ATODLEN 1Gofynion ychwanegol ar gyfer gweithfeydd bio-nwy a gweithfeydd compostio

RHAN IISystemau a pharamedrau ar gyfer trin gwastraff arlwyo

I11

Oni fydd cymeradwyaeth yn benodol yn caniatáu system wahanol, rhaid trin gwastraff arlwyo drwy un o'r systemau a bennir yn y tabl isod. Rhaid i'r system sicrhau y bydd y deunydd yn cael ei drin yn ôl y paramedrau canlynol:

Compostio

System

Compostio mewn adweithydd caeedig

Compostio mewn adweithydd caeedig

Compostio mewn rhenciau wedi'u hamgáu

Mwyafswm maint y gronyn

40cm

6cm

40cm

Isafbwynt y tymheredd

60°C

70°C

60°C

Lleiafswm yr amser a dreuliwyd ar isafbwynt y tymheredd

2 ddiwrnod

1 awr

8 niwrnod (yn ystod y cyfnod hwn, rhaid troi'r rhenc o leiaf deirgwaith a hynny heb fod yn llai aml na phob deuddydd)

Rhaid bodlonir gofynion ynglŷn ag amser a thymheredd fel rhan o'r broses gompostio.

Bio-nwy

System

Bio-nwy mewn adweithydd caeedig

Bio-nwy mewn adweithydd caeedig

Mwyafswm maint y gronyn

5cm

6cm

Isafbwynt y tymheredd

57°C

70°C

Lleiafswm yr amser a dreuliwyd ar isafbwynt y tymheredd

5 awr

1 awr

Annotations:
Commencement Information
I1

Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

I22

Fel rheol rhaid i'r gymeradwyaeth bennu un o'r dulliau yn y tabl, ond caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo system wahanol os yw wedi'i fodloni ei fod yn sicrhau'r un gostyngiad mewn pathogenau â'r dulliau hynny (gan gynnwys unrhyw amodau ychwanegol sy'n cael eu gosod ar gyfer y dulliau hynny) ac os felly rhaid i'r system gyfan gael ei disgrifio'n llawn yn y gymeradwyaeth.

Annotations:
Commencement Information
I2

Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

Gweithfeydd compostioI33

Os yw'r gymeradwyaeth ar gyfer gwaith compostio yn pennu un o'r dulliau yn y tabl, rhaid iddi bennu pa un ac, yn ychwanegol at hynny, rhaid bod ynddi'r naill neu'r llall o'r amodau canlynol–

a

y bydd mesurau yn cael eu cymryd yn y tarddle i sicrhau na chafodd cig ei gynnwys yn y gwastraff arlwyo a bod y deunydd yn cael ei storio am 18 o ddiwrnodau o leiaf ar ôl ei drin (nid yw'n angenrheidiol ei storio mewn system wedi'i hamgáu), neu

b

y bydd y deunydd yn cael ei drin eto, ar ôl y driniaeth gyntaf, gan ddefnyddio un o'r dulliau sydd yn y tabl ac sydd wedi'i bennu yn y gymeradwyaeth (nid o reidrwydd yr un dull ag a ddefnyddiwyd ar gyfer y driniaeth gyntaf) ac eithrio, os yw'r driniaeth mewn rhenc, nad oes angen i'r ail driniaeth fod mewn rhenc wedi'i hamgáu.

Annotations:
Commencement Information
I3

Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

Gweithfeydd bio-nwyI44

Rhaid i gymeradwyaeth gwaith bio-nwy bennu un o'r dulliau yn y tabl ac, yn ychwanegol at hynny, ei gwneud yn ofynnol naill ai–

a

bod camau wedi'u cymryd yn y tarddle i sicrhau na chafodd cig ei gynnwys yn y gwastraff arlwyo; neu

b

bod y deunydd, ar ôl iddo gael ei drin, yn cael ei storio am 18 o ddiwrnodau ar gyfartaledd.