Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 1339 (Cy.131)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Labelu Pysgod (Cymru) (Diwygio) 2006

Wedi'u gwneud

16 Mai 2006

Yn dod i rym

24 Mai 2006

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e) ac (f), 17(2), 26(3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo(2).

Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno mae wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel y mae'n ofynnol o dan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor(3) sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, bu ymgynghoriad agored a thryloyw wrth i'r Rheoliadau hyn gael eu llunio a'u gwerthuso.

(1)

1990 p.16; amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (diffiniad o “food”) gan O.S. 2004/2990.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan “the Secretary of State” i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28).

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4).