Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 20/10/2011.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2006. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
1. Rhaid dechrau'r profion pan ddaw'r sampl i law neu ar y diwrnod gwaith cyntaf sy'n caniatáu i'r dull hwn gael ei gwblhau. Os na ddechreuir y prawf ar y diwrnod y daw'r sampl i law rhaid ei storio mewn oergell rhwng 2°C a 8°C hyd nes y bydd ei hangen. Os cafodd y sampl ei rhoi mewn oergell rhaid ei thynnu o'r oergell a'i storio ar wres ystafell am o leiaf un awr cyn i'r prawf ddechrau.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1
2. Rhaid gweithredu'r profion drwy ddefnyddio pum cyfran 10 gram o bob sampl a gyflwynir i'w phrofi. Rhaid rhoi pob sampl 10 gram yn aseptigol mewn cynhwysydd sterilaidd sy'n cynnwys 90 ml o Ddŵ r Pepton Byfferog a'i chymysgu'n drylwyr hyd nes bod y samplau mewn daliant gwastad.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1
3. Am bob cyfran o'r sampl rhaid trosglwyddo 1 ml o hydoddiant i ddysgl petri 90 mm ddi-haint (yn ddyblyg). Rhaid bod y platiau wedi'u labelu i ddynodi cyfran y sampl y cymerwyd yr hydoddiant ohoni. Rhaid ychwanegu 15 ml o Agar Glwcos Bustl Coch Fioled (VRBGA)(1) ar dymheredd o 47°C±2°C ym mhob dysgl petri ac ar unwaith ei gymysgu gan bwyll drwy droelli'r ddysgl bum gwaith yn glocwedd a phum gwaith yn wrthglocwedd.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1
4. Unwaith y mae'r agar wedi ceulo, rhaid troshaenu pob plât agar â 10 ml VRBGA pellach o agar ar dymheredd o 47°C±2°C. Pan fydd y droshaen wedi ceulo rhaid troi'r platiau wyneb i waered a'u deor yn anerobig ar 36°C±1°C am 20 awr±2 awr.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1
5. Ar ôl y deoriad rhaid archwilio pob set o blatiau dyblyg am gytrefi sy'n nodweddu Enterobacteriaceae (cytrefi porffor 1-2 mm eu diamedr). Rhaid cyfrif yr holl gytrefi nodweddiadol ar bob plât a chymryd cymedr rhifyddol y platiau dyblyg.
Bydd y sampl yn methu dros dro naill ai–
(a)os bydd unrhyw gymedr rhifyddol dros 30(2); neu
(b)os bydd tri neu ragor o gymedrau rhifyddol dros 10;
ac yn yr achos hwnnw rhaid dilyn y weithdrefn ganlynol er mwyn cadarnhau a yw'r cytrefi yn Enterobacteriaceae neu beidio.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1
6. Ar ôl cyfrif y cytrefi, rhaid cymryd cytrefi nodweddiadol ar hap o'r platiau agar, a rhaid i'r nifer fod o leiaf yn ail isradd y cytrefi a gyfrifwyd. Rhaid is-feithrin y cytrefi ar blât agar gwaed a'u deor yn aerobig ar 37°C±1°C am 20 awr±2 awr.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1
7. Rhaid cyflawni prawf ocsidas a phrawf eplesiad glwcos ar bob un o'r pum cytref a gafodd eu his-feithrin. Rhaid ystyried bod cytrefi sy'n ocsidas-negyddol ac yn eplesiad glwcos-cadarnhaol yn Enterobacteriaceae.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1
8. Os na phrofir bod yr holl gytrefi yn Enterobacteriaceae, rhaid i'r cyfanswm cyfrif ym mharagraff 5 gael ei leihau yn gymesur cyn cadarnhau a ddylai'r sampl fethu neu beidio.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 3 para. 8 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1
9. Rhaid cynnal profion rheoli bob dydd wrth ddechrau profi gan ddefnyddio–
(a)Escherichia coli NCTC 10418 heb fod yn fwy na saith niwrnod oed ar adeg ei ddefnyddio; ac
(b)protein anifeiliaid neu gompost neu weddill traul wedi'i brosesu sy'n rhydd rhag Enterobacteriaceae.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 3 para. 9 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1
10. Rhaid rhoi cyfran 10 gram o'r protein anifail wedi'i rendro yn aseptigol mewn cynhwysydd sterilaidd sy'n cynnwys 90 ml BPW a'i gymysgu'n drwyadl nes bod y sampl mewn daliant gwastad.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 3 para. 10 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1
11. Rhaid rhoi un gytref o Escherichia coli mewn 10 ml BPW a'i gymysgu i ffurfio daliant gwastad. Rhaid ychwanegu 0.1 ml o'r daliad at y daliad yn y paragraff blaenorol.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 3 para. 11 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1
12. Yna caiff hon ei thrin a'i harchwilio yn yr un modd â'r samplau prawf. Os na ffurfir cytrefi nodweddiadol yna rhaid bod profion y diwrnod hwnnw'n annilys a rhaid eu hailadrodd.
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. 3 para. 12 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1
Violet Red Bile Glucose Agar – Gweler Mossell D A A, Eelderink I, Koopmans M, van Rossem F (1978) Laboratory Practice 27 No. 12 1049-1050; Emap Maclaren, PO Box 109, Maclaren House, 19 Scarbrook Road, Croydon CR9 1QH.
Mae cymedr rhifyddol yn gyfwerth â 3x10 197 o unedau ffurfio cytref fesul gram o"r sampl wreiddiol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: