- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2006. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
21.—(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo labordai o dan y rheoliad hwn i gynnal un neu ragor o'r profion yn y rheoliad hwn os caiff ei fodloni bod gan y labordai hynny y cyfleusterau, y personél a'r gweithdrefnau gweithredu angenrheidiol i wneud hynny.
(2) Wrth benderfynu a ddylid rhoi cymeradwyaeth neu barhau i wneud hynny, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol i'r labordy gynnal yn llwyddiannus unrhyw brofion rheoli ansawdd y mae'n rhesymol i'r Cynulliad Cenedlaethol weld yn dda eu cynnal.
(3) Rhaid i weithredydd labordy a gymeradwywyd o dan y rheoliad hwn ac sy'n cynnal profion at ddibenion y Rheoliadau hyn neu Reoliad y Gymuned wneud hynny yn unol â'r darpariaethau canlynol, a bydd methu â gwneud hynny yn dramgwydd.
(4) Rhaid cynnal prawf ar gyfer Clostridium perfringens yn unol â'r dull yn Rhan 1 o Atodlen 3 neu (os yw hynny wedi'i bennu yn y gymeradwyaeth) â dull sy'n cydymffurfio ag ISO 7937/1997 (BS-EN 13401:1999) (Enumeration of Clostridium perfringens) neu ddull cyfwerth(1).
(5) Rhaid cynnal prawf Salmonela yn unol ag un o'r dulliau yn Rhan II o Atodlen 3, neu (os yw hynny wedi'i bennu yn y gymeradwyaeth) â dull sy'n cydymffurfio ag–
(a)ISO 6579/2002/BS-EN 12824:1998 (Detection of Salmonella) neu ddull cyfwerth(2); neu
(b)NMKL 71: 1993 neu ddull cyfwerth(3).
(6) Rhaid cynnal prawf Enterobacteriaceae yn unol â'r dull yn Rhan III o Atodlen 3, neu (os yw hynny wedi'i bennu yn y gymeradwyaeth) â dull sy'n cydymffurfio ag ISO 7402/1993 (BS 5763: Rhan 10: 1993) (Enumeration of Enterobacteriaceae) neu ddull cyfwerth(4).
(7) Pan fydd profion yn cael eu cynnal er mwyn canfod un o'r canlynol, rhaid i weithredydd labordy a gymeradwywyd o dan y rheoliad hwn hysbysu ar unwaith y Cynulliad Cenedlaethol a gweithredydd y fangre–
(a)os yw'r profion yn methu cadarnhau bod y deunydd yn rhydd rhag Clostridium perfringens;
(b)os yw'r profion yn methu â chadarnhau bod y deunydd yn rhydd rhag Salmonela; neu
(c)os yw'r deunydd yn methu'r prawf ar gyfer Enterobacteriaceae ym mharagraff 5, Rhan III o Atodlen 3;
a bydd methu gwneud hynny yn dramgwydd.
(8) Rhaid i weithredydd labordy a gymeradwywyd o dan y rheoliad hwn hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol, o ran deunydd wedi'i brosesu, ar ddiwrnod olaf pob mis o nifer y profion a gynhaliwyd yn ystod y mis hwnnw, eu math a'u canlyniadau, a bydd methu gwneud hynny yn dramgwydd.
(9) Os yw'r sampl wedi'i hanfon i labordy a gymeradwywyd o fangre y tu allan i Gymru, rhaid dehongli'r gofyniad yn y rheoliad hwn i hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol fel gofyniad i hysbysu'r awdurdod cymwys ar gyfer y fangre y mae'r sampl wedi'i hanfon ohoni.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 21 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1
Cyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig, British Standards House, 389 Chiswick High Road, Llundain W4 4AL.
Cyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig; gweler uchod.
Cyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig; gweler uchod.
Cyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig; gweler uchod.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: