http://www.legislation.gov.uk/wsi/2006/1336/contents/made/welsh
Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 10 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2006
cy
King's Printer of Acts of Parliament
2011-07-05
ADDYSG, CYMRU
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym (ar 31 Mai 2006), o ran Cymru, ddarpariaethau Atodlen 12 i Ddeddf Addysg 2002 a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn. Mae Atodlen 12 yn diwygio adrannau 3 a 4 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998. Mae'r adrannau hynny'n gymwys i'r General Teaching Council for England ac, yn rhinwedd adran 9 o'r Ddeddf honno, i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru. Prif effaith y diwygiadau a gaiff eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn yw y bydd Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, wrth ystyried cais cofrestru, yn gallu gwrthod y cais os nad yw'n fodlon bod y rhai sy'n gwneud cais am gael eu cofrestru yn addas i fod yn athrawon. Mae'r darpariaethau y daethpwyd â hwy i rym hefyd-yn rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru y pŵer i wneud rheoliadau ar yr amod bod, neu nad yw, unrhyw ddisgrifiad a ragnodwyd o bersonau yn eu gwneud yn bersonau addas i fod yn athrawon;yn galluogi'r cyfryw reoliadau i ddarparu bod gan y rhai sy'n gwneud cais am gael eu cofrestru gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru ac y mae eu ceisiadau'n cael eu gwrthod yr hawl i apelio yn erbyn penderfyniad y Cyngor;yn galluogi'r cyfryw reoliadau i ddarparu yr hysbysir y rhai sy'n gwneud cais am gael eu cofrestru gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru o benderfyniad y Cyngor ac o'u hawl i apelio.