Offerynnau Statudol Cymru
2006 Rhif 1338 (Cy.130) (C.45)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Deddf Addysg 2005 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2006
Wedi'i wneud
16 Mai 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 120(2) a 125(4) o Ddeddf Addysg 2005(1), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg 2005 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2006.
2. –
(1) Yn y Gorchymyn hwn–
ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996(2);
ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(3);
ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Dysgu a Medrau 2000(4); ac
ystyr “Deddf 2005” (“the 2005 Act”) yw Deddf Addysg 2005.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf 2005 ac at Atodlenni iddi.
Y Diwrnod penodedig
3. Daw darpariaethau Deddf 2005 a bennir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Medi 2006 o ran Cymru.
4. –
(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae darpariaethau Deddf 2005 a bennir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn i ddod i rym ar 1 Medi 2006 o ran Cymru a Lloegr.
(2) Nid yw adrannau 41 a 42 i ddod i rym ond i'r graddau eu bod yn gymwys i ysgolion arbennig o'r disgrifiad sydd yn adran 28(2)(d).
5. Daw darpariaethau Deddf 2005 a bennir yn Atodlen 3 i'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2007 o ran Cymru a Lloegr.
Darpariaethau trosiannol ac arbedion
6. Mae'r darpariaethau trosiannol a'r arbedion a nodir yn Atodlen 4 yn gymwys.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
16 Mai 2006
Erthygl 3
ATODLEN 1Darpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Medi 2006 o ran Cymru
Y ddarpariaeth | Y pwnc |
---|---|
Adran 44 | Categorïau o ysgolion sy'n peri pryder. |
Adran 45 | Achosion pan gaiff y Cynulliad gyfarwyddo cau ysgol. |
Adran 46 | Dosbarthiadau chwech y mae gofyn eu gwella'n sylweddol. |
Adran 47 | Ystyr “denominational education”. |
Adran 51 | Pŵer yr AALl i arolygu ysgol a gynhelir at ddiben penodol. |
Adran 53, i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 7 y cyfeirir atynt isod. | Arolygu gwarchod plant, gofal dydd ac addysg feithrin. |
Adran 54 | Arolygu ysgolion annibynnol. |
Adran 58 | Arolygu cofnodion cyfrifiadurol. |
Adran 59 | Adroddiadau cyfunol. |
Adran 60 | Diddymu Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996. |
Adran 61, i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 9 y cyfeirir atynt isod. | Diwygiadau pellach sy'n ymwneud ag arolygu ysgolion. |
Adran 71 | Cynigion sy'n ymwneud ag ysgolion arbennig a gynhelir. |
Adran 105 | Darparu a chyllido addysg uwch mewn ysgolion a gynhelir. |
Adran 106 | Trefniadau derbyn i wneud darpariaeth arbennig i blant sy'n derbyn gofal. |
Adran 115 | Pwer corff llywodraethu i wneud darpariaeth amgen ar gyfer disgyblion sydd wedi'u gwahardd. |
Adran 116 | Rhiant yn methu â sicrhau bod plentyn yn mynychu'r ddarpariaeth amgen. |
Adran 117 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 18 isod. | Diwygiadau pellach sy'n ymwneud â Rhan 4. |
Adran 118 | Ystyr “the 2002 Act” yn Rhan 4. |
Adran 123 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 19 y cyfeirir atynt isod. | Diddymiadau. |
Atodlen 5 | Dosbarthiadau chwech y mae angen eu gwella'n sylweddol. |
Paragraffau 6 i 24 o Atodlen 7. | Arolygu gwarchod plant, gofal dydd ac addysg feithrin. |
Atodlen 8 | Arolygu ysgolion annibynnol. |
Paragraffau 8 i 21 a 28 i 30 o Atodlen 9. | Diwygiadau pellach sy'n ymwneud ag arolygu ysgolion. |
Paragraffau 1, 6 a 15 o Atodlen 18. | Diwygiadau pellach sy'n ymwneud â Rhan 4. |
Yn Atodlen 19, Rhan 1: | Diddymiadau |
