- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
4.—(1) Bydd unrhyw berson sy'n meddu ar unrhyw ddeunydd Categori 1 neu sydd â rheolaeth drosto ac sy'n methu cydymffurfio ag Erthygl 4(2) neu Erthygl 4(3) o Reoliad y Gymuned yn euog o dramgwydd.
(2) At ddibenion Erthygl 4(2)(b) o Reoliad y Gymuned caniateir prosesu'r deunydd drwy ddefnyddio unrhyw un neu rai o ddulliau prosesu 1 i 5.
(3) Ni fydd y rheoliad hwn yn gymwys o ran deunydd y cyfeirir ato yn Erthygl 4(1)(e) o Reoliad y Gymuned (gwastraff arlwyo o gyfrwng cludo sy'n gweithredu o'r tu allan i'r Gymuned).
5.—(1) Bydd unrhyw berson sy'n meddu ar unrhyw ddeunydd Categori 2 neu sydd â rheolaeth drosto ac sy'n methu cydymffurfio ag Erthygl 5(2), Erthygl 5(3) neu Erthygl 5(4) (ac eithrio'r ddarpariaeth yn Erthygl 5(4) sy'n ymwneud ag allforio) o Reoliad y Gymuned yn euog o dramgwydd.
(2) At ddibenion Erthygl 5(2)(b) o Reoliad y Gymuned caniateir prosesu'r deunydd drwy ddefnyddio unrhyw un neu rai o ddulliau prosesu 1 i 5.
(3) At ddibenion Erthygl 5(2)(e) o Reoliad y Gymuned caniateir rhoi ar dir y sgil-gynhyrchion anifeiliaid a bennir yn yr is-baragraff hwnnw ar yr amod nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi gosod unrhyw gyfyngiadau sy'n ymwneud ag iechyd anifeiliaid mewn perthynas â'r sgil-gynhyrchion hynny.
6. Bydd unrhyw berson sy'n meddu ar unrhyw ddeunydd Categori 3 neu sydd â rheolaeth drosto ac sy'n methu cydymffurfio ag Erthygl 6(2) neu Erthygl 6(3) o Reoliad y Gymuned yn euog o dramgwydd.
7. Pan gymysgir sgil-gynhyrchion mamalaidd a sgil-gynhyrchion anfamalaidd, rhaid ystyried y cymysgedd yn sgil-gynhyrchion mamalaidd.
8.—(1) Bydd unrhyw berson sy'n methu cydymffurfio ag Erthygl 7(1), 7(2) neu 7(5) o Reoliad y Gymuned yn euog o dramgwydd.
(2) At ddibenion paragraff (1), os bydd gwahanol gategorïau o sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn cael eu cludo mewn un cerbyd ond mewn gwahanol gynwysyddion neu adrannau, ac os na ellir gwarantu y bydd y gwahanol fathau o sgil-gynhyrchion yn hollol ar wahân, rhaid trin y sgil-gynhyrchion sy'n cael eu cludo yn unol â'r gofynion ar gyfer y sgil-gynhyrchion uchaf eu risg sy'n cael eu cludo.
(3) Yn unol ag Erthygl 7(6) o'r Rheoliad hwnnw, ni fydd darpariaethau Erthygl 7 yn gymwys i wrtaith sy'n cael ei gludo o fewn y Deyrnas Unedig.
(4) Yn unol â pharagraff 1 o Bennod X o Atodiad II i Reoliad y Gymuned, caniateir i ddogfen fasnachol sy'n cynnwys yr wybodaeth ym Mhennod III o Atodiad II i Reoliad y Gymuned, ni waeth beth fyddo'i fformat, fynd gyda sgil-gynhyrchion anifeiliaid a gludir o fewn y Deyrnas Unedig.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: