Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ddisgyblion yng nghyfnod allweddol 4 (sef, yn fras, disgyblion 14 – 16 oed) sy'n mynychu ysgolion cymunedol, ysgolion sefydledig ac ysgolion gwirfoddol, ac ysgolion arbennig cymunedol ac ysgolion arbennig sefydledig (ac eithrio ysgolion a gynhelir mewn ysbytai) yng Nghymru. Mae'r Rheoliadau hyn yn datgymhwyso gofynion Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru ar gyfer gwyddoniaeth mewn perthynas â disgybl os yw pennaeth yr ysgol wedi'i fodloni bod y disgybl yn dilyn cwrs sy'n arwain at gymhwyster allanol a gymeradwywyd o dan y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol ar lefel mynediad, ar lefel 1 neu ar lefel 2. Y gofynion a ddatgymhwysir yw'r rhai a bennir yn adran 106 o Ddeddf Addysg 2002, sy'n darparu bod y Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer cyfnod allweddol 4 i gynnwys gwyddoniaeth (ymhlith pynciau eraill) a'i fod i bennu targedau cyrhaeddiad, rhaglenni astudio a threfniadau asesu ar gyfer y pwnc hwnnw. Mae'r targedau cyrhaeddiad a'r rhaglenni astudio ar gyfer gwyddoniaeth wedi'u cynnwys ar hyn o bryd mewn Dogfen o'r enw ‘Science in the National Curriculum’ (ISBN 07504 24028), y mae cop 149 au ohoni ar gael o The Stationery Office Limited. Nid oes unrhyw drefniadau asesu.

Mae'r datgymhwyso yn gymwys am gyfnod cyfyngedig o 2 flynedd (sy'n dod i ben ar ddiwedd Gorffennaf 2008).