41.—(1) Drwy gyflwyno hysbysiad i'r gweithredydd–
(a)rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol atal ar unwaith gymeradwyaeth, awdurdodiad neu gofrestriad os na chydymffurfir ag unrhyw un o'r amodau y rhoddwyd y gymeradwyaeth, yr awdurdodiad neu'r cofrestriad oddi tanynt, a
(b)caiff y Cynulliad Cenedlaethol atal neu ddiwygio cymeradwyaeth, awdurdodiad neu gofrestriad os y'i bodlonir na chydymffurfir â darpariaethau Rheoliad y Gymuned neu'r Rheoliadau hyn.
(2) O ran ataliad neu ddiwygiad o dan baragraff (1)(b)–
(a)rhaid iddo gael effaith ar unwaith os yw'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn ei fod yn angenrheidiol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid;
(b)fel arall ni fydd yn cael effaith am o leiaf 21 o ddiwrnodau ar ôl cyflwyno'r hysbysiad.
(3) Rhaid i'r hysbysiad–
(a)ddatgan pryd y mae'n dod yn effeithiol;
(b)rhoi'r rhesymau drosto; ac
(c)esbonio hawl gweithredydd y fangre i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i berson a benodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(4) Os na fydd yr hysbysiad yn cael effaith ar unwaith, a bod sylwadau'n cael eu cyflwyno o dan reoliad 42, ni fydd diwygiad neu ataliad yn effeithiol hyd oni wneir y penderfyniad terfynol gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â'r rheoliad canlynol, onid yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu ei bod yn angenrheidiol, er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid, i'r diwygiad neu'r ataliad gael effaith ar unwaith a'i fod yn cyflwyno hysbysiad i'r gweithredydd.
(5) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, drwy hysbysiad, ddirymu cymeradwyaeth, awdurdodiad neu gofrestriad os yw wedi'i fodloni, yn dilyn sylwadau a gyflwynir o dan reoliad 42, os o gwbl, yn unol â'r rheoliad canlynol sy'n cefnogi ataliad, ac o gymryd holl amgylchiadau'r achos i ystyriaeth, na fydd y fangre'n cael ei rhedeg yn unol â'r Rheoliadau hyn ac â Rheoliad y Gymuned.