement Information
I20

Rhl. 20 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

LabordaiI2121

1

Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo labordai o dan y rheoliad hwn i gynnal un neu ragor o'r profion yn y rheoliad hwn os caiff ei fodloni bod gan y labordai hynny y cyfleusterau, y personél a'r gweithdrefnau gweithredu angenrheidiol i wneud hynny.

2

Wrth benderfynu a ddylid rhoi cymeradwyaeth neu barhau i wneud hynny, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol i'r labordy gynnal yn llwyddiannus unrhyw brofion rheoli ansawdd y mae'n rhesymol i'r Cynulliad Cenedlaethol weld yn dda eu cynnal.

3

Rhaid i weithredydd labordy a gymeradwywyd o dan y rheoliad hwn ac sy'n cynnal profion at ddibenion y Rheoliadau hyn neu Reoliad y Gymuned wneud hynny yn unol â'r darpariaethau canlynol, a bydd methu â gwneud hynny yn dramgwydd.

4

Rhaid cynnal prawf ar gyfer Clostridium perfringens yn unol â'r dull yn Rhan 1 o Atodlen 3 neu (os yw hynny wedi'i bennu yn y gymeradwyaeth) â dull sy'n cydymffurfio ag ISO 7937/1997 (BS-EN 13401:1999) (Enumeration of Clostridium perfringens) neu ddull cyfwerth17.

5

Rhaid cynnal prawf Salmonela yn unol ag un o'r dulliau yn Rhan II o Atodlen 3, neu (os yw hynny wedi'i bennu yn y gymeradwyaeth) â dull sy'n cydymffurfio ag–

a

ISO 6579/2002/BS-EN 12824:1998 (Detection of Salmonella) neu ddull cyfwerth18; neu

b

NMKL 71: 1993 neu ddull cyfwerth19.

6

Rhaid cynnal prawf Enterobacteriaceae yn unol â'r dull yn Rhan III o Atodlen 3, neu (os yw hynny wedi'i bennu yn y gymeradwyaeth) â dull sy'n cydymffurfio ag ISO 7402/1993 (BS 5763: Rhan 10: 1993) (Enumeration of Enterobacteriaceae) neu ddull cyfwerth20.

7

Pan fydd profion yn cael eu cynnal er mwyn canfod un o'r canlynol, rhaid i weithredydd labordy a gymeradwywyd o dan y rheoliad hwn hysbysu ar unwaith y Cynulliad Cenedlaethol a gweithredydd y fangre–

a

os yw'r profion yn methu cadarnhau bod y deunydd yn rhydd rhag Clostridium perfringens;

b

os yw'r profion yn methu â chadarnhau bod y deunydd yn rhydd rhag Salmonela; neu

c

os yw'r deunydd yn methu'r prawf ar gyfer Enterobacteriaceae ym mharagraff 5, Rhan III o Atodlen 3;

a bydd methu gwneud hynny yn dramgwydd.

8

Rhaid i weithredydd labordy a gymeradwywyd o dan y rheoliad hwn hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol, o ran deunydd wedi'i brosesu, ar ddiwrnod olaf pob mis o nifer y profion a gynhaliwyd yn ystod y mis hwnnw, eu math a'u canlyniadau, a bydd methu gwneud hynny yn dramgwydd.

9

Os yw'r sampl wedi'i hanfon i labordy a gymeradwywyd o fangre y tu allan i Gymru, rhaid dehongli'r gofyniad yn y rheoliad hwn i hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol fel gofyniad i hysbysu'r awdurdod cymwys ar gyfer y fangre y mae'r sampl wedi'i hanfon ohoni.

Annotations:
Commencement Information
I21

Rhl. 21 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

RHAN 5Rhoi ar y farchnad sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion wedi'u prosesu

Rhoi ar y farchnad brotein anifeiliaid wedi'i brosesu a chynhyrchion eraill wedi'u prosesu y gellid eu defnyddio yn ddeunydd bwyd anifeiliaidI2222

Bydd unrhyw berson sy'n rhoi ar y farchnad brotein anifeiliaid wedi'i brosesu neu gynhyrchion eraill wedi'u prosesu y gellid eu defnyddio'n ddeunydd bwyd anifeiliaid ac nad ydynt yn bodloni gofynion Erthygl 19 o Reoliad y Gymuned yn euog o dramgwydd.

Annotations:
Commencement Information
I22

Rhl. 22 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

Rhoi ar y farchnad fwyd i anifeiliaid anwes, bwyd cnoi i gwn a chynhyrchion technegolI2323

1

Bydd unrhyw berson sy'n rhoi ar y farchnad fwyd i anifeiliaid anwes, bwyd cnoi i gŵ n, cynhyrchion technegol (ac eithrio deilliadau braster a gynhyrchwyd o ddeunydd Categori 2) neu'r sgil-gynhyrchion anifeiliaid hynny y cyfeirir atynt yn Atodiad VIII i Reoliad y Gymuned ac nad ydynt yn bodloni gofynion Erthygl 20(1) o Reoliad y Gymuned yn euog o dramgwydd.

