38. Rhaid i weithredydd labordy a gymeradwywyd o dan reoliad 21 gofnodi, gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol–
(a)enw a chyfeiriad y fangre lle y cymerwyd y sampl;
(b)y dyddiad y cymerwyd y sampl;
(c)disgrifiad o'r sampl a sut i'w hadnabod;
(ch)y dyddiad y daeth y sampl i law yn y labordy;
(d)y dyddiad y profwyd y sampl yn y labordy; ac
(dd)canlyniad y prawf;
a bydd methu gwneud hynny'n dramgwydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 38 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1