ATODLEN 2Hylif yn deillio o anifeiliaid sy'n cnoi cil

Rheoliad 17(4)

Trin neu ollwng hylif wrth brosesu sgil-gynhyrchion anifeiliaid sy'n cnoi cilI11

1

Rhaid i unrhyw berson sy'n prosesu unrhyw sgil-gynnyrch anifeiliaid yn deillio o anifail sy'n cnoi cil–

a

gollwng yr hylif sy'n dod o'r broses neu ei anfon i'w ollwng–

i

i garthffos gyhoeddus yn unol â chydsyniad neu gytundeb elifiant masnachol gan yr ymgymerwr carthffosiaeth perthnasol o dan Ddeddf y Diwydiant Dŵ r 199131; neu

ii

i ddyfroedd a reolir (o fewn ystyr Deddf Adnoddau Dŵ r 199132) i gydymffurfio â chydsyniad gollwng gan Asiantaeth yr Amgylchedd o dan y Ddeddf honno; neu

b

trin yr hylif sy'n dod o'r gwaith prosesu yn y fangre brosesu yn y fath fodd fel bod gan yr hylif a gafodd ei drin–

i

lefel o solidau crog o ddim mwy nag 80 mg y litr, a

ii

galw am ocsigen biocemegol o ddim mwy na 60 mg y litr,

ac mae methu gwneud hynny'n dramgwydd.

2

Os yw'r person sy'n prosesu'r sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn traddodi hylif nad yw wedi'i drin yn unol ag is-baragraff (1)(b) i'w ollwng gan berson arall, a bod y person hwnnw'n methu ei ollwng yn unol ag is-baragraff (1)(a)–

a

mae'r person hwnnw ynghyd â'r proseswr yn euog o dramgwydd; ond

b

mae i'r proseswr ddangos i'r proseswr gredu ar sail resymol y byddai'r person yn gollwng yr hylif yn unol ag is-baragraff 1(a) yn amddiffyniad.

3

Nid yw'r paragraff hwn yn gymwys o ran gwaed nad yw wedi'i gymysgu gydag unrhyw ddeunydd arall sy'n dod o anifail sy'n cnoi cil.

Annotations:
Commencement Information
I1

Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

Mesur hylif a gafodd ei drinI22

1

Er mwyn sicrhau bod yr hylif a gafodd ei drin yn cydymffurfio â'r lefelau ym mharagraff 1(1)(b) y lleiaf y mae'n rhaid i weithredydd sy'n trin hylif yn unol â'r paragraff hwnnw ei wneud yw'r mesuriadau canlynol.

2

Rhaid i'r gweithredydd fonitro'n barhaus lefel y solidau crog yn yr hylif a gafodd ei drin neu fel arall ei mesur deirgwaith y dydd.

3

Unwaith yr wythnos, rhaid i'r gweithredydd fesur lefel y solidau crog yn yr hylif a gafodd ei drin drwy ddull sy'n cydymffurfio â “Suspended Settleable and Total Dissolved Solids in Waters and Effluents33”.

4

Unwaith yr wythnos rhaid i'r gweithredydd fesur galw'r hylif a gafodd ei drin am ocsigen biocemegol drwy ddull sy'n cydymffurfio â'r “5 day Biochemical Oxygen Demand (BOD5)34”.

5

Os yw unrhyw un o'r mesuriadau hyn yn dangos nad yw'r hylif a gafodd ei drin yn cydymffurfio â'r lefelau ym mharagraff 1(1)(b) rhaid i'r gweithredydd sicrhau mai'r hylif a gafodd ei drin yn unol â pharagraff 1(1)(a) yn unig sydd yn cael ei ryddhau hyd onid yw profion pellach yn dangos bod y system drin yn cyrraedd y lefelau gofynnol.

6

Mae methu cydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r paragraff hwn yn dramgwydd.

Annotations:
Commencement Information
I2

Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

CofnodionI33

1

Rhaid i unrhyw berson sy'n prosesu unrhyw sgil-gynhyrchion anifeiliaid sy'n deillio o anifail sy'n cnoi cil, gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, gofnodi dyddiadau a chanlyniadau mesuriadau a wnaed yn unol â pharagraff 2.

2

Ar gyfer yr holl hylif a gaiff ei ollwng neu ei draddodi o'r fangre brosesu, rhaid iddo, gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, gofnodi–

a

ai hylif wedi'i drin neu heb ei drin oedd yr hylif;

b

dyddiad a dull ei ollwng neu ei draddodi;

c

faint ohono a ollyngwyd neu a draddodwyd;

ch

ym mha le y'i gollyngwyd, neu'r fangre y traddodwyd ef iddi; a

d

enw'r cludydd, os oedd cludydd.

3

Mae methu cydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r paragraff hwn yn dramgwydd.

Annotations:
Commencement Information
I3

Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1

Cofnodion traddodiI44

1

Rhaid i unrhyw berson sy'n traddodi unrhyw hylif sy'n deillio o brosesu sgil-gynhyrchion anifeiliaid sy'n deillio o anifail sy'n cnoi cil (p'un ai ef ei hun a'u prosesodd ai peidio) o unrhyw fangre, gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, gofnodi–

a

cyfeiriad y fangre y cesglir yr hylif ohoni;

b

y dyddiad y cesglir yr hylif;

c

faint o hylif a disgrifiad ohono, ac ai hylif wedi'i drin neu heb ei drin ydyw;

ch

y fan lle y mae i'w ollwng neu i'w waredu.

2

Rhaid iddo roi copi i'r person sy'n cludo'r hylif.

3

Rhaid i'r cludydd gadw ei gopi o'r cofnod gyda'r llwyth hyd oni ollyngir neu oni waredir yr hylif.

4

Rhaid i'r sawl sy'n traddodi gadw copi o'r cofnod am ddwy flynedd o leiaf, a rhaid i'r cludydd ei gadw am ddwy flynedd o leiaf.

5

Mae methu cydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r paragraff hwn yn dramgwydd.