2

Bydd unrhyw berson sy'n rhoi ar y farchnad ddeilliadau braster a gynhyrchwyd o ddeunydd Categori 2 ac nad ydynt yn bodloni gofynion Erthygl 20(3) o Reoliad y Gymuned yn euog o dramgwydd.

3

Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys o ran–

a

cynhyrchion technegol a gynhyrchir yn unol â Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 878/2004; neu

b

gelatin ffotograffig a gynhyrchir yn unol â Phenderfyniad y Comisiwn 2004/407/EC.

Annotations:
Commencement Information
I23

Rhl. 23 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

Rhoi ar y farchnad gompost neu weddillion traul i'w ddefnyddio neu i'w defnyddio ar dir amaethyddolI2424

Rhaid i unrhyw berson sy'n rhoi ar y farchnad gompost neu weddillion traul i'w ddefnyddio neu i'w defnyddio ar dir amaethyddol sicrhau bod arno neu arnynt label neu fod dogfennau yn mynd gydag ef neu gyda hwy yn y fath fodd fel ag i dynnu sylw'r derbynnydd at ofynion rheoliad 12 (darpariaethau'n ymwneud â thir pori) a bydd unrhyw berson sy'n methu gwneud hynny yn euog o dramgwydd.

Annotations:
Commencement Information
I24

Rhl. 24 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

RHAN 6Rhanddirymiadau

Yr awdurdod cymwys ar gyfer Pennod V o Reoliad y GymunedI2525

Yr awdurdod cymwys at ddibenion Pennod V o Reoliad y Gymuned (rhanddirymiadau) fydd y Cynulliad Cenedlaethol.

Annotations:
Commencement Information
I25

Rhl. 25 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

Rhanddirymiadau'n ymwneud â defnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaidI2626

1

Caniateir defnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid at ddibenion diagnostig, dibenion addysgol neu ddibenion ymchwil os yw hynny'n unol ag awdurdodiad.

2

Caniateir defnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid ar gyfer tacsidermi–

a

os yw'n unol ag awdurdodiad; a

b

os yw mewn gwaith technegol a gymeradwywyd.

3

Caniateir rhoi sgil-gynhyrchion anifeiliaid a bennir yn Erthygl 23(2)(b) o Reoliad y Gymuned yn fwyd i–

a

anifeiliaid sw;

b

anifeiliaid syrcas;

c

ymlusgiaid ac adar ysglyfaethus ac eithrio anifeiliaid sw neu syrcas;

ch

cŵ n o gynelau cydnabyddedig neu i heidiau cydnabyddedig o gŵ n hela; neu

d

cynrhon ar gyfer abwyd pysgota,

os yw'n unol ag awdurdodiad.

4

Mae'r Cynulliad Cenedlaethol i gynnal cofrestr o fangreoedd a awdurdodir ar gyfer rhoi sgil-gynhyrchion anifeiliaid o'r fath yn fwyd i anifeiliaid sw neu syrcas, cwn o gynelau cydnabyddedig neu i heidiau cydnabyddedig o gwn hela a chynrhon ar gyfer abwyd pysgota.

5

Mae'r gofrestr yn y paragraff blaenorol i gynnwys yr wybodaeth ganlynol–

a

enw'r gweithredydd;

b

cyfeiriad y fangre; ac

c

y busnes sy'n cael ei redeg yn y fangre.

6

Yn y rheoliad hwn ac yn y rheoliad canlynol ystyr “sw” yw mangre sydd naill ai wedi'i chofrestru o dan Ddeddf Trwyddedu Sŵau 198121 neu fangre y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi rhoi gollyngiad iddi o dan adran 14 o'r Ddeddf honno.

7

Bydd unrhyw berson sy'n defnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid at unrhyw un o'r dibenion yn y rheoliad hwn ac eithrio yn unol ag awdurdodiad yn euog o dramgwydd.

Annotations:
Commencement Information
I26

Rhl. 26 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

Canolfannau casgluI2727

1

At ddibenion Erthygl 23(2) o Reoliad y Gymuned, ni chaiff unrhyw berson weithredu canolfan gasglu at ddibenion bwydo sgil-gynhyrchion anifeiliaid–

a

i gwn o gynelau cydnabyddedig neu i heidiau cydnabyddedig o gŵ n hela; neu

b

i gynrhon ar gyfer abwyd pysgota;

onid yw'r fangre a gweithredydd y fangre wedi'u hawdurdodi.

2

Ni chaiff unrhyw berson weithredu unrhyw fangre lle y cesglir sgil-gynhyrchion anifeiliaid a lle y cânt eu trin ar gyfer eu rhoi yn fwyd i anifeiliaid sw neu syrcas mewn mangreoedd eraill onid yw'r fangre lle y cesglir y sgil-gynhyrchion hynny a lle y cânt eu trin a gweithredydd y fangre honno wedi'u hawdurdodi.

3

Rhaid i weithredydd mangreoedd a awdurdodwyd o dan y rheoliad hwn gynnal a gweithredu'r fangre'n unol ag–

a

yr amodau sy'n gymwys i ganolfan gasglu yn Atodiad IX i Reoliad y Gymuned;

b

amodau'r awdurdodiad; ac

c

holl ofynion perthnasol eraill Rheoliad y Gymuned a'r Rheoliadau hyn.

4

Rhaid iddynt hefyd sicrhau bod unrhyw berson a gyflogir yn y fangre, neu a wahoddir i'r fangre, yn cydymffurfio â'r amodau a'r gofynion hynny.

5

Bydd unrhyw berson sy'n methu cydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r rheoliad hwn yn euog o dramgwydd.

Annotations:
Commencement Information
I27

Rhl. 27 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

Claddu anifeiliaid anwesI2828

Yn unol ag Erthygl 24(1)(a) o Reoliad y Gymuned, caniateir i anifeiliaid anwes sydd wedi trigo gael eu claddu.

Annotations:
Commencement Information
I28

Rhl. 28 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

Ardaloedd pellennigI2929

1

Dim ond Ynys Enlli ac Ynys Bur sy'n ardaloedd pellennig at ddibenion Erthygl 24(1)(b) o Reoliad y Gymuned ac yn unol â hynny caniateir gwaredu'r sgil-gynhyrchion anifeiliaid y cyfeirir atynt yn yr is-baragraff hwnnw ac sy'n tarddu o'r ardaloedd hynny drwy eu llosgi neu eu claddu yn y fangre ar yr amod y gwneir hyn yn unol â Rhan C o Atodiad II i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/200322.

2

Yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 7 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003 a rhan C o Atodiad II iddo yw'r Cynulliad Cenedlaethol.

Annotations:
Commencement Information
I29

Rhl. 29 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

Claddu yn achos brigiad clefydI3030

1

Yn unol ag Erthygl 24(1)(c) o Reoliad y Gymuned, os oes brigiad clefyd sydd wedi'i grybwyll yn Rhestr A o Swyddfa Ryngwladol Clefydau Episootig, ni fydd yn dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn i sgil-gynhyrchion anifeiliaid gael eu gwaredu fel gwastraff drwy eu llosgi neu eu claddu yn y fangre (fel y diffinnir “burning or burial on site”yn Rhan A o Atodiad II i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003) os yw'r sgil-gynnyrch anifeiliaid yn cael ei gludo, a'i gladdu neu ei losgi, yn unol–

a

â hysbysiad a roddir gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan Erthygl 24(1)(c) sy'n awdurdodi gwaredu yn unol â'r ddarpariaeth honno; a

b

â darpariaethau Erthygl 6 o Reoliad y Comisiwn EC Rhif 811/2003 a Rhan B o Atodiad II iddo.

2

Yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 6 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003 a Rhan B o Atodiad II iddo yw'r Cynulliad Cenedlaethol.

Annotations:
Commencement Information
I30

Rhl. 30 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

Llosgi a chladdu gwenyn a chynhyrchion gwenynaI3131

Yn unol ag Erthygl 8 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003, caniateir gwaredu gwenyn a chynhyrchion gwenyna Categori 2 drwy eu claddu neu eu llosgi yn y fangre os yw hynny'n cael ei wneud yn unol â'r Erthygl honno.

Annotations:
Commencement Information
I31

Rhl. 31 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

RHAN 7Cofnodion

CofnodionI3232

1

Rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo gadw cofnod o dan y Rheoliadau hyn ei gadw am ddwy flynedd o leiaf, ac mae methu gwneud hynny'n dramgwydd.

2

Caiff cofnod fod ar ffurf ysgrifenedig neu electronig.

Annotations:
Commencement Information
I32

Rhl. 32 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

Cofnodion ar gyfer traddodi, cludo neu dderbyn sgil-gynhyrchion anifeiliaidI3333

Bydd unrhyw berson sy'n methu cydymffurfio ag Erthygl 9(1) o Reoliad y Gymuned yn euog o dramgwydd.

