(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn dirymu ac yn ail-wneud Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid 2003, y gwnaed darpariaeth ganddynt yng Nghymru ar gyfer gweinyddu a gorfodi Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau iechyd ynghylch sgil-gynhyrchion anifeiliaid na fwriedir i bobl eu bwyta (OJ Rhif L273, 10.10.2002, t.1) (“Rheoliad y Gymuned”).
Maent yn gorfodi offerynnau Cymunedol ychwanegol. Mae'r offerynnau hyn yn atodol i Reoliad y Cyngor ac yn ei ddiwygio ymhellach ac yn gwneud mesurau trosiannol pellach.
Mae'r Rheoliadau hefyd yn dileu mesurau darpariaethol Cymunedol sydd bellach wedi dod i ben.
At hyn, i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru, mae'r Rheoliadau'n diddymu'r darpariaethau hynny sy'n ymwneud â iardiau nacer yn Neddf Lladd-dai 1974 gan fod iardiau nacer yn cael eu rheoleiddio bellach o dan y Rheoliadau hyn.
I'r graddau y mae'r adran yn gymwys o ran Cymru, maent yn diddymu adran 6 o Ddeddf Cŵ n 1906 a oedd yn ymwneud â gadael carcasau yn y fath fodd fel y gallai cŵ n gael mynediad atynt, ac yn rhoi yn ei lle ddarpariaeth yn rheoliad 11 sy'n rheoleiddio mynediad pob anifail at sgil-gynhyrchion anifeiliaid.
Dyma'r offerynnau trosiannol sy'n diwygio–
a
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 808/2003 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau iechyd ynghylch sgil-gynhyrchion anifeiliaid na fwriedir i bobl eu bwyta50;
b
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran gwahardd ailgylchu mewnrywogaethol ar gyfer pysgod, claddu a llosgi sgil-gynhyrchion anifeiliaid ac o ran mesurau trosiannol penodol51;
c
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 813/2003 ar fesurau trosiannol o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran casglu, cludo a gwaredu cyn-fwydydd52;
ch
Penderfyniad y Comisiwn 2003/326/EC ar fesurau trosiannol o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran gwahanu gweithfeydd oleocemegol Categori 2 a rhai Categori 353;
d
Penderfyniad y Comisiwn 2004/407/EC ar reolau iechydol ac ardystio trosiannol o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran mewnforio gelatin ffotograffig o drydydd gwledydd penodol54;
dd
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 668/2004 sy'n diwygio Atodiadau penodol i Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, o ran mewnforio sgil-gynhyrchion anifeiliaid o drydydd gwledydd55;
e
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 878/2004 sy'n gosod mesurau trosiannol yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyfer sgil-gynhyrchion anifeiliaid penodol a ddosberthir yn ddeunyddiau Categori 1 a Chategori 2 ac a fwriedir at ddibenion technegol 56;
f
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 79/2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran defnyddio llaeth, cynhyrchion ar sail llaeth a chynhyrchion sy'n deillio o laeth, ac a ddiffinnir fel deunydd Categori 3 yn y Rheoliad hwnnw57;
ff
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 92/2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran y modd y gwaredir neu y defnyddir sgil-gynhyrchion anifeiliaid, ac sy'n diwygio Atodiad VI y Rheoliad o ran trawsffurfio bio-nwy a phrosesu brasderau a rendrwyd58;
g
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 93/2005 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran prosesu sgil-gynhyrchion anifeiliaid sy'n dod o bysgod a dogfennau masnachol ar gyfer cludo sgil-gynhyrchion anifeiliaid59.
Gwneir darpariaeth yng Nghymru ar gyfer gweinyddu a gorfodi mesurau yn Rheoliad y Gymuned o ran mewnforio, allforio a masnachu rhwng Aelod-wladwriaethau gan offerynnau ar wahân.
Mae'r Rheoliadau'n darparu fel a ganlyn.
Mae categoreiddio, casglu, cludo, gwaredu, storio, prosesu neu ddefnyddio deunydd Categori 1, Categori 2 neu Gategori 3 ac eithrio yn unol â Rheoliad y Gymuned (rheoliadau 4, 5 a 6) yn dramgwydd penodol. Mae cymysgedd o sgil-gynhyrchion mamalaidd ac anfamalaidd i'w trin fel pe baent yn sgil-gynhyrchion mamalaidd (rheoliad 7).