Y diddymiadau sy'n ymwneud â: Deddf Addysg 1996, Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996, Deddf Addysg 1997, Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, Deddf Dysgu a Medrau 2000 (ac eithrio adran 81), Deddf Addysg 2002. | Diddymiadau. |
Erthygl 4
ATODLEN 2Darpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Medi 2006 o ran Cymru a Lloegr
Y ddarpariaeth | Y pwnc |
---|---|
Adran 19 | Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. |
Adran 20 | Swyddogaethau'r Prif Arolygydd. |
Adran 21 | Adroddiadau blynyddol ac adroddiadau eraill i'r Cynulliad. |
Adran 22 | Pŵer y Cynulliad i sefydlu panel cynghorol. |
Adran 23 | Pwerau mynediad etc y Prif Arolygydd. |
Adran 24 | Pŵer y Prif Arolygydd i drefnu arolygiadau. |
Adran 25 | Cofrestru Arolygwyr yng Nghymru. |
Adran 26 | Tynnu arolygwyr o'r Gofrestr a gorfodi ac amrywio amodau. |
Adran 27 | Apelau ynghylch cofrestru. |
Adran 28 | Dyletswydd i drefnu bod ysgolion penodol yn cael eu harolygu'n rheolaidd. |
Adran 29 | Cyhoeddi adroddiadau arolygu. |
Adran 30 | Talu ffioedd i Gronfa Gyfunol. |
Adran 31 | Dehongli Pennod 3. |
Adran 32 | Arolygiadau gan aelodau o'r Arolygiaeth. |
Adran 33 | Dyletswydd i roi adroddiad ar arolygiadau adran 28. |
Adran 34 | Arolygiadau adran 28 gan arolygwyr cofrestredig. |
Adran 35 | Adroddiadau ar Arolygiadau gan aelodau o'r Arolygiaeth. |
Adran 36 | Amseru arolygiadau adran 28 gan arolygwyr cofrestredig. |
Adran 37 | Dyletswydd i hysbysu pan fo arolygiad yn dangos bod ysgol a gynhelir yn peri pryder. |
Adran 38 | Cyrchfan adroddiadau: ysgolion a gynhelir. |
Adran 39 | Datganiad i'w baratoi gan awdurdod priodol i'r ysgol. |
Adran 40 | Datganiad i'w baratoi gan awdurdod addysg lleol. |
Adran 41 | Cyrchfan adroddiadau: ysgolion nas cynhelir. |
Adran 42 | Datganiad i'w baratoi gan berchennog ysgol. |
Adran 43 | Dehongli Pennod 4. |
Adran 50 | Arolygu addysg grefyddol: Cymru. |
Adran 52 | Darparu gwasanaethau arolygu gan AALl yng Nghymru. |
Adran 53, i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraff 5 o Atodlen 7. | Arolygu gwarchod plant, gofal dydd ac addysg feithrin. |
Adran 61, i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 9 y cyfeirir atynt isod. | Diwygiadau pellach sy'n ymwneud ag arolygu ysgolion. |
Adran 123, i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 19 y cyfeirir atynt isod. | Diddymiadau. |
Atodlen 2 | Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. |
Atodlen 3 | Cofrestru Arolygwyr yng Nghymru: Tribiwnlysoedd sy'n gwrando apelau o dan adran 27. |
Atodlen 4 | Arolygiadau Ysgolion yng Nghymru o dan adran 28. |
Atodlen 6 | Arolygiadau o addysg enwadol yng Nghymru. |
Paragraff 5 o Atodlen 7. | Arolygu gwarchod plant, gofal dydd ac addysg feithrin. |
Paragraffau 6, 7, 22 , 24, 25 a 27 o Atodlen 9. | Diwygiadau pellach sy'n ymwneud ag arolygu ysgolion. |
Yn Atodlen 19, Rhan 1, yn Neddf Plant 1989, diddymu yn adran 79T(2)(a) y geiriau “the quality and standards of”. | Diddymiadau. |
Erthygl 5
ATODLEN 3Darpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2007 o ran Cymru a Lloegr
Y ddarpariaeth | Y pwnc |
---|---|
Adran 55 | Arolygu gwasanaethau gyrfaoedd yng Nghymru. |
Adran 56 | Arolygu gwasanaethau sy'n ymwneud â gwasanaethau gyrfaoedd yng Nghymru. |
Adran 57 | Arolygiadau o dan adrannau 55 a 56: darpariaethau pellach. |
Adran 123 i'r graddau y mae'n ymwneud a darpariaethau Atodlen 19 y cyfeirir atynt isod. | Diddymiadau. |
Yn Atodlen 19, Rhan 1, y diddymiadau yn Neddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 a diddymiad adran 81 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000. | Diddymiadau. |
Erthygl 6
ATODLEN 4DARPARIAETHAU TROSIANNOL AC ARBEDION
1. Mae paragraffau 2 i 5 o'r Atodlen hon yn gymwys er i adran 60 (Diddymu Deddf 1996) gael ei dwyn i rym gan erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn.
2. Pan fo'r adroddiad diweddaraf ar arolygiad ysgol wedi'i wneud o dan Ddeddf 1996 a phan fo'r adroddiad hwnnw wedi nodi bod gofyn cymryd camau arbennig mewn perthynas â'r ysgol, mae'r adroddiad hwnnw i'w drin yn adroddiad ar arolygiad a nododd fod gofyn cymryd camau arbennig o dan Ran 1 o Ddeddf 2005 at ddibenion–
(a)adrannau 34(7)(b) a 35(2)(b) a (5)(b); a
(b)adrannau 14 i 19 o Ddeddf 1998 (ymyrryd mewn ysgolion sy'n peri pryder).
3. Pan fo'r adroddiad diweddaraf ar arolygiad o ysgol yn un a wnaed o dan y Ddeddf honno ac a nododd fod gan yr ysgol wendidau difrifol, mae'r adroddiad hwnnw i'w drin yn adroddiad ar arolygiad a nododd fod yr ysgol yn un yr oedd gofyn ei gwella'n sylweddol o dan Ran 1 o Ddeddf 2005 at ddibenion–
(a)adrannau 34(8)(b) a 35(3)(b) a (6)(b); a
(b)adrannau 14 i 19 o Ddeddf 1998.
4. Pan fo'r adroddiad diweddaraf ar arolygiad ysgol yn un a wnaed o dan Ddeddf 1996 ac a nododd fod gan yr ysgol ddosbarth chwech diffygiol, mae'r adroddiad hwnnw i'w drin yn adroddiad arolygiad a nododd fod gofyn gwella sylweddol ar ddosbarth chwech yr ysgol at ddibenion adran 113 o Ddeddf 2000 ac Atodlen 7 iddi (fel y'i diwygiwyd gan adran 46 o Ddeddf 2005 ac Atodlen 5 iddi).
5. Pan fo hysbysiad apêl yn cael ei gyflwyno i'r tribiwnlys cyn 1 Medi 2006, mae adran 27 ac Atodlen 3 i fod yn gymwys i'r apêl fel petai is-adran (2) o adran 27 yn cael ei hepgor.
6. Er i adran 27 ac Atodlen 3 iddi gael eu dwyn i rym, ac er i adran 9 o Ddeddf 1996 ac Atodlen 2 iddi gael eu diddymu, oll gan y Gorchymyn hwn ar 1 Medi 2006, mae unrhyw reoliadau a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan baragraff 2 o Atodlen 2 i Ddeddf 1996 sydd mewn grym ar 31 Awst 2006 (“y Rheoliadau presennol”) i barhau i fod yn effeithiol o ran Cymru hyd at y dyddiad pryd y daw rheoliadau a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan baragraff 2 o Atodlen 3 ddod i rym, fel petai'r Rheoliadau presennol wedi cael eu gwneud gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan y paragraff hwnnw o'r Atodlen honno.
Nodyn Esboniadol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Dyma'r gorchymyn cychwyn cyntaf o dan Ddeddf Addysg 2005 (“Deddf 2005”) i gael ei wneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'n dwyn i rym holl ddarpariaethau Deddf 2005 sy'n gofyn am orchymyn gan y Cynulliad Cenedlaethol i'w dwyn i rym, ac eithrio adran 101 ac Atodlen 16 (a diwygiadau canlyniadol perthynol a diddymiadau yn Atodlenni 18 a 19) ynghylch ariannu ysgolion a gynhelir, ac adran 70 (a diwygiad canlyniadol perthynol yn Atodlen 12) ynghylch cynigion i gau ysgolion cynradd gwledig. Er hynny, dygir adrannau 41 a 42 i rym yn unig wrth eu cymhwyso i ysgolion arbennig o'r math y cyfeirir ato yn adran 28(2)(d).
Ar wahân i ddarpariaethau sy'n ymwneud â gwasanaethau gyrfaoedd yng Nghymru ac a ddygir i rym gan y Gorchymyn ar 1 Ebrill 2007 (gweler Atodlen 3), dygir y darpariaethau a ddygir i rym gan y Gorchymyn i rym ar 1 Medi 2006 (gweler Atodlenni 1 a 2). Dygir y darpariaethau a restrir yn Atodlen 1 i rym o ran Cymru yn unig. Am resymau technegol, mae'r rhai a restrir yn Atodlenni 2 a 3 yn cael eu dwyn i rym o ran Cymru a Lloegr, ond at ddibenion ymarferol, nid ydynt yn gymwys yn Lloegr.
Mae disgrifiad cryno isod o'r darpariaethau a ddygir i rym gan y Gorchymyn. Yn yr hyn a ganlyn, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf 2005 ac at Atodlenni iddi.