Annotations:
Commencement Information
I33

Rhl. 33 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

Cofnodion ar gyfer claddu neu losgi sgil-gynhyrchion anifeiliaidI3434

Bydd unrhyw berson sy'n methu cydymffurfio ag Erthygl 9 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003 yn euog o dramgwydd.

Annotations:
Commencement Information
I34

Rhl. 34 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

Cofnodion ar gyfer gwaredu neu ddefnyddio yn y fangreI3535

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i weithredydd unrhyw fangre sy'n gwaredu neu'n defnyddio unrhyw sgil-gynnyrch anifeiliaid (ac eithrio gwrtaith neu ddeunydd nad yw wedi'i gynnwys yn Rheoliad y Gymuned o dan Erthygl 1(2) o'r Rheoliad hwnnw), neu gynnyrch wedi'i brosesu yn y fangre wneud cofnod wrth waredu neu ddefnyddio sgil-gynnyrch o bob gwarediad neu ddefnydd yn dangos y dyddiad y gwaredwyd neu y defnyddiwyd y sgil-gynnyrch anifeiliaid a faint o'r deunydd a waredwyd neu a ddefnyddiwyd a disgrifiad ohono, a bydd methu gwneud hynny yn dramgwydd.

2

Ni fydd y gofyniad ym mharagraff (1) yn gymwys i waredu yn y fangre drwy roi sgil-gynhyrchion anifeiliaid neu gynhyrchion wedi'u prosesu yn fwyd i ymlusgiaid ac i adar ysglyfaethus ac eithrio anifeiliaid sw neu syrcas.

Annotations:
Commencement Information
I35

Rhl. 35 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

Cofnodion traddodi i'w cadw gan weithredwyr gweithfeydd bio-nwy a gweithfeydd compostioI3636

1

Rhaid i weithredydd unrhyw waith bio-nwy neu waith compostio sydd yn derbyn gwastraff arlwyo gofnodi–

a

y dyddiad y danfonwyd y gwastraff arlwyo i'r fangre;

b

faint o wastraff arlwyo a ddanfonwyd a disgrifiad ohono, gan gynnwys datganiad ynghylch a gymerwyd camau yn y tarddle i sicrhau nad oedd cig wedi'i gynnwys yn y gwastraff; ac

c

enw'r cludydd;

a bydd methu gwneud hynny'n dramgwydd.

Annotations:
Commencement Information
I36

Rhl. 36 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

Cofnodion triniaeth ar gyfer gweithfeydd bio-nwy a gweithfeydd compostioI3737

Rhaid i weithredydd gwaith bio-nwy neu waith compostio sy'n trin gwastraff arlwyo neu sgil-gynhyrchion anifeiliaid eraill gofnodi–

a

y dyddiadau y caiff y deunydd ei drin;

b

disgrifiad o'r deunydd a gaiff ei drin;

c

faint o ddeunydd a gaiff ei drin;

ch

canlyniad pob gwiriad a gyflawnwyd ar y pwyntiau critigol a nodir o dan baragraff 4 o Ran I o Atodlen 1; a

d

digon o wybodaeth i ddangos bod y deunydd wedi'i drin yn ôl y paramedrau gofynnol;

a bydd methu gwneud hynny yn dramgwydd.

Annotations:
Commencement Information
I37

Rhl. 37 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

Cofnodion ar gyfer labordai a gymeradwywydI3838

Rhaid i weithredydd labordy a gymeradwywyd o dan reoliad 21 gofnodi, gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol–

a

enw a chyfeiriad y fangre lle y cymerwyd y sampl;

b

y dyddiad y cymerwyd y sampl;

c

disgrifiad o'r sampl a sut i'w hadnabod;

ch

y dyddiad y daeth y sampl i law yn y labordy;

d

y dyddiad y profwyd y sampl yn y labordy; ac

dd

canlyniad y prawf;

a bydd methu gwneud hynny'n dramgwydd.

Annotations:
Commencement Information
I38

Rhl. 38 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

Cofnodion i'w cadw ar gyfer traddodi compost neu weddill traulI3939

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i feddiannydd mangre y mae anifeiliaid cnoi cil, moch neu adar yn cael eu cadw arni gofnodi–

a

y dyddiad y deuir â'r compost neu'r gweddill traul i'r fangre honno;

b

faint o gompost neu weddill traul a disgrifiad ohono;

c

y tir y rhoddir y compost neu'r gweddill traul arno;

ch

dyddiad ei roi ar y tir; a

d

y dyddiad y rhoddwyd y tir gyntaf dan gnwd neu'r dyddiad y caniatawyd i anifeiliaid sy'n cnoi cil, moch neu adar (ac eithrio adar gwyllt) fynd ar y tir, p'un bynnag yw'r cynharaf;

a bydd methu gwneud hynny yn dramgwydd.

