RHAN 7LL+CCofnodion

CofnodionLL+C

32.—(1Rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo gadw cofnod o dan y Rheoliadau hyn ei gadw am ddwy flynedd o leiaf, ac mae methu gwneud hynny'n dramgwydd.

(2Caiff cofnod fod ar ffurf ysgrifenedig neu electronig.

Cofnodion ar gyfer traddodi, cludo neu dderbyn sgil-gynhyrchion anifeiliaidLL+C

33.  Bydd unrhyw berson sy'n methu cydymffurfio ag Erthygl 9(1) o Reoliad y Gymuned yn euog o dramgwydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 33 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

Cofnodion ar gyfer claddu neu losgi sgil-gynhyrchion anifeiliaidLL+C

34.  Bydd unrhyw berson sy'n methu cydymffurfio ag Erthygl 9 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003 yn euog o dramgwydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 34 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

Cofnodion ar gyfer gwaredu neu ddefnyddio yn y fangreLL+C

35.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i weithredydd unrhyw fangre sy'n gwaredu neu'n defnyddio unrhyw sgil-gynnyrch anifeiliaid (ac eithrio gwrtaith neu ddeunydd nad yw wedi'i gynnwys yn Rheoliad y Gymuned o dan Erthygl 1(2) o'r Rheoliad hwnnw), neu gynnyrch wedi'i brosesu yn y fangre wneud cofnod wrth waredu neu ddefnyddio sgil-gynnyrch o bob gwarediad neu ddefnydd yn dangos y dyddiad y gwaredwyd neu y defnyddiwyd y sgil-gynnyrch anifeiliaid a faint o'r deunydd a waredwyd neu a ddefnyddiwyd a disgrifiad ohono, a bydd methu gwneud hynny yn dramgwydd.

(2Ni fydd y gofyniad ym mharagraff (1) yn gymwys i waredu yn y fangre drwy roi sgil-gynhyrchion anifeiliaid neu gynhyrchion wedi'u prosesu yn fwyd i ymlusgiaid ac i adar ysglyfaethus ac eithrio anifeiliaid sw neu syrcas.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 35 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

Cofnodion traddodi i'w cadw gan weithredwyr gweithfeydd bio-nwy a gweithfeydd compostioLL+C

36.—(1Rhaid i weithredydd unrhyw waith bio-nwy neu waith compostio sydd yn derbyn gwastraff arlwyo gofnodi–

(a)y dyddiad y danfonwyd y gwastraff arlwyo i'r fangre;

(b)faint o wastraff arlwyo a ddanfonwyd a disgrifiad ohono, gan gynnwys datganiad ynghylch a gymerwyd camau yn y tarddle i sicrhau nad oedd cig wedi'i gynnwys yn y gwastraff; ac

(c)enw'r cludydd;

a bydd methu gwneud hynny'n dramgwydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 36 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

Cofnodion triniaeth ar gyfer gweithfeydd bio-nwy a gweithfeydd compostioLL+C

37.  Rhaid i weithredydd gwaith bio-nwy neu waith compostio sy'n trin gwastraff arlwyo neu sgil-gynhyrchion anifeiliaid eraill gofnodi–

(a)y dyddiadau y caiff y deunydd ei drin;

(b)disgrifiad o'r deunydd a gaiff ei drin;

(c)faint o ddeunydd a gaiff ei drin;

(ch)canlyniad pob gwiriad a gyflawnwyd ar y pwyntiau critigol a nodir o dan baragraff 4 o Ran I o Atodlen 1; a

(d)digon o wybodaeth i ddangos bod y deunydd wedi'i drin yn ôl y paramedrau gofynnol;

a bydd methu gwneud hynny yn dramgwydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 37 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

Cofnodion ar gyfer labordai a gymeradwywydLL+C

38.  Rhaid i weithredydd labordy a gymeradwywyd o dan reoliad 21 gofnodi, gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol–

(a)enw a chyfeiriad y fangre lle y cymerwyd y sampl;

(b)y dyddiad y cymerwyd y sampl;

(c)disgrifiad o'r sampl a sut i'w hadnabod;

(ch)y dyddiad y daeth y sampl i law yn y labordy;

(d)y dyddiad y profwyd y sampl yn y labordy; ac

(dd)canlyniad y prawf;

a bydd methu gwneud hynny'n dramgwydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 38 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

Cofnodion i'w cadw ar gyfer traddodi compost neu weddill traulLL+C

39.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i feddiannydd mangre y mae anifeiliaid cnoi cil, moch neu adar yn cael eu cadw arni gofnodi–

(a)y dyddiad y deuir â'r compost neu'r gweddill traul i'r fangre honno;

(b)faint o gompost neu weddill traul a disgrifiad ohono;

(c)y tir y rhoddir y compost neu'r gweddill traul arno;

(ch)dyddiad ei roi ar y tir; a

(d)y dyddiad y rhoddwyd y tir gyntaf dan gnwd neu'r dyddiad y caniatawyd i anifeiliaid sy'n cnoi cil, moch neu adar (ac eithrio adar gwyllt) fynd ar y tir, p'un bynnag yw'r cynharaf;

a bydd methu gwneud hynny yn dramgwydd.

(2Ni fydd y gofyniad ym mharagraff (1) i gadw cofnodion yn gymwys yn achos unrhyw gyflenwad o gompost neu weddill traul sydd i'w ddefnyddio mewn unrhyw fangre a ddefnyddir fel annedd yn unig.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 39 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1