Darpariaethau yn Rhan 1 a ddygir i rym gan y Gorchymyn
Gan mwyaf, mae darpariaethau ar wahân (a gwahanol) yn gymwys i Gymru i'r rhai sy'n gymwys i Loegr. Mae penodau 1 a 2 o Ran 1 o Ddeddf 2005, a ddaeth i rym pan gafwyd y Cydsyniad Brenhinol (7 Ebrill 2005) yn ddarpariaethau newydd nad ydynt yn gymwys ond i Loegr. O ran Lloegr, maent yn disodli'r gyfraith sy'n ymwneud ag arolygiadau ysgolion yn Neddf Arolygiadau Ysgolion 1966 (“Deddf 1996”). Yn rhinwedd adran 62 gellir cyflwyno system debyg i Gymru os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu gwneud hynny ac ar adeg y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei phenderfynu. Yn y cyfamser, mae darpariaethau Rhan 1 (gan gynnwys Atodlenni 1 - 9) a ddygir i rym gan y Gorchymyn hwn gan mwyaf yn ailddeddfu Deddf 1996 fel y mae'n gymwys i Gymru. Diddymir y Ddeddf honno yn ei chyfanrwydd gan adran 60. Ar wahân i'r darpariaethau a ailddeddfir, mae'r darpariaethau a ddygir i rym gan y Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer arolygu'r gwasanaethau gyrfaoedd, ac yn gwneud rhai diwygiadau (diwygiadau canlyniadol at ei gilydd) i amrywiol ddeddfiadau sy'n ymwneud ag arolygiadau (gan gynnwys deddfiadau sy'n ymwneud ag arolygu dosbarthiadau chwech; gwarchod plant, gofal dydd ac addysg feithrin; ac ysgolion annibynnol) - Atodlenni 5 i 9.
Ymhlith y newidiadau sylweddol y mae–
darpariaeth newydd ar gyfer arolygu gwasanaethau gyrfaoedd yng Nghymru (adrannau 55 - 57)
pwerau i'r Cynulliad Cenedlaethol i roi cyngor ar benodi neu ddiswyddo Prif Arolygydd Cymru, ac i sefydlu bwrdd cynghori i roi cyngor ynghylch swyddogaethau'r Prif Arolygydd (adrannau 19 a 22)
newidiadau yn y ddarpariaeth ar gyfer ysgolion sy'n peri pryder; yn enwedig, yn y ffordd y mae'r ysgolion hynny i'w categoreiddio mewn adroddiadau arolygu (Pennod 5 o Ran 1)
O ran arolygiadau o addysg grefyddol, mae gofyniad newydd i ysgolion eglwysig ymgynghori â phersonau a bennir mewn rheoliadau a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol cyn dewis arolygydd (adran 50)
darpariaeth newydd sy'n galluogi gwneud adroddiadau cyfunol o ran arolygiadau a wneir o dan Ddeddf 2005 ac amryw o ddeddfiadau eraill sy'n ymwneud ag addysg a phlant (adran 59)
Darpariaethau yn Rhannau 2 a 4 a ddygir i rym gan y Gorchymyn
Mae adran 71 yn diwygio adran 31 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 i wneud ymgynghori yn ofynnol o ran cynigion penodol sy'n ymwneud ag ysgol arbennig a gynhelir.
Mae adran 73 yn diffinio termau a ddefnyddir yn Rhan 2.
Mae adran 105 yn mewnosod adran 28A newydd yn Neddf Addysg 2002 sy'n rhoi pwerau cyfyngedig i ysgolion a gynhelir gynnig cyrsiau addysg uwch i'w disgyblion.
Mae adran 106 yn mewnosod adran 89(1A) newydd yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ynghylch trefniadau derbyn ar gyfer plant sy'n derbyn gofal.
Mae adran 115 yn diwygio adran 29(3) o Ddeddf Addysg 2002 (ynghylch pŵer corff llywodraethu ysgol i gyfarwyddo disgyblion i fynychu darpariaeth addysgol amgen).
Mae adran 116 yn mewnosod adran newydd 444ZA yn Neddf Addysg 1996 ynghylch methiant â sicrhau bod disgyblion yn mynychu'r ysgol a hysbysiadau cosb.
Mae adran 117 yn cyflwyno Atodlen 18 sy'n diwygio amryw o ddeddfiadau.
Mae adran 118 yn diffinio “the 2002 Act” at ddibenion Rhan 4.
Mae adran 123 yn cyflwyno Atodlen 19 (Diddymu).
Darpariaethau trosiannol ac arbedion
Mae Atodlen 4 yn cynnwys darpariaethu trosiannol ac arbedion.