2

Ni fydd y gofyniad ym mharagraff (1) i gadw cofnodion yn gymwys yn achos unrhyw gyflenwad o gompost neu weddill traul sydd i'w ddefnyddio mewn unrhyw fangre a ddefnyddir fel annedd yn unig.

Annotations:
Commencement Information
I39

Rhl. 39 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

RHAN 8Gweinyddu a gorfodi

Rhoi cymeradwyaethau, etcI4040

1

Caiff y Cynulliad Cenedlaethol roi cymeradwyaeth, awdurdodiad neu gofrestriad o dan y Rheoliadau hyn os yw wedi'i fodloni bod cydymffurfio â gofynion Rheoliad y Gymuned a'r Rheoliadau hyn wedi digwydd.

2

Lle y bo'n briodol, rhaid i gymeradwyaeth, awdurdodiad neu gofrestriad bennu,–

a

cyfeiriad y fangre a gweithredydd y fangre;

b

y rhannau o'r fangre lle y gellir derbyn a phrosesu neu drin y sgil-gynhyrchion anifeiliaid; ac

c

y cyfarpar, y dulliau y mae'n rhaid prosesu neu drin y sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn unol â hwy a'r paramedrau y mae'n rhaid prosesu neu drin y sgil-gynhyrchion anifeiliaid o'u mewn.

3

Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn gwrthod rhoi cymeradwyaeth, awdurdodiad neu gofrestriad, neu'n ei rhoi neu'n ei roi yn ddarostyngedig i amod, rhaid iddo wneud y canlynol drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r ceisydd–

a

rhoi'r rhesymau; a

b

egluro hawl y ceisydd i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i berson a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol at y diben.

4

Tra byddo'r fangre'n cael ei dilysu at ddibenion rhoi cymeradwyaeth, awdurdodiad neu gofrestriad, caiff y Cynulliad Cenedlaethol roi cyfarwyddyd ysgrifenedig ynghylch sut y mae'n rhaid gwaredu'r deunydd a broseswyd neu a gafodd ei drin, ac mae methu cydymffurfio â'r cyfarwyddyd hwn yn dramgwydd.

Annotations:
Commencement Information
I40

Rhl. 40 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

Atal, diwygio a dirymu cymeradwyaethau, etc.I4141

1

Drwy gyflwyno hysbysiad i'r gweithredydd–

a

rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol atal ar unwaith gymeradwyaeth, awdurdodiad neu gofrestriad os na chydymffurfir ag unrhyw un o'r amodau y rhoddwyd y gymeradwyaeth, yr awdurdodiad neu'r cofrestriad oddi tanynt, a

b

caiff y Cynulliad Cenedlaethol atal neu ddiwygio cymeradwyaeth, awdurdodiad neu gofrestriad os y'i bodlonir na chydymffurfir â darpariaethau Rheoliad y Gymuned neu'r Rheoliadau hyn.

2

O ran ataliad neu ddiwygiad o dan baragraff (1)(b)–

a

rhaid iddo gael effaith ar unwaith os yw'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn ei fod yn angenrheidiol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid;

b

fel arall ni fydd yn cael effaith am o leiaf 21 o ddiwrnodau ar ôl cyflwyno'r hysbysiad.

3

Rhaid i'r hysbysiad–

a

ddatgan pryd y mae'n dod yn effeithiol;

b

rhoi'r rhesymau drosto; ac

c

esbonio hawl gweithredydd y fangre i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i berson a benodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol.

4

Os na fydd yr hysbysiad yn cael effaith ar unwaith, a bod sylwadau'n cael eu cyflwyno o dan reoliad 42, ni fydd diwygiad neu ataliad yn effeithiol hyd oni wneir y penderfyniad terfynol gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â'r rheoliad canlynol, onid yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu ei bod yn angenrheidiol, er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid, i'r diwygiad neu'r ataliad gael effaith ar unwaith a'i fod yn cyflwyno hysbysiad i'r gweithredydd.

5

Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, drwy hysbysiad, ddirymu cymeradwyaeth, awdurdodiad neu gofrestriad os yw wedi'i fodloni, yn dilyn sylwadau a gyflwynir o dan reoliad 42, os o gwbl, yn unol â'r rheoliad canlynol sy'n cefnogi ataliad, ac o gymryd holl amgylchiadau'r achos i ystyriaeth, na fydd y fangre'n cael ei rhedeg yn unol â'r Rheoliadau hyn ac â Rheoliad y Gymuned.