Mae casglu, cludo, adnabod neu storio sgil-gynhyrchion anifeiliaid ac eithrio yn unol â Rheoliad y Gymuned (rheoliad 8) yn dramgwydd penodol.
Mae rheoliadau 9 a 10 yn gorfodi'r cyfyngiadau a geir yn Erthygl 22 o Reoliad y Gymuned ar roi yn fwyd wastraff arlwyo a phrotein anifail wedi'i brosesu. At hyn, mae rheoliad 9 yn gwahardd rhoi yn fwyd i anifeiliaid a ffermir sgil-gynhyrchion anifeiliaid eraill heb eu prosesu.
Mae rheoliad 11 yn cyfyngu ar fynediad at wastraff arlwyo a sgil-gynhyrchion anifeiliaid eraill.
Mae rheoliad 12 yn gorfodi'r cyfyngiadau yn Erthygl 22 o Reoliad y Gymuned ar roi gwrtaith organig ar dir pori.
Mae rheoliadau 13 i 15 yn darparu ar gyfer cymeradwyo mangreoedd ar gyfer y gwahanol ddulliau o drin sgil-gynhyrchion anifeiliaid. Mae Rheoliad 16 yn darparu nad oes angen cymeradwyaeth ar gyfer compostio mewn mangre y tarddodd y deunydd a gaiff ei gompostio ohoni os cydymffurfir ag amodau'r rheoliad hwnnw.
Mae rheoliadau 17 i 21 yn darparu ar gyfer gwiriadau mewn gweithfeydd, wrth samplu ac mewn labordai a gymeradwywyd.
Mae rheoliadau 22 i 24 yn rheoleiddio rhoi ar y farchnad gynhyrchion amrywiol sy'n deillio o sgil-gynhyrchion anifeiliaid.
Mae rheoliadau 25 i 27 yn darparu rhanddirymiadau sy'n ymwneud â defnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid ar gyfer tacsidermi ac i'w rhoi'n fwyd i rai anifeiliaid penodedig. Mae Rheoliad 28 yn caniatáu claddu anifeiliaid anwes.
Mae rheoliad 29 yn caniatáu claddu a llosgi mewn ardaloedd pellennig, a ddiffinnir fel Ynys Enlli ac Ynys Bur. Mae rheoliadau 30 a 31 yn darparu ar gyfer claddu neu losgi yn achos brigiad clefyd neu ar gyfer llosgi a chladdu gwenyn a chynhyrchion gwenyna.
Mae rheoliadau 32 i 39 yn darparu ar gyfer cadw cofnodion.
Mae rheoliadau 40 i 42 yn darparu ar gyfer ceisiadau am gymeradwyaethau, awdurdodiadau a chofrestriadau, am eu hatal neu eu dirymu ac am sylwadau yn erbyn hysbysiad i'w diwygio, i'w hatal neu i'w dirymu.
O dan reoliadau 43 i 45 gall arolygydd gyflwyno hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol gwaredu sgil-gynnyrch anifeiliaid neu wastraff arlwyo ac yn ei gwneud yn ofynnol glanhau a diheintio unrhyw gerbyd, cynhwysydd neu fangre. Rhaid cydymffurfio ag unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan y Rheoliadau hyn a hynny ar draul y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo.
Mae rheoliadau 46 a 47 yn darparu pwerau mynediad a thramgwydd o rwystro arolygydd.
Gorfodir y Rheoliadau gan yr awdurdod lleol ac eithrio mewn mangreoedd penodol (rheoliad 49).
Mae rheoliadau 50 i 52 yn darparu ar gyfer mesurau trosiannol i gynhyrchion technegol, cynhyrchion ffotograffig o gelatin a llaeth (nad oes iddynt ddyddiad dod i ben).
Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gweithfeydd bio-nwy a chompostio.
Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwaredu hylif o rendro sgil-gynhyrchion anifeiliaid sy'n cnoi cil.
Mae Atodlen 3 yn darparu ar gyfer dulliau profi.
Mae torri'r Rheoliadau yn dramgwydd sy'n dwyn cosb ar gollfarn ddiannod o ddirwy hyd at yr uchafswm statudol neu gyfnod o dri mis yn y carchar. O gollfarnu ar dditiad, dirwy heb derfyn neu dymor o ddwy flynedd yn y carchar yw'r gosb (rheoliad 48).
Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi. Gellir cael copïau o Swyddfa'r Prif Swyddog Milfeddygol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.