Annotations:
Commencement Information
I41

Rhl. 41 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

Cyflwyno sylwadau i berson a benodwydI4242

1

Caiff person gyflwyno sylwadau ysgrifenedig ynghylch gwrthodiad, ataliad neu ddiwygiad o dan reoliad 40 neu 41 o fewn 21 o ddiwrnodau ar ôl i hysbysiad o'r penderfyniad gael ei roi i berson a benodwyd at y diben gan y Cynulliad Cenedlaethol.

2

Rhaid i'r person a benodwyd roi adroddiad ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol.

3

Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi i'r apelydd hysbysiad ysgrifenedig o'i ddyfarniad terfynol a'r rhesymau drosto.

Annotations:
Commencement Information
I42

Rhl. 42 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

Hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol gwaredu sgil-gynhyrchion anifeiliaid neu wastraff arlwyoI4343

Os bydd arolygydd yn barnu ei bod yn angenrheidiol at ddibenion iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd neu os na chydymffurfir ag unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn neu Reoliad y Gymuned, caiff yr arolygydd–

a

cyflwyno i unrhyw berson y mae ganddo yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth unrhyw sgil-gynnyrch anifeiliaid, hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw waredu'r sgil-gynnyrch yn y modd a gaffo ei bennu yn yr hysbysiad (ac, os oes angen, yn pennu sut i'w storio hyd nes y'i gwaredir); neu

b

cyflwyno hysbysiad i feddiannydd unrhyw fangre yn gwahardd dod â sgil-gynhyrchion anifeiliaid i mewn i'r fangre, neu'n caniatáu hyn mewn ffordd a bennir yn yr hysbysiad yn unig.

Annotations:
Commencement Information
I43

Rhl. 43 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

Glanhau a diheintioI4444

1

Os bydd yn rhesymol i arolygydd amau bod unrhyw gerbyd, cynhwysydd neu fangre y mae'r Rheoliadau hyn neu Reoliad y Gymuned yn gymwys iddo neu iddi yn risg i iechyd anifail neu'r cyhoedd, caiff yr arolygydd gyflwyno hysbysiad i'r person sydd â gofal am y cerbyd neu'r cynhwysydd, neu i feddiannydd y fangre, yn ei gwneud yn ofynnol i'r cerbyd neu i'r cynhwysydd gael ei lanhau a'i ddiheintio neu i'r fangre gael ei glanhau neu ei diheintio.

2

Caiff yr hysbysiad–

a

pennu'r dull glanhau a diheintio;

b

pennu dull gwaredu unrhyw ddeunydd sydd ar ôl yn y cerbyd, y cynhwysydd neu yn y fangre; ac

c

gwahardd symud unrhyw sgil-gynnyrch anifeiliaid i mewn i'r cerbyd neu i'r cynhwysydd neu i'r fangre hyd nes bydd y gwaith glanhau a diheintio gofynnol wedi'i gwblhau'n foddhaol.

Annotations:
Commencement Information
I44

Rhl. 44 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

Cydymffurfio â hysbysiadauI4545

1

Rhaid cydymffurfio ag unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan y Rheoliadau hyn ar draul y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo, ac os na chydymffurfir ag ef, caiff arolygydd drefnu y cydymffurfir ag ef ar draul y person hwnnw.

2

Bydd unrhyw berson y cyflwynir hysbysiad iddo ac sy'n mynd yn groes i ddarpariaethau'r hysbysiad hwnnw neu sy'n methu cydymffurfio â hwy yn euog o dramgwydd.

Annotations:
Commencement Information
I45

Rhl. 45 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

Pwerau mynediadI4646

1

O ddangos, os bydd angen hynny, unrhyw ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos awdurdod yr arolygydd, bydd hawl gan arolygydd i fynd i mewn, ar bob adeg resymol, i unrhyw fangre (gan gynnwys unrhyw fangre ddomestig os y'i defnyddir at unrhyw ddiben mewn cysylltiad â Rheoliad y Gymuned neu â'r Rheoliadau hyn) a hynny at ddibenion sicrhau y cydymffurfir â Rheoliad y Gymuned a'r Rheoliadau hyn; ac yn y rheoliad hwn mae “fangre”yn cynnwys unrhyw gerbyd neu gynhwysydd.

2

Caiff arolygydd–

a

atafaelu unrhyw sgil-gynhyrchion anifeiliaid a'u gwaredu yn ôl yr angen;

b

cyflawni unrhyw ymholiadau, archwiliadau a phrofion;

c

cymryd unrhyw samplau;

ch

gweld, ac archwilio a chopïo unrhyw gofnodion (ar ba ffurf bynnag y'u cedwir) sy'n cael eu cadw o dan y Rheoliadau hyn neu o dan Reoliad y Gymuned, neu fynd â'r cofnodion hynny oddi yno i'w gwneud yn bosibl eu copïo;

d

mynd at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig sy'n cael ei ddefnyddio neu sydd wedi'i ddefnyddio mewn cysylltiad â'r cofnodion, a'i archwilio a gwirio ei weithrediad; ac at y diben hwn caiff ofyn i unrhyw berson sydd â gofal am y cyfrifiadur, y cyfarpar neu'r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â'u gweithredu, i roi i'r arolygydd unrhyw gymorth y bydd yn rhesymol i'r arolygydd ofyn amdano (gan gynnwys darparu ar gyfer yr arolygydd unrhyw gyfrineiriau angenrheidiol) ac, os cedwir cofnod drwy gyfrwng cyfrifiadur, caiff ofyn i'r cofnodion gael eu cyflwyno ar ffurf sy'n caniatáu mynd â hwy oddi yno;

dd

marcio unrhyw anifail, sgil-gynnyrch anifeiliaid neu beth arall at ddibenion eu hadnabod; ac

e

mynd â'r canlynol gydag ef–

i

y cyfryw bersonau eraill y mae'r arolygydd yn barnu eu bod yn angenrheidiol; a

ii

unrhyw un o gynrychiolwyr y Comisiwn Ewropeaidd sy'n gweithredu at ddibenion Rheoliad y Gymuned.

3

Bydd unrhyw berson sy'n difwyno, difodi neu'n tynnu unrhyw farc a roddwyd o dan baragraff (2) yn euog o dramgwydd.

4

Os bydd arolygydd yn mynd i mewn i unrhyw fangre nad yw'n fangre wedi'i meddiannu rhaid i'r arolygydd ei gadael fel y'i cafodd, sef yn effeithiol o ddiogel fel na allo neb nad yw wedi'i awdurdodi fynd i mewn iddi.

Annotations:
Commencement Information
I46

Rhl. 46 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

RhwystroI4747

Bydd unrhyw berson yn euog o dramgwydd os yw'r person hwnnw–

a

yn fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith;

b

heb achos rhesymol, yn methu rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith, unrhyw gymorth neu wybodaeth y mae'n rhesymol i'r person hwnnw ofyn i'r arolygydd amdano neu amdani er mwyn i'r person hwnnw gyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn;

c

yn rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith unrhyw wybodaeth y mae'r person sy'n rhoi'r wybodaeth yn gwybod ei bod yn dwyllodrus neu'n gamarweiniol; neu

ch

yn methu dangos cofnod, pan ofynnir iddo wneud hynny, i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith.

Annotations:
Commencement Information
I47

Rhl. 47 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

CosbauI4848

1

Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rheoliad hwn yn agored–

a

ar gollfarn ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol neu i'w gadw yn y carchar am gyfnod nad yw'n fwy na thri mis, neu i'r ddau; neu

b

ar gollfarn ar dditiad, i ddirwy neu i'w gadw yn y carchar am gyfnod nad yw'n fwy na dwy flynedd, neu i'r ddau.

2

Os yw corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y tramgwydd wedi'i wneud drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran–

a

unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu berson arall tebyg yn y corff corfforaethol, neu

b

unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn y swyddogaeth honno,

bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o dramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

3

At ddibenion paragraff (2) uchod, ystyr “cyfarwyddwr”, mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.

Annotations:
Commencement Information
I48

Rhl. 48 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

GorfodiI4949

1

Gorfodir y Rheoliadau gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn unrhyw ladd-dai, sefydliadau trin anifeiliaid hela, a gweithfeydd torri sy'n gosod cig ffres ar y farchnad a lle y'u gorfodir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

2

Ac eithrio fel a bennir ym mharagraffau (1) uchod (2) mae'r Rheoliadau hyn i'w gorfodi gan yr awdurdod lleol.

3

Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu unrhyw achos penodol, fod dyletswydd i orfodi a osodir ar awdurdod lleol o dan y rheoliad hwn i'w chyflawni gan y Cynulliad Cenedlaethol ac nid gan yr awdurdod lleol.

Annotations:
Commencement Information
I49

Rhl. 49 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

Mesurau trosiannol: cynhyrchion technegolI5050

1

Er gwaethaf rheoliadau 4 a 5, caiff gosod ar y farchnad fathau o ddeunydd Categori 1 a Chategori 2 y cyfeirir atynt yn Erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 878/2004 i'w traddodi i waith technegol pwrpasol a gymeradwywyd yn unol ag Erthygl 18 o Reoliad y Gymuned ei awdurdodi yn unol ag Erthygl 2 o'r Rheoliad hwnnw.

2

Mae methu cydymffurfio ag Erthygl 4(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 878/2004 (gosod ar y farchnad) neu Erthygl 5 o'r Rheoliad hwnnw (casglu a chludo) yn dramgwydd.

Annotations:
Commencement Information
I50

Rhl. 50 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

Mesurau trosiannol: cynhyrchion ffotograffig yn dod o gelatinI5151

1

Er gwaethaf rheoliad 4, yn unol ag Erthygl 1 o Benderfyniad y Comisiwn 2004/407/EC, awdurdodir defnyddio gelatin i weithgynhyrchu cynhyrchion ffotograffig os–

a

y'i cynhyrchwyd o ddeunydd Categori 1 yn unol â'r Penderfyniad hwnnw; a

b

y'i mewnforiwyd yn unol â'r Penderfyniad hwnnw.

2

Rhaid i'r gwaith o weithgynhyrchu cynhyrchion ffotograffig fynd rhagddo yn y ffatri ffotograffig a restrir yn Atodiad I i'r Penderfyniad hwnnw, ac yn unol â chymeradwyaeth a roddwyd at y diben gan y Cynulliad Cenedlaethol.

3

Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol atal y gymeradwyaeth ar unwaith os na chydymffurfir ag amodau'r rheoliad hwn.

4

Ni chaiff unrhyw berson–

a

cludo'r gelatin ffotograffig mewn cerbyd sy'n cludo ar yr un pryd unrhyw gynnyrch a fwriedir ar gyfer bwyd neu fwyd anifeiliaid, gan gynnwys gelatin a fwriedir at ddibenion ac eithrio'r diben o'i ddefnyddio yn y diwydiant ffotograffig;

b

defnyddio'r gelatin a fewnforiwyd ac eithrio yn y ffatri ffotograffig a gymeradwywyd;

c

defnyddio'r gelatin at unrhyw ddiben ac eithrio cynhyrchu ffotograffig; neu

ch

anfon y gelatin i Aelod-wladwriaeth arall.

5

Rhaid i weithredydd y ffatri ffotograffig a gymeradwywyd sicrhau bod unrhyw gelatin ffotograffig sydd dros ben neu weddillion y gelatin ffotograffig a gwastraff arall sy'n deillio ohono–

a

yn cael eu cludo mewn cynhwysion dan sêl nad ydynt yn gollwng ac sydd wedi'u labelu ‘for disposal only’ mewn cerbydau o dan amodau hylendid boddhaol;

b

yn cael eu gwaredu fel gwastraff drwy eu llosgi'n unol â Chyfarwyddeb Senedd Ewrop a'r Cyngor 2000/76/EC23 neu mewn safle tirlenwi yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 1999/31/EC24; neu

c

yn cael eu hallforio i'r wlad y daeth y gelatin ohoni yn unol â Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 259/93 ar oruchwylio a rheoli llwythi o wastraff o fewn y Gymuned Ewropeaidd, i'r Gymuned ac o'r Gymuned25.

6

Rhaid i weithredydd y ffatri ffotograffig a gymeradwywyd gadw cofnodion am ddwy flynedd o leiaf yn rhoi manylion ynghylch prynu a defnyddio gelatin ffotograffig, yn ogystal ag ynghylch gwaredu gweddillion a deunydd dros ben.

7

Caiff arolygydd gyflwyno hysbysiad i unrhyw berson y mae ganddo yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth unrhyw ddeunydd y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo ac nad yw wedi'i gludo, ei ddefnyddio neu ei waredu'n unol â'r rheoliad hwn, yn ei gwneud yn ofynnol i'r ardygydd waredu'r deunydd fel a bennir yn yr hysbysiad.

8

Mae methu cydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r rheoliad hwn neu ag hysbysiad a gyflwynir oddi tano'n dramgwydd.

Annotations:
Commencement Information
I51

Rhl. 51 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

Mesurau trosiannol: llaethI5252

Awdurdodir casglu, cludo, prosesu, defnyddio a storio llaeth, cynhyrchion ar sail llaeth a chynhyrchion sy'n deillio o laeth yn unol ag Erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 79/2005, a'r Cynulliad Cenedlaethol yw'r awdurdod cymwys at ddibenion dyroddi cofrestriadau ac awdurdodiadau'n unol â'r Rheoliad hwnnw.

Annotations:
Commencement Information
I52

Rhl. 52 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

Diddymu a dirymuI5353

1

Diddymir y canlynol i'r graddau y maent yn effeithiol o ran Cymru–

a

adrannau 1, 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 12, 19 i 26, 29, 33 o Ddeddf Lladd-dai 197426 ac, yn adran 34, y diffiniad o “horse”, “construction regulations”, “licence”, “knacker’s yard”; a

b

adran 6 o Ddeddf Cwn 190627.

2

Dirymir Gorchymyn Rendro (Trin Hylif) (Cymru) 200129 a Dirymir Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid 2003.

Annotations:
Commencement Information
I53

Rhl. 53 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 199830

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol